Mae yswiriant teithio yn darparu diogelwch ariannol os ydych yn wynebu rhai problemau pan fyddwch teithio neu ar wyliau. Mae'n cynnwys ystod o bosibiliadau, o fagiau coll i gost gofal meddygol os byddwch yn mynd yn sâl neu'n cael damwain. Darganfyddwch sut mae'n gweithio, pam ei fod mor bwysig a beth sydd angen i chi feddwl amdano wrth ei brynu.
Beth mae yswiriant teithio yn ei ddiogelu?
Gallai teithio heb yswiriant eich gadael yn talu pris uchel pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.
Yn dibynnu ar y polisi, mae yswiriant teithio yn talu allan mewn ystod eang o amgylchiadau.
Mae'r mwyafrif o bolisïau'n cynnwys yswiriant ar gyfer:
- bagiau coll neu wedi'u dwyn (ag yswiriant bagiau yn ychwanegol mewn rhai polisïau)
- costau meddygol brys, megis cost triniaeth a'ch cael adref
- costau canslo, gohirio neu dorri'ch taith yn fyr (ag yswiriant rhag canslo weithiau'n ychwanegiad ychwanegol)
- tarfu ar deithio neu lety, megis oedi a chanslo
- costau cyfreithiol, rhag ofn eich bod wedi cael eich siwio am ddifrodi eiddo neu achosi anaf.
Bydd yr union yswiriant sydd ar gael yn amrywio'n sylweddol rhwng gwahanol yswirwyr a pholisïau. Felly mae'n bwysig bod yn gyfarwydd â'r geiriad polisi cyn i chi brynu.
I gael mwy o wybodaeth am y nodweddion sy’n ‘rhaid eu cael’, ‘dylai eu cael’ a ‘gallai eu cael’ gwelwch ein canllaw Yswiriant teithio – sut mae polisi da yn edrych?
Beth nad yw’n cael ei gwmpasu?
Mae llawer yn dibynnu ar y polisi a'r yswiriwr rydych yn mynd amdano. Ond mae ychydig o bethau nad yw polisïau yswiriant teithio yn eu cynnwys yn gyffredinol, neu a allai ond fod ar gael am gost ychwanegol:
- Os ydych dros 65 oed a/neu os oes gennych gyflwr meddygol, efallai y byddwch angen yswiriant arbenigol. Os oes gennych gyflwr meddygol, mae rhaid i chi ddweud wrth eich yswiriwr. Os na fyddwch yn dweud wrthynt, mae perygl i chi annilysu eich polisi yswiriant - hynny yw, gallai eich cais gael ei wrthod. Darllenwch ein canllawiau ar Yswiriant teithio ar gyfer pobl dros 65 oed neu os oes gennych gyflwr meddygol
- Yn aml nid yw chwaraeon antur, chwaraeon gaeaf a gweithgareddau a allai fod yn beryglus (fel dringo a rafftio dŵr gwyn) yn cael eu cynnwys fel rhan o bolisi yswiriant teithio safonol. Felly efallai y byddwch angen talu am yswiriant ychwanegol.
- Gyda'r rhan fwyaf o bolisïau, nid ydych wedi'ch cwmpasu ar gyfer teithio i wledydd neu ranbarthau y mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn argymell eu hosgoi. Gwelwch y rhestr ddiweddaraf ar wefan GOV.UK
- Mae eitemau drud neu foethus - fel oriawr, gemwaith, gliniaduron a chamerâu - fel arfer wedi'u heithrio. Mae hyn oherwydd eu bod yn debygol o fynd y tu hwnt i derfyn pris ‘eitem sengl’ ar gyfer eich polisi.
- Efallai na fydd eich polisi'n cynnig yswiriant os yw digwyddiadau fel aflonyddwch sifil, daeargrynfeydd, pandemigau neu weithredoedd terfysgaeth yn effeithio ar eich taith.
Mae'r pandemig coronafeirws wedi cael effaith enfawr ar deithio, â llawer o deithiau wedi'u canslo neu wedi cael eu tarfu'n ddifrifol. Mae ein canllaw ar goronafeirws ac yswiriant teithio yn gosod allan eich opsiynau.
Sut fathau o yswiriant teithio sydd ar gael?
Er y gall polisïau fod yn wahanol iawn o ran yswiriant, byddant yn gyffredinol yn dod o fewn un o'r categorïau canlynol:
- Trip sengl - yn eich gwarchod un daith am gyfnod penodol o amser.
- Taith flynyddol/aml-daith - yn eich gwarchod am gynifer o deithiau ag y byddwch yn eu cymryd o fewn blwyddyn gyfan. Yn nodweddiadol yn fwy cost effeithiol na'r opsiwn taith sengl os ydych yn cymryd mwy na dau wyliau o fewn y cyfnod hwnnw.
- Crwydro/blwyddyn allan - yn darparu yswiriant ar gyfer cyrchfannau lluosog dros gyfnod estynedig. Efallai y bydd angen i chi ychwanegu yswiriant ar gyfer y mathau o weithgareddau rydych yn bwriadu eu gwneud, fel chwaraeon antur, gwaith neu wirfoddoli.
- Chwaraeon gaeaf - yswiriant arbenigol os ydych yn mynd i sgïo, eirafyrddio neu chwaraeon gaeaf eraill. Mae yswirwyr yn ystyried bod y rhain yn weithgareddau risg uchel ac felly maent wedi'u heithrio o'r mwyafrif o bolisïau safonol.
- Ledled y byd - fel rheol mae dau fath o bolisi ledled y byd - y rhai sy'n cwmpasu'r UDA a'r rhai nad ydynt.
- Ewropeaidd - ddim bob amser yn glir, gan fod rhai polisïau'n ymwneud â meysydd nad ydynt yn dechnegol yn Ewrop.
- Teulu - yn cynnwys dau oedolyn ynghyd â hyd at bedwar o blant yn teithio â'i gilydd. Yn addas os yw'ch plant yn 18 neu'n iau ac yn byw'n llawn amser gyda chi.
Ble gallwch brynu yswiriant teithio?
Gwefannau cymharu: lle da i edrych o gwmpas a gweld y cynigion gorau. Ond ceisiwch ddefnyddio o leiaf dwy wefan wahanol, gan nad ydynt bob amser yn defnyddio'r un meini prawf neu'n cwmpasu'r un darparwyr. A chofiwch, nid y rhataf yw'r gorau o reidrwydd. Nid oes diben cael y polisi rhataf os nad yw'n talu allan pan fyddwch ei angen. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw am Sut i brynu yswiriant gan ddefnyddio safleoedd cymharu.
Broceriaid yswiriant: gallant eich helpu i gael yr yswiriant teithio mwyaf addas ar gyfer eich amgylchiadau, yn enwedig pe gallech gael eich ystyried yn risg uwch (er enghraifft, mae gennych gyflwr meddygol sy'n bodoli eisoes). Gwelwch ein canllaw ar pryd i ddefnyddio brocer yswiriant.
Darganfyddwch frocer ar wefan y British Insurance Brokers Association
Prynu'n uniongyrchol: mae polisïau yswiriant teithio ar gael gan ystod o ddarparwyr, gan gynnwys yswirwyr, banciau, archfarchnadoedd a chwmnïau teithio. Ond mae yswiriant a brynir fel ychwanegiad i'ch taith (fel gan yr asiant teithio neu'r cwmni hedfan) fel arfer yn ddrytach, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio'r farchnad cyn i chi brynu.
Cofiwch wirio a oes gennych yswiriant teithio yn barod. Er enghraifft, gallai fod yn rhan o gyfrif banc wedi'i becynnu sydd gennych.
Pum peth i feddwl amdanynt wrth brynu yswiriant teithio
1. Bod yn onest am eich hanes meddygol
Mae'n bwysig rhoi'r holl wybodaeth y mae eich yswiriwr yn gofyn amdano. Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd yr yswiriwr yn gwirio'ch hanes meddygol.
Os na wnaethoch ateb yn onest neu'n gywir yn eich cais, neu os na wnaethoch ddatgelu rhywbeth, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod.
2. Darllen y print mân
Cymerwch eich amser yn darllen a chwblhau'r cais. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yn union beth sydd wedi'i a hen ei gynnwys.
Byddwch yn ymwybodol y gall diffiniadau a gwaharddiadau (beth sydd ddim yn cael ei gwmpasu) amrywio rhwng gwahanol yswirwyr. Os ydych yn gweld rhywbeth nad ydych yn ei ddeall, gofynnwch i'r yswiriwr neu frocer yswiriant.
3. Meddwl am yswiriant, nid pris yn unig
Nid y cynnig rhataf yw'r gorau o reidrwydd. Sicrhewch eich bod yn cael y polisi cywir, hyd yn oed os yw'n costio ychydig bunnoedd yn fwy. Fel arall, efallai na fyddwch yn gallu hawlio pan fydd gwir angen.
Darllenwch y brif wybodaeth am y buddion a nodweddion a gynigir gan eich darparwr cyn i chi brynu. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn gwybod yn union am beth rydych yn talu.
Bydd gennych 14 diwrnod ar ôl i chi dderbyn eich manylion polisi i ganslo os gwelwch nad yw'r polisi'n addas i chi.
4. Gwylio am y gormodedd
Pan fyddwch yn cymharu polisïau, mae'n bwysig gwirio'r gormodedd, oherwydd gall hyn gymryd bargen o fod rhad i fod yn ddrud iawn.
Y gormodedd yw'r swm rydych yn cytuno i'w dalu pe bai angen i chi wneud cais ar eich yswiriant.
Ar gyfer ceisiadau yswiriant teithio, cymhwysir gormodedd ar sail ‘fesul adran’. Er enghraifft, os ydych wedi'ch mygio ar wyliau efallai y bydd rhaid i chi hawlio o dan yr adran treuliau meddygol, yr adran eiddo personol ac adran arian eich polisi. Yn yr achos hwn, gellid tynnu tri gormodedd o'ch taliad.
5. Gwirio eich terfynau
Sicrhewch fod eich polisi'n cynnig lefel weddus o yswiriant. Er enghraifft, dylai eich yswiriant meddygol fod o leiaf £1 miliwn yn Ewrop a £2 filiwn ar gyfer ardaloedd y tu allan i Ewrop. Ac mae angen i'r swm canslo dalu'ch costau os bydd angen i chi ganslo'ch taith neu ddychwelyd adref yn gynnar.
Bydd y mwyafrif o bolisïau yn darparu o leiaf £1 miliwn mewn yswiriant atebolrwydd personol rhag ofn y cewch eich siwio am niweidio eiddo neu anafu rhywun.