Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Sut i ddod o hyd i’r cynnig gorau ar eich yswiriant gan ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau

Efallai y byddwch chi'n gwneud arbedion mawr ar yswiriant trwy ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau, felly mae'n werth rhoi ychydig o amser i gael y gorau ohonyn nhw. Cofiwch eu bod yn dangos prisiau i chi yn unig, nid yn dewis y cynnyrch gorau - does dim rhaid i chi ddewis y canlyniad gorau.

Awgrymiadau da ar gyfer defnyddio gwefannau cymharu

Gwiriwch fwy nag un safle bob amser

Mae gwahanol gwmnïau yswiriant yn ymddangos ar wahanol safleoedd cymharu.

Ni all unrhyw un wefan gael dyfynbrisiau gennych gan bob cwmni yswiriant, ac nid yw rhai yswirwyr mawr, fel Direct Line ac Aviva, yn ymddangos ar wefannau cymharu o gwbl.

Gwybyddwch sut maent yn gwneud eu harian

Nid yw gwefannau cymhariaeth yn gwerthu cynhyrchion eu hunain, maent yn dangos manylion a phrisiau i chi gan yswirwyr ac yn gwneud eu harian mewn sawl ffordd:

  • maent yn cael eu talu o hysbysebu sy'n ymddangos ar eu gwefan
  • o ‘click-throughs’ lle mae’r wefan yn ennill comisiwn pan fydd cwsmer yn clicio drwodd i wefan yr yswiriwr ac yn prynu cynnyrch
  • mae rhai safleoedd yn ennill arian o restrau noddedig, lle mae cwmnïau'n talu i gael eu cynhyrchion yn ymddangos ar frig y canlyniadau chwilio.

Nid yw'r rhataf bob amser y gorau

Bydd safleoedd cymharu yn ceisio eich bachu trwy ddangos llawer o brisiau isel i chi.

Cofiwch efallai na fydd y polisïau yswiriant rhataf yn werth am arian.

Efallai bod ganddynt ormodedd uchel neu nad yw’r yswiriant yn gywir ar gyfer beth rydych ei eisiau.

Os dewiswch gynnyrch o wefan cymharu prisiau, byddwch fel arfer yn clicio drwodd i wefan darparwr yswiriant i gwblhau'r pryniant.

Ar y pwynt hwn bydd rhai darparwyr yswiriant yn ceisio gwerthu cynhyrchion ychwanegol i chi (a elwir hefyd yn ychwanegion).

Cyn i chi brynu cynhyrchion ychwanegol, mae'n bwysig ystyried a oes eu hangen arnoch a'r pris (gan y bydd dewisiadau amgen).

Nid yw’r cyntaf bob amser y gorau chwaith

Nid yw gwefannau cymharu yn rhoi ‘cyngor rheoledig’.

Mae hynny'n golygu eu bod yn darparu gwybodaeth am gynnyrch i chi ond nid ydynt yn dweud a oes gan bolisi y math a'r lefel o yswiriant sy'n addas i'ch anghenion.

Felly, peidiwch â chymryd yn ganiataol mai'r canlyniad cyntaf yw'r gorau. Yn enwedig oherwydd gallai’r canlyniad cyntaf ar y rhestr gael ei ‘noddi’.

Nid ydynt fel arfer yn addas ar gyfer yswiriant cymhleth

Mae llawer o’r polisïau yswiriant a welir ar wefannau cymharu yn ‘gynhyrchion safonol’ ac nid ydynt o reidrwydd yn ystyried eich amgylchiadau a'ch anghenion personol.

Efallai bod gennych gwestiynau am anghenion yswiriant anghyffredin neu gymhleth na all gwefannau cymharu eu hateb.

Ar gyfer yswiriant mwy cymhleth fel diogelu incwm, salwch critigol neu yswiriant meddygol preifat, neu os oes gennych amgylchiadau anarferol, mae'n debygol y bydd siarad ag ymgynghorydd ariannol neu frocer sy'n arbenigo yn y math o yswiriant rydych ei angen ac a all roi cyngor rheoledig personol i chi yn opsiwn gwell na gwefan gymhariaeth.

Peidiwch ag adnewyddu’n awtomatig â’ch darparwr yswiriant cyfredol

Os oes gennych bolisi yswiriant eisoes, boed hynny ar gyfer eich car neu gartref neu rywbeth arall, gallai fod yn demtasiwn i adnewyddu’n awtomatig pan fydd eich yswiriwr yn anfon dyfynbris atoch ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Ond er bod rhaid i yswirwyr ddweud wrthych faint gostiodd eich premiwm yswiriant y flwyddyn flaenorol i gymharu â'u dyfynbris newydd, mae'n bwysig cymryd ychydig funudau i wirio ar wefannau cymharu i weld a allwch gael cynnig gwell ag yswiriwr arall.

Os dewch o hyd i bris rhatach ar safle cymharu ond nad ydych am droi oddi wrth eich yswiriant cyfredol, efallai hoffech ddefnyddio unrhyw gynigion rhatach y dewch o hyd iddynt i fargeinio â'ch yswiriwr cyfredol.

Sut i ddefnyddio gwefannau cymharu prisiau ar gyfer yswiriant

Cam 1 – gweithiwch allan pa bolisi ac yswiriant sydd ei angen arnoch

Unwaith y byddwch yn gwybod y math o bolisi yswiriant a lefel yr yswiriant rydych yn chwilio amdano, byddwch yn gallu defnyddio gwefannau cymharu i'ch helpu chi i gael cynnig da.

Os ydych yn defnyddio gwefannau cymharu i chwilio o gwmpas am gynnig da yn lle adnewyddu â'ch yswiriwr presennol, gallwch ddefnyddio telerau a lefel yr yswiriant ar gyfer eich polisi presennol fel man cychwyn da.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y gwahanol fathau o yswiriant rydych yn chwilio amdano. Er enghraifft, mae tri phrif fath i yswiriant car: ‘trydydd parti’, ‘trydydd parti, tân a lladrad’ a ‘cynhwysfawr’.

Cam 2 – rhowch sylw i ba atebion sy'n cael eu llenwi ymlaen llaw

Mae yswiriant yn gymhleth ac yn dibynnu ar lawer o fanylion sy'n benodol i chi, ond mae safleoedd cymharu yn aml yn gwneud rhagdybiaethau fel y gallant wneud y broses yn symlach i chi.

Weithiau maent yn defnyddio atebion wedi'u llenwi ymlaen llaw i roi set safonol o ganlyniadau i chi.

Efallai na fydd y polisïau y maent yn eu hawgrymu yn addas os oes gennych unrhyw ofynion ansafonol.

Er enghraifft, os oes to gwellt ar eich tŷ neu os ydych dros neu o dan oedran penodol.

Felly mae'n bwysig gwirio bod yr holl gwestiynau wedi'u hateb yn gywir.

Mae rhaid i chi sicrhau bod y manylion yn iawn neu efallai na fydd yswiriant arnoch os bydd angen i chi wneud cais os ewch ymlaen i brynu'r yswiriant.

Cam 3 – defnyddiwch fwy nag un safle cymharu

Mae gwefannau cymhariaeth yn cynnwys gwahanol ddarparwyr a chynhyrchion – cofiwch nad yw pob darparwr yn ymddangos ar wefannau cymharu.

Cam 4 – gwiriwch bob amser cyn i chi brynu

Pan fyddwch wedi'ch trosglwyddo o'r safle cymharu i safle'r yswiriwr, mae'n bwysig gwirio bod yr holl wybodaeth yn gywir.

Os na wnewch hyn a bod gwybodaeth anghywir wedi'i rhoi i'r yswiriwr efallai y byddwch yn talu am yswiriant annilys yn y pen draw.

Yn olaf, darllenwch y ddogfennaeth bob amser cyn i chi brynu polisi.

Os nad yw'r dogfennau ar gael ar y safle cymharu, cliciwch drwodd i wefan y cwmni yswiriant ei hun i ddod o hyd i'r dogfennau a'u darllen.

Os na allwch ddod o hyd iddynt, peidiwch â phrynu'r polisi. Mae angen i chi sicrhau y bydd yn eich diogelu os bydd angen i chi hawlio.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.