Trosglwyddo balans yw pan fyddwch yn symud y balans o un cerdyn credyd neu gerdyn siop i gerdyn credyd arall gyda darparwr gwahanol, fel arfer i fanteisio ar gyfradd llog isel neu 0%. Os ydych yn cael trafferth talu'ch bil cerdyn credyd, darganfyddwch a yw trosglwyddo balans yn iawn i chi.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Manteision ac anfanteision o drosglwyddo balans
Mae manteision ac anfanteision newid i gerdyn credyd gyda chyfradd llog is:
-
Rheoli holl falansau eich cerdyn mewn un lle.
-
Talu llai o log bob mis ar yr hyn sy'n ddyledus gennych ar hyn o bryd – mae'r rhan fwyaf o drosglwyddiadau balans yn cynnig cyfradd llog is (0% yn aml) am gyfnod rhagarweiniol.
-
Mae rhai darparwyr cardiau credyd yn cynnig gwobrau pan fyddwch yn cymryd cerdyn trosglwyddo balans, fel arian yn ôl neu ostyngiadau siopa.
-
Mae rhai darparwyr yn caniatáu i chi 'wirio eich cymhwysedd' yn gyntaf a gwneud 'chwiliad credyd meddal' cyn i chi wneud cais, felly nid yw'n effeithio ar eich sgôr credyd.
-
Mae cwmnïau cardiau credyd fel arfer yn codi ffi am bob balans a drosglwyddir, yn aml tua 2-4% o'r swm rydych chi'n ei drosglwyddo. Ychwanegir y ffi at falans eich datganiad. Gwnewch yn siŵr nad yw'r ffioedd yn costio mwy na'r hyn rydych chi'n ei gynilo.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu'ch balans cyn i'r cynnig rhagarweiniol ddod i ben. Os na, gallech golli unrhyw gyfraddau hyrwyddo isel sydd gennych a chael y gyfradd safonol uwch wedi ei godi arnoch. Gwiriwch am ba hyd y mae unrhyw drosglwyddiad balans 0% yn bodoli a beth yw'r gyfradd llog ar ôl hynny.
-
Os ydych yn gwario gan ddefnyddio eich cerdyn credyd trosglwyddo balans, efallai na fydd y pryniannau newydd hyn yn cael eu cynnwys ar y gyfradd ragarweiniol isel neu 0%.
-
Gall yr uchafswm y gallwch ei drosglwyddo amrywio, yn dibynnu ar eich terfyn credyd unigol a'r balans presennol ar eich cerdyn credyd.
-
Peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwch yn gymwys i gael cytundeb trosglwyddo balans arall a’n gallu symud y balans ymlaen i gerdyn newydd.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw
Gwneud trosglwyddiad arian
Mae trosglwyddiad arian fel trosglwyddiad balans, ond yn hytrach na'r arian sy'n mynd o un cerdyn credyd i'r llall, mae'r arian o'r cerdyn credyd yn mynd i mewn i'ch cyfrif cyfredol dewisol.
Mae hyn yn eich caniatáu i dalu gorddrafft, neu dalu bil hanfodol neu annisgwyl gan ddefnyddio cerdyn credyd. Cyn i chi wneud trosglwyddiad, gwiriwch y taliadau a'r cyfraddau llog gyda darparwr eich cerdyn gan fod gwneud hyn fel arfer yn ddrytach.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys manteision ac anfanteision defnyddio cerdyn credyd, gweler ein canllaw Canllaw syml i gardiau credyd.
Dewisiadau eraill yn lle trosglwyddo balans
Gall gwneud trosglwyddiad balans ymddangos yn demtasiwn os ydych yn cael trafferth talu taliadau cardiau credyd, ond mae dewisiadau eraill.
Yn gyntaf, siaradwch â'ch cwmni cardiau credyd neu siop. Bydd dweud wrth eich credydwr eich bod yn cael trafferth yn eu helpu i'ch helpu chi. Mae'n werth darganfod a oes unrhyw opsiynau cymorth a fydd yn gweithio i'r ddau ohonoch. Os oes gennych anabledd corfforol, yn profi problemau iechyd meddwl neu'n agored i niwed, efallai y bydd ganddynt hefyd dimau arbenigol i'ch cynrychioli a'ch cefnogi.
Efallai y byddwch hefyd yn ystyried:
Taliad cyflog ymlaen llaw - mae hwn yn fudd i weithwyr sy'n golygu cymryd rhywfaint neu'r cyfan o'ch cyflog cyn diwrnod cyflog.
Undebau credyd – gallai fod yn opsiwn os oes gennych incwm isel ac mae angen i chi fenthyg swm bach am gyfnod byr.
Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol – cynnig benthyciadau i bobl sy'n ei chael hi'n anodd cael credyd, ond mae eu cyfraddau llog yn tueddu i fod yn uwch nag undebau credyd.
Gorddrafftiau banc – os ydych yn cadw o fewn y terfyn ac nad ydych yn cael taliadau diofyn, bydd hyn yn rhatach na chredyd cartref. Gall cyfraddau llog fod tua 40% o hyd, felly mae'n bwysig ei ad-dalu cyn gynted â phosibl.