Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Gwneud yn siŵr eich bod yn gallu fforddio benthyca

Mae angen i'r rhan fwyaf ohonom fenthyca arian ar ryw adeg yn ein bywydau. Gall defnyddio'r math cywir o gredyd yn y ffordd orau eich helpu i ddelio â chostau annisgwyl, fel prynu oergell neu beiriant golchi newydd. Darganfyddwch beth i'w ystyried yn gyntaf, i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

Penderfynu a ddylid benthyca arian

Mae rhai cwestiynau pwysig y mae angen i chi eu gofyn i'ch hun cyn i chi fenthyca arian. Er enghraifft, a allwch chi aros nes bod gennych chi ddigon o arian i osgoi benthyca? Ac allech chi fforddio ei dalu'n ôl pe byddech chi'n benthyca'r arian?

Os ydych yn cael trafferthion ariannol, yn gyntaf gwnewch yn siŵr eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt ac a oes grantiau neu ad-daliadau y gallech fod yn gymwys i'w cael.  

Hefyd, edrychwch a oes ffyrdd eraill i ostwng eich costau, er enghraifft trwy newid darparwr ynni, ffôn neu rhyngrwyd.

Os ydych yn tueddu i fod yn fyrbwyll wrth brynu pethau, ceisiwch roi cyfnod callio i chi'ch hun o leiaf ddau ddiwrnod. Pan fyddwch wedi cael cyfle i feddwl am y peth, efallai y byddwch yn newid eich meddwl.

Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw

Os ydych yn penderfynu i fenthyca arian

Os ydych yn bendant eisiau, neu angen benthyca arian, dyma rai pethau i'w hystyried.

Faint allwch chi fforddio ei ad-dalu?

Mae'n bwysig cyfrifo faint y gallwch fforddio ei ad-dalu bob mis, gan y bydd hyn yn effeithio ar ba opsiwn benthyca sydd orau i chi.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn realistig ynghylch faint y gallech ei dalu pe bai'ch morgais, er enghraifft, neu rent yn codi, yn gorfod gwario mwy ar bethau fel biliau ynni, neu os cafodd eich cyflog ei ostwng.

Dewis y math cywir o gredyd

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dewis y math cywir o gredyd neu fenthyciad ar gyfer eich sefyllfa. Neu gallech fod yn talu mwy nag sydd ei angen arnoch.

Pan fyddwch wedi cyfrifo pa fath o gredyd sy'n addas i chi, edrychwch o gwmpas a chymharwch gytundebau. Mae'n bwysig edrych ar:

  • faint fyddwch chi'n ei ad-dalu yn gyfan gwbl
  • unrhyw gosbau am daliadau hwyr neu a fethwyd, neu ffioedd os byddwch yn eu talu'n ôl yn gynnar
  • cost yr wythnos neu'r mis, ac a allai hyn amrywio.

Dysgwch fwy am gostau benthyca, gan gynnwys gweithio allan gynllun ad-dalu a phenderfynu faint i'w fenthyca, yn ein hadran Rheoli Credyd yn dda

Byddwch yn wyliadwrus o gredyd cost uchel

Os oes gennych sgôr credyd gwael, efallai y cewch eich temtio i ddefnyddio cwmni benthyciad diwrnod cyflog. Cyn cofrestru ar gyfer benthyciad diwrnod cyflog neu unrhyw fath arall o fenthyca cost uchel, gwnewch yn siŵr eich bod wedi archwilio'r holl ddewisiadau eraill posibl.

 

 

Isafswm taliadau

Yr isafswm taliad yw'r swm isaf y mae'n rhaid i chi ei dalu bob mis er mwyn osgoi cosb.

Mae swm yr isafswm taliad fel arfer yn seiliedig ar ganran o'r hyn sy'n ddyledus gennych, felly mae'n gostwng bob mis wrth i'ch balans leihau.

Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych os mai dim ond isafswm taliadau y byddwch yn eu talu, a bydd yn costio mwy i chi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.