Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Y broses o brynu tŷ: camau i brynu tŷ neu fflat newydd yn Lloegr, Cymru neu Ogledd Iwerddon

Mae prynu tŷ yn ymroddiad ariannol enfawr a gall achosi pryder – yn enwedig os ydych yn brynwr tro cyntaf. Defnyddiwch ein llinell amser i gael gwybod mwy am y camau i brynu tŷ, gan gynnwys y broses, y cyfnodau allweddol a pa ffioedd i’w disgwyl. 

Mae’r llinell amser hon yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Os ydych yn yr Alban – darllenwch Prynu eiddo yn yr Alban – llinell amser arian.

Cam 1 – Darganfod eiddo y gallwch chi ei fforddio

Cyn i chi ddechrau chwilio am dŷ, mae’n syniad da gweithio allan faint allwch chi fforddio ei wario ar brynu tŷ neu fflat a’ch taliadau morgais misol. 

Ystyriwch y costau

Pan fyddwch yn penderfynu os yw eiddo yn fforddiadwy i chi, ystyriwch sut fyddech chi’n ymdopi pe byddai’ch incwm yn gostwng, neu cyfraddau llog yn codi, a byddwch yn ofalus nad ydych chi’n gorymestyn.

Cofiwch y bydd yn rhaid i’ch cynilion dalu am nid yn unig cost y blaendal, ond costau fel ffioedd morgais hefyd (sydd fel arfer rhwng £0-£2000) a Treth Stamp ar eiddo sy’n costio mwy na £500,000 i Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru, bydd angen i chi dalu Treth Trafodion Tir ar eiddo dros £250,000.

Dewis y morgais cywir

Nid yw byth yn rhy gynnar i chi ddechrau meddwl am wneud cias am forgais gan y gall hyn gymryd dipyn o amser.

Gallwch gael morgais gan Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol (IFA), brocer morgais neu fenthyciwr.

Unwaith rydych yn dod o hyd i forgais rydych yn ei hoffi, os y derbynir cewch forgais ‘mewn egwyddor’.

Mae hyn yn dweud wrthych faint mae’r benthyciwr yn debygol o gynnig a’r gyfradd llog fydd rhaid i chi dalu.

Efallai y bydd raid i chi dalu ffi trefnu i gadw’r cynnyrch morgais rydych ei eisiau tra bydd eich cais am forgais yn cael ei brosesu. Cost nodweddiadol: £99-£250.

Gwiriwch eich adroddiad credyd

Cyn i chi wneud cais am forgais, gwiriwch eich adroddiad credyd am unrhyw wallau ac i gael syniad o’ch sgôr.

Bydd benthycwyr yn edrych ar hyn wrth ystyried eich cais.

Cam 2 – Gwneud cynnig

Ar ôl i chi ddod o hyd i gartref rydych am ei brynu, y cam nesaf yw gwneud cynnig, fel arfer drwy werthwr tai.

Dim ond os ydych chi’n gwerthu eiddo fyddwch chi’n talu am werthwr eiddo.

Mae’r ffioedd yn amrywio o rhwng 0.5% a 3%, a TAW o’r pris gwerthu fel arfer.

Cam 3 – Trefnu cyfreithiwr a syrfewr

Bydd y syrfëwr yn arolygu’r eiddo i wirio am broblemau, a allai effeithio ar gost y cartref.

Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn delio â'r gwaith cyfreithiol ar gyfer yr eiddo. Byddant yn rhoi gwybod i chi faint allwch chi ddisgwyl ei dalu a gallant ofyn am flaendal ymlaen llaw – mae hyn fel arfer yn 10% o’i ffi. Cost nodweddiadol: £500-£1,500 + 20% TAW.

Mae’ch cyfreithiwr neu drawsgludwr yn cyflwyno chwiliadau i’r cyngor lleol i wirio a oes unrhyw faterion cynllunio neu leol a allai effeithio ar werth yr eiddo. Cost nodweddiadol: £250-£300.

Arolwg prisio

Y benthyciwr sy’n gwneud yr arolwg hwn i sicrhau bod yr eiddo yn werth y pris rydych yn ei dalu cyn iddynt gymeradwyo’r morgais.

Nid yw’n arolwg cynhwysfawr ac ni fydd o reidrwydd yn nodi’r holl waith atgyweirio neu gynnal a chadw fydd ei angen.

Cost nodweddiadol: £150-£1,500, yn dibynnu ar werth yr eiddo.

Efallai na fydd rhai benthycwyr yn codi tâl arnoch am hyn, yn ddibynnol ar y math o gynnyrch morgais a ddewiswch.

Yr arolwg eiddo

Eich eiddo chi fydd hwn, felly mae’n fanteisiol i chi dalu am arolwg da yn ystod y cam hwn. Gall eich helpu i aildrafod y pris.

Er enghraifft, os yw’r arolwg yn datgelu problem gyda’r cartref a fydd angen talu £5,000 i’w atgyweirio, gallech ofyn i’r gwerthwr ostwng y pris o hynny.

Mae nifer o fathau gwahanol o arolygon ar gael:
  • Adroddiad Cyflwr RICS – arolwg ‘golau traffig’ sylfaenol a’r rhataf. Mae’n fwyaf addas ar gyfer adeiladau newydd a chartrefi confensiynol mewn cyflwr da. Ni roddir cyngor na phrisiad yn yr arolwg hwn. Cost: £300.
  • Adroddiad Prynwr Cartref RICS – arolwg sy’n addas ar gyfer eiddo confensiynol mewn cyflwr rhesymol. Mae hwn yn arolwg manylach, gan edrych yn drylwyr ar y tu mewn i eiddo a’r tu allan iddo. Mae’n cynnwys prisiad hefyd. Cost nodweddiadol: £400+.
  • Arolwg adeilad neu strwythurol - dyma’r arolwg mwyaf cynhwysfawr ac mae’n addas ar gyfer pob eiddo preswyl. Mae’n neilltuol o dda ar gyfer cartrefi hŷn neu gartrefi sydd angen eu hatgyweirio. Cost nodweddiadol: £600+.

Cam 4 – Cwblhau’r cynnig a’r morgais

Unwaith y bydd yr arolwg wedi ei gwblhau, efallai y bydd angen i chi fynd yn ôl a thrafod eto ar bris eich cartref newydd.

Mae dau reswm dros hyn:

  • efallai y bydd yr arolwg yn canfod problemau gyda’r eiddo fydd yn ddrud i’w trwsio. Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ofyn am ostyngiad yn y pris
  • efallai y bydd y benthyciwr yn prisio’r eiddo ar bris llai gan eich gadael gyda diffyg. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cwrdd â’r pris a ofynnir neu beth oeddech yn bwriadu ei gynnig yn wreiddiol.

Yn aml dyma’r cam mwyaf trafferthus yn y broses. Gall oedi a phroblemau godi o amrywiaeth o sefyllfaoedd, megis:

  • eich cais am forgais yn cael ei wrthod
  • y gwerthwr yn tynnu’r eiddo oddi ar y farchnad
  • y gwerthwr yn derbyn cynnig uwch gan brynwr arall (a elwir yn ‘gasympio’).

Mae cyfathrebu yn bwysig pan aiff pethau o chwith

Pan fydd problemau’n codi, mae’n werth gwneud ymdrech i gadw mewn cysylltiad â’r gwerthwr trwy’ch cyfreithiwr a gwerthwr tai.

Yn aml bydd yn bosibl achub y sefyllfa trwy gadw’r llinellau cyfathrebu yn agored.

Cwblhau eich morgais

Os yw popeth wedi mynd fel y dylai, cysylltwch â’ch benthyciwr neu gynghorydd morgeisi i fwrw ymlaen.

Yn aml ceir ffi, ffi trefnu yw’r enw arni fel arfer, i sefydlu’r morgais.

Gellir ei hychwanegu at eich morgais, ond os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn cofiwch y byddwch yn talu llog arno am gyfnod eich morgais. Cost nodweddiadol: £0-£2,000.

