Os ydych wedi cael eich gwrthod am gredyd, fel gorddrafft, mae'n bwysig darganfod pam, oherwydd efallai y gallwch wneud rhai newidiadau. Darganfyddwch sut i wella'ch sefyllfa ariannol, o gynllunio cyllideb i wella'ch cyfle o fenthyca.
Darganfyddwch pam gwrthodwyd credyd i chi
Mae'n debyg na fydd benthycwyr yn dweud wrthych pam gwrthodwyd credyd i chi. Er nad oes rhaid iddynt roi rheswm i chi, dylent ddweud wrthych pa asiantaeth gwirio credyd a ddefnyddiwyd ganddynt i asesu eich cais. Yna gallwch ofyn iddynt am gopi o'ch adroddiad credyd am ddim.
Mae llawer o resymau pam y gallai eich cais fod wedi cael ei wrthod. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Hanes taliadau a fethwyd neu weithgaredd twyllodrus posibl ar eich ffeil
- y benthyciwr yn penderfynu na fyddech yn gallu ad-dalu
- peidio â bodloni telerau ac amodau penodol darparwr, fel isafswm lefel incwm, neu gamgymeriad ar eich adroddiad credyd – fel teipo yn eich cyfeiriad neu fanylion eraill.
Beth i'w wneud os gwrthodwyd credyd i chi
Mae'r camau nesaf yn dibynnu ar y rhesymau pam y cawsoch eich gwrthod.
Problemau gyda'ch ffeil credyd
Gallai gwella eich sgôr credyd gynyddu eich cyfle o allu benthyg yn y dyfodol. Gallwch hefyd ddatrys unrhyw gamgymeriadau a welwch ar eich adroddiad credyd. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wella eich sgôr credyd.
Methu pasio gwiriadau fforddiadwyedd
Gallai cael eich gwrthod am gredyd fod yn gyfle da i chi feddwl am eich sefyllfa arian bresennol a ffyrdd o fyw ar gyllideb. Bydd hyn yn eich helpu i gael eich cyllid yn ôl ar y trywydd iawn ar gyfer pan fyddwch yn gwneud cais am gredyd nesaf.
Os ydych yn ceisio benthyg i dalu biliau neu gostau byw eraill, gwiriwch a allwch leihau neu gwtogi ar y costau hyn. Er enghraifft, meddyliwch sut y gallech geisio lleihau maint eich gorddrafft neu gynyddu eich ad-daliadau cerdyn credyd er mwyn osgoi talu cymaint o log. Efallai y byddwch hefyd yn gallu newid i gytundeb gwell gyda darparwr arall.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw.
Taliadau a fethwyd yn ddiweddar
Os ydych wedi methu taliadau ar wariant hanfodol (fel rhent, morgais, Treth Cyngor, biliau ynni neu ddŵr), cardiau credyd neu fenthyciadau, cysylltwch â gwasanaeth cyngor ar ddyledion am ddim cyn gynted ag y gallwch. Byddant yn eich helpu i gyfrifo pa ddyledion y dylech eu had-dalu yn gyntaf i'ch atal rhag mynd i drafferthion ariannol.
Mae gan Experian fwy o ganllawiau ar beth i'w wneud nesaf ar ôl cael eich gwrthod am gredydYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych wedi dioddef twyll credyd
Pan fyddwch chi'n gwirio'ch adroddiad credyd, edrychwch am Hysbysiad Dioddefwr Dynwarediad CifasYn agor mewn ffenestr newydd Mae nodyn Cifas yn rhybuddio benthycwyr eich bod wedi, neu yn agored i, ddioddef twyll. Bydd y nodyn yn aros ar eich ffeil am 13 mis.
Nid yw hyn yn effeithio ar eich sgôr credyd ac ni ddylai eich atal rhag cymryd credyd, ond gallai achosi problemau neu oedi os ydych yn gwneud cais am gredyd sy'n cael ei brosesu'n awtomatig fel Prynu Nawr Talu Wedyn. Mae hyn oherwydd y byddai'n rhaid i fenthyciwr gynnal 'adolygiad â llaw' o'ch ffeil i ddeall pam mae'r nodyn wedi'i ychwanegu.
Os hoffech i fenthycwyr wneud gwiriadau ychwanegol bob tro y byddwch yn gwneud cais am gredyd, gallwch dalu am Gofrestriad Diogelu CifasYn agor mewn ffenestr newydd
Byddwch yn ofalus cyn gwneud cais eto
Beth bynnag yw eich rheswm dros fenthyca, mae'n bwysig meddwl yn ofalus cyn gwneud cais eto. Mae hyn oherwydd bod y rhan fwyaf o geisiadau credyd yn ymddangos ar eich adroddiad credyd.
Gallai nifer o geisiadau a wrthodwyd mewn cyfnod byr niweidio'ch sgôr credyd hyd yn oed yn fwy. Mae hyn yn debygol o'i gwneud hi'n anoddach benthyca ac effeithio ar y cyfraddau llog a godir arnoch os ydych yn cael credyd. Er mwyn osgoi gwneud gormod o geisiadau, defnyddiwch wirwyr cymhwysedd i weld pa mor debygol ydych chi o gael eich derbyn gyntaf. Mae'r rhain yn defnyddio 'gwiriadau meddal', nad ydynt yn effeithio ar eich sgôr credyd. Mae gan MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd, Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd a ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd wirwyr cymhwysedd y gallwch eu defnyddio.
Os oes angen yr arian arnoch nawr, efallai y bydd ffyrdd eraill o fenthyca, megis undebau credyd, cynlluniau ymlaen llaw cyflog cyflogwr neu Sefydliadau Cyllid Datblygiad Cymunedol. Ond mae'n bwysig osgoi cael eich temtio i gymryd credyd cost uchel y gallech ei gael, ond byddwch yn ei chael hi'n anodd ei fforddio, fel benthyciadau diwrnod cyflog.
Byddwch yn wyliadwrus o fenthycwyr arian didrwydded
Mae benthycwyr arian didrwydded yn targedu pobl sy'n ei chael hi'n anodd benthyg arian gan fenthycwyr sy’n cael eu rheoleiddio. Darganfyddwch pam ei bod yn bwysig osgoi'r math hwn o fenthyca anghyfreithlon yn ein canllaw benthycwyr arian didrwydded a sut i'w hadnabod.
Darganfyddwch fwy am ba fathau eraill o gredyd mwy fforddiadwy sydd ar gael a sut i osgoi opsiynau cost uchel yn ein canllaw Beth sydd angen ichi ei wybod am fenthyciadau tymor byr, neu ddiwrnod cyflog.
Sut i ddelio â phroblemau ariannol pan fydd gennych iechyd meddwl gwael
Gall iechyd meddwl gwael effeithio ar y ffordd rydych chi'n delio ag arian, a gall teimlo'n isel ei gwneud hi'n anoddach delio â phroblemau ariannol. Ond byddwch yn ymwybodol bod sawl ffordd o gael help - gyda'ch sefyllfa ariannol a'ch iechyd meddwl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliol.