Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i gyllidebu ar gyfer taliad budd-daliadau misol

Gall y teimlad o fod allan o reolaeth gyda’ch arian fod yn un dychrynllyd, yn enwedig os nad ydych yn sicr fod gennych ddigon i fyw arno. Mae’n bosib fod cael un taliad Credyd Cynhwysol misol yn eich gwneud yn fwy pryderus fyth ynglŷn â chadw dau ben llinyn ynghyd. Y ffordd gorau i reoli’ch arian yw llunio cyllideb gartref.

Pam cyllidebu – pam nawr?

Mae llunio cyllideb o holl incwm a chostau eich cartref yn allweddol os ydych eisiau sicrhau y gallwch dalu’ch holl filiau ac ymdopi hyd at ddiwedd y mis.

Hyd yn oed os ydych eisoes yn cyllidebu, bydd newidiadau i’r system fudd-daliadau yn debygol o olygu fod angen i chi wneud rhai newidiadau i sut ydych yn mynd ati i wneud hyn.

I’ch atgoffa, mae’r budd-daliadau canlynol yn cael eu dirwyn i ben yn raddol i bobl o oed gwaith a bydd Credyd Cynhwysol yn cymryd eu lle:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Treth Gwaith
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

Yng Nghymru a Lloegr, bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu mewn un taliad misol i bob cartref.

Felly os ydych yn cyfrifo eich cyllideb yn wythnosol neu bob pythefnos ar hyn o bryd, bydd angen i chi ddechrau edrych ar eich incwm a gwariant i gyd dros fis cyfan.

Ac os ydych yn defnyddio taliadau budd-daliadau gwahanol i dalu am gostau penodol, bydd angen i chi ddod i’r arfer â chael un taliad i dalu am bopeth.

Cewch amcangyfrif o faint o Gredyd Cynhwysol y bydd gennych hawl i’w gael – yn cynnwys faint yn well eich byd fyddwch chi mewn gwaith – gyda’r gyfrifiannell ar wefan Policy in PracticeYn agor mewn ffenestr newydd

Llunio’ch cyllideb – ble i ddechrau

Er y gallai hyn fod yn syniad brawychus, dim ond dwy restr yw cyllideb:

  1. Arian sydd gennych yn dod i mewn, pethau fel taliadau budd-daliadau a’ch cyflog os ydych yn gweithio.
  2. Taliadau a wneir gennych, pethau fel eich rhent neu forgais, biliau gwresogi ac yswiriant, yn ogystal â chostau byw a gwariant rheolaidd ac afreolaidd.

Sut i gyfrifo’ch incwm

Budd-daliadau

Edrychwch ar y gwaith papur sy’n ymwneud ag unrhyw fudd-daliadau a chredydau treth a gewch. Nodwch faint rydych yn ei gael. Sicrhewch eich bod yn gwneud nodyn a yw’r taliadau hyn yn wythnosol, bob pythefnos, bob pedair wythnos neu’n fisol.

Cyflog

Os ydych yn gweithio, gwiriwch eich slipiau cyflog a nodwch eich cyflog - ar ôl treth a didyniadau eraill.

Incwm arall

Os oes gennych unrhyw incwm arall yn dod i mewn, ysgrifennwch y symiau i lawr a pha mor aml rydych yn eu cael.  Er enghraifft, o bensiwn, cynhaliaeth plant gan eich cyn partner, neu incwm hunangyflogaeth.

Peidiwch â phoeni os bydd yr arian a ddaw i mewn yn newid o bryd i’w gilydd.

Pan fyddwch wedi gwneud cyllideb, gallwch ei haddasu heb i chi orfod dechrau o’r dechrau bob tro.

Sut i gyfrifo’ch costau

Biliau’r cartref

Casglwch yr holl filiau y byddwch yn eu talu ynghyd fel eich bod yn gallu gweld yr union symiau. Os yw’ch rhent yn cael ei dalu ar eich rhan ar hyn o bryd, byddwch yn barod i ddechrau cynnwys hyn yn eich cyllideb yn fuan.

Costau byw

Gorau oll os gallwch fod yn fanwl gywir yma. Ar gyfer pethau fel siopa bwyd, mae’n debygol o fod yn ddigon i edrych ar faint fyddwch yn ei wario dros nifer o wythnosau a chyfrifo’r cyfartaledd. Ond ar gyfer pethau fel gwisg ysgol a chostau untro eraill, bydd angen i chi edrych ar faint rydych yn ei wario dros flwyddyn a rhannu gyda 12 i gael swm misol cyfartalog.

