Mae’n debyg bod coronafirws wedi newid y ffordd rydych yn meddwl am wyliau. Boed yn y DU neu dramor, un o’ch pryderon fydd pa mor ddiogel yw’ch arian wrth archebu a beth allwch ei wneud os bydd eich gwyliau’n cael ei ganslo. Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â’ch opsiynau.
Allai gael pres yn ôl gan fy narparwr teithio os ydynt yn canslo fy nhaith?
Fel rheol, bydd gennych hawl i gael ad-daliad pan fyddwch wedi talu arian ymlaen llaw i gwmni yn y DU am wasanaethau teithio na ellir eu darparu oherwydd y pandemig coronafeirws.
Yn anffodus, mae gan lawer o gwmnïau hedfan neu gwmnïau gwyliau ôl-groniad o geisiadau am ad-daliad, ac mae rhai ad-daliadau yn cymryd mwy o amser nag arfer. Fodd bynnag, os ydych yn credu bod gennych hawl i gael ad-daliad yna daliwch ati gyda hwy.
Efallai y cynigir talebau neu nodyn credyd i chi a’r opsiwn i archebu hediad neu wyliau arall. Ond gallai cymryd talebau neu nodyn credyd fod yn risg, gan eich bod yn annhebygol o allu eu defnyddio os bydd eich darparwr teithio yn mynd i’r wal.
Gall cymryd talebau hefyd effeithio ar ffyrdd eraill o hawlio os aiff pethau o chwith, megis trwy eich darparwr cerdyn credyd neu eich yswiriant teithio.
Os ydych chi’n delio â chwmni yn y DU gallwch fynnu ad-daliad arian parod llawn, does dim rhaid i chi gymryd taleb neu ail- archebu’ch gwyliau. Ar gyfer cwmnïau nad ydynt yn y DU, efallai na fydd gennych hawl i gael ad-daliad arian parod.
Os yw’ch darparwr gwyliau yn gwrthod ad-daliad (os nad ydynt yn y DU) ac yn dweud wrthych am wneud cais ar eich yswiriant teithio neu gyda’ch cerdyn credyd, gwnewch yn siwr eich bod yn cael hyn yn ysgrifenedig. Bydd angen hwn arnoch fel tystiolaeth i ddangos i’ch yswiriwr neu’ch darparwr cerdyn credyd.
Os na allwch gael ad-daliad gan eich darparwr teithio, mae eich opsiynau eraill isod
Beth fydd yn digwydd os mai dim ond rhan o fy ngwyliau sydd wedi’i ganslo?
Os caiff rhan o’ch gwyliau ei ganslo ac ni chafodd ei archebu fel pecyn gwyliau, mae’n bosibl mai dim ond darparwr y rhan o’ch gwyliau sydd wedi’i ganslo fydd yn cynnig ad-daliad i chi.
Er enghraifft, os yw’ch cwmni hedfan wedi canslo’ch hediad, ond bod eich trefniant gyda’r gwesty ar gael o hyd, dim ond ad-daliad o’r hediad sydd wedi’i ganslo y bydd gennych hawl iddo.
Fodd bynnag, mae’n werth cysylltu â’r darparwr gwyliau ar gyfer y rhannau sydd heb eu canslo i weld a fyddant yn cynnig ad-daliad i chi cyn gwneud cais ar eich polisi yswiriant teithio.
Os yw’r darparwr teithio yn dal i gynnig eu gwasanaeth (er enghraifft, mae’r gwesty yn dal i gynnig llety i chi er gwaethaf y ffaith bod eich hediad wedi’i ganslo), yna ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad ac mae’n annhebygol y bydd gennych hawl i wneud cais ar eich cerdyn credyd [gweler isod].
Dod o hyd i ragor o help ynghylch gwneud cais am wyliau wedi'i ganslo os gwnaethoch ei archebu fel pecyn gwyliauYn agor mewn ffenestr newydd
Allai gael ad-daliad gan fy narparwr cerdyn credyd am wyliau sydd wedi’i ganslo?
Os gwnaethoch archebu gwyliau neu hediadau a gostiodd rhwng £100 a £30,000 a thalu naill ai blaendal neu’r pris llawn ar eich cerdyn credyd, efallai y gallwch wneud cais o dan ‘Adran 75’ o’r Ddeddf Credyd Defnyddiwr 1974. Mae hyn yn berthnasol os bydd y cwmni hedfan neu’r cwmni gwyliau yn mynd i’r wal neu os yw’r gwyliau’n cael ei ganslo.
Beth sy’n cael ei gwmpasu:
- Cost eich hediadau os ydynt wedi’u canslo neu os yw’r cwmni hedfan yn mynd i’r wal.
- Cost eich gwyliau os yw wedi’i ganslo neu os bydd y cwmni gwyliau’n mynd i’r wal.
- Treuliau ychwanegol neu golled ganlyniadol - er enghraifft, pe bai’n rhaid i chi brynu hediadau drytach i gyrraedd adref ar ôl i gwmni hedfan fynd i’r wal.
Beth sydd ddim yn cael ei gwmpasu:
- Mewn rhai achosion, os ydych yn prynu ‘hediad yn unig’ gan drydydd parti, fel asiant teithio, efallai na fyddwch yn gallu gwneud cais oherwydd bod y trydydd parti wedi’i gontractio i ddarparu’r tocynnau yn unig ac nid yr hediad.
- Os na wnaethoch dalu’r darparwr teithio yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd - ond yn hytrach eu talu trwy drydydd parti fel gwefan cymharu teithio neu brosesydd talu trydydd parti fel PayPal, efallai na fydd gennych amddiffyniad Adran 75.
