Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Pam y gallai darparwyr wrthod eich hawliad yswiriant - a beth i’w wneud os bydd hyn yn digwydd

Pan fyddwch yn gwneud hawliad ar eich polisi yswiriant, efallai y bydd eich yswiriwr yn dweud wrthych nad ydynt am dalu allan neu mai dim ond rhan o'r swm rydych wedi'i hawlio y byddant yn ei dalu. Mae llawer o resymau pam y gall hyn ddigwydd a sawl peth y gallwch eu gwneud i fynd i'r afael ag ef.

Pam y gall eich hawliad gael ei wrthod?

Mae nifer o resymau pam y gall hawliad gael ei wrthod, ai'n deg neu beidio. Amlinellir rhai isod.

Gwybodaeth anghywir

Efallai eich bod wedi rhoi manylion anghyflawn neu wallus yn ystod eich hawliad, yn fwriadol neu drwy gamgymeriad. Er enghraifft, sut y digwyddodd neu sut y cafodd rhywbeth ei ddifrodi.

Mae’r yswiriwr yn meddwl na wnaethoch gymryd ‘gofal rhesymol’

Mae’r rhan fywaf o bolisïau yn cynnwys cymal ‘gofal rhesymol’ neu ‘ddyletswydd gofal’ sy’n ei gwneud yn ofynnol i chi gymryd camau i atal hawliad rhag codi. Er enghraifft, os gwnaethoch adael eich pethau gwerthfawr yn cael eu harddangos yn eich car neu'ch ffôn symudol ar y bws, efallai y bydd eich yswiriwr yn gweld hyn fel rheswm i herio'ch cais.

Hepgoriadau neu anghywirdebau yn eich cais yswiriant

Gall yr yswiriwr wrthod eich hawliad os oes ganddynt reswm i gredu na wnaethoch gymryd gofal rhesymol i ateb yr holl gwestiynau ar yr hawliad yn onest ac yn gywir. Enghraifft gyffredin yw methu â datgelu cyflwr meddygol sy'n bodoli eisoes.

Pwyntiau technegol

Weithiau gall yswirwyr ddod o hyd i resymau dadleuol ‘print mân’ i herio eich hawliad. Er enghraifft, gallent ddadlau a ddefnyddid eitem a gollwyd neu a ddygwyd at ddibenion personol neu fusnes. Os mai’r olaf oedd, efallai na fydd yn dod o dan y polisi.

Ni ddilynwyd y broses hawlio gywir

Mae yswirwyr yn aml yn disgwyl i gwsmeriaid fynd yn union trwy'r broses a gallent ddefnyddio tystiolaeth i chi beidio â dilyn eu proses hawlio yn ddigon agos fel cyfiawnhad dros ei wrthod.

Mae'r yswiriwr yn mynnu mai dim ond rhan o'ch hawliad y mae rhaid iddynt ei dalu

Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, os nad yw'ch polisi'n rhoi digon o yswiriant i chi i dalu am eich holl golledion. Bydd rhaid i chi dalu gormodedd os yw'r yswiriwr yn credu eich bod wedi gorddatgan gwerth eich hawliad.

Os nad ydych yn fodlon ar y rhesymau a roddir gan y cwmni yswiriant am wrthod eich hawliad, mae gennych hawl i gwyno.

Beth i’w wneud os byddwch yn teimlo na ddylech fod wedi cael eich gwrthod

Gwiriwch eich dogfen bolisi

Gwiriwch fanylion eich polisi i weld a yw’r holl ffeithiau yn ffitio’r rheswm am y gwrthodiad.

Mae'n werth ei herio os credwch iddo gael ei wrthod yn annheg. Mae hyn oherwydd y gellir gwrthdroi'r penderfyniadau hyn weithiau (yn aml ar ôl mynd â hwy i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol - darganfyddwch fwy am hyn isod):

  • Gwiriwch eich bod wedi rhoi’r manylion cywir ar y dechrau.
  • Nodwch neu danlinellwch yr union eiriau yn eich polisi sy’n dweud eich bod wedi'ch diogelu – gan y byddwch ei angen yn nes ymlaen.
  • Os yw’r geiriad yn amwys neu heb ei esbonio’n ddigonol, nodwch hynny hefyd. Mae’n ddyletswydd ar eich cwmni yswiriant i roi gwybodaeth glir i chi ac mae rhaid iddynt roi esboniad rhesymol i chi am wrthod talu eich cais.
  • Mae rheolau newydd yn datgan na all cwmni yswiriant wrthod eich hawliad os gwaethoch gymryd gofal rhesymol i ateb eu holl gwestiynau’n onest ac hyd eithaf eich dealltwriaeth. Os na wnaeth eich yswiriwr ofyn am wybodaeth maent yn dweud nawr y dylech fod wedi’i datgelu’n wirfoddol, nodwch hynny hefyd.
  • A ofynnodd yr yswiriwr i chi am y wybodaeth y maent bellach yn dweud y dylech fod wedi'i datgelu o'ch gwirfodd? Os na wnaethant, gwnewch nodyn o hyn.

