Cyn ymgeisio am forgais, mae’n bwysig eich bod yn meddwl am fwy nag ystyried a allwch fforddio’r ad-daliadau misol. Bydd darparwyr morgeisi yn edrych ar eich incwm a’ch treuliau i weld a allwch lwyddo i gynnal y taliadau os bydd cyfraddau llog yn codi neu eich amgylchiadau’n newid.
Sut mae darparwyr benthyciadau’n asesu beth gallwch ei fforddio
A ydych chi wedi cael cyngor ar forgeisi
Gallwch gael cyngor yn uniongyrchol gan ddarparwr benthyciadau a fydd yn trafod eu cynhyrchion eu hunain, neu gan frocer a fydd yn gallu edrych ar forgeisi gan ystod o ddarparwyr.
Darllenwch Cyngor morgais: a dylech ddefnyddio cynghorydd morgais? am fanylion ynghylch lle i geisio cyngor.
Mae benthycwyr morgeisi yn seilio eu penderfyniadau ar yr hyn a elwir yn gymhareb benthyciad-i-incwm – y swm rydych am ei fenthyg wedi'i rannu â faint rydych yn ei ennill.
Mae'r mwyaf y gallwch ei fenthyg fel arfer yn cael ei gapio bedair gwaith a hanner eich incwm blynyddol.
Mae rhaid iddynt hefyd asesu'r taliad misol y gallwch ei fforddio, ar ôl edrych ar eich treuliau yn ogystal â'ch incwm.
Gelwir hyn yn asesiad fforddiadwyedd.
Mae rhaid i’r darparwr benthyciadau hefyd edrych ymlaen a ‘phrofi straen’ eich gallu i ad-dalu’r morgais.
Mae hyn er mwyn sicrhau y byddwch yn dal i fforddio ad-daliadau os bydd y gyfradd llog yn codi neu os bydd newid i'ch ffordd o fyw, fel:
- colli swydd
- cael babi, neu
- cymryd seibiant gyrfa.
Os yw'r darparwr benthyciadau o'r farn na fyddwch yn gallu fforddio'ch taliadau morgais o dan yr amgylchiadau hyn, gallent gyfyngu ar faint y gallwch ei fenthyg.
Cyfrifwch eich ad-daliadau misol posib gyda'n Cyfrifiannell Morgais
Mae gwefannau cymhariaeth yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i forgais wedi'i deilwra i'w hanghenion.
Rhai o'r gwefannau cymharu morgeisi mwyaf yw:
- Ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi, felly cofiwch ddefnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
- Mae hefyd yn bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i’r cynigion gorau ar wefannau cymharu prisiau
Beth fydd y darparwr benthyciadau’n ystyried
Wrth gyfrifo faint allwch fforddio ei fenthyca, bydd y darparwr yn edrych ar :
1. Eich incwmn
Bydd hyn yn cynnwys:
- eich incwm sylfaenol
- incwm o’ch pensiwn neu fuddsoddiadau
- incwm ar ffurf cynhaliaeth plant a chymorth ariannol gan gyn-briod
- unrhyw enillion eraill sydd gennych– er enghraifft, o oramser, comisiwn neu daliadau bonws, neu ail swydd neu waith llawrydd.
Bydd angen i chi gyflwyno slipiau cyflog a chyfriflenni banc fel tystiolaeth o’ch incwm.
Os ydych yn hunangyflogedig bydd angen i chi ddarparu:
- cyfriflenni banc
- cyfrifon busnes
- manylion y dreth incwm rydych wedi'i thalu.
Fel arfer bydd yn rhaid i chi ddarparu dwy i dair blynedd o ffurflenni treth a chyfrifon busnes.
2. Eich treuliau
Gwiriwch eich adroddiad credyd
Mae’n syniad da gwirio’ch adroddiad credyd cyn ymgeisio am forgais.
Bydd hyn yn rhoi amser i chi gywiro unrhyw gamgymeriadau ynddo a rhoi gwybod i chi am unrhyw daliadau credyd a fethwyd a allai achosi i ddarparwr morgais eich gwrthod.
Gallai hyn gynnwys:
- ad-daliadau cerdyn credyd
- taliadau cynhaliaeth
- yswiriant – adeiladau, cynnwys, teithio, anifeiliaid anwes, bywyd ac ati
- unrhyw fenthyciadau eraill neu gytundebau credyd a allai fod gennych
- biliau fel dŵr, nwy, trydan, ffôn, band-eang.
Gall y darparwr ofyn am amcangyfrifon o’ch costau byw eraill fel gwario ar ddillad, hamdden a gofal plant.
Gall ofyn hefyd am gael gweld rhai cyfriflenni banc diweddar i ategu’r ffigurau a gyflwynir gennych.
Darganfyddwch fwy ar Sut i wella'ch sgôr credyd
3. Newidiadau yn y dyfodol a all gael effaith
Bydd y darparwr yn asesu a fyddech chi’n medru ad-dalu’ch morgais os:
- bydd cyfraddau llog yn cynyddu
- ydych chi neu’ch partner yn colli’ch swyddi
- na allech gael gwaith oherwydd salwch
- bydd eich bywyd yn newid, fel cael babi neu seibiant yn eich gyrfa.
Mae’n bwysig hefyd i chi feddwl ymlaen a chynllunio sut y byddech yn llwyddo i dalu’n brydlon.
Er enghraifft, gallwch helpu i ddiogelu’ch hun yn erbyn gostyngiadau annisgwyl mewn incwm drwy ychwanegu at eich cynilion ar bob cyfle.
Ceisiwch sicrhau bod eich cynilion yn cynnwys digon i dalu treuliau am dri mis, yn cynnwys eich taliadau morgais.
Cynlluniau’r llywodraeth
Os ydych yn cael trafferth cael eich cymeradwyo ar gyfer morgais neu os oes gennych flaendal bach yn unig, mae nifer o gynlluniau'r llywodraeth ar gael i helpu .