Mae cymryd eich cam cyntaf ar yr ysgol dai yn amser cyffrous, ond gall fod yn broses ddryslyd – â llawer o jargon yn cael ei daflu atoch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw morgais?
- Faint o flaendal rwyf ei angen i brynu ty?
- Help i brynwyr y tro cyntaf
- Benthyciad i Werth
- Gwnewch yn siwr eich bod yn gallu fforddio eich ad-daliadau misol
- Cyllidebu ar gyfer y costau eraill sy’n gysylltiedig â phrynu cartref
- Dod o hyd i forgais
- Rhyddfraint neu brydles
- Y broses o wneud cais am forgais
- Os ydych yn cael trafferth i gynilo ar gyfer blaendal
Beth yw morgais?
Yn gyffredinol, mae person yn cael ei ddosbarthu fel prynwr tro cyntaf os ydynt yn prynu eu unig neu brif breswylfa ac nad ydynt erioed wedi bod yn berchen ar rydd-ddaliad neu ddal prydles mewn eiddo preswyl yn y DU neu dramor.
Mae morgais yn fenthyciad a gymerir i brynu eiddo neu dir. Mae'r mwyafrif yn rhedeg am 25 mlynedd, ond gall y tymor fod yn fyrrach neu'n hwy.
Bydd angen isafswm o 5% o'r pris prynu arnoch fel blaendal, a benthyg gweddill yr arian (y morgais) gan fenthyciwr fel banc neu gymdeithas adeiladu.
Mae’r benthyciad yn cael ei ‘sicrhau’ yn erbyn gwerth eich cartref nes ei fod wedi’i dalu i gyd.
Os na allwch gadw i fyny a’ch ad-daliadau, gall y benthyciwr adfeddiannu (cymryd yn ôl) eich cartref a'i werthu fel eu bod yn cael ei arian yn ôl.
Faint o flaendal rwyf ei angen i brynu ty?
Cyn cychwyn edrych ar eiddo, bydd angen i chi gynilo ar gyfer blaendal.
Yn gyffredinol, bydd angen i chi geisio cynilo o leiaf 5% o gost y cartref yr hoffech ei brynu.
Er enghraifft, os hoffech brynu cartref sydd yn werth £150,000, bydd angen i chi gynilo o leiaf £7,500 (5%) ar gyfer y blaendal.
Bydd cynilo mwy yn rhoi mynediad i ystod ehangach o forgeisi rhatach sydd ar y farchnad ac i gyfradd llog is.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilo arian ar gyfer blaendal morgais
Help i brynwyr y tro cyntaf
Mae ystod o gynlluniau ar gael i helpu prynwyr tro cyntaf i'ch helpu chi i fynd ar yr ysgol dai, yn enwedig os mai ond blaendal bach sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau llywodraeth ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a pherchnogion tai cyfredol
Benthyciad i Werth
Wrth siarad am forgeisiau, efallai y byddwch yn clywed pobl yn sôn am ‘Benthyciad i Werth’ neu LTV.
Yn syml, dyma'r swm rydych wedi'i fenthyg i brynu'ch cartref (y benthyciad) o'i gymharu â phrisiad benthyciwr morgais o’r eiddo.
Er enghraifft, os ydych yn prynu cartref am £200,000, yn rhoi £20,000 i lawr fel blaendal a bod gennych forgais o £180,000 - eich LTV yw 90%. Mae hyn oherwydd bod y swm rydych wedi'i fenthyg (£180,000) yn 90% o werth y cartref (£200,000).
Po isaf yw'r LTV, po isaf y mae eich cyfradd llog yn debygol o fod. Mae hyn oherwydd bod y benthyciwr yn cymryd llai o risg wrth benthyca llai.
Mae'r cyfraddau rhataf fel arfer ar gael i bobl sydd â blaendal o 40%, sy'n cyfrif fel LTV o 60%.
Gwnewch yn siwr eich bod yn gallu fforddio eich ad-daliadau misol
Fel prynwr tro cyntaf, y peth pwysicaf i’w ystyried yw a ydych wir yn gallu fforddio cymryd y cam hwn.
Mae’n beth doeth llunio cyllideb cyn i chi ddechrau chwilio am eiddo. Meddyliwch faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis, gan gofio y bydd rhaid i chi ddal i dalu costau bob dydd fel nwy, trydan a bwyd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint gallwch fforddio ei fenthyca ar gyfer morgais?