Unwaith y gwneir cynnig rhwym ar forgais i chi, rhaid i’ch darparwr morgeisi roi o leiaf saith diwrnod i chi ystyried ai hwn yw’r morgais cywir i chi neu beidio.

Gallwch dreulio’r amser hwn i gymharu’r cynnig hwn â morgeisi eraill.

Os ydych yn siŵr mai hwn yw’r morgais cywir i chi, gallwch adael i’ch benthyciwr wybod mewn llai na saith diwrnod eich bod yn dymuno derbyn y cynnig.

Nid yw’n rhy hwyr i chi newid eich meddwl

Mae’n well tynnu allan na wynebu’r risg o brynu eiddo allai gostio mwy i chi nag y gallwch ei fforddio yn yr hirdymor.

Os penderfynwch chi beidio prynu, gallwch dynnu allan a chanslo eich cais am forgais cyn i chi gyfnewid contractau.

Fodd bynnag, efallai y byddwch yn colli rhywfaint o’ch arian yn ddibynnol ar ba mor bell ydych chi yn y broses.

Cam 5 – Cyfnewid contractau

Os nad oes unrhyw broblemau nac oedi, yna dylech dderbyn y contract i’w lofnodi a chwblhau’r pryniant.

Cyn llofnodi’r contract, ewch trwyddo gyda’ch cyfreithiwr i wirio fod y manylion i gyd yn gywir.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn hapus gyda beth mae’r gwerthwr wedi cytuno i’w adael yn yr eiddo ac yr atebwyd eich ymholiadau i gyd.

Ar y cam hwn, byddwch chi a’r gwerthwr yn ymrwymedig i’r gwerthiant.

Efallai y bydd y gwerthwr hefyd yn gofyn i chi dalu blaendal cadw – fel arfer £500-£1000 i ddangos eich bwriad.

Unwaith y byddwch wedi cyfnewid contractau, byddwch angen yswiriant adeiladau i gwmpasu am strwythur yr eiddo.

Cam 6 – Cwblhau a’r camau terfynol

  • Bydd gweddill yr arian sy’n ddyledus i brynu’r eiddo nawr yn cael ei drosglwyddo o gyfrif eich cyfreithiwr i gyfrif cyfreithiwr y gwerthwr. Bydd yna ffi trosglwyddo telegraffig. Cost nodweddiadol: £25-£50
  • Efallai hefyd y bydd rhaid i chi dalu ffi cyfrif morgais. Mae’r benthyciwr yn codi’r ffi hon am sefydlu, cynnal a chau eich cyfrif morgais. Yn aml caiff ei hychwanegu at y morgais, sy’n golygu y byddwch yn talu llog arno, felly ystyriwch ei dalu ymlaen llaw yn hytrach. Cost nodweddiadol: £100-£300
  • Bydd angen i chi nawr dalu eich bil cyfreithiwr (llai unrhyw flaendal a’r chwiliadau lleol os ydych wedi’u talu eisoes). Cost nodweddiadol: £500-£1,500 a 20% TAW.
  • Bydd eich cyfreithiwr yn cofrestru’r gwerthiant gyda’r Gofrestrfa Dir ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr. Yng Ngogledd Iwerddon bydd angen ei gofrestru gyda’r ‘Land and Property Services’.
  • Bydd angen i werthwyr dalu eu gwerthwr eiddo wrth gwblhau.Cytunir ar y ffi o’r cychwyn ac mae fel arfer yn ganran o’r pris prynu, fel arfer 1% i 3% o’r pris gwerthu ac 20% TAW. Nid yw prynwyr yn talu unrhyw ffioedd i werthwyr eiddo.
  • Mae gan brynwyr cartrefi preswyl 14 diwrnod o'r dyddiad cwblhau i ffeilio'r Ffurflen Treth Tir Treth Stamp a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.Bydd eich cyfreithiwr fel arfer yn trefnu hyn i chi.  Yng Nghymru, bydd angen i chi dalu Treth Trafodiadau Tir.

Os ydych yn defnyddio cwmni symud, bydd symud ar ddiwrnod o’r wythnos yn rhatach. Cost nodweddiadol: £300-£600+. 

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.