Mae cyfrif cyfredol - sy'n cael ei adnabod yn syml fel cyfrif banc - yn gadael i chi wneud a derbyn taliadau, fel talu biliau, gwario ar-lein a chael eich cyflog. Dyma'r cyfan sydd angen i chi ei wybod.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Nodweddion cyfrif cyfredol
Gyda chyfrif cyfredol, gallwch:
- Derbyn taliadau, fel cyflogau, budd-daliadau a phensiwn.
- Talu am bethau neu dynnu arian parod allan gyda cherdyn debyd.
- Trosglwyddo arian i dalu biliau neu bobl eraill, gan gynnwys taliadau rheolaidd fel Debydau Uniongyrchol ac archebion sefydlog.
- Rheoli eich cyfrif 24/7 trwy fancio symudol ac ar-lein.
Bydd llawer o gyfrifon hefyd yn rhoi cyfle i chi:
- Gael mynediad at eich cyfrif dros y ffôn, mewn canghennau ac yn Swyddfa'r Post.
- Benthyg arian gyda gorddrafft - byddwch fel arfer yn talu llog dyddiol hyd at 40%.
Gweler Gorddrafftiau wedi'u hesbonio am fwy o wybodaeth.
Faint mae cyfrif cyfredol yn ei gostio?
Mae'r rhan fwyaf o'r cyfrifon cyfredol yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, ond efallai y codir tâl arnoch os:
- Nad oes gennych ddigon o arian i dalu am daliad - byddech fel arfer yn talu llog gorddrafft neu ffioedd trafodion di-dâl.
- Ydych yn defnyddio'ch cerdyn debyd dramor neu mewn arian tramor – yn aml mae ffi gyfnewid ac weithiau ffi gwario a ffi peiriant arian parod.
- Trosglwyddo symiau mawr o arian – fel blaendal ar gyfer tŷ.
- Gofyn am gopïau o ddatganiadau.
Bydd rhai cyfrifon hefyd yn codi ffi fisol am rai manteision fel yswiriant.
Pwy all gael cyfrif cyfredol?
Oni bai eich bod yn agor cyfrif cyfredol i blant, fel arfer bydd angen i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn ac yn breswylydd yn y DU. Bydd banciau hefyd yn gofyn am un neu ddau fath o brawf adnabod fel y gallant wirio'ch enw a'ch cyfeiriad.
Gweler sut i agor cyfrif banc am gymorth cam wrth gam llawn.
Mathau o gyfrifon cyfredol
Bydd y math o gyfrif sydd ar gael i chi yn dibynnu i raddau helaeth ar eich sefyllfa.
Os oes gennych hanes credyd da
Cyfrif cyfredol safonol |
Fel arfer mae'n cynnig cerdyn debyd, bancio symudol ac ar-lein, gorddrafft taladwy ac mae’n gadael i chi sefydlu taliadau - i gyd fel arfer heb ffi fisol. |
Cyfrifon gyda manteision am ddim |
Mae'n cynnig y nodweddion uchod ac ychwanegion megis gorddrafft di-log, arian yn ôl ar wariant neu filiau, gwariant tramor am ddim a heb log. Efallai y bydd angen i chi dalu isafswm neu dalu ffi fisol. |
Cyfrifon cyfredol wedi'u pecynnu |
Am ffi fisol, cewch bolisïau yswiriant fel teithio, ffôn symudol, car yn torri i lawr a theclynnau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu hawlio bob amser ac os yw'n rhatach ei gael yn rhywle arall. |
Os ydych yn yr ysgol neu'n astudio
Mae'r rhain fel arfer yn cynnig gorddrafft heb log os ydych yn astudio neu wedi cwblhau cwrs prifysgol neu brentisiaeth lefel uwch yn ddiweddar. |
|
Cyfrif cyfredol safonol ar gyfer rhai dan 18 oed, felly dim gorddrafft. Efallai y bydd angen caniatâd rhiant neu warchodwr arnoch i agor un neu i gael nodweddion penodol fel cerdyn debyd. |
Os ydych chi'n cael trafferth cael cyfrif
Mae’r cyfrif hwn yn cynnig y rhan fwyaf o nodweddion cyfrif cyfredol (ac eithrio gorddrafft) ac fel arfer mae’n derbyn y rhai sydd â hanes credyd gwael, euogfarnau neu sydd yn y carchar |
|
Mae'n cael ei redeg gan sefydliadau nid-er-elw, ond efallai y byddwch yn talu ffi fisol i gael un. |
|
Mae’n gadael i chi wario a thynnu arian parod ond fel arfer ni allwch sefydlu taliadau. |
Faint o gyfrifon cyfredol y gallaf eu cael?
Cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, nid oes cyfyngiad ar nifer y cyfrifon y gallwch eu hagor. Er enghraifft, gallech ddewis cael un cyfrif cyfredol ar gyfer eich gwariant ac un i dalu biliau ohono.
Ond bydd pob cais fel arfer yn gosod marc ar eich ffeil credyd. Gall gormod mewn cyfnod byr o amser effeithio'n negyddol ar eich sgôr credyd. Edrychwch ar sut i wella eich adroddiad credyd.
Cyfrifon ar y cyd
Gellir agor y rhan fwyaf o’r cyfrifon cyfredol gyda dau neu fwy o bobl, a all fod yn ddefnyddiol os ydych yn rhannu arian neu filiau'r cartref.
Ond gwnewch hynny dim ond os ydych chi'n ymddiried yn y person arall. Byddant yn gallu cael gafael ar unrhyw arian sydd yn y cyfrif a gweld yr holl drafodion. Bydd eich ffeiliau credyd hefyd yn gysylltiedig, a all effeithio ar eich sgôr credyd os oes gan y person arall hanes credyd gwael.
Gweler esboniad o gyfrifon ar y cyd am fwy o wybodaeth.
Mae hyd at £85,000 fesul grŵp bancio fel arfer yn cael ei warchod
Mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc yn cael eu diogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Pe bai’ch banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd yn methu, sy’n annhebygol o ddigwydd, byddech yn cael eich arian yn ôl yn awtomatig – hyd at £85,000 y person.
Gallwch ddefnyddio gwiriwr diogelwch FSCSYn agor mewn ffenestr newydd i wirio a yw eich banc wedi'i ddiogelu.
Os nad ydyw, mae’n debygol o fod yn gyfrif cyfredol rhithwir a gwmpesir gan reolau e-arian. Mae hyn yn golygu bod eich arian yn cael ei gadw’n ddiogel mewn banc gwahanol, ond byddai angen i chi wneud hawliad i’r gweinyddwr os bydd eich darparwr yn methu.
Treth ar gyfrifon cyfredol
Yn gyffredinol, dim ond os yw'ch cyfrif cyfredol yn talu llog y mae'r dreth yn berthnasol. Er na fyddwch yn talu treth ar yr arian parod sydd yn y cyfrif, efallai y byddwch ar y llog cynilo a gewch.
Gall y rhan fwyaf o bobl ennill hyd at £1,000 mewn llog cynilo cyn talu treth neu £500 os ydych yn ennill rhwng £50,271 a £125,140. Am drosolwg cyflawn, gan gynnwys lwfansau ychwanegol i'r rhai sy'n ennill llai na £17,570, edrychwch ar sut mae treth ar gynilion yn gweithio.
Os yw'ch cyfrif yn talu gwobrau arian parod eraill, gofynnwch i'ch banc a yw hyn yn drethadwy ai peidio - nid yw'r rhan fwyaf o arian yn ôl yn drethadwy, ond efallai y bydd rhai taliadau arian parod misol.
Cymharwch gyfrifon cyfredol
Mae ein teclyn cymharu cyfrifon banc yn eich helpu i weld nodweddion, ffioedd a thaliadau cyfrif.
Ar gyfer adolygiadau ar gyfrifon cyfredol, gweler:
- CanllawiauYn agor mewn ffenestr newydd cyfrifon cyfredol Which? a'r banciau gorau ar gyfer gwasanaethYn agor mewn ffenestr newydd cwsmeriaid.
- Adolygiad o’r cyfrifon banc gorau gan MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Tabl Cymharu Cyfrifon Cyfredol y Cyngor DefnyddwyrYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Edrychwch ar Sut i ddewis cyfrif banc am fwy o help.
Os bydd pethau'n mynd o'i le
Os oes gennych broblem gyda'ch banc neu gyfrif cyfredol, dilynwch y camau hyn.
- Gofynnwch i wasanaethau cwsmeriaid eich banc i gywiro pethau – os na allwch gytuno ar ddatrysiad, yna
- Gwnewch gwyn ffurfiol - mae ganddyn nhw wyth wythnos i ymchwilio ac i roi ymateb terfynol. Os nad ydych chi'n cytuno o hyd, neu os yw'r amserlen wedi mynd heibio, gallwch chi
- Fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol am ddim – fe gewch chi benderfyniad annibynnol ynghylch a oedd ymateb eich banc yn deg neu a oes angen iddyn nhw wneud mwy.
Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw llawn ar sut i gwyno.