Yswiriant adeiladau yw un o'r ddau fath o bolisïau yswiriant cartref sydd ar gael. Y llall yw yswiriant cynnwys sy'n diogelu eich eiddo. Gallwch brynu'r ddau fath o yswiriant ar wahân, neu gallwch eu prynu fel polisi yswiriant cartref ar y cyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A oes angen yswiriant arnoch?
- Beth mae yswiriant adeiladau yn ei gwmpasu?
- Beth nad yw yswiriant adeiladau yn ei gwmpasu?
- Pa fathau o yswiriant adeiladau sydd ar gael?
- Beth i chwilio amdano wrth gymharu polisiau
- Ble gallaf brynu yswiriant adeiladau?
- Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant adeiladau
- Sut i ganslo yswiriant adeiladau
A oes angen yswiriant arnoch?
Mae yswiriant adeiladau wedi'i gynllunio i ddarparu diogelwch ariannol os oes difrod i strwythur eich cartref, fel y waliau, y to a'r lloriau. Mae fel arfer yn cynnwys difrod i osodiadau a ffitiadau hefyd.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, bydd angen i chi gael yswiriant adeiladau rhag ofn bod eich cartref yn cael ei ddifrodi a bod angen ei atgyweirio.
Nid yw'n orfodol, ond fel rheol mae'n amod o'ch morgais.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, â morgais neu hebddo, mae'n bwysig bod yr yswiriant hwn yn brif flaenoriaeth.
A oes angen yswiriant adeiladau arnaf os wyf yn denant?
Nid oes angen i chi gael yswiriant adeiladau os ydych yn rhentu eiddo. Mae hyn oherwydd mai cyfrifoldeb eich landlord fydd sicrhau bod yr yswiriant cywir mewn lle.
Os ydych yn denant, efallai yr hoffech lunio polisi yswiriant cynnwys i yswirio'ch eiddo.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw yswiriant cynnwys?
Beth mae yswiriant adeiladau yn ei gwmpasu?
Bydd yr union ddigwyddiadau a materion byddwch wedi eich yswirio rhagddynt yn amrywio rhwng gwahanol bolisïau ac yswirwyr. Ond bydd y mwyafrif o bolisïau yn caniatáu i chi hawlio os yw'ch cartref wedi'i ddifrodi gan:
- fandaliaeth
- ymsuddiant
- coed yn disgyn
- tân, mwg, ffrwydradau
- gwrthdrawiadau ceir a lorïau
- difrod dŵr o bibellau'n gollwng
- olew yn gollwng o'ch system wresogi
- digwyddiadau naturiol, fel stormydd a llifogydd.
Bydd rhai polisïau hefyd yn ymdrin â strwythurau eraill o amgylch y cartref, fel garejys, waliau allanol a thramwyfeydd.
Beth nad yw yswiriant adeiladau yn ei gwmpasu?
Ni fyddwch yn cael eich yswirio rhag traul cyffredinol, a bydd gan bob polisi ei eithriadau ei hun. Mae'r rhain yn aml yn cynnwys difrod a achosir gan:
- cwteri yn gollwng
- rhai plâu (fel pryfed ac adar)
- rhew (oni bai ei fod yn achosi difrod o bibell wedi byrstio).
Mae difrod storm i gatiau a ffensys hefyd yn annhebygol o gael ei gynnwys. Mae eithriadau yn amrywio rhwng polisïau, felly mae'n bwysig darllen y polisi yn ofalus.
Yswiriant Llifogydd
Mae hyn fel arfer yn cael ei gynnwys fel rhan o bolisi yswiriant adeiladau safonol. Fodd bynnag, â llifogydd yn fwy cyffredin yn y DU, gall fod yn anodd dod o hyd i yswiriant fforddiadwy ar gyfer eiddo mewn lleoliadau a ystyrir yn risg llifogydd posibl.
Darganfyddwch fyw yn ein canllaw am Yswiriant llifogydd - cael yr un cywir
Pa fathau o yswiriant adeiladau sydd ar gael?
Mae dau fath – yswiriant swm a chyfradd ystafell wely.
Yswiriant swm
Dyma lle mae'r swm y mae eich polisi yn ei gwmpasu yn seiliedig ar amcangyfrif o gost ailadeiladu'ch cartref o'r dechrau. Nid yw yr un peth â gwerth marchnad eich cartref, a allai fod yn uwch neu'n is.
Bydd cost ailadeiladu eich cartref yn cynyddu dros y blynyddoedd, felly polisïau sy'n gysylltiedig â mynegai sydd orau. Mae hyn oherwydd eu bod yn diweddaru'r swm sydd wedi'i yswirio i adlewyrchu cost newidiol ailadeiladu.
Er y gall fod yn anodd cyfrifo'r math hwn o yswiriant adeiladau, mae'n golygu mai dim ond am yr yswiriant rydych ei angen y byddwch yn talu.
Cyfradd ystafell wely
Dyma lle mae'r swm y mae eich polisi yn ei gwmpasu yn seiliedig ar nifer yr ystafelloedd gwely sydd gennych.
Mae hyn fel rheol yn rhoi swm uchel iawn i chi wedi'i yswirio i'ch diogelu rhag tan-yswiriant. Mae hefyd yn golygu nad oes angen i chi gyfrifo cost ailadeiladu eich cartref.
Fodd bynnag, mae risg y byddwch yn y pen draw yn talu am fwy o yswiriant nag sydd ei angen arnoch.
Beth i chwilio amdano wrth gymharu polisiau
- Yswiriant sy'n gysylltiedig â mynegai - a fydd maint yr yswiriant yn cynyddu i gwrdd â chost gynyddol deunyddiau adeiladu?
