Os ydych yn byw fel cwpl ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, cewch daliad misol sengl ar gyfer eich cartref - felly gallech orfod gwneud rhai newidiadau i’r ffordd yr ydych yn cyllidebu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio ar gyplau?
Byw yng Ngogledd Iwerddon neu’r Alban?
Yn yr Alban, efallai y byddwch yn cael cynnig rhai dewisiadau o ran sut y telir eich Credyd Cynhwysol. Darllenwch ein canllaw ar Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
Yng Ngogledd Iwerddon, mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli rhai budd-daliadau a chredydau treth presennol i bobl o oed gwaith sydd un ai’n ddi-waith neu ar incwm isel.
Gallwch wneud cais ar wahân neu gyda’ch gilydd. Os byddwch yn cwblhau’r ffurflen ar-lein ar ran eich priod neu bartner bydd angen i chi roi eu manylion hwy hefyd.
Mae’n bosibl y gofynnir i chi hawlio Credyd Cynhwysol fel cwpl os ydych chi’n byw yn yr un aelwyd ac yn:
- briod
- partneriaid sifil
- cyd-fyw fel petaech yn gwpl.
Darganfyddwch fwy am ba fudd-daliadau sy’n cael eu disodli a sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
Os ydych yn gweithio
Nid oes terfyn i’r amser gallwch weithio os ydych ar Gredyd Cynhwysol.
Os ydy un ohonoch neu’r ddau ohonoch yn gweithio ac mae gennych:
- plant dibynnol, a/neu
- rydych yn sâl neu’n anabl (mae gennych allu cyfyngedig i weithio)
Gallwch ennill swm penodol cyn i’ch Credyd Cynhwysol gael ei leihau gan 55c am bob £1 yr ydych yn ennill. Gelwir hwn yn lwfans gwaith.
Y lwfans gwaith am flwyddyn dreth 2023/24 yw:
- £379 y mis os oes costau cartref wedi’u cynnwys yn eich taliad
- £631 y mis os nad oes costau cartref wedi’u cynnwys yn eich taliad.
Os yw un ohonoch yn hawlio budd-daliadau
Oes un ohonoch eisoes yn cael un o'r budd-daliadau sy’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol? Yna bydd y budd-daliadau hyn yn dod i ben gan y bydd yn rhaid i chi wneud cais newydd fel cwpl.
Os yw un ohonoch yn hawlio credydau treth
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn dechrau byw gyda phartner sy’n hawlio credydau treth, ni fyddant yn gallu eu cael mwyach.
Y rheswm am hyn yw bod Credyd Cynhwysol yn seiliedig ar incwm y cartref ac ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol a chredydau treth ar yr un pryd.
O fis Ebrill 2023, bydd DWP yn ysgrifennu at bobl sy’n hawlio credydau treth yn eu gofyn iddynt hawlio Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn Hysbysiad Trosglwyddo.
Os ydych chi neu’ch partner yn derbyn Hysbysiad Trosglwyddo, bydd rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credyd treth yn ddiweddar.
Bydd rhaid i’r ddau ohonoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis o’r dyddiad sydd ar y llythyr. Bydd unrhyw fudd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol rydych yn eu cael ar wahân yn dod i ben.
Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol
Os ydych yn cael eich gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol ac mae gennych gwestiynau, ffoniwch rif y llinell gymorth sydd ar eich Hysbysiad Ymfudo.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth am gyngor diduedd, dienw, am ddim.
Mae’n cymryd pum wythnos i gael eich taliad Credyd Cynhwysol ar y cyd cyntaf, felly efallai y byddwch am feddwl am sut y byddwch yn ymdopi o ran arian nes eich bod yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol ar y cyd cyntaf.
Tra bod eich cais Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, bydd CThEF yn rhoi gwybod i DWP os bu tandaliad neu ordaliad o gredydau treth pan fydd eich cais credyd treth yn dod i ben.
Os oes gordaliad, mae gennych yr opsiynau hyn:
- neu ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth i ddweud wrthynt eich bod nawr yn hawlio Credyd Cynhwysol. Gwneud dim ac aros i’r ad-daliadau gael eu tynnu o’ch taliadau Credyd Cynhwysol.
