Mae Credyd Pensiwn yn darparu incwm ymddeoliad atodol os ydych chi ar incwm isel, ond nid yw un o bob tri o’r rhai sydd â’r hawl i’w gael yn ei hawlio. Os ydych chi’n un o’r rhain fe allech fod yn colli allan ar dros filoedd o incwm ychwanegol y flwyddyn. Darganfyddwch os ydych yn gymwys.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw Credyd Pensiwn?
Mae Credyd Pensiwn yn fudd-dal i bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth sydd ar incwm is.
Mae dwy ran iddo:
- Credyd Gwarantedig
- Credyd Cynilion.
Dim ond pobl a gyrhaeddodd oed Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 sy’n gymwys i hawlio’r rhan Credyd Cynilion o Gredyd Pensiwn.
Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016, gallwch ddal i gael y rhan Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn.
Hyd yn oed os ydych yn darganfod mai dim ond swm bychan o Gredyd Pensiwn y gallwch ei gael, mae’n werth ei hawlio. Mae hyn oherwydd gall eich helpu i fod yn gymwys am fudd-daliadau eraill, yn ogystal â chynnig ychydig o incwm ychwanegol.
Gall Credyd Pensiwn nid yn unig eich helpu i dalu eich costau byw o ddydd i ddydd, ond gall hefyd roi hawl i chi gael grantiau, budd-daliadau a gostyngiadau eraill. Gall aelwydydd sy’n hawlio Credyd Pensiwn gael Budd-dal Tai, trwydded deledu am ddim yn ogystal â Thaliadau Costau Byw gwerth hyd at £1,200 yn 2023/24.
Faint yw Credyd Pensiwn?
Mae’r symiau a ddangosir ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24.
Credyd Gwarantedig
Bydd Credyd Gwarantedig yn codi eich incwm wythnosol i lefel gwarantedig o £201.05 os ydych yn sengl neu £306.85 os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Credyd Cynilion
Bydd Credyd Cynilion yn rhoi ychydig o arian ychwanegol i chi os ydych wedi gwneud rhywfaint o ddarpariaeth ar gyfer eich ymddeoliad trwy gynilo, neu drwy bensiwn ar wahân i’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Yr incwm ychwanegol a geir drwy Gredyd Cynilion yw hyd at:
- £15.94 yr wythnos ar gyfer rhywun sengl, a
- £17.84 ar gyfer cyplau priod, partneriaid sifil neu bartner rydych yn byw gyda fel petaech yn briod.
Fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys am Gredyd Cynilion os cyrhaeddwch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2016 neu ar ôl hynny.
Am ragor o wybodaeth ar gymhwyster Pensiwn Credyd ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Credyd Pensiwn Atodol dan amgylchiadau arbennig
Gallech gael swm mwy o Gredyd Pensiwn os:
- rydych yn anabl
- mae gennych gyfrifoldebau gofalu neu
- rydych yn gyfrifol am dalu rhai costau tai penodol, gan gynnwys taliadau llog ar forgeisi.
Darganfyddwch fwy trwy ddefnyddio’r cyfrifiannell Credyd Pensiwn ar GOV.UK
Pwy all wneud cais?
I wneud cais am Gredyd Gwarantedig, mae’n rhaid i chi fod wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso ar gyfer Credyd Pensiwn
I fod yn gymwys ar gyfer Credyd Cynilion, mae’n rhaid eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016. Bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar y cynilion neu’r incwm sydd gennych yn barod.
Gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn os ydych yn dal i weithio neu wedi ymddeol. Gallwch hefyd wneud cais os oes gennych incwm arall, cynilion neu rydych yn berchen ar eich cartref.
I ddarganfod eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, defnyddiwch y gyfrifiannell ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Sut y gallai cronfeydd pensiwn sydd gennych effeithio ar eich cais
Ar ôl i chi neu'ch partner gyrraedd oedran cymhwyso Credyd Pensiwn, bydd unrhyw arian naill ai o'ch cronfeydd pensiwn y tu allan i'ch arian ac unrhyw arian parod yn y gronfa bensiwn sy'n eiddo i'r unigolyn dros oedran cymhwyso Credyd Pensiwn yn cael ei ystyried pan fydd eich incwm yn cael ei asesu.
Os oes gennych £10,000 neu lai o gynilion neu fuddsoddiadau (gan gynnwys eich cronfa bensiwn) ni fydd yn effeithio ar faint o Gredyd Pensiwn y byddwch yn ei dderbyn. Ond efallai y byddwch chi’n derbyn llai o swm os oes gennych chi fwy na £10,000 o gyfalaf.
Ar gyfer pob £500 neu ran o £500 o bensiynau neu gynilion sydd gennych dros £10,000 - byddwch yn cael eich ystyried i fod ag incwm o £1 yr wythnos. Ychwanegir hwn at unrhyw incwm arall sydd gennych, fel pensiwn.