Cyllidebu ar gyfer y costau eraill sy’n gysylltiedig â phrynu cartref
Ar wahân i’ch taliadau morgais misol, mae costau eraill ynghlwm â phrynu cartref.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- cost arolwg
- ffioedd cyfreithiwr neu drawsgludwr (mae hyn yn aml yn cynnwys costau ychwanegol, fel ffioedd chwilio a Chofrestrfa Tir)
- ffioedd trefnu morgais a ffioedd prisio
- costau symud a symud i mewn
- yswiriant adeiladau
- costau cychwynnol ddodrefnu ac addurno
- Treth Trafodiadau Tir (neu Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban, neu Dreth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon)
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Treth Trafodiadau Tir – Popeth sydd angen i chi wybod
Treth Stamp yn Lloegr a Gogledd Iwerddon - Popeth sydd angen i chi wybod
Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau yn yr Alban - Popeth sydd angen i chi wybod
Y broses o brynu tŷ – camau i brynu tŷ neu fflat newydd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Llinell amser wrth brynu eiddo yn yr Alban
Dod o hyd i forgais
Gallwch wneud cais am forgeisi yn uniongyrchol gan fanc neu gymdeithas adeiladu.
Ond efallai yr hoffech feddwl am ddefnyddio cynghorydd morgais rheoledig hefyd. Mae cynghorwyr yn gwybod llawer am y farchnad morgeisi a gallant eich helpu i ddod o hyd i'r morgais sy'n gweddu orau i'ch anghenion.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os:
- dim ond blaendal bach sydd gennych
- rydych yn hunangyflogedig
- mae amgylchiadau eraill fel y math o eiddo, er enghraifft mae angen morgais arnoch ar gyfer cynllun cydberchnogaeth.
Darganfyddwch fwy am Sut i wneud cais am forgais
Darganfyddwch fwy am pam efallai yr hoffech ddefnyddio brocer morgais
Defnyddio gwefannau cymharu morgais
Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da ar gyfer cymharu cyfraddau llog morgais. Gallwch ddefnyddio'r gwefannau hyn i gymharu morgeisi.
Mathau o forgais
Mae llawer o wahanol fathau o forgeisi ar y farchnad, a bydd deall yr opsiynau hyn yn eich helpu i wneud y dewis cywir.
Y peth cyntaf i feddwl amdano yw'r gyfradd llog. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cychwyn ar gynnig cyfradd sefydlog am nifer penodol o flynyddoedd. Ar ôl hyn, byddech fel arfer yn cael eich symud i gyfradd amrywiol safonol ddrutach eich benthyciwr. Mae hyn oni bai eich bod yn newid i forgais arall â'ch benthyciwr presennol, neu'n ail-forgeisio i fenthyciwr newydd.
Morgeisi ad-dalu yw'r rhai mwyaf cyffredin, lle rydych yn gwneud taliadau misol am y swm y gwnaethoch ei fenthyg a'r llog.
Gelwir y math arall o forgais yn forgais ‘llog yn unig’. Ond nid yw'r rhain ar gael yn aml oni bai eich bod yn chwilio am forgais prynu-i-osod.
Darganfyddwch fwy am y gwahanol opsiynau ad-dalu morgais yn ein canllaw Deall cyfraddau llog morgais
Rhyddfraint neu brydles
Os ydych yn bwriadu prynu tŷ mae’n debyg mai’r rhyddfraint byddwch yn ei brynu. Mae hyn yn golygu mai chi sy’n berchen ar yr eiddo a’r tir y mae’r tŷ wedi cael ei adeiladu arno.
Os ydych yn prynu fflat, byddwch naill ai’n prynu prydles neu’n prynu cyfran o ryddfraint.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Prydles neu ryddfraint - beth yw'r gwahaniaeth?
Y broses o wneud cais am forgais
Gall ymgeisio am forgais ymddangos fel proses hir a dryslyd, â llawer o ffurflenni i'w llenwi.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch incwm, ymrwymiadau credyd a'ch gwariant. Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddarparu ffurflenni treth a chyfrifon busnes am y ddwy neu dair blynedd diwethaf.
Bydd benthycwyr yn cynnal yr hyn a elwir yn asesiad fforddiadwyedd. Dyma gipolwg manwl ar eich cyllid, y mae benthycwyr yn ei ddefnyddio i weithio allan a allwch fforddio'ch ad-daliadau tymor hir.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wneud cais am forgais
Os ydych yn cael trafferth i gynilo ar gyfer blaendal
Os ydych yn cael trafferth cynilo am flaendal digon mawr, mae rhai opsiynau ar gael i chi.
Mae hyn yn cynnwys ystod o forgeisi cymorth teulu. Dyma lle mae pwy bynnag sy'n eich cefnogi yn rhoi canran o'r arian rydych yn edrych i'w fenthyg i gyfrif cynilo penodol, neu'n sicrhau'r morgais yn erbyn canran o'u heiddo eu hunain.