O'i ddefnyddio'n dda, mae cerdyn credyd yn ffordd ddiogel a hyblyg i dalu. Gallai fod yn ffordd dda i fenthyg arian i ledaenu cost pryniannau mawr ac mae’n dod gydag amddiffyniad adran 75. Ond os mai dim ond isafswm taliadau y byddwch yn eu gwneud neu'n rhedeg bil na allwch ei dalu'n ôl, gallant fod yn gostus a gallant arwain at droell o ddyled.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae cerdyn credyd yn gweithio?
Mae cerdyn credyd yn caniatáu i chi wario arian hyd at derfyn a bennwyd ymlaen llaw. Cewch fil am yr hyn rydych wedi'i wario bob mis.
Mae'n bwysig ceisio ad-dalu'r balans yn llawn bob mis. Ond bydd angen i chi ad-dalu'r isafswm o leiaf. Gosodir yr isafswm gan ddarparwr eich cerdyn credyd, ond mae'n rhaid iddo fod o leiaf 1% o'r balans sy'n weddill, ynghyd â llog, unrhyw daliadau diofyn a'r ffi flynyddol (os oes un). Y rhan fwyaf o'r amser bydd rhwng 3 a 5%. Efallai bydd hefyd yn cael ei osod fel ffigur punt o £5 o leiaf.
Os byddwch yn talu'r bil yn llawn, ni fyddwch yn talu unrhyw log ar yr hyn rydych wedi'i fenthyg oni bai eich bod wedi defnyddio'ch cerdyn credyd i dynnu arian parod yn ôl. Os na fyddwch yn ad-dalu'r bil yn llawn, codir llog arnoch sydd fel arfer wedi'i ôl-ddyddio i ddyddiad eich pryniant.
Os ydych yn poeni am anghofio i dalu, gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol. Mae hwn os gallwch ddibynnu ar ddigon o arian yn dod i’ch cyfrif banc ar yr un dyddiad bob mis. Mae hyn yn golygu ni fyddwch yn methu taliad.
Sicrhau mai cerdyn credyd yw’r peth iawn i chi
Os ydych eisoes yn cael trafferth rheoli eich arian neu os ydych yn meddwl y gallech gael eich temtio i orwario, mae'n bwysig osgoi cael cerdyn credyd. Darganfyddwch fwy am reoli credyd yn dda.
A ydych yn hyderus ynglŷn â rheoli'ch gwariant a gallu clirio'ch balans bob mis? Yna gall cerdyn credyd fod yn ffordd dda o brynu'r hyn sydd ei angen arnoch nawr a thalu amdano bob mis.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw.
Manteision ac anfanteision benthyg ar gardiau credyd
Manteision
-
Hawdd i'w gario, hawdd I'w ddefnyddio – derbynnir cardiau credyd mewn mwy o leoedd na chardiau gwefru a chardiau rhagdaledig.
-
Mwy diogel nag arian parod – os yw'ch cerdyn yn cael ei golli neu ei ddwyn, ffoniwch eich banc a'i ganslo. Os yw wedi'i ddwyn a'i ddefnyddio'n dwyllodrus, rydych yn llawer mwy tebygol o gael yr arian yn ôl.
-
Gallai fod yn ffordd rhatach o fenthyca – os byddwch yn talu'ch balans sy'n weddill yn llawn bob mis, ni fyddwch yn talu unrhyw log. Mae rhai cardiau'n cynnig cyfnod di-log cychwynnol ar bryniannau. Ond mae'n bwysig bod yn ymwybodol pryd mae'ch cyfnod di-log yn dod i ben ac oes unrhyw fath o wariant nad yw’n cyfrif yn ystod y cyfnod hwn.
-
Rydych wedi'ch diogelu – â chardiau credyd, rydych wedi'ch diogelu ar gyfer y rhan fwyaf o bryniannau dros £100 a hyd at £30,000 o dan rywbeth a elwir Adran 75. Er enghraifft, os ydych yn archebu gwyliau a bod y darparwr yn mynd i’r wal, dylai'r cwmni cardiau dalu'r gost hyd yn oed os mai dim ond blaendal cychwynnol y gwnaethoch ei dalu â cherdyn.
-
Pethau am ddim - yn aml daw'r rhain â chardiau credyd, fel milltiroedd awyr, pwyntiau gwobrwyo ac arian yn ôl. Ond mae'n bwysig peidio byth â dewis cerdyn credyd dim ond oherwydd y buddion ymylol.
-
Gall helpu eich sgôr credyd - gall cadw at eich terfyn credyd a thalu balans eich cerdyn credyd yn llawn bob mis wella eich statws credyd. Ond bydd colli hyd yn oed un taliad yn niweidio'ch cofnod credyd.
Anfanteision
-
Taliadau llog uchel - os na fyddwch yn clirio'ch balans ar ddiwedd bob mis (ac nad ydych ar fargen 0%), bydd rhaid i chi dalu llog ar eich balans sy'n weddill. Gall hyn fod yn llawer mwy na mathau eraill o fenthyca.
-
Gwyliwch rhag troelli dyledion – os collwch un taliad yn unig bydd y llog yn dechrau cynyddu. Oni bai eich bod yn ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus bob mis, gall eich dyled barhau i gronni.
-
Gallu niweidio'ch sgôr credyd – os byddwch yn methu taliad neu'n mynd dros eich terfyn credyd gallwch niweidio'ch sgôr credyd yn ddifrifol. Gall hyn effeithio ar eich gallu i fenthyg arian yn y dyfodol.
-
Ffioedd ychwanegol – yn ogystal â'r llog, gallech weld eich bod yn talu ffioedd neu gosbau ychwanegol am fynd y tu hwnt i'ch terfyn credyd, neu fethu taliad. Fel arfer bydd rhaid i chi dalu cyfradd llog uwch am dynnu arian parod yn ôl ac efallai y bydd rhai cardiau credyd hefyd yn codi ffi flynyddol neu fisol.
-
Gall blaendaliadau a rhag-awdurdodiadau dorri i mewn i'ch terfyn credyd – gallai rhai lleoedd, fel gwestai neu gwmnïau rhentu ceir ddefnyddio'ch cerdyn credyd i gymryd rhag-awdurdodiad. Byddant yn dal rhan o'ch terfyn credyd – dywedwch, £500 – a thra ei fod ar waith ni fydd y swm hwnnw o gredyd ar gael i chi. Hyd yn oed ar ôl iddynt gael gwared ar y dal, efallai y bydd ychydig ddyddiau o aros nes bod eich terfyn credyd yn ôl i'r arfer.
-
Drud i'w ddefnyddio dramor – mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar y cerdyn. Mae rhai wedi'u cynllunio ar gyfer teithwyr; mae eraill yn ddrytach o ran ffioedd a thaliadau eraill. Mae hyn yn dibynnu a ydych yn defnyddio'r cerdyn ar gyfer pryniannau neu dynnu arian parod. Siopwch o gwmpas i ddod o hyd i'r cardiau cyfradd orau i'w defnyddio dramor. Mae yna ystod o gardiau credyd a debyd teithio i’w hystyried ar MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
Beth sydd angen i chi ei wybod cyn gwneud cais am gerdyn credyd
Gwiriadau credyd
Mae banciau a benthycwyr eraill yn defnyddio’ch adroddiad i ddarganfod am eich hanes credyd trwy wiriadau credyd. Mae yna ddau fath o wiriad credyd wrth wneud cais am gerdyn credyd – caled a meddal.
Maent yn defnyddio’r wybodaeth hyn i ddarganfod eich sgôr credyd.
Gallwch wirio eich sgôr credyd am ddim gan ddefnyddio Clwb Credyd MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd, Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd, neu ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Awgrym da
Os hoffech ail-adeiladu eich sgôr credyd, efallai y byddech yn ystyried ‘cerdyn adeiladu credyd’Yn agor mewn ffenestr newydd
Mae hefyd yn werth gwirio pob un o’r rhain, gan gall y wybodaeth sydd ganddynt amdanoch fod yn wahanol gan ei fod yn seiliedig ar ddata gan asiantaethau gwirio credyd gwahanol.
Sut i wneud cais am gerdyn credyd
Ffyrdd i wneud cais
Mae yna ffyrdd amrywiol o wneud cais am gerdyn credyd. Gallwch wneud cais ar-lein (naill ai trwy wefan cymharu neu’n uniongyrchol), mewn cangen, neu gymryd ffurflen a’i bostio’n ôl.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gael gwybodaeth gredyd cyn-gontract ar ffurf safonol a chytundeb credyd i’w arwyddo - naill ai'n electronig neu ar bapur. Rhaid i chi hefyd gael esboniad o'r termau a'r risgiau allweddol, fel y gallwch ddeall yr hyn rydych chi'n ei gymryd. Os ydych yn ansicr, gofynnwch gwestiynau.
Os oes cwestiynau cyffredin ar y wefan sydd ddim yn cynnwys unrhyw gwestiynau sydd gennych, gofynnwch i'r benthyciwr yn uniongyrchol.
Efallai y bydd gwneud cais yn effeithio ar eich sgôr credyd
Os ydych chi'n siopa o gwmpas ac yn cymharu cynigion credyd amrywiol, sicrhewch nad ydych yn gwneud cais am gredyd nes eich bod wedi penderfynu ar y fargen orau. Mae hyn oherwydd bob tro y byddwch yn gwneud cais am gerdyn credyd, mae'n cael ei nodi ar eich adroddiad credyd a gallai effeithio ar eich sgôr credyd.
Os gwnewch ormod o geisiadau, neu os gwrthodir eich ceisiadau, gallai awgrymu eich bod yn cael trafferth yn ariannol. Gall hyn niweidio'ch statws credyd, a allai olygu bod benthycwyr eraill yn gwrthod eich cais neu gynyddu'r gyfradd llog y maent yn ei chynnig i chi.
Hefyd, os ydych chi wedi cael dyfynbris, gwiriwch a yw hyn wedi'i warantu. Efallai y bydd rhai dyfyniadau yn arwyddion o gymhwysedd neu bris tebygol yn unig. Bydd y mwyafrif o fenthycwyr yn cadw'r hawl i newid eu meddwl os ydyn nhw'n derbyn gwybodaeth newydd am eich cyllid.
Os gwrthodir eich cais am gerdyn
Os yw'r benthyciwr yn eich gwrthod yn seiliedig ar wiriad credyd, rhaid iddynt ddweud wrthych a rhoi manylion cyswllt yr asiantaeth gyfeirio credyd wnaethant ddefnyddio.
Yna gallwch wneud cais i'r Asiantaeth Cyfeirio Credyd am gopi o'ch adroddiad credyd. Pe bai'ch cais credyd yn cael ei wrthod, gallai fod yn werth gofyn i'r benthyciwr pam - gallai rhai roi gwybod i chi. Os oes rhywbeth anghywir ar eich adroddiad credyd, cysylltwch â'r asiantaeth gyfeirio credyd ac, os oes angen, y darparwr credyd i'w gael yn iawn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd wedi’i wrthod neu fenthyciad wedi’i wrthod - beth gallwch ei wneud.
Taliadau a ffioedd
Mae’n bwysig i fod yn ymwybodol o’r holl ffyrdd gallwch dderbyn tâl wrth ddefnyddio’ch cardiau credyd.
Gwyliwch rhag gyfraddau llog wrth fenthyg
Fel cwsmer newydd, efallai y cewch gyfradd ragarweiniol pan gewch y cerdyn gyntaf. Ond gwiriwch a yw hyn yn cynnwys pryniannau neu drosglwyddiadau balans neu'r ddau. Cofiwch, nid yw'n talu am dynnu arian parod.
Hefyd, gwiriwch beth fydd y gyfradd llog unwaith y bydd y cyfnod rhagarweiniol drosodd a gwnewch yn siŵr eich bod yn ad-dalu'n llawn cyn hynny os gallwch.
Ffioedd am drosglwyddo i gerdyn arall
Os ydych yn trosglwyddo balans o gerdyn arall, fel rheol codir ffi arnoch, yn aml tua 2-4% o'r swm a drosglwyddir.
Mae angen i chi weithio allan a yw'n werth talu hwn er mwyn elwa ar gyfradd llog is ar y cerdyn rydych yn ei drosglwyddo iddo.
Mae taliadau hwyr yn niweidio'ch statws credyd
Os gwnewch eich taliad ar ôl y dyddiad cau misol ar eich datganiad, bydd rhaid i chi dalu tâl talu'n hwyr. Gellid tynnu unrhyw gyfradd 0% neu gyfradd ragarweiniol arall yn ôl hefyd. Hefyd, bydd cwmnïau eraill yn gweld eich bod yn hwyr yn talu fel rhan o'ch cofnod credyd.
Gallai hyn gael effaith negyddol ar geisiadau credyd yn y dyfodol, fel gwneud cais am forgais neu fenthyciad car.
Mae tynnu arian parod yn costio arian
Wrth dynnu arian gyda cherdyn credyd, bydd eich darparwr cerdyn yn codi tâl lleiafswm neu ganran o'ch arian os tynnwch arian allan o unrhyw fath o beiriant arian parod.
Efallai na ddywedir wrthych am hyn cyn i chi dynnu'r arian allan. Bydd eich darparwr cerdyn hefyd yn codi llog arnoch ar unwaith, hyd yn oed os ydych yn ad-dalu'r cyfan cyn bod eich bil yn ddyledus.
Mae'r un peth yn aml yn berthnasol i drafodion eraill y gellid eu trin fel arian parod - megis trosglwyddo rhywfaint o'ch balans i gyfrifon cyfredol, defnyddio cerdyn credyd i brynu arian cyfred tramor neu gardiau rhodd, neu ar gyfer trafodion gamblo. Mae hi bob amser yn well gofyn i ddarparwr eich cerdyn.