Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i herio eich cyngor lleol neu awdurdod lleol dros eich gofal

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad eich awdurdod lleol i beidio â thalu am eich gwasanaethau gofal – mae angen i chi leisio’ch barn. Mae dwy o bob tair cwyn sy’n cyrraedd yr Ombwdsmon yn llwyddiannus.

Gwybod eich hawliau

Gallai herio’ch cyngor lleol neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) yng Ngogledd Iwerddon, ymddangos yn frawychus.

Ond os ydych yn bwriadu herio penderfyniad, byddwch yn teimlo’n fwy hyderus os byddwch eisoes yn gwybod ambell i beth sylfaenol yn gyntaf:

  • Mae gennych yr hawl cyfreithiol i asesiad am ddim o’ch anghenion gofal i weithio allan faint o help rydych ei angen i fyw’n annibynnol. Ni all eich awdurdod lleol wrthod oherwydd am nad ydynt yn credu eich bod yn gymwys am gymorth.
  • Gallwch ofyn am ailasesiad os byddwch yn credu bod eich amgylchiadau wedi newid.
  • Mae gan bob awdurdod lleol ei feini prawf cymhwyster ei hun ar gyfer y cymorth y gallwch ac na allwch ei gael. Ond mae rhaid i bob un ohonynt ddilyn canllawiau’r llywodraeth.
  • Mae gan eich awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i fodloni’ch anghenion gofal cymwys – nid yw’n ddigon dweud nad yw’n gallu eu fforddio.

Sut rwyf yn herio fy asesiad anghenion gofal?

Nid oes rhaid i chi lynu wrth benderfyniad y bobl oedd yn cynnal yr asesiad.

Er enghraifft, os oes gennych salwch neu anabledd, mae’n bosibl ei fod wedi’ch asesu ar ddiwrnod ‘da’. Ond dylai’r asesiad gymryd i ystyriaeth angenheion newidiol.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad i beidio â darparu cymorth, neu os nad ydych yn credu bod y pecyn gofal a gynigir yn ddigon i fodloni’ch anghenion, dilynwch y camau isod i’w herio.

Sut rwyf yn herio fy asesiad ariannol?

Mae rheolau caeth iawn ynghylch faint y dylech ei dalu am ofal hirdymor. Er efallai bod gan awdurdodau lleol drefniadau sy’n haelach na’r canllawiau a osodwyd gan y llywodraeth.

Serch hynny, os ydych yn credu bod eich asedau neu incwm wedi’u prisio’n rhy uchel, neu bod rhywbeth wedi’i gynnwys mewn camgymeriad, a gofynnir i chi dalu mwy nag y dylech, gallwch ofyn am adolygiad o’ch achos.

Os nad ydych yn siŵr pa incwm neu gyfalaf sydd angen ei ystyried, efallai y gall Ymgynghorydd FirstStop eich helpu. Ffoniwch hwy ar 0800 377 7070 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Am gefnogaeth a chyngor ar ofal am ddim, cysylltwch â:

Gallwch hefyd drefnu apwyntiad i siarad ag ymgynghorydd yn Care Rights UK

Os oes angen i chi ddod o hyd i ymgynghorydd arbenigol ar ffioedd gofal, gweler ein canllaw Cael cyngor ariannol ar sut i ariannu eich gofal hirdymor

Sut i herio penderfyniad – cam wrth gam

Dilynwch y camau hyn i herio penderfyniad:

Cam 1 – Gwneud eich ymchwil

Darganfyddwch am weithdrefn gwyno eich cyngor lleol - neu’ch Health and Social Care Trust lleol yng Ngogledd Iwerddon.

Darganfyddwch eich awdurdod lleol (cyngor) neu ymddiriedolaeth:

Bydd y manylion ar eu gwefan. Mae hefyd yn werth edrych ar eu meini prawf cymhwysedd ar gyfer gwasanaethau gofal tymor hir, a'u polisi codi tâl.

Mae gennych yr hawl i fynd â rhywun gyda chi i apêl neu asesiad. Gallai hwn fod yn eiriolwr. Mae gwasanaethau eirioli  am ddim fel arfer.

Gall eiriolwr fod yn rhywun sy’n:

  • eich helpu i ddweud sut mae pethau’n effeithio arnoch a dweud eich dweud am yr hyn sydd ei angen arnoch
  • darparu cefnogaeth emosiynol

 

Cam 2 – Cysylltu â’ch awdurdod lleol neu’ch ymddiriedolaeth

Mae gan eich cyngor lleol neu ymddiriedolaeth ddyletswydd gyfreithiol i roi eglurhad ysgrifenedig o’u penderfyniad i chi.

Cymerwch yr amser i’w ddarllen. Os ydych yn credu ei fod yn annheg, gallwch ofyn am ailasesu’ch achos.

Mae’n bosibl mai methiant cyfathrebu sydd wedi bod neu gamddealltwriaeth a bod modd unioni hyn yn hawdd.

Cam 3 – Ceisio cymorth

Os ydych angen cymorth â chŵyn, cysylltwch â’ch cynghorydd lleol, Cyngor ar Bopeth neu grwpiau cymorth neu anabledd lleol i weld a fyddant yn eich helpu i gyflwyno’ch achos.

Cam 4 – Mynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon

Os nad ydych yn hapus â’r ymateb rydych yn ei gael gan eich cyngor lleol, gallwch gael cyngor cyfreithiol neu fynd â’ch cwyn at yr ombwdsmon llywodraeth leol perthnasol.

Cwynion am eich gofal

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r gofal rydych yn ei gael, mae yna broses ychydig yn wahanol i’w dilyn. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych yn talu am y gofal â thaliadau uniongyrchol gan eich awdurdod lleol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.