Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Yswiriant teithio – sut mae polisi da yn edrych?

Mae polisïau yswiriant teithio’n amrywio llawer, yn cwmpasu colledion gwahanol ac yn cynnig nodweddion gwahanol. Defnyddiwch y tablau syml hyn i weld pa nodweddion y mae ‘rhaid eu cael’ neu ‘dylid eu cael’ neu ‘gellid eu cael’ i sicrhau eich bod yn prynu’r polisi cywir i chi.

Nodweddion mae ‘rhaid eu cael’

Nodweddion mae ‘rhaid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Treuliau meddygol – yn darparu sicrwydd tuag at gostau triniaeth feddygol a llawfeddygol frys tra’ch bod i ffwrdd.

£1 miliwn neu fwy ar gyfer teithio i Ewrop

£2miliwn neu fwy ar gyfer yr Unol Daleithiau

Fel arfer ni fyddai sicrwydd ar gyfer unrhyw driniaeth a all aros nes eich bod yn dychwelyd adref (yn ôl barn feddygol).

Trefnu i chi ddychwelyd adref (gwasanaeth ail-wladoli) – darperir sicrwydd ar gyfer costau ail-wladoli brys (am resymau meddygol) yn ôl i’r DU. 

Yn cynnwys sicrwydd fel mater o drefn

Ni fyddai sicrwydd ar gyfer unrhyw driniaeth neu lawfeddygaeth nad yw’n uniongyrchol angenrheidiol ac a all aros nes eich bod yn dychwelyd i’r DU.

Canslo/cwtogi – os oes rhaid i chi ganslo neu gwtogi’ch taith, mae hyn yn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer unrhyw gostau teithio a llety rydych wedi’u talu ac na allwch eu defnyddio neu eu hawlio yn ôl.

£2,000 neu fwy

Bydd polisïau’n rhoi sicrwydd ar gyfer cansladau dan amgylchiadau penodol yn unig – gwiriwch yr amodau a thelerau.

Ymadawiad a fethir – yn cynnwys costau llety a threuliau teithio ychwanegol os ydych yn methu’ch hediad, llong neu drên ymadael oherwydd sefyllfaoedd y tu allan i’ch rheolaeth – fel eich car yn torri i lawr, bod mewn damwain neu gludiant cyhoeddus yn cael ei oedi.

£500 neu fwy
Ni fydd sicrwydd gennych os nad ydych wedi rhoi digon o amser i gyrraedd y maes awyr, gorsaf neu borthladd. Bydd angen i chi allu darparu adroddiad gan y cwmni torri i lawr i ddangos eich bod wedi torri i lawr mewn gwirionedd.

Oedi – os achosir oedi i’ch cynlluniau teithio, er enghraifft oherwydd gweithredu diwydiannol, tywydd gwael neu fethiant mecanyddol bydd yr yswiriwr yn talu swm penodol i chi.

£200 neu fwy

Bydd terfynau gwahanol ar gyfer 12 awr cyntaf yr oediad ac ar gyfer pob 12 awr ar ôl hynny. Ni fydd sicrwydd ar gyfer oediadau roeddech yn gwybod amdanynt cyn i chi gychwyn eich taith (fel streiciau).

Rhoi’r gorau i deithio – os oes rhaid i chi roi’r gorau i’ch taith a chanslo’ch cynlluniau, bydd y sicrwydd hwn yn ad-dalu’ch treuliau teithio a llety.

£2,000 neu fwy

Bydd polisïau’n rhoi sicrwydd ar gyfer rhoi’r gorau i deithio dan amgylchiadau penodol – gwiriwch yr amodau a thelerau.

Sicrwydd bagiau – yn rhoi sicrwydd ar gyfer eich bagiau os ydynt yn cael eu colli, dwyn neu ddinistrio.

£1,500 neu fwy

Fel arfer mae terfynau gwahanol ar gyfer eitemau sengl, eitemau gwerthfawr ac oedi o ran y bagiau. Bydd angen i chi roi gwybod am bob colled o fewn cyfnodau penodol o amser a chael adroddiad ysgrifenedig gan eich cwmni hedfan os ydynt yn colli’ch bagiau.

Sicrwydd atebolrwydd personol – mae hwn yn rhoi sicrwydd i chi os ydych yn atebol i dalu iawndal oherwydd anaf corfforol damweiniol i rywun neu oherwydd colled neu ddifrod i eiddo rhywun arall.

£2 miliwn neu fwy

Ni fydd sicrwydd ar gyfer hawliadau a wneir gan aelodau’ch teulu neu bobl a gyflogir gennych.

Nodweddion y ‘dylid eu cael’

Nodweddion y ‘dylid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Argyfwng deintyddol – yn darparu sicrwydd tuag at gostau triniaeth ddeintyddol frys tra’ch bod i ffwrdd. Fel arfer mae’n darparu sicrwydd ar gyfer lleddfu poen yn unig.

£250 neu fwy
Nid oes sicrwydd ar gyfer triniaeth nad yw’n frys a thriniaeth gosmetig.

Arian – yn rhoi arian yn lle arian neu rywbeth cyfwerth (fel sieciau teithiwr neu docynnau rhagdaledig) os ydynt yn cael eu colli neu eu dwyn.

£500 neu fwy
Ni fydd sicrwydd ar gyfer unrhyw golled neu ladrad o arian personol nad ydych yn ei hysbysu i’r heddlu lleol o fewn 24 awr o’i ddarganfod ac nad ydych yn cael adroddiad ysgrifenedig arno gan yr heddlu.

Arian Parod – yn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer colli neu ddifrod i arian a ddelir fel arian parod.

£300 neu fwy.

Terfysgaeth – yn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer eich costau meddygol a cholledion yswiriedig eraill fel bagiau wedi’u niweidio os digwydd gweithred o derfysgaeth.

Darperir sicrwydd llawn
Mae rhai yswirwyr yn rhoi sicrwydd ar gyfer pethau penodol yn unig os digwydd terfysgaeth, er enghraifft costau meddygol neu ddamwain bersonol ond nid difrod i fagiau.

Colli pasbort – yn darparu sicrwydd tuag at dreuliau teithio a llety ychwanegol o ganlyniad i fod angen i gael pasbort newydd.

£250 neu fwy

Oni bai fod gennych dderbynebau am y treuliau ychwanegol a dynnwyd ni fydd sicrwydd gennych.

Nodweddion y ‘gellid eu cael’

Nodweddion y ‘gellid eu cael’ Bydd polisi da’n rhoi

Methiant cwmni hedfan rheolaidd – yn rhoi sicrwydd i chi os digwydd bod eich cwmni hedfan yn mynd allan o fusnes.

£1,500 neu fwy

Ni fydd eich cwmni yswiriant yn rhoi sicrwydd i chi os gallwch gael ad-daliad gan ffynhonnell arall.

Chwaraeon y gaeaf – yn rhoi sicrwydd i chi ar gyfer chwaraeon y gaeaf fel sgïo ac eirafyrddio. 

Sicrwydd ar gyfer eich cyfarpar chwaraeon y gaeaf eich hunan neu wedi’i hurio, colli pecyn sgïo, cau’r pîst ac oedi oherwydd afalans

Ni fydd sicrwydd ar gyfer mathau penodol o chwaraeon y gaeaf fel ceir llusg neu fobsledio. Fel arfer nid oes sicrwydd ar gyfer sgio neu eirafyrddio i ffwrdd o’r pîst, oni bai ei fod ag arweinydd lleol profedig.

Pethau i gadw llygad arnynt

Pethau i gadw llygad arnynt Bydd polisi da’n rhoi

Symiau tâl dros ben gwahanol – efallai y bydd eich cwmni yswiriant yn gweithredu taliadau dros ben gwahanol yn dibynnu ar y math o hawliad. Er enghraifft, gall symiau wahaniaethu yn ôl a yw’r hawliad am gansliad, colli bagiau, rhoi’r gorau i’r daith neu atebolrwydd personol.

Gweithredir un tâl dros ben i bob hawliad

Mae rhai cwmnïau yswiriant yn codi tâl dros ben am bob unigolyn, neu hyd yn oed am bob unigolyn a phob adran o’r polisi yr hawlir oddi dani.

Diwrnodau tramor – y mwyafrif o ddiwrnodau y bydd sicrwydd gennych ar eu cyfer tra’ch bod y tu allan i’r DU mewn unrhyw gyfnod o’r polisi.

120 diwrnod neu fwy.

Hyd taith – yr hyd mwyaf ar gyfer unrhyw un daith yn ystod cyfnod y polisi.

30 diwrnod neu fwy.

Derbynebau ar gyfer hawliadau am fagiau – pan fydd angen i chi hawlio am eich bagiau, bydd rhai cwmnïau yswiriant yn mynnu gweld tystiolaeth, ar ffurf derbynneb, ar gyfer yr holl eitemau o fagiau neu’r holl eitemau o fwy o werth na swm penodol.

Dim angen derbynebau 

Mae’r tablau uchod yn dangos beth y dylech gadw llygad arno.  Ond os ydych am wybod a oes angen yswiriant teithio arnoch neu beidio, neu os ydych am amcangyfrif faint o sicrwydd sydd ei angen arnoch, darllenwch ein canllawiau

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.