Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cael yswiriant os oes gennych gollfarn

Gall fod yn anodd cael yswiriant os oes gennych gofnod troseddol. Ond mae’n dibynnu i raddau helaeth ar p'un a oes gennych gollfarn ‘wedi darfod’ neu gollfarn ‘heb ddarfod’. Darganfyddwch beth sy'n cyfrif fel collfarnl, sut y gall effeithio ar eich siawns o gael yswiriant a beth gallwch ei wneud amdano.

Beth sy’n cael ei gyfrif fel collfarn?

Gall collfarn amrywio o ddedfryd o garchar i ddirwy am daflu sbwriel neu gollfarn goryrru. Mae pob math o drosedd yn cyfrif, bach a mawr.

O ran yswiriant, y ffactor mwyaf yw a yw'ch collfarn wedi darfod neu heb ddarfod.

Mae collfarn wedi darfod yn un sydd bellach wedi'i dileu o'ch cofnod troseddol, o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.

Mae collfarn heb ddarfod yn un nad yw eto wedi cyrraedd ei derfyn amser diffiniedig ac a fydd yn dal i gael ei wirio ar gofnod troseddol sylfaenol.

Gallwch ddarganfod a yw eich collfarn wedi darfod un ai drwy:

Pryd bydd yn orfodol i chi ddatgan collfarnau heb ddarfod?

  • Mae rhaid i chi ddatgelu collfarnau os gofynnir i chi.
  • Dylech bob amser gael cadarnhad ysgrifenedig ar gyfer unrhyw gollfarnau rydych wedi’u datgelu.
  • Os nad ofynnir i chi’n uniongyrchol, gwiriwch a yw’r telerau ac amodau’n sôn am gollfarnau.
  • Os cewch gollfarn yn ystod y polisi nid yw’n orfodol i chi ddatgan hyn hyd nes i chi adnewyddu’r yswiriant, Mae hyn oni ba bod eich polisi yn nodi bod angen i chi wneud hynny.

Os byddwch yn fwriadol yn peidio â datgelu’r collfarnau pan ofynnir am hynny gan eich cwmni yswiriant, gallai hynny annilysu’ch yswiriant.

Mae hyn yn golygu na fydd yn talu allan pan fyddwch yn gwneud cais arno. Os ydych eisoes wedi gwneud cais, gall y cwmni yswiriant ofyn am yr arian yn ôl.

Weithiau mae’r pethau hyn yn digwydd gan nad yw’r cwmni yswiriant wedi egluro pethau’n glir. Os felly, efallai gallech lwyddo i ddatrys y mater.

Sut mae collfarn yn effeithio ar fy yswiriant?

  • Dim ond collfarnau heb ddarfod sydd o bwys. Os yw eich collfarn heb ddarfod, nid oes angen i chi ei ddatgan pan fyddwch yn gwneud cais am yswiriant, hyd yn oed os gofynnir i chi.
  • Efallai y gofynnir i chi am y collfarnau pawb a gwmpesir gan yr yswiriant, fel eich partner, plant neu wyrion. Os yw'n yswiriant cartref, dyna bawb sy'n byw yn y tŷ.
  • Mae rhybuddion syml, ceryddon a rhybuddion terfynol yn cael eu dreulio ar unwaith ac nid oes angen eu datgelu gan nad yw'r rhain yn gollfarnau troseddol.
  • Gallai yswiriant fod yn ddrutach os oes gennych gollfarn heb ddarfod. Mae yswirwyr prif ffrwd fel arfer yn gwrthod cwmpasu'r rheini sydd â chollfarnau heb ddarfod. Mae hyn yn golygu nad yw'r polisïau rhataf yn debygol o fod ar gael i chi.

Am fwy ar hyn darllenwch ‘Insurance and convictions – A detailed guide’ ar wefan Unlock

Sut i gael yswiriant os oes gennych gollfarn

Dyma pryd mae'n debyg mai brocer yswiriant yw'r lle gorau i ddechrau.

Gall brocer ddod o hyd i'r yswiriant cywir ar gyfer eich amgylchiadau, a bydd yn gwybod pa ddarparwyr sydd fwyaf tebygol o gynnig yswiriant.

Ni fydd cael dyfynbris gan frocer yn costio unrhyw beth i chi.

Mae gwefannau cymhariaeth yn lle defnyddiol i chwilio am yswiriant. Ond os yw eich collfarn heb ddarfod, mae’n debyg y bydd angen polisi arbenigol neu ‘ansafonol’ arnoch. Nid yw'r rhain ar gael gan yswiriwr prif ffrwd ac ni fyddwch yn dod o hyd iddynt ar safle cymharu. Dyma pryd y gall brocer fod yn arbennig o ddefnyddiol.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.