Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fudd-dal sy’n helpu pobl pobl 16 oed a throsodd â chostau ychwanegol cyflwr iechyd neu anabledd hirdymor. