I gael Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill, bydd angen bod gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, neu gyfrif gyda darparwr amgen – fel undeb credyd. Mae rhaid i’r cyfrif caniatáu i chi wneud a derbyn taliadau awtomatig.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pa gyfrifon all dderbyn taliadau budd-dal?
- Trefnu taliadau rhent a biliau eraill
- Beth mae pob cyfrif yn ei gynnig?
- Cyfrifon cyfredol
- Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
- Cardiau rhagdaledig
- Dewis y cyfrif banc gorau ar gyfer eich anghenion
- Cyfrif ar y cyd neu sengl?
- Agor eich cyfrif banc a threfnu taliadau biliau
Pa gyfrifon all dderbyn taliadau budd-dal?
Bydd angen bod gennych gyfrif sy’n gallu derbyn taliadau awtomatig.
Y dewisiadau yw:
- cyfrif cyfredol
- cyfrif banc sylfaenol
- cerdyn rhagdaledig
Os na allwch agor unrhyw un o’r cyfrifon hyn, cysylltwch â’r swyddfa sy’n gyfrifol am dalu’ch budd-dal i weld sut allwch gael eich budd-dal i gael ei dalu i chi.
Os ydych yn rhentu gan landlord cymdeithasol, holwch a ydynt yn argymell cyfrif penodol. Os ydynt, nid oes rhaid i chi ei ddefnyddio – ond bydd rhai landlordiaid yn talu swm fel cymhelliant i chi os gwnewch chi.
Trefnu taliadau rhent a biliau eraill
Yn ddelfrydol dylai’ch cyfrif adael i chi wneud taliadau electronig allan o’r cyfrif hefyd. Er enghraifft, Debydau Uniongyrchol neu archebion sefydlog am filiau fel rhent, nwy a thrydan.
Y cyfrifon hyn yn unig fydd yn gadael i chi wneud taliadau allan yn electronig:
- cyfrif cyfredol
- cyfrif banc sylfaenol
Nid yw rhai cardiau rhagdaledig yn gadael i chi wneud taliadau allan yn electronig.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog
Beth mae pob cyfrif yn ei gynnig?
Gwasanaethau a nodweddion | Cyfrif cyfredol | Cyfrif banc sylfaenol | Cardiau rhagdaledig |
---|---|---|---|
Derbyn taliadau Credyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill |
Ydy |
Ydy |
Ydy |
Derbyn mathau eraill o incwm fel cyflogau o’r gwaith |
Ydy |
Ydy |
Ydy |
Caniatáu Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog |
Ydy |
Ydy |
Nid bob tro – gwiriwch â’r darparwr. |
Cyfleuster gorddrafft |
Ydy |
Na |
Na |
Cerdyn arian parod â PIN ar gyfer peiriant arian |
Ydy |
Ydy |
Ydy, ond efallai codir ffi arnoch. |
Cerdyn debyd |
Ydy |
Weithiau |
Gellir defnyddio’r rhan fwyaf o gardiau rhagdaledig yn yr un mannau â chardiau debyd. |
Llyfr sieciau |
Ydy |
Na |
Na |
Angen gwiriadau credyd wrth agor y cyfrif |
Ydy |
Na |
Na |
Ffioedd a thaliadau |
Ffioedd a llog ar orddrafftiau Taliadau am Ddebydau Uniongyrchol a wrthodir |
Dim ffioedd |
Mae taliadau’n amrywio. Gall gynnwys ffioedd am sefydlu, ychwanegu a thynnu arian. |
Cyfrifon cyfredol
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio cyfrif cyfredol i reoli eu harian o ddydd i ddydd.
Mae hyn oherwydd nad oes gan gyfrif cyfredol unrhyw un o’r cyfyngiadau sydd gan gerdyn rhagdaledig.
Cynigir cyfrifon cyfredol gan fanciau, cymdeithasau adeiladu a rhai undebau credyd.
Cyfrifon cyfredol banciau a chymdeithasau adeiladu
- Mae ganddynt yr holl nodweddion y byddwch eu hangen, megis taliadau electronig, cardiau arian parod, cardiau debyd, Debydau Uniongyrchol a sieciau.
- Gallwch ddefnyddio’r rhan fwyaf o gyfrifon cyfredol mewn cangen ar y stryd fawr, ar-lein, trwy ddefnyddio bancio symudol neu dros y ffôn.
- Gallwch gael cyfriflenni cyson i’ch helpu i gadw llygad ar eich arian.
- Mae rhai cyfrifon yn codi ffioedd uchel a llog os byddwch yn mynd i orddrafft. Ac mae gan y rhan fwyaf ffioedd os nad oes digon yn eich cyfrif i dalu Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cyfredol
Cyfrifon cyfredol undebau credyd
Os ydych yn cael trafferth cael eich derbyn ar gyfer cyfrif cyfredol gyda banc neu gymdeithas adeiladu, efallai y gallech roi cynnig ar undeb credyd.
Ni fydd angen i chi basio gwiriad credyd i gael cyfrif undeb credyd. Mae hyn oherwydd nad yw’r cyfrifon hyn yn cynnig gorddrafftiau fel arfer.
Weithiau gall cyfrifon cyfredol undebau credyd godi ffi weinyddol o £5 i £10 y mis, yn enwedig os ydynt yn cynnig cymorth gyda chyllidebu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon cyfredol undebau credyd
Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi
Os nad oes gennych fynediad i gyfrif banc safonol, gall cyfrif banc sylfaenol heb ffi ei gwneud yn llawer haws i chi reoli’ch arian.
Nid oes cyfleuster gorddrafft ynghlwm â’r cyfrifon hyn. Felly ni fyddwch yn medru mynd i ddyled drwy wario mwy o arian nag sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon banc syml heb ffi
Cardiau rhagdaledig
Mae'n bosibl trefnu trosglwyddo eich budd-daliadau i gerdyn rhagdaledig. Ond mae rhai pethau y dylech wybod amdanynt cyn gwneud hynny.
- Mae amrywiaeth o ffioedd ynghlwm â chardiau rhagdaledig. Bydd angen i chi wirio gyda’r darparwr cyn prynu.
- Nid yw cael eich holl arian ar un cerdyn yn caniatáu i chi gadw arian eich biliau ar wahân i’ch arian gwario.
- Nid yw pob cerdyn rhagdaledig yn gadael i chi drefnu i dalu biliau yn awtomatig ar gyfer eich rhent, nwy neu drydan. Gall hyn olygu gorfod tynnu symiau mawr o arian allan bob tro y bydd angen talu bil.
Ond, mae ganddynt rai manteision:
- Ni allwch fynd i ddyled gan nad oes cyfleuster gorddrafft ar gerdyn rhagdaledig.
- Mae’n bosibl gwneud un taliad bil electronig gyda rhai cardiau rhagdaledig, gan roi rheolaeth i chi dros amseriad y taliad.
Un ffordd o ddefnyddio cardiau rhagdalu yw i’w weithredu ar y cyd â chyfrif banc.
Rydych yn gadael digon o arian i dalu eich rhent a biliau eraill yn eich cyfrif ac yn llwytho eich arian gwario i gyd ar y cerdyn rhagdalu.
Mae hyn yn rhoi rheolaeth i chi dros faint rydych yn ei wario. Ac mae’n golygu eich bod yn osgoi taliadau banc a chosbau ar eich cyfrif ar gyfer archebion sefydlog a ddychwelwyd neu Ddebydau Uniongyrchol.
Dewis y cyfrif banc gorau ar gyfer eich anghenion
Mae gwefannau cymharu yn lle da i gychwyn os ydych yn ceisio dod o hyd i gyfrif cyfredol neu gyfrif banc syml sy’n addas ar gyfer eich anghenion.
Dyma rai gwefannau sy’n cymharu cyfrifon banc:
- Money Saving Expert
- Which?– gallwch ddefnyddio eu cymhariaeth ansawdd i ddod o hyd i’r banciau â’r sgor gorau gan eu cwsmeriaid.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch hefyd geisio’r teclyn cymharu ar wefan The Consumer Council
Byddwch yn ymwybodol na fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
Mae’n bwysig hefyd gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch i’ch cyfrif banc ei gynnig.
Darllenwch fwy yn ein canllaw i ddod o hyd i'r bargeinion gorau ar wefannau cymharu
Cyfrif ar y cyd neu sengl?
Os ydych yn briod neu yn byw gyda’ch gilydd, byddwch yn cael un taliad Credyd Cynhwysol i’ch aelwyd.
Gofynnir i chi enwebu pa gyfrif rydych am i’r arian gael ei dalu iddo a gall hyn fod yn:
- cyfrif ar y cyd yn eich enw chi’ch dau
- cyfrif sengl yn eich enw chi neu yn enw eich partner.
Darganfyddwch fwy am fanteision ac anfanteision cyfrifon ar y cyd a rheoli eich arian fel cwpl yn ein canllaw Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
Agor eich cyfrif banc a threfnu taliadau biliau
Nawr gall cwsmeriaid newid eu cyfrif cyfredol mewn saith diwrnod gwaith.