Mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn fenthycwyr anghyfreithlon sy'n aml yn targedu pobl sydd angen arian ar frys ac na allant wneud hyn yn gyfreithiol. Gallant hefyd godi cyfraddau llog uchel iawn a dylent gael eu hosgoi – hyd yn oed os ydych yn teimlo fel nad oes gennych ddewis arall.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Rhesymau dros osgoi darparwyr benthyciadau didrwydded
Efallai y bydd darparwyr benthyciadau didrwydded yn ymddangos yn gyfeillgar. Ac os byddwch yn parhau i wneud eich ad-daliadau, efallai y byddant yn aros felly.
Ond bydd benthyg ganddynt yn parhau i fod yn ddrud.
Mae llawer o beryglon wrth fenthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded, er enghraifft:
byddwch yn talu llawer mwy o log nag y byddech yn ei dalu trwy ddulliau benthyca cyfreithlon
efallai y cewch eich aflonyddu neu eich bygwth pe byddech yn methu’ch ad-daliadau
efallai y cewch eich rhoi dan bwysau i fenthyca un benthyciad ar ôl y llall, gan wynebu dyled diddiwedd na allwch ei had-dalu.
Arwyddion bod rhywun sydd wedi cynnig arian i chi’n ddarparwr benthyciadau didrwydded
Mae’n bwysig osgoi benthyg gan bobl nad ydych yn eu hadnabod yn dda, fel cydweithwyr, adnabyddiaeth achlysurol, ffrind i ffrind, neu bobl rydych yn eu hadnabod yn eich cymuned leol neu grŵp ffydd. Mae hyn oherwydd y gallent fod yn ddarparwr benthyciadau didrwydded.
Dyma rai o'r arwyddion i gadw golwg amdanynt os ydych yn meddwl y gallech fod yn benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded:
Dim gwaith papur - mae gwaith papur yn gwneud i rywbeth ymddangos yn fwy cyfreithlon, ac mae benthycwyr arian didrwydded yn ei osgoi.
Benthyciadau arian parod neu drosglwyddiadau banc – er bod mwy o ddarparwyr benthyciadau didrwydded nawr yn defnyddio trosglwyddiadau banc, fel arfer mae’n well ganddynt arian parod.
Gwrthod rhoi gwybodaeth i chi am y benthyciad - bydd y mwyafrif o ddarparwyr benthyciadau didrwydded yn osgoi rhoi manylion clir i chi am eich benthyciad, fel y gyfradd llog, manylion ad-daliadau blaenorol a'r cyfanswm sy'n ddyledus gennych.
Cymryd eiddo fel sicrwydd - bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn cymryd eiddo personol fel sicrwydd, fel pasbort neu gardiau banc.
Mae eich benthyciad yn cynyddu - gallai darparwyr benthyciadau didrwydded gynyddu'r ddyled neu ychwanegu taliadau ychwanegol ar unrhyw adeg, hyd yn oed os ydych yn gwneud taliadau rheolaidd.
Bygythiadau trais - mae darparwyr benthyciadau didrwydded yn aml yn defnyddio braw a bygythiadau i ddychryn pobl i dalu eu harian yn ôl.
Maent yn benthyca i fwy nag un person – os yw’n rhywun rydych yn ei adnabod ac rydych yn ymwybodol ei fod wedi cynnig i fenthyca arian i bobl eraill hefyd.
Os ydych wedi benthyca gan ddarparwr benthyciadau didrwydded yn barod, nid ydych wedi torri’r gyfraith ac mae help ar gael. Darganfyddwch fwy ar wefan Stop Loan SharksYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i wirio bod darparwr benthyciadau yn un dilys
Rhaid i unrhyw un sy’n benthyca arian gael eu hawdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Os nad yw darparwr wedi’i restru fel un sydd ag awdurdod i fenthyca arian i rywun, peidiwch â benthyca ganddo a pheidiwch â gadael iddo ddod i mewn i’ch cartref.
Darparwyr benthyciadau didrwydded a’r gyfraith
Mae unrhyw fenthyciwr, awdurdodedig neu ddidrwydded, sy’n eich aflonyddu yn torri’r gyfraith.
Bydd rhai darparwyr benthyciadau didrwydded yn eich bygwth trwy ddweud y byddwch yn cael eich erlyn, ac yn cael eich anfon i’r carchar hyd yn oed, os na fyddwch yn talu. Ni all hyn ddigwydd.
Nid oes gan fenthyciwr anawdurdodedig fel darparwr benthyciadau didrwydded yr hawl cyfreithiol i wneud i chi ad-dalu’r benthyciad o gwbl. Mae hyn oherwydd bod y benthyciad yn anghyfreithlon.
Os oes rhywun rydych chi'n meddwl sy'n ddarparwr benthyciadau didrwydded wedi cysylltu â chi, cysylltwch â'r heddlu. Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol.
Ni fydd darparwyr benthyciadau didrwydded byth yn rhoi'r gorau i fynd ar eich ôl am arian, felly mae'n bwysig eich bod yn gweithredu cyn gynted ag sy’n bosibl. Bydd unrhyw beth rydych yn ei ddweud wrth yr heddlu'n gyfrinachol a gallwch aros yn ddienw.
Adrodd ar ddarparwr benthyciadau didrwydded
Os ydych wedi darganfod bod benthyciwr yn ddarparwr benthyciadau didrwydded, gallwch roi gwybod amdanynt yn ddienw. Gallwch naill ai ffonio neu adrodd ar-lein os oes gwell gennych beidio siarad â rhywun.
Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch adrodd i'r tîm Stop Loan Sharks trwy ffonio 0300 555 2222 neu ewch i Stop Loan Sharks.
Os ydych yn byw yn yr Alban ffoniwch Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon yr Alban ar 0800 074 0878 neu ewch i Safonau Masnach yr Alban.
Os ydych yn byw yng Nghymru, ffoniwch Uned Benthyg Arian Anghyfreithlon Cymru ar 0300 1234 3311 neu ewch i’w gwefan.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch Linell Defnyddwyr Safonau Masnach ar 0300 123 6262 neu ewch i nidirect.
Opsiynau eraill heblaw darparwr benthyciadau didrwydded
Os yw’ch incwm yn isel, a’ch statws credyd yn wael, neu os mai dim ond swm bach o arian sydd ei angen arnoch am gyfnod byr, mae darparwyr dibynadwy ar gael ar eich cyfer yn hytrach na darparwyr benthyciadau didrwydded.
Darganfyddwch fwy yn ein Canllaw syml i gardiau credyd.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch ffynonellau incwm chefnogaeth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw.
Help gan y llywodraeth
Os ydych chi’n brin o arian, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych yr hawl i’w cael. Os ydych chi eisoes yn hawlio budd-daliadau, efallai y bydd gennych hawl i Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu.