Pa bryd bynnag y byddwch chi’n prynu rhywbeth, boed hynny’n gynnyrch neu’n wasanaeth, ar y stryd fawr neu ar-lein, mae gennych chi hawliau. Gall gwybod eich hawliau helpu os nad yw’r hyn yr ydych chi wedi talu amdano yn bodloni’ch disgwyliadau neu’n ddiffygiol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
- Eich hawliau defnyddiwr o fewn 30 diwrnod
- Eich hawliau defnyddiwr ar ôl 30 diwrnod o brynu
- Eich hawliau defnyddwyr o fewn chwe mis
- Eich hawliau defnyddwyr ar ôl chwe mis
- Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr
- Eich hawliau defnyddwyr o fewn yr 14 diwrnod cyntaf i brynu ar-lein
- Hawliau dosbarthu
- Hawliau gyda Phryniannau Ail Law
- Hawliau cynnwys digidol
- Hawliau â nwyddau darfodus
- Hawliau ar Wasanaethau
- Ceir ail law
- Adran 75
Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
Mae’n rhaid i unrhyw gynnyrch neu wasanaeth, ffisegol neu ddigidol, a brynwyd ar-lein neu mewn siop fodloni’r safonau a ganlyn:
- Ansawdd boddhaol – ni ddylai eich nwyddau fod yn ddiffygiol neu wedi’u difrodi, neu o leiaf o ansawdd boddhaol. Er enghraifft, nid yw nwyddau ail law yn cael eu cadw i’r un safonau â rhai newydd sbon.
- Addas i’r diben – dylech fod yn gallu’i ddefnyddio at y diben y cafodd y nwyddau eu cyflenwi.
- Fel y disgrifiwyd - rhaid i’ch nwyddau neu wasanaeth gyd-fynd â’r disgrifiad, model neu sampl a ddangoswyd wrth eu prynu.
Mae’ch hawliau i ad-daliad, atgyweiriad neu un newydd yn newid wrth i amser fynd rhagddo.
Eich hawliau defnyddiwr o fewn 30 diwrnod
Help gyda sgamiau
Os ydych eisiau help gyda'ch anghenion presennol a help i weld a ydych yn gallu cael eich arian yn ôl, ffoniwch ein uned troseddau ariannol a sgamiau ar 0800 015 4402
Yn ystod y 30 cyntaf ar ôl prynu, mae gennych yr hawl i wrthod y nwyddau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ddychwelyd eitem nad yw’n bodloni’r tri maen prawf am ad-daliad llawn.
Nid yw’r hawl hwn yn cynnwys lawrlwythiadau digidol, ond fe allwch ofyn iddynt gael eu hatgyweirio neu gael un newydd yn ei le. Os ydych yn aflwyddiannus, mae gennych hawl i gael gostyngiad mewn pris.
Eich hawliau defnyddiwr ar ôl 30 diwrnod o brynu
Ar ôl 30 diwrnod, nid oes hawl gyfreithiol gennych i ad-daliad llawn. Serch hynny, gallwch ofyn i’r manwerthwr newid neu atgyweirio’r nwyddau, nad ydynt yn bodloni’r tri maen prawf.
Ar gyfer lawrlwythiadau digidol, ble nad yw’n bosibl atgyweirio’r lawrlwythiad gwreiddiol, dylech gael cyfle i’w lawrlwytho eto.
Eich hawliau defnyddwyr o fewn chwe mis
Os bydd diffyg yn datblygu ar ôl chwe mis, eich cyfrifoldeb chi yw profi ei fod yn ddiffygiol adeg ei brynu neu ei ddosbarthu. Mae hyn yn golygu mai mater i'r manwerthwr yw profi nad oedd yno pan wnaethoch chi ei brynu.
Os yw atgyweiriad neu amnewidiad wedi methu, mae gennych hawl i wrthod y nwyddau am ad-daliad llawn neu ostyngiad mewn prisiau.
Eich hawliau defnyddwyr ar ôl chwe mis
Os bydd diffyg yn datblygu ar ôl chwe mis, eich cyfrifoldeb chi yw profi ei fod yn ddiffygiol adeg ei brynu neu ei ddosbarthu.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau o dan y Ddeddf Hawliau DefnyddwyrYn agor mewn ffenestr newydd ar Which?
Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr
Os byddwch chi’n prynu rhywbeth, heb ei weld yn bersonol yn gyntaf - er enghraifft, os byddwch chi’n prynu ar-lein - mae gennych sicrwydd o dan y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr, ynghyd â’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr.
Eich hawliau defnyddwyr o fewn yr 14 diwrnod cyntaf i brynu ar-lein
Mae gennych yr hawl i ganslo eich pryniant am ad-daliad llawn o’r eiliad y byddwch chi’n gosod archeb, hyd at 14 diwrnod ar ôl ei gyrraedd.
Hawliau dosbarthu
Mae dosbarthu pryniannau yn derbyn sicrwydd o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Mae hyn yn golygu mai’r manwerthwr sy’n gyfrifol am ddosbarthu’r cynnyrch yn ddiogel i chi ac nid y negesydd y mae’n ei gyflogi.
Dosbarthu diofyn
Rhaid i’r manwerthwr ddosbarthu’r hyn yr ydych chi wedi’i archebu o fewn 30 diwrnod, oni bai eich bod wedi cytuno ar amserlen arall.
Dosbarthu hwyr
Os ydych chi wedi cytuno ar ddosbarthiad erbyn dyddiad penodol, er enghraifft, dosbarthu anrhegion erbyn y Nadolig, a bod y manwerthwr yn methu bodloni hyn, yna mae gennych hawl i ganslo am ad-daliad llawn.
Dychweliadau
Pan fyddwch chi’n dychwelyd eitemau oherwydd nad ydynt yn bodloni tri maen prawf y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr, rhaid i’r manwerthwr ad-dalu costau dosbarthu safonol. Os byddwch chi’n talu am ychwanegion wrth ddychwelyd, er enghraifft dosbarthu diwrnod canlynol - bydd yn rhaid i chi dalu am y gost ychwanegol.
Hawliau gyda Phryniannau Ail Law
Mae’ch hawliau wrth brynu’n ail-law yn dibynnu gan bwy y prynoch chi’r eitem.
Os prynwyd yr eitem gan fanwerthwr neu fasnachwr, nid unigolyn preifat, mae gennych sicrwydd o dan y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr a’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Mae hyn yn golygu bod gennych yr hawl safonol i ganslo neu wrthod o dan y tri maen prawf.
Mae prynu gan werthwr preifat yn gwneud pethau ychydig yn fwy cymhleth. Cyhyd â bod y cynnyrch wedi’i ddisgrifio’n gywir, nid oes hawl gennych i ad-daliad, atgyweiriad nac un newydd yn ei le.
Hawliau cynnwys digidol
Daw pryniannau cynnwys digidol, megis meddalwedd neu lawrlwythiadau cerddoriaeth, o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Golyga hyn fod yn rhaid iddynt fodloni’r tri maen prawf. Os nad ydynt, mae hawl gennych i ad-daliad, atgyweiriad neu un newydd yn ei le.
Efallai bydd rhaid i’r manwerthwr hefyd roi iawndal i chi os yw’r cynnyrch digidol yr ydych chi wedi’i brynu wedi difrodi unrhyw ddyfais ble y cafodd ei ddefnyddio hefyd neu gynnwys digidol arall – gan gymryd yn ganiataol eich bod chi wedi defnyddio pob gofal a sylw rhesymol.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau defnyddwyr ar gynnwys digidolYn agor mewn ffenestr newydd ar Which?
Hawliau â nwyddau darfodus
Mae nwyddau darfodus yn achos cymhleth oherwydd efallai na fyddant yn cyrraedd y cyfyngiad 14 diwrnod ar ôl prynu o dan y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr, heb sôn am y cyfyngiad 30 diwrnod y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr.
O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y cyfnod yn cael ei bennu gan ba mor hir y mae’n rhesymol disgwyl i’r nwyddau bara. Er enghraifft, ar eitemau bwyd byddech yn disgwyl yn rhesymol i’r eitem bara hyd at ei ddyddiad defnydd.
Hawliau ar Wasanaethau
O dorri gwallt a sychlanhau i waith adeiladu a chyfrifyddu, mae ystod eang o wasanaethau yn rhan o’r Ddeddf Hawliau Defnyddwyr. Serch hynny, mae meini prawf ychydig yn wahanol yn gymwys:
- Rhaid cynnal gwasanaethau yn ofalus a gyda sgil.
- Mae’r holl wybodaeth, yn ysgrifenedig ac ar lafar, yn rhwym pan fydd y defnyddiwr yn dibynnu arno.
- Os na chytunir ar bris o flaen llaw, rhaid darparu’r gwasanaeth ar gost resymol.
- Oni bai y cytunir ar amserlen ymlaen llaw, mae’n rhaid cynnal y gwasanaeth o fewn amser rhesymol.
Os yw’r gwasanaeth yn methu bodloni’r safonau hyn, dylai’r darparwr gwasanaeth naill ai ail-wneud rhai elfennau o’r gwasanaeth, neu gynnal y gwasanaeth cyfan eto heb unrhyw gost. Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad mewn pris.
Darganfyddwch fwy am eich hawliau cwsmer defnyddwyr am wasanaethauYn agor mewn ffenestr newydd ar Which?
Ceir ail law
Ceir ail-law yw'r cynnyrch mwyaf sy’n cael eu cwyno amdanynt o ran hawliau defnyddwyr yn gyson.
Masnachwyr a gwerthwyr preifat
Os wnaethoch chi brynu gan fasnachwr, mae gennych sicrwydd o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr a’r graddfeydd amser safonol.
Os ydych chi’n prynu gan werthwr preifat, mae gennych lai o hawliau, felly cyhyd â bod y car wedi’i ddisgrifio’n gywir, ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad.
Broceriaid car
Mae defnyddio brocer car yn dod yn ffordd gynyddol boblogaidd o brynu car. Rydych chi’n rhoi manyleb y car yr ydych chi ei eisiau i frocer car, a fydd wedyn yn delio â’r holl fasnachwyr a delwriaethau i ganfod y fargen orau.
O dan yr amodau hyn, a chyhyd â’ch bod hi’n bodloni’r gofynion a amlinellir, fe allech chi dderbyn sicrwydd o dan elfen gwerthwr o bell y Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr.
Adran 75
Ynghyd â’ch hawliau o dan y Ddeddf Hawliau Defnyddwyr a’r Rheoliadau Cytundebau Defnyddwyr, gall prynu gyda’ch cerdyn credyd roi diogelwch ychwanegol i chi gyda phryniannau rhwng £100 a £30,000 o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr.
Gallai trafodion o unrhyw werth ar gardiau debyd neu rhag-daledig fod yn rhan o gynllun gwirfoddol o’r enw ‘chargeback’.