Er enghraifft, rydych chi'n 67 ac yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn. Mae gennych chi gronfa bensiwn o £40,000 ac rydych chi wedi cymryd cyfandaliad o £10,000 o'ch pot. Eich cronfa sy'n weddill yw £30,000. Oherwydd eich bod wedi cyrraedd oedran cymhwyso Credyd Pensiwn, bydd y ddau swm yn cyfrif pan fyddwch wedi'ch asesu ar gyfer budd-daliadau.
Gadael eich cronfa heb ei gyffwrdd
Os byddwch chi'n gadael arian mewn cronfa bensiwn, byddai'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cyllid a Thollau EM neu'ch cyngor lleol yn gwirio faint y byddech chi'n ei gael pe byddech chi wedi prynu incwm gwarantedig am oes (blwydd-dal).
Byddant yn ystyried y swm hwn wrth iddynt asesu'ch incwm.
Incwm ymddeol hyblyg
Os ydych yn cadw'r arian yn eich cronfa bensiwn ac yn cymryd incwm ohono naill ai'n rheolaidd neu pan fyddwch chi eisiau, byddan nhw'n edrych ar faint y byddech chi'n ei gael pe byddech chi'n prynu incwm gwarantedig am oes (blwydd-dal). Byddant hefyd yn edrych ar faint o incwm hyblyg rydych chi'n ei gymryd. Bydd y swm uwch yn cael ei ddefnyddio pan fyddwch chi'n cael eich asesu am fudd-daliadau.
Eich cyfrifoldeb chi yw dweud wrth DWP, Cyllid a Thollau EM neu'ch cyngor lleol os ydych chi neu'ch partner yn cymryd unrhyw arian o'ch cronfa bensiwn.
Os ydych yn gwario neu'n rhoi arian i ffwrdd yn fwriadol (gan gynnwys arian parod di-dreth) o'ch cronfa bensiwn i gael neu gynyddu budd-daliadau, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau neu'ch cyngor lleol yn asesu'ch cymhwysedd eto ac yn eich trin fel un sy'n dal i fod â'r arian hwnnw.
Yn ogystal ag unrhyw incwm neu gyfandaliad a gymerwyd o'ch cronfa bensiwn, gallai eich asedau eraill (fel cynilion a buddsoddiadau) hefyd gyfrif pan fyddwch chi'n cael eich asesu am fudd-daliadau.
Cymhwysedd Credyd Pensiwn ar gyfer cyplau – ceisiadau newydd
Os ydych chi’n gwpl fyddwch chi ddim ond yn gymwys i wneud cais newydd am Gredyd Pensiwn os bydd un o’r rheolau canlynol yn berthnasol i chi:
- Os ydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran cymhwyso Credyd Pensiwn
- Neu, mae un ohonoch wedi cyrraedd oedran cymhwyso Credyd Pensiwn ac yn hawlio Budd-dal Tai i chi fel cwpl.
Darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn gwpl ac nad ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn dan y rheolau hyn, gallwch eich dau ymgeisio am Gredyd Cynhwysol yn ei le.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Taliadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
Newidiadau i’r rheolau Credyd Pensiwn ar gyfer cyplau ers 15 Mai 2019
Os oeddech yn cael Credyd Pensiwn cyn 15 Mai 2019, pan newidiodd y rheolau a bod eich partner dan yr oedran cymwys, byddwch yn dal i dderbyn Credyd Pensiwn cyn belled ag y byddwch yn parhau i fod yn gymwys.
Fodd bynnag, os bydd eich amgylchiadau’n newid (er enghraifft, os yw’ch incwm yn cynyddu) a’ch bod yn colli’ch hawl i Gredyd Pensiwn, ni fyddwch yn gallu dechrau ei gael eto nes eich bod chi a’ch partner yn gymwys dan y rheolau newydd.
Felly hefyd, os ydych chi’n sengl ac yn hawlio Credyd Pensiwn ac rydych nawr yn dechrau byw gyda phartner sydd dan oed cymwys Credyd Pensiwn, byddwch yn colli eich hawl nes bydd eich partner hefyd yn cyrraedd oed cymwys Credyd Pensiwn.
Darganfyddwch fwy am gymhwyster Credyd Pensiwn ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Pryd a sut i wneud cais am Gredyd Pensiwn
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn (p’un ai’n sengl neu fel cwpwl), gallwch wneud cais hyd ar bedwar mis cyn eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu ar gyfer pan eich bod eisiau dechrau ei dderbyn.
Y ffordd gyflymaf yw drwy ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 99 1234.
Byddant yn llenwi’r ffurflen gais i chi.
I wneud cais am Gredyd Pensiwn bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth benodol.
Bydd hyn yn cynnwys:
- manylion eich cyfrif banc
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- tystiolaeth o’ch incwm a’ch cynilion neu fuddsoddiadau.
Gallwch hawlio unrhyw amser ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond dim ond am dri mis y gellir ôl-ddyddio'ch cais. Mae hyn yn golygu y gallwch gael hyd at dri mis o Gredyd Pensiwn yn eich taliad cyntaf os ydych chi'n gymwys yn ystod yr amser hwnnw.
Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau yn newid
Gall y swm o Gredyd Pensiwn a gewch newid os bydd eich incwm, cyfalaf neu amgylchiadau eraill yn newid.