- os na allwch fforddio’r ad-daliadau, rhowch wybod i ganolfan gyswllt Rheoli Dyled DWP. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- ad-dalu’r gordaliad credydau treth yn uniongyrchol – darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- anghytuno â’r gordaliad os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir.
Darganfyddwch sut i herio penderfyniad credydau treth ar wefan Cyngor ar Bopeth
Sut y telir Credyd Cynhwysol i gyplau
I dderbyn taliadau Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi gael cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd a all wneud taliadau neu eu derbyn.
Bydd angen i chi enwebu i ba gyfrif y dylid talu’ch arian. Gall hyn fod naill ai:
- yn gyfrif sengl yn eich enw chi neu yn enw eich partner
- yn gyfrif ar y cyd yn enw’r ddau ohonoch.
Os oes gennych blant, bydd eich anogwr gwaith yn dweud wrthych y dylai’ch taliad Credyd Cynhwysol fynd i mewn i gyfrif banc y prif ofalwr.
Dewis cyfrif sy’n addas ar gyfer Credyd Cynhwysol
P'un a ydych yn penderfynu mynd am gyfrif ar y cyd neu gadw’ch arian ar wahân, gwnewch yn siwr bod y cyfrif a ddewiswch yn addas i chi a’ch taliadau Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch pa gyfrifon sydd orau ar gyfer Credyd Cynhwysol yn ein canllaw Dewis cyfrif banc ar gyfer eich taliadau budd-dal
A ddylech chi agor cyfrif ar y cyd?
Gall cael cyfrif ar y cyd ei gwneud hi’n llawer haws i chi gyllidebu.
Mae’n rhoi rheolaeth gyfartal i chi dros yr arian, ond mae yna ambell beth fydd angen i chi ei ystyried cyn i chi fwrw ymlaen i agor un.
Pan mae cyfrif ar y cyd yn syniad da
- Rydych eich dau yn debyg iawn o ran syniadau am arian ac mae gennych batrymau gwario, arferion ac ymddygiad tebyg.
- Gallwch gytuno ar gyllideb neu gynllun gwario.
- Gallwch drafod arian gyda’ch partner heb ffraeo.
- Gallwch gytuno ar y rheolau sylfaenol ar gyfer gwario, er enghraifft, pryd fydd hi’n iawn i fwrw ymlaen a phrynu rhywbeth a phryd fydd angen i chi ei drafod gyda’ch partner yn gyntaf.
Pan nad yw cyfrif ar y cyd yn syniad da
- Os oes gan un ohonoch broblem gyda gorwario ac yn ei chael hi’n anodd cadw at gyllideb.
- Os oes gan eich partner hanes credyd gwael.
Gall cyfrifon ar y cyd effeithio ar eich statws credyd
Ni fydd byw gyda rhywun yn unig, neu fod yn briod â hwy, yn effeithio ar eich sgôr credyd. Ond os ydych yn agor cyfrif banc ar y cyd, cewch eich ‘sgorio ar y cyd’.
Gallai hyn effeithio ar eich statws credyd.
Rydych hefyd yn atebol ar y cyd am unrhyw ddyledion a gymerir yn enw’r ddau ohonoch. Felly, os bydd eich partner yn mynd i orddrafft ar gyfrif banc ar y cyd, byddwch chithau hefyd yn gyfrifol am ei glirio.
Am ragor o bethau i chi eu hystyried pan fyddwch yn penderfynu a ydych am reoli’ch arian gyda’ch gilydd neu beidio, gweler ein canllaw A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
Rheoli arian fel cwpl ar Gredyd Cynhwysol
Gall fod yna rai pethau y bydd angen i chi eu gwneud yn wahanol pan fyddwch yn cael Credyd Cynhwysol a gallech orfod gwneud rhai newidiadau.
Efallai’ch bod yn cael eich talu’n wythnosol neu’n cyllidebu’n wythnosol. Dan y system newydd, efallai y bydd angen i chi ddod i arfer â chael taliad misol yn lle os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.
Os ydych yn byw yn yr Alban gallwch ddewis gael eich talu ddwywaith y mis.
Yng Ngogledd Iwerddon, rydych yn cael eich talu ddwywaith y mis yn awtomatig.
Talu’ch rhent
Yng Nghymru a Lloegr, os cewch help gyda’ch rhent, cewch swm am gostau tai yn eich taliad misol sengl.
Chi fydd yn gyfrifol am dalu’ch landlord eich hun.
Yn yr Alban, gallwch ddewis os ydych yn talu rhent i’ch landlord eich hun neu’n ei dalu’n uniongyrchol.
Yng Ngogledd Iwerddon, telir eich rhent yn awtomatig i’ch landlord. Ond gallwch ddewis ei dalu eich hun.
Os ydych chi nawr yn mynd i fod yn gyfrifol am ei dalu eich hun, mae’n syniad da ystyried sefydlu taliadau awtomatig ar gyfer eich holl filiau rheolaidd ar ôl i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf. Er enghraifft, archebion sefydlog neu Ddebydau Uniongyrchol.
Lluniwch gyllideb y cartref gyda’ch gilydd os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.
Bydd hyn yn eich helpu i gyfrifo:
- faint sydd angen arnoch ar gyfer taliadau hanfodol
- pwy fydd yn gyfrifol am dalu’r biliau, rhent neu forgais
- faint fydd ar ôl i’w rannu rhyngoch ar gyfer gwariant personol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gyllidebu ar gyfer taliad budd-daliadau misol
Siarad am arian fel cwpl
Gall siarad am arian gyda’n partneriaid fod yn anodd.
Ac i rai ohonom, gall hyd yn oed fod yn sail i ddadleuon a rhwystredigaeth.
Ond os byddwch yn mynd ati’r ffordd iawn, byddwch yn teimlo'n llawer gwell pan fydd cyllid eich teulu mewn trefn ac unrhyw faterion yn yr agored.
Darganfyddwch fwy am sut i gael y sgyrsiau anodd hynny yn ein canllawiau:
Sut i gael sgwrs am arian
A ddylech reoli arian ar y cyd neu ar wahân?
Os ydych yn pryderu am daliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd
Gall dibynnu ar un taliad ar y cyd achosi problemau i rai cyplau.
Os yw eich partner yn cymryd rheolaeth o’r arian ac yn eich gadael heb unrhyw fynediad at arian, mae hyn yn gamdriniaeth ariannol.
Does dim rhaid i chi ei ddioddef na chadw’n dawel. Mae yna swyddogion cymorth camdriniaeth ddomestig ym mhob Canolfan Byd Gwaith yn y DU. Maent wedi’u hyfforddi i’ch helpu i ddelio â’r sefyllfaoedd hyn ac yn cynnig cymorth ymarferol os oes angen hynny arnoch.
Os oes gan eich partner broblemau iechyd meddwl neu’n camdrin cyffuriau neu alcohol, gallai hyn hefyd arwain ato ef neu hi’n cymryd arian a roesoch i un ochr ar gyfer pethau hanfodol neu at orwario’n anghyfrifol.
Os ydych yn poeni am unrhyw un o’r materion hyn, siaradwch â’ch anogwr gwaith neu’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol a gofyn am Drefniant Talu Amgen.
Gallai hyn fod un ai’n:
- taliad ar wahân – ble mae’r cyfan o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn mynd i mewn i’ch cyfrif chi.
- daliad a rennir – rhennir eich taliad Credyd Cynhwysol rhyngoch a’i dalu i mewn i gyfrifon banc ar wahân.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Llinell gymorth credyd cynhwysol
Os ydych chi angen help gyda’ch cais, ffoniwch y llinell gymorth Credyd Cynhwysol am ddim ar:
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 328 1344
8am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus). Mae galwadau am ddim. Mae'r llinell gymorth yn brysur iawn oherwydd yr argyfwng presennol. Y peth gorau yw defnyddio'ch cyfrif ar-lein os gallwch chi. Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK