Gall yswiriant teithio pan ydych yn hŷn fod yn ddrud iawn. Ond trwy dreulio ychydig o amser ychwanegol yn ymchwilio, fel rheol gallwch ddod o hyd i bolisi sy’n cynnig yswiriant da am bris da.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Sut i gael y cynnig gorau ar yswiriant teithio i bobl dros 65 oed
- Ble i gael yswiriant teithio os ydych dros 65 oed
- Yswiriant teithio os ydych dros 65 oed ac mae gennych gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes
- Yswiriant teithio os ydych dros 80 oed
- Yswiriant teithio os ydych yn teithio yn y DU
- Yswiriant teithio a choronafeirws
Sut i gael y cynnig gorau ar yswiriant teithio i bobl dros 65 oed
Oes gennych gyflwr iechyd?
Neu wedi cael salwch difrifol? Yna darllenwch ein canllaw ar dod o hyd i yswiriant teithio os oes gennych gyflwr meddygol
Dyma ein hawgrymiadau ar gyfer dod o hyd i gynnig da:
- Edrychwch ar ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio. Mae gan y cyfeirlyfr fanylion darparwyr sy’n arbenigo mewn darparu yswiriant i bobl â chyflyrau meddygol difrifol - ond gallant hefyd gynnig cynigion da i bobl hŷn nad oes ganddynt unrhyw broblemau iechyd.
- Yn dibynnu ar pa mor aml rydych yn teithio, efallai hoffech ystyried polisi teithio blynyddol aml daith gan gallai’r polisïau hyn weithio allan yn rhatach yn y tymor hir.
- Os ydych yn mynd ar fordaith, gallai polisi mordeithio weithio allan yn rhatach na pholisi taith sengl - a gall fod â therfynau oedran uwch nag yswiriant safonol.
- Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i bolisi efallai y cewch yswiriant os oes gennych gyfrif banc pecyn sy’n cynnig yswiriant teithio am ddim. Gwiriwch y terfyn oedran ac os oes gennych gyflwr meddygol, a gwiriwch nad yw wedi’i eithrio. Hefyd, gwnewch yn siŵr nad yw gwerth buddion y cyfrif yn fwy na chost y cyfrif i chi.
- Gan nad yw llawer o yswirwyr teithio yn ymddangos ar wefannau cymharu, gwnewch ychydig o ymchwil trylwyr ar-lein.
Ble i gael yswiriant teithio os ydych dros 65 oed
Os, ar ôl chwilio ar ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio, rydych yn dal i gael trafferth i ddod o hyd i bolisi, efallai y gall brocer yswiriant eich helpu.
Darganfyddwch frocer arbenigol ar wefan y ‘British Insurance Brokers’ Association’
Gwelwch argymhellion yswiriant ar gyfer teithio yn Ewrop a ledled y byd;
- ar wefan Which? ( Byddwch ymwybodol bod argymhellion y tu ôl i wal dalu).
- ar wefan MoneySavingExpert (Nid yw’r argymhellion y tu ôl i wal dalu).
Yswiriant teithio os ydych dros 65 oed ac mae gennych gyflwr meddygol sy’n bodoli eisoes
Mae gan ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio fanylion cyswllt cwmnïau sy’n arbenigo mewn darparu yswiriant teithio i bobl â chyflyrau meddygol difrifol.
Beth yw ‘cyflwr difrifol’ ar gyfer yswiriant teithio?
Mae ‘cyflyrau ddifrifol’ yn gyflyrau sydd â risg uchel o fod angen rhyw fath o driniaeth feddygol tra byddwch ar eich taith. Neu a allai waethygu cyn i chi deithio gan olygu bod rhaid i chi ganslo.
A ydych wedi cael problemau i gael yswiriant teithio am bris fforddiadwy yn y gorffennol? Yna y gallech fod angen ymgynghori ag arbenigwr.
Fodd bynnag, mae gan wahanol gwmnïau farn wahanol ar ba gyflyrau sy’n ‘risg uchel’ ac mae’n werth rhoi cynnig ar fwy nag un.
Enghraifft o gyflyrau lle gallai fod angen yswiriwr teithio arbenigol arnoch yw:
- canser (yn enwedig os ydych yn dal i gael triniaeth)
- strôc neu gyflwr difrifol ar y galon
- cyflyrau anadlol
- cyflyrau sy’n salwch terfynol.
Beth yw ‘cyflwr llai difrifol’ ar gyfer yswiriant teithio?
Fel rheol dylid datgan cyflyrau llai difrifol neu cyflyrau a reolir yn dda gan feddyginiaeth (er enghraifft asthma ysgafn). Ond ni ddylent effeithio ar eich gallu i gael yswiriant.
Fodd bynnag, hyd yn oed os ydych yn teimlo nad yw’ch cyflwr meddygol yn un difrifol, mae’n werth rhoi cynnig ar ddarparwr ar ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio yn ogystal â chwmni prif ffrwd i gymharu prisiau.
Yswiriant teithio os ydych dros 80 oed
Pan yn 80 oed mae’r gost o yswiriant teithio yn tueddu i neidio eto. Ni fydd llawer o gwmniau teithio yn gadael i chi deithio os nad oes gennych yswiriant teithio.
Yn ein Cyfeirlyfr Yswiriant Teithio gallwch roi eich oed ar yr amser rydych yn bwriadu teithio. Mae hyn fel eich bod yn gallu gweld pa ddarparwyr fydd yn rhoi pris i chi os ydych dros 80 oed.
Yswiriant teithio os ydych yn teithio yn y DU
Hyd yn oed os nad ydych yn teithio dramor, mae’n dal yn syniad da cael yswiriant teithio.
Mae’r mwyafrif o bolisïau’n cynnwys yswiriant ar gyfer:
- bagiau yn cael eu colli neu eu dwyn
- costau meddygol brys
- costau canslo, gohirio neu dorri’ch taith yn fyr (bydd rhai polisïau’n talu os yw’n gysylltiedig â choronafeirws)
- atebolrwydd personol, rhag ofn eich bod wedi cael eich siwio am niweidio eiddo neu achosi anaf.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant teithio – sut mae polisi da yn edrych?
Yswiriant teithio a choronafeirws
Mae’r pandemig presennol wedi newid polisïau yswiriant teithio a’r hyn a fydd ac na fydd yn cael yswiriant.
Bydd gan y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant teithio sy’n cael eu cyhoeddi nawr ryw fath o yswiriant coronafeirws ond, fel bob amser, darllenwch delerau’r polisi yn ofalus iawn.
Er enghraifft, os yw yswiriant rhag canslo oherwydd coronafeirws wedi’i gynnwys yn y polisi, fel arfer dim ond os yw’r deiliad polisi’n profi’n bositif am y feirws y bydd hyn yn berthnasol. Os oes rhaid i chi ganslo oherwydd bod rhaid i chi hunan-ynysu neu fod mewn cwarantin, yna ar hyn o bryd nid yw’r mwyafrif o bolisïau’n talu allan.
Os oes gennych bolisi yswiriant teithio yn barod, gwiriwch y telerau’n ofalus i weld a oes gennych:
- os ydych yn profi’n bositif am goronafeirws cyn i chi deithio, neu
- tra’ch bod ar eich taith.