Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Help os ydych yn cael trafferth i dalu eich bil Treth Incwm

Mae eich biliau Treth Incwm a TAW yn cael eu hystyried yn ddyledion â blaenoriaeth. Mae hyn yn golygu, os na fyddwch yn eu talu, gall HMRC gymryd camau gorfodi i gael yr arian sy'n ddyledus gennych

Beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth yn talu'ch bil Treth Incwm

Mae'n bwysig cysylltu â HMRC os ydych yn mynd i gael trafferth yn talu'ch bil treth. Os na fyddwch yn ei dalu mewn pryd, mae'n debygol y byddwch yn talu llog a dirwyon ar y swm sy'n ddyledus.

Hefyd efallai gall HMRC:

  • ei gasglu'n syth o'ch enillion neu'ch pensiwn
  • cael asiantaeth casglu dyledion (beili) i adennill yr arian – efallai y byddant yn cymryd pethau rydych yn perchen arnynt a'u gwerthu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
  • cymryd arian o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
  • mynd â chi i'r llys
  • eich gwneud yn fethdalwr neu'n cau eich busnes.

Os oes gennych daliad sy'n ddyledus, neu'n poeni y gallech fethu taliad yn y dyfodol, ffoniwch linell gymorth Amser i Dalu Cyllid ar 0300 200 3822.

Gallwch hefyd greu trefniant Amser i Dalu gan ddefnyddio'ch cyfrif Porth Llywodraeth ar-lein.

Os na allwch fforddio’ch bil treth

Os na allwch fforddio talu eich bil treth, mae angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl trwy ffonio'r Gwasanaeth Cymorth Taliad Busnes ar 0300 200 3825. Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer pawb, nid busnesau yn unig.

Beth sydd angen i chi ei baratoi wrth ofyn i Gyllid a Thollau EM am help

Bydd angen i chi awgrymu faint y gallwch ei fforddio a thros faint o amser y gallwch wneud yr ad-daliadau.

I feddwl am hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn:

  • cyfrifo faint sydd gennych yn dod i mewn a nodi unrhyw risgiau i'ch incwm yn y dyfodol
  • llunio cyllideb - sicrhau y gallwch dalu unrhyw gostau byw a dyledion blaenoriaeth eraill
  • penderfynu ar swm y byddwch yn gyffyrddus yn ei dalu'n ôl bob mis
  • cyfrifo pa mor hir y byddai'n ei gymryd i dalu, gan ddefnyddio’r ffigur misol hwnnw.

Os bydd eich sefyllfa'n newid, gallwch eu ffonio eto i esbonio'r sefyllfa ac awgrymu cynllun ad-dalu newydd.

Os nad yw HMRC yn cytuno â'ch syniadau cynllun ad-dalu, byddant yn defnyddio'r wybodaeth a roesoch i lunio trefniant ad-dalu arall.

Gwneud cyllideb argyfwng

Os ydych yn poeni am lif arian, edrychwch ar yr hyn rydych yn ei wario a pha incwm sydd gennych yn dod i mewn.

Gallwch hefyd edrych ar ffyrdd o leihau eich biliau cartref, fel newid darparwyr ar gyfer eich contractau nwy, trydan neu ffôn symudol.

Darganfyddwch sut i arbed arian a chynyddu incwmYn agor mewn ffenestr newydd i’ch helpu i ddal i fyny â’ch taliadau ar wefan StepChange.

Defnyddiwch y gyfrifiannell budd-daliadau i wneud yn siwr eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddyntYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Turn2Us.

 

Pryd i gael cyngor ar ddyledion

Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol

Gallai cael problemau iechyd meddwl olygu eich bod yn cael trafferth gwneud y penderfyniadau gorau yn seiliedig ar arian i chi, yn ogystal â gweithredu arnynt.

Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ariannol ac â’ch lles meddyliol, mae'n werth cysylltu â'ch banc, cymdeithas adeiladu, benthyciwr neu bwy bynnag mae gennych arian yn ddyledus iddynt, i drafod eich opsiynau.

Fodd bynnag, yn aml mae'n haws dweud na chodi'r ffôn a siarad am eich problemau pan fyddwch yn cael trafferth â'ch iechyd meddwl.

Mae gan y rhan fwyaf o leoedd y mae gennych arian yn ddyledus bolisïau ynglŷn â'ch cefnogi os ydych yn fregus. Ond ni allant eich helpu oni bai eich bod yn gofyn.

I gael rhai awgrymiadau cyffredinol ar sut y gallwch reoli eich iechyd meddwl edrychwch ar ganllaw Rethink. Mae'n cynnwys popeth o osod cyllideb i gael help os ydych chi, neu rywun rydych yn poeni amdano, yn cael argyfwng iechyd meddwl.

Mae gan MoneySavingExpert  llyfryn PDF ar iechyd meddwl a dyledion y gellir ei lawrlwytho am ddimYn agor mewn ffenestr newydd

Mae'n cynnwys sut i drin dyledion pan fyddwch yn sâl, gan weithio â banciau, cwnsela dyled am ddim, awgrymiadau ar gyfer anhwylder deubegwn a dioddefwyr iselder, os dylech ddatgan eich cyflwr, a mwy.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.