Yn meddwl tybed beth yw cost prynu tŷ neu fflat? Mae yna nifer o ffioedd i’w hystyried wrth brynu tŷ newydd, gan gynnwys cost symud tŷ, trethi, yswiriant, eich blaendal a ffioedd cyfreithiwr.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Prif gostau ymlaen llaw
Gwnewch yn siwr eich bod wedi cynilo digon i gwmpasu eich costau ymlaen llawn.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Treth stamp
Byddwch chi’n talu Treth Stamp ar eiddo sy’n costio mwy na £250,000 ar gyfer eiddo preswyl, oni bai eich bod yn brynwr tro cyntaf. Ni fydd prynwyr cymwys tro cyntaf nawr yn talu unrhyw dreth stamp ar eiddo sy'n costio hyd at £425,000, a bydd gwerth yr eiddo y gall prynwyr tro cyntaf hawlio ryddhad yn cynyddu o £500,000 i £625,000.
Bydd cyfraddau Treth Stamp yn aros fel y cyhoeddwyd yn y gyllideb fach ar 23 Medi 2022 hyd at 31 Mawrth 2025.
Os ydych chi’n prynu ail gartref, byddwch chi’n talu 3% o Dreth Stamp ychwanegol ar eiddo sy’n costio mwy na £40,000 ar y gyfradd berthnasol ar yr adeg honno.
Mae’r dreth hon yn gymwys i eiddo rhydd-ddaliad yn ogystal ag ar brydles – os ydych chi’n prynu’n uniongyrchol neu â morgais.
Os ydych chi’n prynu eiddo yn yr Alban, byddwch chi’n talu Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (LBTT), ac yng Nghymru Treth Trafodiadau Tir (LTT) yn hytrach na Threth Stamp.
Darganfyddwch Bopeth sydd angen i chi ei wybod am y Dreth Stamp
Ng Nghymru bydd angen i chi dalu Treth Trafodion Tir
Yn yr Alban bydd angen i chi dalu Land and Buildings Transaction Tax
Blaendal
Dyma'r swm rydych chi'n ei roi tuag at gost yr eiddo pan fyddwch chi'n prynu'ch cartref.
Yn gyffredinol, po fwyaf y blaendal y gallwch ei dalu, y mwyaf tebygol y rhoddir morgais i chi (yn amodol ar asesiad fforddiadwyedd morgais), a'r isaf y mae eich cyfradd llog yn debygol o fod.
Ar gyfartaledd, mae angen o leiaf 5% i 20% o'r pris prynu (er enghraifft: £10,000 i £40,000 wrth brynu cartref gwerth £200,000.
Ffi brisio
Bydd y benthyciwr morgais yn asesu gwerth yr eiddo er mwyn sefydlu faint o arian maent yn barod i’w fenthyca i chi.
Gall y gost o brisio fod yn £150-£1,500 yn seiliedig ar werth yr eiddo.
Efallai na fydd rhai benthycwyr yn codi tâl arnoch am hyn, yn ddibynnol ar y math o gynnyrch morgais a ddewiswch.
Nid yw prisiad y darparwr benthyciadau yn arolwg cynhwysfawr ac ni fydd o reidrwydd yn nodi’r holl waith atgyweirio neu gynnal a chadw fydd ei angen.
Darganfyddwch fwy am Cyngor morgais: a ddylech ddefnyddio cynghorydd morgais?
Ffi’r syrfëwr
Cyn i chi brynu tŷ dylech chi drefnu i syrfëwr ei wirio.
Mae hyn yn hanfodol er mwyn i chi fod yn ymwybodol o unrhyw broblemau gyda’r tŷ cyn i chi ei brynu.
Gall gwaith y syrfëwr amrywio o arolwg cartref sylfaenol sy’n costio tua £250 i arolwg strwythurol llawn sy’n costio £600 neu ragor.
Gall talu am arolwg da arbed arian i chi ar waith atgyweirio yn ddiweddarach.