- Swm yswiriant diderfyn - â llawer o yswirwyr, ac yn enwedig wrth brynu ar-lein, mae'r swm yswiriant wedi'i osod yn uchel iawn a bydd eich premiymau'n sefydlog. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu lleihau'r swm yswiriant i gael premiwm rhatach.
- Llety amgen - a fydd yr yswiriant yn talu i chi fyw yn rhywle arall os na allwch fyw yn eich tŷ ar ôl iddo gael ei ddifrodi?
- Gormodedd - faint fydd angen i chi ei dalu i chi'ch hun os gwnewch gais?
- Dŵr yn dianc - a ydych wedi'ch yswirio rhag difrod gan bibellau neu danciau dŵr yn byrstio?
- Difrod damweiniol - a yw'ch polisi'n eich yswirio rhag digwyddiadau anfwriadol sy'n niweidio strwythur eich cartref, fel ffenestri wedi'u malu, difrod i unedau cegin a thyllau a wneir mewn waliau? Fel rheol, prynir hwn fel ychwanegiad.
- Gwasanaeth Argyfwng Cartref - mae rhai polisïau'n cynnwys yswiriant ar gyfer atgyweirio gwres a phlymio ynghyd ag argyfyngau cartref eraill fel rhan o'u polisi safonol. I eraill, mae'n ychwanegiad dewisol. Y peth gorau yw edrych o gwmpas, gan fod polisïau'n amrywio'n fawr.
- Gostyngiad dim hawliadau - a wnewch dalu llai ar eich premiymau os ydych wedi mynd am ychydig o amser heb wneud cais?
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Beth yw yswiriant cartref?
Yswiriant adeiladau – sut dylai polisi da edrych?
Ble gallaf brynu yswiriant adeiladau?
- Gwefannau cymharu - mae'r rhain yn ffordd dda o ddod o hyd i yswiriant rhad sy'n gweddu i'ch anghenion. Ond byddwch yn ymwybodol nad y polisi rhataf yw'r gorau i chi o reidrwydd. Darganfyddwch fwy am sut i brynu yswiriant trwy ddefnyddio gwefannau cymharu
- Yn uniongyrchol oddi wrth yswirwyr - nid yw pob yswiriwr yn dod o dan wefannau cymharu. Er enghraifft, mae Aviva, Zurich a Direct Line ymhlith yr enwau mawr nad ydynt yn ymddangos - dim ond yn uniongyrchol y gellir prynu eu cynhyrchion.
- Broceriaid yswiriant - gallant eich helpu i gael yr yswiriant cartref mwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau, yn enwedig os oes gennych anghenion cymhleth. Er enghraifft, os ydych yn landlord sy'n yswirio sawl eiddo. Gwelwch ein canllaw pryd i ddefnyddio brocer yswiriant
Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant adeiladau
1. Bod yn onest
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ateb yn wir ac yn gywir pan fydd eich cwmni yswiriant yn gofyn a oes unrhyw beth anarferol am eich cartref. Os byddwch yn methu rhywbeth pwysig, gellid gwrthod cais yn y dyfodol.
2. Darllen y print mân
Mae yswirwyr yn ychwanegu mwy a mwy o eithriadau i'w polisïau. Felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn darllen y print mân yn ofalus, gan gynnwys y brif nodweddion a gwybodaeth am fuddion. Os ydych yn gweld rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, gofynnwch i'r yswiriwr neu frocer yswiriant.
3. Cadw eich polisi'n gyfredol
Mae hyn yn sicrhau bod gennych ddigon o yswiriant, yn enwedig os ydych wedi gwneud gwelliannau i'ch cartref. Os ychwanegwch ystafell haul neu estyniad, er enghraifft, bydd eich eiddo yn costio mwy i'w ailadeiladu.
4. Peidio ag arbed ar yswiriant
Nid y cynnig rhataf yw'r gorau o reidrwydd. Sicrhewch eich bod yn cael y polisi cywir, hyd yn oed os yw'n costio ychydig bunnoedd yn fwy. Fel arall, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais pan fydd gwir angen. Mae hyn yn golygu bod mor gywir ag y gallwch wrth brisio'ch cartref. Gallai tanbrisio'ch cartref fod yn gamgymeriad costus iawn os bydd rhaid i chi wneud cais.
5. Cymharu polisïau yswiriant adeiladau
Mae'n farchnad gystadleuol â llawer o wahanol bolisïau ar gael. Bydd defnyddio gwefannau cymharu i edrych o gwmpas yn rhoi gwell cyfle i chi sicrhau bargen dda. Mae'n werth gwneud hyn pan fydd eich polisi'n cael ei adnewyddu bob blwyddyn. Y rheswm am hyn yw y gallai caniatáu i'ch yswiriwr adnewyddu eich polisi yn awtomatig olygu eich bod yn talu mwy nag sydd angen i chi yn y pen draw.
Gweler ein canllaw ar ddod o hyd i’r bargeinion gorau gyda gwefannau cymharu prisiau
Sut i ganslo yswiriant adeiladau
Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
- os oes gennych forgais, fel arfer mae eich benthyciwr yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau mewn lle
- ni fyddwch yn ennill bonws dim gwneud ceisiadau am flwyddyn gyfredol os byddwch yn canslo hanner ffordd drwy’r flwyddyn
- fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi canslo, oni bai ei fod yn amser adnewyddu.
Os ydych wedi talu ymlaen llaw ac nad ydych wedi gwneud cais, byddwch yn derbyn ad-daliad am y misoedd sy'n weddill – minws unrhyw ffioedd canslo.
Gofynnwch i'ch yswiriwr am help os ydych yn cael trafferth talu
Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.
Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.