Mae cael morgais yn un o'r penderfyniadau ariannol mwyaf y byddwch yn eu gwneud, felly mae'n bwysig ei gael yn iawn. Gall cynghorydd morgais chwilio'r farchnad ar eich rhan ac argymell y fargen orau ar gyfer eich amgylchiadau.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pam ei bod yn syniad da cael cyngor ar forgais
Mae gan gynghorwyr morgeisi annibynnol wybodaeth eang o'r morgeisi sydd ar gael gan wahanol fenthycwyr. Gallant chwilio'r farchnad ar eich rhan ac argymell y fargen orau.
Mae dod o hyd i'r bargeinion hyn ar eich pen eich hun yn golygu llawer o ymchwil a thrafod eich amgylchiadau lawer gwaith â gwahanol fenthycwyr.
Efallai y bydd cynghorydd hefyd yn gallu dod o hyd i fargen na allwch ddod o hyd iddi ar eich pen eich hun. Gallant hefyd wella'ch siawns o gael eich derbyn am forgais gan eu bod yn gwybod pa fenthycwyr sy'n fwy tebygol o fod yn ffafriol i'ch amgylchiadau penodol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad oes gennych flaendal mawr, nad ydych wedi bod â'ch cyflogwr yn hir neu os ydych yn hunangyflogedig .
Peryglon peidio â chael cyngor
Pan gewch gyngor morgais rheoledig yn hytrach na gwneud ymchwil ar eich pen eich hun, bydd eich cynghorydd morgais yn argymell y morgais mwyaf priodol ar gyfer eich amgylchiadau.
Os bydd y morgais yn anaddas am unrhyw reswm nes ymlaen, gallwch wneud cwyn. Os oes angen, gallwch fynd â'ch cwyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Mae hyn yn golygu bod gennych fwy o hawliau yn awtomatig pan fyddwch yn cymryd cyngor.
Os na chewch gyngor, gallech ddod i ben:
- â'r morgais anghywir ar gyfer eich sefyllfa, a fyddai'n gamgymeriad costus yn y tymor hir
- cael eich gwrthod gan y benthyciwr o'ch dewis, oherwydd nad oeddech yn deall y cyfyngiadau yn glir neu nad oeddech yn cwrdd â meini prawf benthyca'r benthyciwr.
Pryd i weld cynghorydd morgais
Mae'n bwysig gweld cynghorydd morgais ar ddechrau eich taith morgais. Bydd yn arbed llawer o amser ac ymdrech i chi yn y tymor hir.
Mae'n syniad da siarad ag ychydig o wahanol gwmnïau i weld beth sydd ar gael ac i gymharu ffioedd.
Mae tri phrif fath o gynghorydd morgais:
- Mae rhai ynghlwm wrth fenthyciwr penodol.
- Mae rhai yn edrych ar fargeinion gan restr gyfyngedig o fenthycwyr.
- Mae rhai yn gwirio'r farchnad gyfan am ystod eang o gynhyrchion.
Mae’n gwneud synnwyr i ddewis cwmni a all ddarparu gwasanaeth ‘marchnad gyfan’. Mae hyn yn golygu y gallant ddewis o'r nifer fwyaf o fenthycwyr a morgeisi sydd ar gael.
Fodd bynnag, nid yw hyd yn oed cynghorwyr ‘marchnad gyfan’ yn cynnwys popeth. Er enghraifft, ni allant eich cynghori ar forgeisiau sydd ond ar gael os ewch at y benthyciwr yn uniongyrchol.
Mae rhaid i gwmnïau sy'n cynnig cyngor morgais gael eu rheoleiddio a'u hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA). Mae manylion yr holl gwmnïau rheoledig yn cael eu cadw ar Gofrestr y FCA.
Gwiriwch fod y cwmni rydych yn penderfynu i ddelio ag ef ar gofrestr yr FCAYn agor mewn ffenestr newydd
Rhesymau eraill dros ddefnyddio ymgynghorydd
- Byddant yn gwirio'ch cyllid i sicrhau eich bod yn gallu fforddio'r morgais a chwrdd â meini prawf benthyca benthycwyr unigol.
- Efallai bod ganddynt fargeinion unigryw gyda benthycwyr, nad ydynt ar gael fel arall.
- Maent yn aml yn cwblhau'r gwaith papur i chi, felly dylid delio â'ch cais yn gyflymach.
- Byddant yn eich helpu i ystyried holl gostau a nodweddion y morgais, y tu hwnt i'r gyfradd llog.
- Dim ond morgais sy'n addas i chi y dylent ei argymell a byddant yn dweud wrthych pa rai rydych yn debygol o'u cael.
Dod o hyd i ymgynghorydd morgais
Gallwch ddod o hyd i ymgynghorydd morgais rheoledig ar y gwefannau hyn:
Mae hefyd yn syniad da dewis cwmni sy'n aelod o Gymdeithas Cyfryngwyr Morgeisi (AMI), y corff proffesiynol ar gyfer cwmnïau cyfryngwyr morgeisi.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth yn The Association of Mortgage IntermediariesYn agor mewn ffenestr newydd
Ffioedd
Efallai y bydd ymgynghorwyr morgais yn codi tâl arnoch am eu gwasanaeth, yn dibynnu ar y cynnyrch rydych yn ei ddewis neu werth y morgais.
Bydd eraill am ddim i chi ond yn derbyn comisiwn gan y benthyciwr.
Mae rhai yn codi ffioedd ac yn derbyn comisiwn, ond dylid dweud wrthych sut y bydd cynghorydd yn cael ei dalu a'r holl gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r cyngor.
Pan fydd eich ymgynghorydd yn gwneud argymhelliad, rhaid iddo roi dogfen(nau) darlunio morgais i chi o'r enw Taflen Gwybodaeth Safonol Ewropeaidd.
Dogfen egluro morgais
Mae'r ddogfen egluro morgais yn amlinellu llawer o'r manylion am y morgais sy'n cael ei gynnig i chi. Mae hyn yn cynnwys:
- eich ad-daliadau misol
- unrhyw ffioedd neu daliadau mae rhaid i chi eu talu ymlaen llaw i gael y morgais
- cost gyffredinol y morgais, gan gynnwys llog, dros y tymor llawn
- cyfradd y llog neu'r Gyfradd Ganrannol Flynyddol o Dâl (APRC), a'r math o log (sefydlog neu amrywiol)
- beth sy'n digwydd os bydd cyfraddau llog yn codi a sut mae hyn yn effeithio ar eich ad-daliadau
- os oes unrhyw nodweddion arbennig yn y morgais, fel y gallu i ordalu neu dan-dalu
- os gallwch wneud gordaliadau i'r morgais ac unrhyw gosbau am wneud hynny
- beth sy'n digwydd os nad ydych eisiau'r morgais mwyach
- hyd y cyfnod myfyrio (o leiaf 7 diwrnod, neu fwy yn dibynnu ar y benthyciwr).
Mae hyn yn eich helpu i ddeall yr hyn rydych yn cytuno iddo ac mae'n ffordd hawdd o gymharu cynigion morgais yn uniongyrchol.