Darganfyddwch fwy yn Canllaw i arolygon prynwyr tai a’u costau
Ffioedd cyfreithiol
Fel arfer bydd angen cyfreithiwr neu drawsgludwr trwyddedig arnoch i gwblhau’r holl waith cyfreithiol wrth brynu a gwerthu eich cartref.
Mae ffioedd cyfreithiol fel arfer rhwng £850-£1,500 yn cynnwys TAW ar 20%.
Byddant hefyd yn cwblhau’r chwiliadau lleol a fydd yn costio rhwng £250-£300 i chi, er mwyn canfod a oes unrhyw gynlluniau neu faterion lleol.
Mwy ar sut i Chwilio am y cyfreithiwr neu drawsgludwr priodol
Ffi trosglwyddiad electronig
Mae hyn yn costio £40-£50 fel arfer.
Mae hyn yn talu am gost y benthycwyr o drosglwyddo arian y morgais o’r benthycwyr at y cyfreithiwr.
Ffi’r gwerthwr eiddo
Gwerthwyr nid prynwyr sy’n talu hyn yn unig, am wasanaethau’r gwerthwr eiddo.
Caiff ei drafod pan roddir yr eiddo ar y farchnad.
Fel arfer mae rhwng 1% a 3% o’r pris gwerthu a TAW ar 20%, neu ffi sefydlog ar gyfer gwerthwyr eiddo ar-lein.
Darllenwch ein erthygl ar Sut i brynu a gwerthu cartref trwy werthwr tai
Costau morgais
Mae morgeisi yn ymwneud â mwy na'ch ad-daliadau misol ac mae angen i chi ystyried y ffioedd eraill yn eich cyfrifiadau.
Gall y rhain gynnwys:
- ffi llogi o £99-£250
- ffi drefnu hyd at £2,000, a
- ffi prisio morgais (tua £150 fel arfer neu ychydig yn uwch).
Mae’n well talu am y rhain ymlaen llaw yn hytrach na’u hychwanegu at eich morgais, neu byddwch yn talu llog arnynt dros gyfnod y morgais. Ond dylech wirio a oes modd ad-dalu ffioedd archebu a threfnu os na fydd y morgais yn mynd yn ei flaen. Os na, efallai y bydd hi’n bosibl i wneud cais i ychwanegu'r rhain at y morgais ac yna eu talu pan mae’r cais wedi’i dderbyn ac yn bendant yn mynd yn ei flaen.
Costau parhaus
Cofiwch, unwaith y byddwch wedi prynu’ch cartref, chi sy’n gyfrifol am ofalu amdano.
Cynnal a chadw ac atgyweiriadau
Cost cyfartalog atgyweiriadau i brynwyr cartref tro cyntaf yw £5,750.
Dylai’ch arolwg fod wedi amlygu unrhyw broblemau sydd angen sylw brys.
Yswiriant
Bydd y benthycwyr yn mynnu eich bod yn prynu yswiriant adeiladau i ddiogelu’ch cartref rhag difrod gan dân, llifogydd, ymsuddiant ac unrhyw beth arall.
Mae’n syniad da hefyd cael yswiriant cynnwys ar gyfer eich holl feddiannau, ac yswiriant bywyd i glirio’ch morgais petaech chi’n marw cyn ad-dalu’r swm cyfan.
Darganfyddwch fwy yn Diogelu eich hun a’ch cartref: siopa am yswiriant
Treth Cyngor
Mae’r swm a dalwch yn seiliedig ar lle yr ydych yn byw a band prisio’r eiddo (ar wahân i Ogledd Iwerddon lle gosodir y ardrethi’n unigol).
Darganfyddwch fwy yn Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
Costau rhedeg
Gofynnwch i’r gwerthwyr faint maent yn ei dalu ar gyfleustodau – nwy, trydan a dŵr – bob blwyddyn.
Peidiwch ag anghofio ystyried ffioedd am eich ffôn, pecynnau teledu a band-eang.
