Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i bennu nod cynilo

Mae gosod nod cynilo yn ffordd wych i weld eich cynilion yn tyfu. Darganfyddwch ble i ddechrau a beth yw nod cynilo addas i chi.

Pennu eich nod

I ddechrau, mae angen i chi benderfynu beth hoffech gynilo ar ei gyfer? Os bennwch nod, byddwch yn ei gyrraedd yn gyflymach. Os ydych yn cynilo am y tro cyntaf, beth am ddechrau â nod bach.

Hyd yn oed os nad ydych yn cynilo at nod penodol, rydych yn fwy tebygol o lwyddo os byddwch yn anelu at swm penodol.

Gweithiwch allan faint i’w gynilo bob mis

Mae faint rydych yn ei gynilo yn dibynnu ar:

  • pa mor uchel yw'ch nod
  • faint o arian sbâr sydd gennych ar ddiwedd pob mis, a
  • a pha mor fuan rydych am gyrraedd eich nod.

Er enghraifft, os oeddech yn cynilo tuag at gronfa argyfwng o £400. Gallech gynilo £100 y mis am 4 mis, neu £50 y mis am 8 mis.

Mae'n gydbwysedd rhwng yr hyn y gallwch ei fforddio a pha mor hir rydych am gynilo.

Trefnu archeb sefydlog

Os dewiswch roi eich cynilion mewn cyfrif cynilo mynediad ar unwaith, ni ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar sut rydych yn cael codi’ch arian o’r cyfrif. Sefydlwch daliad rheolaidd heddiw i drosglwyddo'r swm rydych am ei gynilo i'ch cyfrif cynilo bob mis.

Beth i’w wneud

  • Agor cyfrif cynilo os nad oes gennych gyfrif eisoes – ewch ar-lein neu ewch i’ch banc.
  • Trefnu taliad rheolaidd i mewn i’ch cyfrif cynilo bob mis

Edrych o gwmpas am y lle gorau ar gyfer eich cynilion

Unwaith y byddwch wedi dechrau arni, rhowch gyfle i’ch cynilion dyfu’n gyflymach drwy dreulio rhywfaint o amser yn chwilio am gartref addas ar eu cyfer.

Bydd y cartref gorau yn dibynnu ar faint o amser sydd gennych i gyrraedd eich nod, a faint o risg rydych yn barod i'w chymryd:

  • Am nod byrdymor (hyd at bum mlynedd) byddwch am gael cynnyrch cynilo fel cyfrif cynilo, adnau tymor neu ISA arian parod.
  • Am nod tymor canolig (pump i ddeng mlynedd) defnyddiwch gynnyrch cynilo, neu ystyriwch fuddsoddiadau gan ddibynnu ar eich nodau a’ch parodrwydd i gymryd risg.
  • Am nod hirdymor, dylech ystyried buddsoddiadau fel cyfranddaliadau, bondiau neu gronfeydd sy’n tueddu i ddarparu diogelwch rhag chwyddiant yn yr hirdymor.

Ble i ddod o hyd i gyfrif cynilo

Mae gwefannau cymharu yn lle da i ddechrau i unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo addas.

Mae'r gwefannau hyn yn lle da i ddechrau pan rydych yn chwilio am gyfrif cynilo:

Ond byddwch yn wyliadwrus, ni fydd pob gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un wefan cyn gwneud penderfyniad.

Mae’n bwysig hefyd gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.