Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Yswiriant adeiladau – sut ddylai polisi da edrych?

Ydych chi’n cael trafferth adnabod pa nodweddion i’w hamlygu mewn polisi yswiriant cynnwys cartref? Gwiriwch y rhestr hon o nodweddion ‘rhaid eu cael’, ‘dylid eu cael’, a ‘gellir eu cael’ i roi cymorth i chi brynu’r polisi cywir.

Nodweddion mae’n ‘rhaid eu cael’

Nodweddion ‘rhaid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Swm a yswirir – rhaid i hyn fod yn ddigon o arian i glirio’r safle ac i ailadeiladu’ch cartref petai’n cael ei ddinistrio gan dân neu lifogydd, er enghraifft.

Terfynnau wedi'u gosod o £250,000 neu uwch, neu adael i chi ddewis eich terfyn
Os nad yw’r swm a yswirir yn ddigon i ailadeiladu eich cartref yna mae’n bosib na fydd eich cwmni yswiriant yn talu cyfanswm llawn unrhyw gais a wnewch, hyd yn oed am ddifrod rhannol.

Swm a yswirir mynegai cysylltiedig – mae’r gost o ailadeiladu tai yn cynyddu bob blwyddyn gyda chwyddiant. Mae diogelu neu fynegrifo eich swm a yswirir yn golygu na fyddwch mewn sefyllfa o fod heb yswiriant digonol.

Swm digon uchel i gael ei yswirio i dalu cost ailadeiladu'r eiddo.

Llety amgen – yn yswirio’r gost o aros yn rhywle arall (megis gwesty neu dŷ rhent) tra bydd eich tŷ chi yn cael ei drwsio os na fyddwch yn gallu byw yno yn dilyn difrod sylweddol megis tân neu lifogydd

£40,000 neu 20% o’r swm a yswirir

Atebolrwydd cyhoeddus – yn eich yswirio yn erbyn costau cael eich erlyn os bydd rhywun yn marw neu’n cael anaf, neu os yw eu heiddo wedi ei ddifrodi, oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd yn eich cartref chi.

£2,000,000

Nodweddion y ‘dylid eu cael’

Nodweddion y ‘dylid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Difrod gwydr ac offer ymolchfa – yswiriant ar gyfer adnewyddu ffenestri, gwydr mewn drysau, toiledau a basnau ymolchi, os ydynt yn torri’n ddamweiniol.

Yswiriant ar gyfer gwydr ac offer ymolchfa heb gost ychwanegol
Nid yw’r gost o adnewyddu swît o unedau ymolchi yn cael ei yswirio fel rheol ychwaith – petai eich toiled wedi torri byddai eich yswiriwr yn ei newid ond nid y bath a’r basn os nad oeddynt wedi torri hefyd.

Gwasanaethau tanddaearol – yswiriant ar gyfer pibelli tanddaearol a cheblau yn cario dŵr, nwy a thrydan i’ch cartref a charthffosiaeth ymaith.

Yswiriant sylfaenol iawn am ddifrod damweiniol heb gost ychwanegol
Fodd bynnag cyfyngir hyn fel arfer i eitemau neilltuol fel teledu ac ni fydd yn cynnwys y rhan fwyaf o gynnwys eraill yn eich cartref.


Mae difrod damweiniol o ganlyniad i draul gyffredinol, cynnwys eraill yn eich cartref ac weithiau difrod o ganlyniad i waith personol yn y cartref neu waith adeiladu yn cael eu hyswirio fel arfer fel ychwanegiad dewisol.

Pibell carthffosiaeth wedi ei blocio – yswiriant ar gyfer y gost o glirio’r rhwystr mewn carthffos ar eich eiddo.

£1,000 o yswiriant am ganfod y rhwystr a’i glirio
Efallai na fydd rhwystr o ganlyniad i bibell yn malu, neu wreiddiau coed yn ymwthio i mewn i’r garthffos wedi eu hyswirio.

Pibelli wedi byrstio – yswiriant am y gost o drwsio’r pibelli wedi byrstio (nid yw hyn yr un fath ag yswiriant am ddifrod dŵr yn gollwng).

Difrod i bibelli wedi byrstio fel yswiriant safonol
Nid yw nifer o bolisïau yn rhoi yswiriant ar gyfer pibelli sydd yn gollwng dŵr am eu bod yn hen ac wedi pydru.

Canfod a mynd at y gollyngiad – cymorth gyda’r gost o ganfod gollyngiad a’i drwsio os yw’n digwydd yn eich tŷ chi, neu o dan ddaear.

