Os oeddech yn cael Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ac wedi cael eich ail-asesu am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), efallai y bydd eich dyfarniad Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn llai nag yr oeddech yn ei gael ar DLA neu efallai ei fod wedi stopio’n gyfan gwbl. Darganfyddwch sut i herio eich penderfyniad PIP, a chael dau ben llinyn ynghyd yn y tymor byr.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Pryd mae DLA yn dod i ben?
- Os credwch fod y penderfyniad i leihau neu stopio talu PIP yn neu ADP anghywir
- Help os yw eich dyfarniad PIP o ADP yn llai nag oeddech yn ei gael ar DLA
- Help os oes gennych wariant argyfwng
- Gwiriwch eich bod yn cael y budd-daliadau a’r hawliau cywir
- Gweld os gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor
- Pecyn Motability Trosiannol
- Cynyddu eich incwm
- Cynilo arian
- Benthyca arian
- Os ydych yn poeni am ddyledion, mynnwch gyngor
Pryd mae DLA yn dod i ben?
Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Taliad Anabledd Oedolyn (ADP) yn yr Alban yn cymryd lle Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer pobl sydd dros 16 ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn cael DLA a bod dyddiad terfyn i’ch hawliad, gofynnir i chi wneud cais am PIP neu ADP cyn i’ch DLA ddod i ben.
Os ydych yn cael DLA ac nid oes dyddiad terfyn ar eich hawliad, efallai y gofynnir i chi hawlio PIP ar unrhyw adeg.
Mae PIP a DLA yn cael eu disodli gan Daliad Anabledd i Oedolion (ADP) yn yr Alban. Darganfyddwch fwy am ADP a pryd bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn eich ardal chi yn mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os credwch fod y penderfyniad i leihau neu stopio talu PIP yn neu ADP anghywir
Pwysig
Sicrhewch eich bod yn darllen y nodiadau am sut i anghytuno â phenderfyniad cyn gofyn am ailystyriaeth orfodol. Dysgwch ragor ar wefan GOV.UK
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar fudd-dal cewch ofyn i’r penderfyniad gael ei ystyried unwaith eto. Gelwir hyn yn ailystyriaeth orfodol.
Mae rhaid i chi ofyn am yr ailystyriaeth o fewn un mis calendr i ddyddiad y llythyr penderfynu drwy:
- ffonio'r rhif ar y llythyr penderfyniad, neu
- bostio’r ffurflen CRMR1 ar ôl i chi ei chwblhau.
Eglurwch pam credwch fod y penderfyniad yn anghywir ac anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ychwanegol sydd gennych os credwch y bydd hynny’n cryfhau eich achos.
Pan fydd DWP wedi edrych ar eich penderfyniad unwaith eto, byddant yn anfon dau gopi o ddogfen o’r enw hysbysiad ailystyriaeth orfodol atoch, Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr ailystyriaeth.
Lawrlwythwch y ffurflen CRMR1 a’r nodiadau ynghylch sut i anghytuno â phenderfyniad ar wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am ofyn am ailystyriaeth orfodol ar wefan Cyngor ar Bopeth
Sut i apelio
Gallwch ddim ond apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau anabledd pan fyddwch wedi cael hysbysiad ailystyriaeth orfodol.
I apelio, mae rhaid i chi anfon y canlynol i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen):
- Copi o hysbysiad yr ailystyriaeth orfodol
- Ffurflen SSCI – gallwch ei lawrlwytho o wefan GOV.UK
Darganfyddwch fwy am apelio yn dilyn ailystyriaeth ar wefan Cyngor ar Bopeth
Help os yw eich dyfarniad PIP o ADP yn llai nag oeddech yn ei gael ar DLA
Os yw eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio, bydd y DWP yn parhau i dalu eich Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) presennol am o leiaf bedair wythnos i roi cymorth cyfyngedig ychwanegol i chi.
Mae hyn i roi cymorth i chi baratoi ar gyfer ymdopi gyda llai o arian.
Bydd angen i chi gyfrifo a fydd hi’n bosib i chi arbed arian neu gynyddu’ch incwm cyn gynted â phosib.
Help os oes gennych wariant argyfwng
Efallai y bydd ychydig o gymorth ar gael os bydd angen i chi ddod o hyd i arian yn gyflym ar gyfer argyfwng neu wariant annisgwyl.
Cynlluniau lles lleol
Os ydych yn wynebu argyfwng annisgwyl a’ch bod ar incwm isel iawn neu’n cael budd-daliadau eraill, efallai y gallech ofyn i’ch cynllun lles lleol am dalebau i dalu am bethau hanfodol fel:
- bwyd
- dillad
- tanwydd
- eitemau’r cartref, fel popty neu oergell.
Mae pob gwlad yn y DU yn cynnal ei gynllun ei hun. I ddarganfod beth sydd ar gael yn eich ardal, cysylltwch yn uniongyrchol â’ch cyngor lleol.
Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Benthyciadau Trefnu a Thaliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw
Os ydych wedi bod yn cael rhai budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm am o leiaf 26 wythnos efallai y byddwch yn gallu ymgeisio am Fenthyciad Trefnu i dalu am gost argyfwng.
Gallai budd-daliadau sy'n seiliedig ar incwm gynnwys:
- Credyd Pensiwn
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm.
Bydd rhaid i chi ad-dalu’r swm a fenthyciwch cyn pen dwy flynedd.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn lle. Fel arfer bydd gennych hyd at 24 mis i dalu'r benthyciad yn ôl.