Yna chwiliwch am unrhyw ddogfennau eraill ynglŷn â’ch polisi.

Er enghraifft, os gwnaethoch anfon llythyr at eich cwmni yswiriant yn rhoi gwybod iddynt am newid yn eich amgylchiadau (eich cyfrifoldeb chi yw hyn), ceisiwch ddod o hyd i gopi o’r llythyr.

Cysylltwch â’r cwmni yswiriant

Ar ôl i chi edrych ar eich polisi, mae’n bryd i chi gysylltu â’r cwmni yswiriant.

Gallwch ffonio’r cwmni a siarad â’u trafodwyr cwynion neu ysgrifennu llythyr ffurfiol i gwyno a’i anfon at y cyswllt a roddir yng ngweithdrefn gwyno y cwmni.

Yna dylai’ch cwyn fynd trwy broses adolygiad mewnol yr yswiriwr. Gallwch ofyn am fanylion am hyn os ydych eisiau.

Os gwnaethoch brynu'ch polisi trwy frocer yswiriant, efallai y byddant yn gwneud eich cwyn ar eich rhan - mae'n werth gofyn, i arbed y drafferth i chi'ch hun.

Sut i ysgrifennu llythyr cwyno ffurfiol

Dyma argymhellion defnyddiol i ysgrifennu eich llythyr cwyno:

  • Rhowch y dyddiad ar y llythyr.
  • Rhowch eich enw a rhif polisi.
  • Nodwch ‘cwyn’ yn glir ar frig y llythyr.
  • Cofiwch gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich cwyn.
  • Dywedwch beth fyddech yn hoffi i’r cwmni ei wneud i gywiro pethau.
  • Eglurwch eich cwyn yn glir, gan ddweud pam rydych yn meddwl na ddylai’ch cais fod wedi cael ei wrthod.
  • Dywedwch os nad ydych yn fodlon ag ymateb y cwmni y byddwch yn mynd â’r mater at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Ceisiwch gael asesiad annibynnol

Os yw’r broblem yn dechnegol neu’n arbenigol, gallai fod o help cael asesiad annibynnol. Er enghraifft os yw eich yswiriwr yn dadlau bod y difrod i’ch eiddo wedi digwydd oherwydd traul a chithau’n dadlau ei fod oherwydd difrod damweiniol.

Mae’n werth cael aseswr colledion (ni ddylid camgymryd hyn am aseswr colledion, sy’n gweithio i’r cwmni yswiriant) i edrych ar y gwaith ac anfon eu adroddiad at y cwmni yswiriant fel tystiolaeth.

Byddwch yn ymwybodol y byddant yn codi tâl am eich cynrychioli.

Hyd yn oed os nad yw’n newid meddwl y cwmni yswiriant, gall fod yn wybodaeth ddefnyddiol i’w chael yn nes ymlaen.

Ewch i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol

Os ydych yn dal yn anhapus ar ôl mynd trwy broses gwynion y cwmni yswiriant, mae gennych hawl i fynd â'ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth annibynnol am ddim sy’n ymchwilio i gwynion gan unigolion am gwmnïau ariannol.

Os ewch â’ch cwyn atynt byddant yn ystyried dwy ochr y stori, yn edrych ar y dogfennau ac yn ceisio dod o hyd i ganlyniad teg ar sail y ffeithiau a synnwyr cyffredin.

Dim ond pan fyddwch wedi derbyn yr hyn a elwir yn ‘ymateb terfynol’ gan eich cwmni yswiriant y gallwch wneud cwyn, neu pan fydd wyth wythnos wedi mynd heibio ac nad ydych wedi derbyn ymateb ganddynt.

Os byddant yn penderfynu bod eich hawliad wedi ei wrthod ar gam, mae gan Wasanaeth yr Ombwdsmon y grym i wneud i’r cwmni yswiriant:

  • esbonio eu gweithredoedd
  • ymddiheuro, a
  • thalu iawndal neu gymryd camau addas i newid y canlyniad.

Anfonwch ef gyda chopi o'r llythyr ymateb terfynol gan eich cwmni yswiriant ac unrhyw ddogfennau eraill sydd gennych sy'n cefnogi'ch achos.

A oes angen ‘arbenigwr’ i helpu â’m cwyn?

Nac oes. Ni ddylai fod arnoch angen unrhyw help arbenigol na chefnogaeth os byddwch yn cwyno.

Mae Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn wasanaeth anffurfiol am ddim ac mae’n well ganddynt glywed gennych yn eich geiriau eich hun.

Mae gan bawb yr hawl i gael rhywun arall i weithredu ar ei ran.

Efallai bydd rhai pobl eisiau cael rhywun o’u Cyngor ar Bopeth leol neu berthynas neu ffrind i’w helpu â’u cwyn.

Ond, os byddwch yn penderfynu cyflogi rhywun i gyflwyno eich achos ar eich rhan – er enghraifft, cwmni rheoli hawliadau – byddwch efallai yn gorfod talu eu costau.

Gall hyn olygu eich bod yn talu rhan o unrhyw iawndal a roddir i chi iddynt hwy.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.