Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cyfrifon banc sylfaenol heb ffi

Os nad ydych yn gymwys i gael cyfrif banc safonol, megis bod gennych hanes credyd gwael, efallai y cynigir cyfrif banc sylfaenol i chi yn lle hynny. Mae gan hwn yr un nodweddion, dim ond heb lyfr siec na gorddrafft - felly fyddwch chi ddim yn gallu benthyg arian. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Beth yw cyfrif banc sylfaenol?

Mae cyfrif banc sylfaenol yn gweithio fel unrhyw gyfrif banc neu gyfrif cyfredol, felly gallwch:

Ni fydd yn cynnig llyfr siec na gorddrafft, felly ni fyddwch yn gallu gwario mwy nag sydd gennych.

Faint yw cyfrif banc sylfaenol?

Mae cyfrifon banc sylfaenol yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, ond efallai y codir tâl arnoch os ydych yn:

  • defnyddio'ch cerdyn debyd dramor neu mewn arian tramor – yn aml mae ffi gyfnewid ac weithiau ffi gwario a pheiriant arian parod
  • gofyn am gopïau o ddatganiadau.

Pwy all gael cyfrif banc sylfaenol?

Fel arfer, cynigir cyfrifon banc sylfaenol os nad ydych yn gymwys i gael cyfrif banc cyfredol safonol. Er enghraifft, efallai y bydd gennych:

  • hanes credyd gwael
  • cytundeb Gwirfoddol Unigol (IVA)
  • Cynllun Rheoli Dyledion (DMP)
  • Gorchymyn Rhyddhad Dyled (DRO)
  • wedi eich datgan yn fethdalwr.

Bydd angen i chi fod yn 16 oed o leiaf i agor cyfrif, neu dros 18 oed ar gyfer rhai banciau. Gallwch agor cyfrif banc sylfaenol gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo os yw'r ddau ohonoch yn gymwys. Gweler cyfrifon ar y cyd wedi’u hesbonio am fwy o wybodaeth.

Os ydych o dan 18 oed, gallai cyfrif banc plant fod yn well gan ei fod yn aml yn troi'n gyfrif cyfredol llawn. Am adolygiadau, gweler Cyfrifon banc gorau i blant gan MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd

Sut i agor cyfrif banc sylfaenol

  • Mae gan ein teclyn cymharu cyfrifon banc hidlydd 'sylfaenol heb ffi' fel y gallwch gymharu llawer o wahanol opsiynau.
  • Yn aml, bydd angen i chi wneud cais am un o gyfrifon eraill y banc yn gyntaf, fel eu cyfrif cyfredol safonol. Fel arfer, gallwch wneud hyn ar-lein, dros y ffôn neu mewn cangen.
  • Os nad ydych yn gymwys, byddant yn dweud wrthych a allwch gael cyfrif banc sylfaenol yn lle hynny.

Bydd angen prawf adnabod a thystiolaeth o gyfeiriad

Bydd y rhan fwyaf o fanciau yn gofyn am drwydded yrru neu basbort i brofi pwy ydych chi - neu lun os ydych chi'n gwneud cais ar-lein, yn aml ynghyd â hunlun.

Os nad oes gennych y rhain, gwiriwch a fyddant yn derbyn dogfennau eraill. Caiff hyn fel arfer ei restru ar eu gwefannau.

Gallai hyn gynnwys llythyrau oddi wrth:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • HMRC
  • Canolfan Byd Gwaith
  • eich cyngor lleol
  • eich meddyg teulu
  • Gweinidog Crefydd
  • eich landlord cymdeithasol
  • Swyddog Gwasanaethau Arfog
  • warden llety gwarchod, hostel neu loches
  • eich rheolwr cartref gofal
  • eich cyflogwr, coleg neu ddarparwr hyfforddiant – gan gadarnhau pwy ydych chi a ble rydych chi'n byw.

Neu lythyrau am eich:

  • budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth
  • pas gyrru Bathodyn Glas yr anabl.

Efallai y bydd gennych ddogfennau eraill i brofi eich hunaniaeth a'ch cyfeiriad os ydych yn:

  • fyfyriwr rhyngwladol
  • gweithiwr mudol
  • ffoadur
  • ceisiwr lloches
  • carcharor
  • ar brawf.