£5,000 o yswiriant yn safonol ar gyfer gollyngiadau y tu mewn a thu allan i’r cartref
Yn aml mae’r gost o ddarganfod a mynd at y gollyngiad wedi ei yswirio, ond nid felly’r gost o drwsio’r bibell ei hun

Eiddo gwag – am ba hyd y gallwch adael eich cartref yn wag (megis mynd i ffwrdd ar wyliau hir neu i weithio) cyn i’ch yswiriwr gyfyngu neu dynnu’r yswiriant ar gyfer eich adeiladau.

Cyfnod o 30 diwrnod neu ragor heb orfod hysbysu’r yswirwr
Gall eich yswiriwr fynnu eich bod yn diffodd y dŵr ac yn draenio’r system gwres canolog os ydych yn mynd i fod i ffwrdd am gyfnod hir

Llinell gymorth argyfwng – rhif argyfwng y gallwch ei ffonio os ceir difrod sydd angen ei drwsio cyn gynted ag y bo modd.

Llinell gymorth 24 awr gydag atgyweiriwyr cydnabyddedig
Yn aml bydd angen i chi dalu’r crefftwyr fydd yn dod i wneud y gwaith trwsio, yna cewch wneud cais i gael y costau yn ôl gan yr yswiriwr.

Nodweddion y ‘gellid eu cael’

Nodweddion y ‘gellid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Yswiriant difrod damweiniol – yn eich yswirio yn erbyn cost damweiniau a all ddifrodi eich cartref.

Yswiriant safonol neu ar gael fel dewis
Efallai na fydd difrod a achosir gan eich anifeiliaid anwes neu gan waith adeiladu yn cael ei yswirio.

Colled neu ladrad allweddi – petaech chi’n colli’ch allweddi neu eu bod yn cael eu dwyn yna bydd hyn yn yswirio’r gost o newid y cloeon.

Yswiriant safonol
Dim ond os collwch eich holl allweddi, neu os bydd y lleidr yn gwybod ymhle rydych chi’n byw fydd rhai yswirwyr yn talu am hyn.

Yswiriant costau cyfreithiol – yswiriant ar gyfer eich costau cyfreithiol personol os oes gennych broblemau megis dadleuon cyflogaeth, hawliadau niwed corfforol.

£50,000 o yswiriant safonol
Ni fydd y cwmni yswiriant yn talu unrhyw gostau cyfreithiol nad ydynt wedi eu cytuno ymlaen llaw a byddant ond yn symud ymlaen ar y sail o ba mor debygol y bydd eich cais o lwyddo

Gwasanaeth llinell gymorth cyfreithiol – llinell gymorth y gallwch ei ffonio am gyngor os oes gennych broblem gyfreithiol bersonol.

Llinell gymorth am ddim yn safonol
Mae rhai yswirwyr ond yn darparu llinell gymorth gyfreithiol os ydych yn prynu eu hyswiriant costau cyfreithiol hefyd.

Yswiriant atgyweirio – bydd unrhyw waith atgyweirio i’ch adeiladau yn cael eu sicrhau.

Yswiriant am 12 mis
Ni fydd gwaith atgyweirio a wneir gan rywun y dewisoch chi i wneud y gwaith fel arfer wedi ei yswirio.

Pethau i gadw llygad arnynt

Pethau i gadw llygad arnynt Bydd polisi da’n rhoi

Tâl dros ben adeiladau – cyfanswm o arian sydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at unrhyw hawliad.

Tâl dros ben oddeutu £0 i £100
Yn aml bydd yswirwyr yn gadael i chi ddewis faint i’w dalu tuag at hawliadau, i’w gyfnewid am bremiwm is. Os dewiswch dâl dros ben uwch bydd yn rhaid i chi dalu mwy am bob cais. Ystyriwch hefyd unrhyw dâl ychwanegol ar eich polisi fel ymsuddiad a all gostio tua £1,000.

Tâl dros ben difrod damweiniol – os oes gennych yswiriant difrod damweiniol mae hwn yn dâl dros ben ychwanegol y mae’n rhaid i chi ei dalu tuag at y mathau hyn o geisiadau.

Dim tâl dros ben

Gorlif dŵr yn llifo – os yw eich tŷ yn cael ei ddifrodi gan ddŵr sy’n gollwng neu fath neu fasn yn gorlifo, fe allech chi orfod talu tâl dros ben uwch tuag at y cais yn hytrach na’r tâl dros ben arferol.

Dim tâl dros ben
Ni fydd rhai yswirwyr yn yswirio yn erbyn difrod a achoswyd gan faddonau yn gorlifo neu ddifrod dŵr oherwydd seliau gwael o amgylch baddonau neu gawodydd.

Rhagor o wybodaeth

Os ydych am amcangyfrif faint o yswiriant sydd ei angen arnoch, neu a oes angen yswiriant adeiladau arnoch neu beidio, dilynwch un o’r dolenni isod neu gofynnwch i frocer.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.