Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Benthyciadau cydgrynhoi dyledion

Os ydych yn cael trafferth gydag ad-daliadau lluosog, fel gorddrafftiau, cardiau credyd a benthyciadau, gall rhoi'r holl arian sy'n ddyledus gennych mewn un benthyciad ymddangos i wneud bywyd yn haws. Ond mae'r ateb sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Darganfyddwch fwy am sut mae benthyciad cydgrynhoi yn gweithio, ac os yw'n addas i chi.

Beth yw benthyciad cydgrynhoi

Os oes gennych lawer o ymrwymiadau credyd gwahanol  rydych yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny â nhw, gallwch eu rhoi i gyd mewn un benthyciad. 

Rydych yn gwneud hyn drwy fenthyca digon o arian i dalu'ch holl ddyledion sy'n weddill a thalu'r hyn sy'n ddyledus i un benthyciwr yn unig.

Mae dau fath o fenthyciad cydgrynhoi:

  • Wedi’i warantu – lle mae'r swm rydych yn wedi'i fenthyg yn cael ei warantu yn erbyn ased, eich cartref fel arfer. Os byddwch yn methu ad-daliadau ar yr hyn a elwir yn aml yn 'fenthyciadau perchnogion tai', gallech golli'ch cartref.
  • Heb ei warantu – lle nad yw'r benthyciad wedi'i warantu yn erbyn eich cartref neu asedau eraill.

 

Pan fydd cael benthyciad cydgrynhoi yn helpu

Mae cydgrynhoi ad-daliadau yn gwneud synnwyr os:

  • mae'n clirio eich holl daliadau sy'n mynd allan
  • mae'r cyfanswm sy'n daladwy yn llai nag yr oedd o'r blaen
  • rydych yn talu llai o log nag yr oeddech o'r blaen
  • ni chaiff unrhyw gynilion eu dileu gan ffioedd a thaliadau, fel ffioedd ar gyfer ad-dalu benthyciadau presennol yn gynnar neu dalu cwmni i drefnu'r benthyciad newydd
  • gallwch fforddio parhau i dalu hyd nes y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu
  • rydych yn ei ddefnyddio fel cyfle i dorri eich gwariant a mynd yn ôl ar y trywydd iawn.

Benthyciadau cydgrynhoi nad ydynt yn peryglu'ch cartref

Gallai opsiwn arall i fenthyciad perchennog cartref wedi’i warantu fod yn gerdyn trosglwyddo balans llog 0% neu isel. Bydd angen i chi ddarganfod a fydd ffi yn cael ei chymhwyso i'r balans a drosglwyddir. 

Gall hyn fod y ffordd rhataf, cyn belled â'ch bod yn ad-dalu'r arian o fewn y cyfnod di-log neu log isel.

Mae'n debyg y bydd angen sgôr credyd da arnoch i gael un o'r cardiau hyn, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi trosglwyddo’r balans.

Efallai y byddwch yn gallu cydgrynhoi eich ad-daliadau i fenthyciad personol heb ei warantu, ond unwaith eto, bydd angen sgôr credyd da arnoch i gael y bargeinion gorau. 

Cyn cymryd benthyciad cydgrynhoi

Mae rhai pethau y mae angen i chi eu gwneud cyn i chi gymryd benthyciad cydgrynhoi. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • siarad â'ch credydwyr
  • creu cyllideb
  • darganfod a allwch wneud trosglwyddiad balans 0% i gerdyn credyd arall i helpu i leihau cost eich benthyca
  • os oes gennych gynilion, cyfrifwch a fyddech yn well eich byd yn eu defnyddio i ad-dalu'n gynnar
  • siopa o gwmpas – gall gwefannau cymharu fod yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i'r fargen orau 
  • os ydych angen help i ddatrys eich dyledion yn hytrach na chael benthyciad newydd, efallai y bydd ymgynghorydd dyled yn gallu trafod gyda'ch credydwyr a threfnu cynllun ad-dalu, neu Gynllun Rheoli Dyledion.
  • edrych y tu hwnt i'r gyfradd llog a hysbysebir. Cymharwch y gyfradd ganrannol flynyddol (APR), neu'r gyfradd tâl ganrannol flynyddol (APRC) ar gyfer benthyciadau wedi’i warantu. Yr APR yw'r llog y codir arnoch, a bydd yr APRC yn cynnwys y costau ychwanegol fel ffi trefniant. 
  • ystyriwch siarad ag ymgynghorydd dyledion am ddim a allai ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf addas ar gyfer eich anghenion.

Ond cadwch lygad am:

  • cynhyrchion cydgrynhoi sy'n gwneud addewidion afrealistig – os ydych yn cael hysbysiad am daliad misol newydd sy'n sylweddol is ac sy'n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir, efallai y bydd!
  • cynhyrchion sy'n addo atgyweirio eich sgôr credyd ar unwaith neu wneud i chi fod yn ddi-ddyled dros nos - mae benthyciadau cydgrynhoi yn fath arall o fenthyca ac mae'n bwysig eich bod yn parhau i dalu ar amser ac yn gallu gosod cyllideb hylaw nad yw'n gofyn i chi gymryd benthyca ychwanegol i wneud hynny
  • darparwyr sy'n codi ffioedd ymlaen llaw neu ffioedd ymgynghori.
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.