Mae hefyd yn werth cofrestru i bleidleisio gan fod rhai banciau yn defnyddio hyn fel rhan o'u gwiriadau.

Os nad oes gennych y dogfennau cywir, gallech ystyried cyfrif cerdyn rhagdaledig yn lle hynny, lle nad oes angen ID fel arfer.

Os gwrthodir cyfrif banc sylfaenol i chi

Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, gofynnwch pam. Dylech gael gwybod y rheswm oni bai bod eich banc yn eich amau o dwyll neu wyngalchu arian.

Er enghraifft, gallech gael eich gwrthod os:

  • nad ydych yn cytuno i wiriad credyd – er nad oes rhaid i chi basio un
  • maent yn meddwl y byddwch yn defnyddio'r cyfrif yn anghyfreithlon neu'n dwyllodrus
  • rydych yn fygythiol, yn ddifrïol neu'n dreisgar tuag at staff.

Os ydych chi'n credu bod camgymeriad wedi digwydd neu os nad ydych chi'n cytuno â'r penderfyniad, gallwch gwyno Yr opsiwn arall yw i wneud cais gyda banc arall. 

Dewisiadau amgen i gyfrif banc sylfaenol

Os ydych chi'n parhau i gael trafferth i agor cyfrif, mae yna opsiynau eraill i'w hystyried:

Sut i reoli cyfrif banc sylfaenol

Mae cyfrif banc a reolir yn dda yn aml yn gwneud eich bywyd yn haws. Efallai y bydd eich banc hefyd yn penderfynu eich uwchraddio i gyfrif cyfredol gyda mwy o nodweddion.

Dyma rai o’r awgrymiadau gorau:

  • Sefydlwch Ddebydau Uniongyrchol fel nad ydych yn colli taliadau bil, ac archebion sefydlog ar gyfer pethau fel rhent.
  • Gwiriwch eich balans yn aml – gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o arian ar gael ar gyfer gwariant a thaliadau (efallai y byddant yn cael eu stopio os na wnewch chi).
  • Gwirio trafodion ac adrodd am unrhyw beth nad ydych yn ei adnabod yn gyflym – byddwch fel arfer yn cael ad-daliad os yw'n dwyll.
  • Os ydych chi'n credu y byddwch chi'n methu taliad, gofynnwch i'r darparwr rydych chi'n ei dalu am help - byddan nhw'n gwrando ac yn darparu ffyrdd i'ch cefnogi. Siaradwch Siarad â’ch credydwr am help.

Gall eich banc gau'ch cyfrif os byddwch yn torri'r telerau

Efallai y bydd eich banc yn penderfynu cau'ch cyfrif os byddwch yn methu â bodloni eu telerau ac amodau yn rheolaidd. Gallai hyn gynnwys:

  • agor cyfrif banc arall yn y Deyrnas Unedig
  • peidio â defnyddio'r cyfrif mewn mwy na dwy flynedd neu symud dramor
  • defnyddio'r cyfrif yn dwyllodrus
  • bod yn fygythiol, yn ddifrïol neu'n dreisgar tuag at staff.

Os bydd hyn yn digwydd, bydd eich banc yn rhoi o leiaf 2 fis o rybudd i chi. Gallwch ddefnyddio'r amser hwn i apelio os nad ydych yn cytuno. Gweler ein canllaw ar sut i gwyno am gymorth cam wrth gam.

Os aiff pethau o chwith

Os oes gennych broblem gyda'ch banc neu gyfrif, dilynwch y camau hyn.

  1. Gofynnwch i wasanaethau cwsmeriaid eich banc gywiro pethau – os na allwch gytuno ar ddatrysiad, yna
  2. Gwnewch gwyn ffurfiol - mae ganddyn nhw wyth wythnos i ymchwilio a rhoi ymateb terfynol. Os nad ydych chi'n cytuno o hyd, neu os yw'r terfyn amser wedi mynd heibio, gallwch chi
  3. Fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim – fe gewch chi benderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen iddyn nhw wneud mwy.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn ar sut i gwyno

Canllaw printiedig am ddim

Gallwch archebu fersiwn brintiedig am ddim o'r canllaw hwn, ynghyd â llawer o rai eraill. Mae'r cyfan ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.