Os oes gennych gyflwr iechyd meddwl, salwch hirdymor, anabledd corfforol, mae gennych amhariad ar y clyw neu’r golwg, trafferthion gyda chaethiwed neu anabledd gwybyddol, rhaid i gwmniau rydych yn ddyledus iddynt eich trin yn deg. Darganfyddwch sut i siarad â’ch credydwyr a pha help y gallwch ei gael.
Gwybod os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn fregus i niwed ariannol
Gall unrhyw un ddod yn fregus ar unrhyw adeg. Mae yna help ar eich cyfer os ydych yn arbennig o agored i niwed o ganlyniad i’ch amgylchiadau personol, yn enwedig pan nad yw cwmni’n gweithredu gyda lefelau gofal addas.
Efallai bydd hefyd ganddynt dîmau arbenigol i roi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i allu rheoli eich dyled ac arian o ddydd i ddydd, gan gynnwys opsiynau perthnasol ar gyfer cynrychiolaeth trydydd parti. Felly dylech siarad â’ch credydwr am hyn.
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi nodi pedwar prif ffactor i gwmniau gwasanaethau ariannol i adnabod nodweddion bregusrwydd:
- Iechyd - os oes gennych gyflwr iechyd neu salwch sy’n effeithio ar eich gallu i wneud tasgau o ddydd i ddydd.
- Digwyddiadau bywyd - os ydych wedi dioddef profedigaeth, colli eich swydd, neu mae perthynas wedi chwalu.
- Gwytnwch - os ydych yn ei chael yn anodd gwrthsefyll sioc ariannol neu emosiynol
- Galluogrwydd - nid ydych yn deall, a’n cael trafferth i reoli, eich arian. Efallai y bydd hyn oherwydd rydych yn ei chael yn anodd gwneud pethau fel darllen llythyrau neu e-byst.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynhonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw
Help gyda chredydwyr
Os oes gennych anabledd corfforol, problemau iechyd meddwl, neu rydych yn fregus, efallai y byddwch yn poeni am siarad â’ch credydwyr.
Ond mae’n syniad da i roi gwybod iddynt am eich sefyllfa. Mae hyn oherwydd pan maent yn ymwybodol, byddant yn gallu cynnig cymorth. Efallai bydd ganddynt dîm arbenigol i helpu cwsmeriaid fel chi.
Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau’n eich galluogi i gysylltu â nhw yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi. Gall hyn fod dros wesgwrs, e-bost, ffôn, neu’n wyneb yn wyneb.
Mae gan gwmnïau ddyletswydd hefyd i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau’n hygyrch ar gyfer cwsmeriaid anabl, heb dâl ychwanegol. Efallai y bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwneud addasiadau i’r ffordd maent yn cyfathrebu o bell neu mewn person, neu gynnig mynediad dirprwyedig neu drydydd parti fel y gall person dibynadwy eich helpu i reoli eich materion.
Os ydych am roi gwybod i’ch credydwyr am fregusrwydd neu addasiad, gallwch wirio a ydynt wedi cofrestru i SupportHubYn agor mewn ffenestr newydd lle y gallwch gofrestri a dewis pa un o’ch credydwyr i hysbysu am eich anghenion.
Gallwch ddarganfod mwy am sut y gall eich credydwyr eich helpu yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol.
Os ydych angen helpu i drefnu’ch taliadau, rhowch gynnig ar ein Blaenoriaethwr biliau. A gall ein Cynlluniwr Cyllideb eich helpu i ddeall faint allwch fforddio ei gynnig i’ch credydwyr.
Gallwch hefyd ddarganfod pa fudd-daliadau rydych yn gymwys iddynt a sut i wneud cais amdanynt yn ein canllawiau i fudd-daliadau, a pha gymorth ariannol a gwasanaethau cymorth sydd ar gael i’ch helpu.
Beth i’w wneud os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan gredydwr
Mae gan bob credydwr gyfrifoldeb i sicrhau bod eu cynnyrch a gwasanaethau yn hygyrch ac nad ydych yn cael eich trin yn annheg ar sail eich bregusrwydd.
Mae hefyd yn ofynnol i gwmnïau gwasanaethau ariannol adnabod pan fo cwsmeriaid yn fregus a gweithredu gyda lefelau gofal addas. Mae hyn yn golygu y dylai fod ganddynt staff sydd wedi’i hyfforddi’n addas a mecanweithiau cefnogaeth yn eu lle i ymateb i’ch anghenion. Dylent ystyried eich bregusrwydd wrth ystyried a fydd y cynnyrch neu’r gwasanaethau maent yn eu cynnig yn cwrdd â’ch anghenion.
Dylech siarad â’ch credydwyr os oes rhywbeth nad ydych yn hapus gydag ac esbonio beth hoffech iddynt ei wneud i wneud pethau’n iawn. Os nad yw hynny’n datrys pethau, gallwch wneud cwyn. Mae gan Gyngor ar Bopeth fwy o wybodaeth ar sut i wneud cwynYn agor mewn ffenestr newydd a’r ombwdsmon perthnasol ar gyfer y sefydliad rydych yn cwyno amdano.
Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd rydych wedi cael eich trin gan gwmni gwasanaethau ariannol, gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Ombwdsmon AriannolYn agor mewn ffenestr newydd