Taliadau yswiriant a benthyciadau

Chwiliwch am unrhyw beth fyddwch yn ei dalu’n rheolaidd fel yswiriant cartref, taliadau catalog a thaliadau cardiau credyd a gwneud nodyn ohonynt.

Plant ac anifeiliaid anwes

Mae hyn yn cynnwys pethau fel gofal plant, clybiau ar ôl ysgol, a theithiau ysgol. Bydd rhai o’r costau hyn yn rheolaidd ac eraill yn achlysurol, felly bydd angen cyfrifo’r cyfartaledd. Os oes gennych anifeiliaid anwes, cyfrifwch bopeth y byddwch yn ei wario ar eu bwyd, biliau milfeddyg ac ati.

Teithio

Os oes gennych gar, sicrhewch eich bod yn cynnwys y costau i gyd (gan gynnwys rhai fel treth car – a elwir yn dreth ffordd hefyd – y byddwch yn eu talu’n flynyddol neu bob chwe mis yn unig). Os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, bydd angen i chi naill ai gynnwys cost eich tocyn tymor neu gyfrifo faint rydych yn ei wario ar gyfartaledd bob wythnos neu fis.

Hamdden

Os ydych yn byw ar incwm isel, dyma’r rhan o’ch cyllideb sydd, mwy na thebyg, yn teimlo’r wasgfa fwyaf, ond cofiwch gynnwys digwyddiadau untro fel Nadolig a phenblwyddi fel bod cyllideb ar gyfer y rhain hefyd.

Cynlluniwr Cyllideb

Nawr eich bod wedi casglu ynghyd yr holl waith papur a ffigurau sydd eu hangen arnoch, y peth hawsaf i’w wneud yw rhoi’r cyfan i mewn i’n cynlluniwr cyllideb.

Bydd yn cymryd o leiaf hanner awr i’w lenwi, ond bydd yn werth gwneud oherwydd:

  • Gallwch gynnwys ffigyrau ar gyfer taliadau wythnosol neu flynyddol, er enghraifft, ac mae’n cyfrifo’r taliadau misol drosoch.
  • Hyd yn oed os na fyddwch yn llwyddo i wneud y cyfan mewn un ymgais, gallwch ei gadw a dychwelyd ato’n hwyrach.
  • Os bydd pethau’n newid, er enghraifft, os cewch shifft ychwanegol neu os bydd eich bil nwy yn codi, gallwch fynd yn ôl a gwneud newidiadau heb orfod ailadrodd y cyfan.
  • Cyn gynted ag y byddwch yn cael gwybod faint o Gredyd Cynhwysol rydych yn mynd i’w gael, gallwch roi’ch taliad misol i mewn a gweld sut mae hynny’n effeithio ar eich cyllideb.
  • Mae’r holl ffigurau a roddwch yn gyfrinachol – ni fyddwn yn gallu eu gweld na’u rhannu gyda neb – a does dim modd i ni wybod pwy ydych chi, hyd yn oed os ydych yn cofrestru gyda ni.

Beth os nad yw’ch cyllideb yn cydbwyso?

Os ydych yn gwario mwy bob mis nag sy’n dod i mewn, y cam nesaf yw edrych yn fanylach ar ble mae eich arian yn mynd a ble y gallwch gwtogi.

Efallai y gallech gael cytundeb gwell ar eich pecyn ffôn neu deledu.

Neu efallai y byddwch yn gweld eich bod yn talu mwy nag sydd angen i chi wneud am eich nwy a thrydan.

Un o fanteision symud i gyllideb fisol yw y gallwch gofrestru i gael prisiau is yn aml os byddwch yn talu gyda Debyd Uniongyrchol misol.

Awgrymiadau i gadw ar y trywydd iawn

Dim ond y dechrau yw llunio cyllideb i’ch cartref.

Nawr mae’n rhaid i chi gadw ato, sy’n haws dweud na gwneud pan fydd prisiau yn mynd i fyny o hyd a chost untro fel pâr newydd o sgidiau ysgol yn bygwth y cyfan.

Y peth pwysig yw eich bod wedi cymryd y cam cyntaf tuag at gael rheolaeth ar eich arian.

Nawr rydych yn gwybod yn union ble rydych yn sefyll. A hyd yn oed os bydd pethau’n dod ar eich traws nad ydych wedi cynllunio amdanynt, gallwch fynd yn ôl at eich cyllideb, ei haddasu, a chanfod ffordd o ddelio â’r mater.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.