- Efallai na fydd pryniannau a wneir gan ddeiliaid cardiau ychwanegol yn cael eu cwmpasu, oni bai bod y pryniant wedi’i wneud ar ran prif ddeiliad y cerdyn
- Unrhyw gostau nad oedd yn rhaid i chi eu hysgwyddo - er enghraifft, pe byddech wedi penderfynu estyn eich arhosiad ar ôl i’r cwmni hedfan fynd i’r wal (yn hirach nag yr oedd angen i chi ei wneud) ni fyddech yn debygol o allu gwneud cais am gostau ychwanegol.
- Os oes unrhyw elfen o'ch gwyliau rydych chi'n gwneud cais amdani nad yw'r pandemig coronafeirws yn effeithio'n uniongyrchol arno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi dalu am eich hediadau a'ch gwesty ar wahân, a bod yr hediad wedi'i ganslo (gan eich atal rhag cyrraedd y gwesty), yna efallai y bydd hawliad adran 75 yn bosibl am yr hediad. Ond os yw'r archeb gwesty ar gael o hyd, hyd yn oed pe byddech chi'n cael anhawster yn teithio iddo, yna mae'n annhebygol y cewch eich cwmpasu gan adran 75 am gost y gwesty.
- Os gwnaethoch chi archebu'r teithio trwy ddefnyddio taleb gan eich darparwr teithio ar gyfer archeb a ganslwyd yn gynharach, mae'n annhebygol y byddwch chi’n gallu hawlio o dan Adran 75.
Beth os wyf wedi archebu ar gerdyn debyd neu nid oes gennyf gais dilys o dan Adran 75?
Os gwnaethoch dalu gyda’ch cerdyn debyd (neu gerdyn rhagdaledig) neu os oedd yn archeb cerdyn credyd nad oedd wedi’i gwmpasu gan reolau Adran 75 yna efallai y byddwch yn dal i allu cael ad-daliad o dan y cynllun ‘chargeback’.
I gael help i wneud eich cais, gweler ein canllaw Sut mae chargeback a diogelwch adran 75 yn gweithio ar gyfer eich cerdyn credyd a debyd
Gwneud cais ar eich yswiriant teithio
Mae’r holl bolisïau yswiriant teithio yn wahanol. Ond bydd y mwyafrif yn eich gwarchod os ydych wedi colli arian ar ôl i’ch gwyliau gael ei ganslo, gan gynnwys oherwydd coronafeirws.
Os ydych yn gwneud cais oherwydd bod eich gwyliau wedi’i ganslo yna efallai y bydd eich yswiriwr teithio yn disgwyl i chi fod wedi ceisio cael ad-daliad yn gyntaf gan eich cwmni hedfan, darparwr llety neu gwmni gwyliau.
Gweler yr adran uchod am fwy o wybodaeth ar gael ad-daliad gan eich gwmni gwyliau.
Os gwnaethoch dalu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gallai rhai yswirwyr teithio ofyn i chi wneud cais gyda’ch darparwr cerdyn cyn gwneud cais yswiriant.
Gallai gwneud cais gyda’ch darparwr cerdyn credyd olygu eich bod chi’n cael mwy o’ch arian yn ôl. Yn wahanol i gais yswiriant, ni fydd cais gyda’ch darparwr cerdyn credyd o dan Adran 75 yn gofyn am daliad ‘gormodol’ (lle mae’n rhaid i chi dalu rhan gyntaf unrhyw gais) na chyfyngu’ch cais (cyhyd â bod y swm a daloch yn is na £30,000).
Byddwch hefyd yn gallu cael arian yn ôl ar gyfer unrhyw un rydych hefyd wedi archebu drostynt ar eich cerdyn nad oes ganddynt neu sydd ddim yn cael eu cwmpasu ganyswiriant teithio.
Gweler uchod am fwy o wybodaeth ar wneud cais am ad-daliad gyda’ch darparwr cerdyn.
Beth sy’n digwydd os yw fy narparwr gwyliau yn mynd i’r wal?
Os ydych yn archebu pecyn gwyliau gyda cwmni o’r DU (ble rydych yn prynu sawl rhan o wyliau ee hediadau a gwesty, gan un cwmni neu wefan, mewn un trosglwyddiad) yna ni fyddwch yn colli arian cyn belled bod y cwmni wedi cael ei amddiffyn gan ATOL.
Mae ATOL yn gynllun sy’n cael ei redeg gan reolydd hedfannu’r DU: yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Darganfyddwch fwy am wneud cais o wefan y CAAYn agor mewn ffenestr newydd
Yn gyffredinol, ni fydd hediadau a archebir yn uniongyrchol gyda chwmni hedfan a rhai archebion hedfan yn unig gyda’ch trefnydd teithiau yn cael eu hamddiffyn oni bai eich bod wedi derbyn tystysgrif amddiffyniad ATOL gyda’ch archeb
Beth os nad oedd fy ngwyliau wedi’i amddiffyn gan ATOL?
Os gwnaethoch archebu gwyliau ‘DIY’, neu os nad yw wedi’i leoli yn y DU, mae’n debyg na fydd gennych amddiffyniad ATOL.
Yn anffodus, efallai na fydd eich polisi yswiriant teithio yn eich gwarchod os bydd eich darparwr gwyliau yn mynd i’r wal, ond mae dal werth gwirio telerau eich yswiriant.
Fodd bynnag, os gwnaethoch dalu am eich gwyliau gyda cherdyn credyd yna efallai y gallwch gael eich arian yn ôl gan ddarparwr eich cerdyn credyd.