Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Yswiriant cynnwys - sut ddylai polisi da edrych?

A ydych yn cael trafferth adnabod pa nodweddion i’w hamlygu mewn polisi yswiriant cynnwys cartref? Gwiriwch y rhestrau nodweddion ‘rhaid eu cael’, ‘dylid eu cael’ a ‘gellir eu cael’ i roi cymorth i chi brynu’r polisi cywir.

Nodweddion mae ‘rhaid eu cael’

Nodweddion y bydd polisi da yn eu rhoi
Nodweddion ‘rhaid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Cyfanswm pethau gwerthfawr

Bydd eitemau o werth sylweddol (megis gemwaith, oriorau aur neu arian, gwaith celf, camerâu, setiau teledu, cyfrifiaduron ayyb) yn cael eu hyswirio rhag colled neu ddifrod, os oes angen gwneud cais arnoch

£12,000 neu fwy
Os oes gennych unrhyw beth sydd werth mwy na hyn, bydd angen i chi ei yswirio ar wahân neu bydd perygl na fydd wedi ei yswirio.

Pethau gwerthfawr– terfyn eitem sengl

Terfyn ar werth unrhyw eitem werthfawr (megis darn o emwaith neu beintiad er enghraifft).

£1,500 neu fwy
Os oes gennych unrhyw beth sydd werth mwy na hyn, bydd angen i chi ei yswirio ar wahân neu ni fydd wedi ei yswirio.

Arian yn y cartref

Bydd hyn yn rhoi yswiriant ar gyfer unrhyw arian parod yr ydych yn ei gadw yn eich cartref, rhag lladrad neu ddifrod.


£500 neu fwy

Nid yw cardiau credyd wedi eu cynnwys – mae yswiriant ar gyfer y rhain ar wahân.

Cynnwys rhewgell

Os yw eich oergell neu rewgell yn torri a’r bwyd yn cael ei ddifetha, mae hyn yn eich yswirio ar gyfer y gost o’i ail-lenwi.

£300 neu fwy
Nid yw colled neu ddifrod a achosir gan weithred fwriadol gan eich darparwr trydan (neu eu gweithwyr) wedi ei yswirio.

Cynnwys yn yr awyr agored

Yn diogelu rhag colled neu ddifrod i gynnwys a adewir y tu allan ond o fewn ffin eich cartref. Argymhellwn i chi gymryd yswiriant ar wahân ar gyfer eitemau fel dodrefn gardd neu gelfi.

£500 neu fwy
Nid yw planhigion a llwyni wedi eu hyswirio

Lladrad o adeiladu allanol

Yn cynnwys pethau a gedwir mewn garej neu adeilad allanol.

£2,000 neu fwy
Yn aml ni fydd colled neu ddifrod os yw eich cartref wedi bod yn wag am gyfnod o amser wedi ei gynnwys.

Atebolrwydd personol

Yn rhoi yswiriant am unrhyw symiau y gallech orfod eu talu’n gyfreithiol pe gwnaethpwyd cais yn eich erbyn am niwed damweiniol i rywun neu golled neu ddifrod i’w heiddo.

£2 miliwn

Atebolrwydd tenant (os ydych yn denant)

Os ydych yn denant mae hyn yn eich yswirio rhag unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am golled neu ddifrod i gelfi sefydlog y landlord.

£10,000 neu fwy

‘Nodweddion y ‘dylid eu cael’

Nodweddion y bydd polisi da yn eu rhoi
Nodweddion y ‘dylid eu cael’ Bydd polisi da yn rhoi

Difrod damweiniol

Yn eich yswirio yn erbyn cost damweiniau a all ddifrodi cynnwys eich cartref.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol
Nid yw difrod gan anifeiliaid anwes yn cael ei gynnwys fel arfer

Difrod dŵr

Os yw dŵr wedi gollwng yn ddamweiniol yna bydd hyn yn yswirio cost y dŵr ar fesurydd a gollwyd gennych o ganlyniad.

£1,000 neu fwy
Nid yw yswiriant yn cael ei gynnwys bob amser a gallech orfod talu premiwm ychwanegol er mwyn ei gynnwys.

Swm wedi'i yswirio â mynegai (yswiriant wedi'i yswirio â swm)

Mae cost disodli eich cynnwys ar sail ‘newydd i hen’ yn codi bob blwyddyn â chwyddiant. Mae diogelu eich swm wedi'i yswirio yn golygu na fyddwch yn cael eich gadael o dan yswiriant.

Cysylltu mynegai neu swm sefydlog uchel wedi'i yswirio o £ 50,000 neu fwy

Ond os nad yw swm yr yswiriant a ddewiswch yn ddigon i amnewid eich cynnwys ar sail ‘newydd i hen’, efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn talu swm llawn unrhyw gais a wnewch.

Cynnydd achlysuron arbennig

Yn ystod achlysuron arbennig fel y Nadolig neu briodas, rydych yn debygol o gael mwy o bethau na’r arfer yn eich cartref. Pan mae yswiriant achlysur arbennig mewn lle, bydd yr yswiriwr yn codi swm yswirir y cynnwys yn awtomatig.

Diogelwch ar gyfer y Nadolig neu ddigwyddiadau crefyddol eraill o leiaf, â throthwyon arferol o £3,000 neu 10% o swm y cynnwys a yswirir

Meddiannau personol

Yn rhoi yswiriant ar gyfer eitemau personol tra maent y tu allan i’r cartref.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol
Dylech wirio a yw’r polisi yn cyfyngu ar y nifer o ddyddiau mewn blwyddyn pan mae’r yswiriant ar gael.

Costau cyfreithiol

Os bydd problemau cyfreithiol personol yn codi o bethau fel eiddo neu ddadleuon cyflogaeth, ceisiadau niwed corfforol ayyb, mae hyn yn yswirio eich costau cyfreithiol.

Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol
Ni fydd y cwmni yswiriant yn talu unrhyw gostau cyfreithiol nad ydynt wedi eu cytuno ymlaen llaw.

Yswiriant atgyweirio

Mae’r cwmni yswiriant yn rhoi yswiriant ar gyfer unrhyw waith atgyweirio i’ch cynnwys.

Yswiriant ar bob gwaith
Ni fydd atgyweiriadau a wneir gan rywun a ddewiswch i wneud y gwaith wedi ei gynnwys.

Llinell gymorth argyfwng

Yn darparu llinell gymorth 24 awr y gallwch ffonio mewn argyfwng.

Llinell gymorth argyfwng 24 awr

‘Nodweddion y ‘gellid eu cael’

Nodweddion y bydd polisi da yn eu rhoi
Nodweddion y ‘gellid eu cael' Bydd polisi da’n rhoi

Planhigion yn yr ardd

Yn yswirio rhag colled neu ddifrod a achosir gan y peryglon a restrir (megis tân, gweithredoedd maleisus neu ladrad) i blanhigion, llwyni a lawntiau.

Sengl – £500 neu fwy
Ni fydd yn cynnwys colled neu ddifrod i goed, llwyni, planhigion neu lawntiau sy’n marw’n naturiol neu oherwydd nad ydych wedi edrych ar eu holau yn iawn.

Colled neu ladrad allweddi

Petaech yn colli’ch allweddi neu eu bod yn cael eu dwyn yna bydd hyn yn yswirio’r gost o newid y cloeon.

Yswiriant safonol
Dim ond os collwch eich holl allweddi, neu os bydd y lleidr yn gwybod ymhle rydych yn byw fydd rhai yswirwyr yn talu am hyn.

Offer busnes

Yn rhoi yswiriant ar gyfer eich offer swyddfa a ddefnyddir mewn perthynas â’ch swydd, er enghraifft cyfrifiaduron, argraffwyr a dodrefn. Os ydych yn gweithio o adref, mae’n ddoeth dweud hynny wrth eich yswiriwr, er mwyn iddynt sicrhau bod y lefel briodol o ddiogelwch gennych.

£3,000 neu fwy
Ni fyddai stoc busnes neu ddeunyddiau’n cael eu hyswirio fel arfer.

Pethau i gadw llygad arnynt

Beth fydd polisi da yn cadw llygad arno
Pethau i gadw llygad arnynt Bydd polisi da yn rhoi

Tâl dros ben cynnwys

Cyfanswm o arian sydd rhaid i chi dalu tuag at unrhyw gais.

Tâl dros ben safonol yn llai na £100
Yn aml bydd cwmnïau yswiriant yn gadael i chi ddewis tâl dros ben uwch am bremiwm llai. Os dewiswch dâl dros ben uwch bydd rhaid i chi dalu mwy am bob cais.

Tâl dros ben difrod damweiniol

Os oes gennych yswiriant difrod damweiniol mae hyn yn dâl dros ben ychwanegol y mae rhaid i chi ei dalu tuag at y mathau hyn o geisiadau.

Dim tâl dros ben

Rhagor o wybodaeth

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.