Costau lesddeiliaid
Os oes gennych eiddo lesddaliad eisoes, efallai bydd rhaid talu rhent tir (tua £50-£100 y flwyddyn) a ffioedd gwasanaeth i’r sawl sydd berchen ar y rhydd-ddaliad. Ond, o 30 Mehefin 2022, gafodd rent tir ei wahardd ar lesoedd hir yng Nghymru a Lloegr. Mae hwn yn cynnwys lesddeiliaid sy’n bodoli eisoes a wnaeth estyn eu lesoedd yn wirfoddol.
Mae ffioedd gwasanaeth a ffioedd gweinyddu’n amrywio o un eiddo i’r llall.
Mae hwn yn gost bwysig wrth gynnal eiddo felly mae’n hanfodol eich bod yn gwybod rhagor am y ffioedd hyn.
Rhydd-ddaliad neu lesddaliad
Mae gwahanol ffyrdd o fod yn berchen ar eiddo: rhydd-ddaliad, lesddaliad neu gyda chyfran o’r rhydd-daliad.
Darganfyddwch fwy yn Beth yw’r gwahaniaeth rhwng prynu fel rhydd-ddaliad neu fel lesddaliad
Costau symud cartref
Unwaith y byddwch yn gwybod cost eich taliadau morgais newydd, eich polisïau yswiriant newydd, ffioedd y cyfreithiwr a’r asiant tai, gwnewch amser i ddysgu mwy am gostau’r diwrnod symud.
Ni waeth a ydych yn prynu am y tro cyntaf neu wedi hen arfer â symud tŷ, mae’n bwysig gwybod a pharatoi ar gyfer y costau hyn, a all fod yn syndod o uchel.
Costau symud tŷ
Mae’r costau symud cyfartalog yn amrywio o £300-£600, er y gallech rentu fan a’i wneud eich hun.
Cofiwch chwilio am ddyfynbrisiau (a thystlythyrau) i ddod o hyd i gwmni dibynadwy.
Gall Cymdeithas Symudwyr Dodrefn Prydain (BAR) amcangyfrif y costau gan gwmnïau wedi’u cymeradwyo gan BAR
Yswiriant symud tŷ
Gwiriwch fod y cwmni symud a ddefnyddiwch wedi’i yswirio.
Os ydych chi’n symud eich hun, ystyriwch drefnu yswiriant. Holwch i weld a fydd polisi yswiriant eich cartref presennol yn diogelu’ch symud – bydd llawer o bolisïau’n gwneud hynny os ydych yn defnyddio cwmni symud proffesiynol.
Costau storio
Chwiliwch o gwmpas i gymharu prisiau a threfniadau diogelwch, ac i gael syniad o’r costau cyfartalog. Ewch ati i amcangyfrif am faint o amser fyddwch chi angen storio, oherwydd bydd prisiau’n ddibynnol ar hyn.
Costau glanhau
Os ydych yn symud o gartref rhent, fel rheol bydd rhaid ichi ei adael yn lân ac yn daclus. Os na wnewch chi hynny, gallech fod yn torri’ch cytundeb tenantiaeth ac efallai bydd eich landlord yn gallu codi arnoch am gost glanhawr proffesiynol.
Hwyrach yr hoffech chwilio o gwmpas a thalu i rywun proffesiynol i lanhau’ch lle cyn i chi adael.
Costau ailgyfeirio post
Mae gwasanaeth Ailgyfeirio’r Post Brenhinol yn fodd dibynadwy a chost effeithiol o barhau i gael post pan fyddwch yn symud tŷ.
Costau ychwanegol diwrnod symud
Oes angen i chi drefnu arian am ofal plant ychwanegol neu gytiau i anifail anwes? A fydd gennych yr amser neu’r cyfleusterau i goginio neu a ddylech drefnu cludfwyd am ddiwrnod neu ddau?
Mae’r costau hyn i gyd yn gallu cronni felly cofiwch eu cynnwys yn eich cyllideb.
Cadwch lygad ar eich cyllideb newydd
Mae’n syniad da adolygu’ch cyllideb pryd bynnag y bydd eich sefyllfa ariannol yn newid.
Wrth i chi ymgartrefu yn eich cartref newydd, gwnewch amser i gyfrifo faint sydd gennych yn dod i mewn ac yn mynd allan bob mis.