Os ydych chi’n 65 oed neu’n hŷn, efallai eich bod wedi cael gwybod pan gawsoch eich penderfyniad Credyd Pensiwn fod cyfnod incwm a asesir yn berthnasol i chi. Os felly, nid oes rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn am bob newid yn eich amgylchiadau.
Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’r wybodaeth atodol ar daflen o’r enw Credyd Pensiwn: gwybodaeth ychwanegol. Mae hyn yn egluro newidiadau y bydd angen i chi eu hadrodd hyd yn oed o fewn cyfnod o asesu incwm.
Os nad yw cyfnod o asesu incwm yn berthnasol ar eich cyfer chi rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn ynglŷn ag unrhyw newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar y swm o Gredyd Pensiwn a gewch. Er enghraifft, os dechreuwch weithio neu os bydd eich cynilion yn tyfu’n uwch na £10,000.
Byddant wedyn yn gallu ail-gyfrifo faint o Gredyd Pensiwn yr ydych yn gymwys i’w gael a sicrhau eich bod yn derbyn y swm cywir.
A chofiwch ers 15 Mai 2019, os byddwch chi’n dechrau byw gyda phartner sydd dan oedran cymwys am Gredyd Pensiwn, bydd angen i chi adrodd am hyn ac ni fyddwch bellach yn gymwys i hawlio Credyd Pensiwn. Bydd rhaid i chi wneud cais Credyd Cynhwysol nawr yn ei le.
I roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, ffoniwch nhw ar 0800 731 0453 a dewis Opsiwn 1.
Help arall gallwch ei gael os ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn
Os ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn (hyd yn oed os nad ydych yn ei gael ar hyn o bryd), gallwch fel arfer cael budd-daliadau a help ariannol arall.
Gwneud cais am drwydded teledu am ddim
Os ydych chi neu rywun yn eich cartref dros 75 oed ac yn hawlio credyd pensiwn yna gallwch hefyd wneud cais am drwydded teledu am ddim.
I wneud cais am eich trwydded teledu am ddim, ffoniwch Trwyddedu Teledu ar 0300 790 6117 i ofyn am ffurflen gais. Bydd angen i chi ddarparu prawf oedran a’ch bod yn derbyn Credyd Pensiwn.
Os ydych eisoes yn talu am Drwydded Teledu gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein ar tvlicensing.co.ukYn agor mewn ffenestr newydd i wneud cais am un am ddim. Os yn berthnasol, gallwch hefyd cael ad-daliad wedi’i ôl-ddyddio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Talu’ch trwydded teledu
Taliadau costau byw
Os ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn, byddwch hefyd yn derbyn hyd at dri Thaliad Costau Byw yn 2023/24.
Nid yw union ddyddiadau’r taliadau hyn wedi’u rhyddhau eto ond dylech gael:
- £301 rhwng 25 Ebrill 2023 a 17 Mai 2023
- £300 yn hydref 2023
- £299 yng ngwanwyn 2024.
Ni fydd y taliad yn cyfrif tuag at y cap ar fudd-daliadau ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau presennol a gewch.
Darganfyddwch fwy am y taliad costau byw ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Taliad Tanwydd Gaeaf i bensiynwyr
Os bydd eich cartref yn gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf yn ystod gaeaf 2023/24 2, byddwch hefyd yn derbyn taliad bonws untro o £150 neu £300 o fis Tachwedd 2023.
Bydd yn cael ei dalu’n awtomatig fel ychwanegiad at eich Taliad Tanwydd Gaeaf.
Darganfyddwch fwy am y Taliad Tanwydd Gaeaf a help ynni arall yn ein canllaw Budd-daliadau mewn ymddeoliad
Help gyda thaliadau rent a morgais
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth efallai byddwch yn gymwys am Fudd-dal Tai i’ch helpu gyda thaliadau rent.
Darganfyddwch fwy am pa fudd-dal tai fyddwch yn cael a sut i wneud cais ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn berchen ar eich cartref efallai gallwch wneud cais am Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI).
Benthyciad o’r llywodraeth yw hwn i’ch helpu talu’r llog sydd ar eich taliadau morgais.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais
Help gyda gofal deintyddol a sbectol GIG
Os ydych yn cael yr elfen gwarantiedig o Gredyd Pensiwn efallai gallwch hefyd gael gofal deintyddol GIG a help arall am ddim.
Gostyngiadau treth cyngor
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Lloegr efallai gallwch gael gostyngiad ar eich treth cyngor.
Help gyda chostau rhyngrwyd
Mae rhai darparwyr yn cynnig cynlluniau cost isel i’ch helpu i wneud galwadau ffôn symudol neu i fynd ar-lein os ydych yn cael Credyd Pensiwn.
Darganfyddwch beth sydd ar gael yn ein canllaw Help os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ffôn symudol, teledu neu fand eang
Gwiriwch am bensiynau coll
Mae amcangyfrif o £19biliwn yn eistedd mewn cronfeydd pensiwn coll. Mae gwirio os oes gennych unrhyw bensiynau coll o swyddi blaenorol am ddim.