Darganfyddwch fwy am Fenthyciadau Trefnu ar wefan GOV.UK neu yn ein canllaw Taliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol a help arall
Gwiriwch eich bod yn cael y budd-daliadau a’r hawliau cywir
Os yw eich incwm wedi gostwng, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio.
Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol hefyd gyflawni gwiriad budd-daliadau llawn i sicrhau eich bod yn cael popeth mae gennych hawl iddo.
Dewch o hyd i’ch cangen agosaf ar wefan Cyngor ar Bopeth
Gallai fod yn werth gwirio a ydych yn gymwys i gael cymorth a grantiau elusennol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Gweld os gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor
Gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor os ydych chi’n anabl, ac angen byw mewn cartref mwy nag y byddai ei angen arnoch fel arall. Os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref, neu os mai dim ond gofalwr sy’n byw gyda chi sy’n rhannu’r tŷ gyda chi, gallech gael 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor.
Os ydych yn byw ar eich pen eich hun ac wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol neu'n byw gydag eraill sydd â'r cyflwr yma, efallai y byddwch yn gymwys am ostyngiad o 100% ar eich Treth Cyngor.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
Pecyn Motability Trosiannol
Os gwnaethoch ymuno â chynllun Motability cyn mis Ionawr 2014 ond nid ydych yn gymwys bellach dan PIP neu ADP, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad unwaith am byth o £2,000.
Mae hyn yn rhan o becyn trosiannol i’ch helpu i barhau i fodloni’ch anghenion symudedd drwy brynu car ail-law.
Os gwnaethoch ymuno â chynllun Motability o 1 Ionawr 2014 ymlaen, efallai y byddwch yn gymwys i gael taliad unwaith am byth o £1,000.
Am fwy o wybodaeth am sut y bydd y trefniadau trosiannol yn gweithio, gwelwch wefan Motability
Cynyddu eich incwm
Os hoffech gael cymorth i ddod o hyd i waith neu baratoi ar ei gyfer – mae sefydliadau a all roi’r cymorth a allech fod ei angen os oes gennych anabledd neu anhawster dysgu.
I ddysgu mwy am gymorth a chyngor i’ch cael yn ôl yn y gwaith, lawrlwythwch y daflen ffeithiau am ddim ‘Gyrfaoedd a gwaith i bobl anabl’ ar wefan Disability Rights UK
Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd neu iechyd meddwl, efallai bydd cynllun y llywodraeth, Mynediad at Waith, yn gallu eich helpu gyda’r gost o gael gwaith ac aros mewn gwaith.
Darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UK
Cynllun rhentu ystafell
Os oes gennych ystafell sbâr yn eich cartref, mae’r £7,500 y flwyddyn cyntaf a gewch wrth ei osod yn ddi-dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynllun Rhentu ystafell – sut mae’n gweithio a’r rheolau treth
Cynilo arian
Ceisiwch, os y gallwch, gynilo ychydig o arian er mwyn rhoi rhywfaint wrth gefn os bydd gennych wariant argyfwng yn y dyfodol neu i’ch helpu i dalu am bethau fel anrhegion Nadolig neu ben-blwydd.
I gael rhagor o awgrymiadau ar gynilo, gweler ein canllaw Sut i ddechrau cynilo
Benthyca arian
Os ydych yn ymdopi â gostyngiad sydyn mewn incwm, gall fod yn demtasiwn i fenthyca arian.
Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau y gallwch dalu’r arian yn ôl neu gallech fynd i ddyled.
Os ydych yn benthyg arian i dalu dyledion, neu i dalu biliau allweddol y cartref neu rent, mae’n bwysig cael cyngor ar ddyledion am ddim. Bydd hyn yn eich helpu i ddysgu sut gallwch ddod yn ôl ar y llwybr iawn.
Am ragor o ffyrdd i fenthyca arian, darllenwch ein canllaw Hanfodion benthyca a chredyd
I ddarganfod mwy am fenthyca, gweler ein canllaw Oes angen i chi fenthyca arian?
Os ydych yn poeni am ddyledion, mynnwch gyngor
Os ydych yn cael trafferth gyda dyled ac yn ei chael hi'n anodd rheoli pethau ar ben eich hun, y peth olaf efallai yr hoffech ei wneud yw siarad â dieithryn am eich problemau.
Ond gall fod y peth gorau y gallwch ei wneud, yn enwedig os ydych yn ystyried defnyddio dull ad-dalu dyled ffurfiol, fel cynllun ad-dalu dyled neu fethdaliad. Mae hi bob amser yn well trafod pethau gydag ymgynghorydd profiadol cyn i chi wneud penderfyniad.
Mae hyn oherwydd bod llawer o ffyrdd i ddelio â dyledion ac efallai na fyddech yn ymwybodol o'r holl opsiynau sydd ar gael i chi. Bydd y ffordd sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
Gall ymgynghorydd dyled am ddim eich helpu penderfynu pa opsiwn sy'n gywir i chi. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai hyn gymryd ond un sgwrs.
Bydd cynghorydd dyledion:
- yn trin popeth a ddywedwch yn gyfrinachol
- fyth yn eich barnu na’n gwneud i chi deimlo’n wael am eich sefyllfa
- yn awgrymu ffyrdd i ddelio â dyledion efallai nad oeddech yn ymwybodol ohonynt
- yn gwirio eich bod wedi ymgeisio am yr holl fudd-daliadau a’r hawliadau sydd ar gael i chi.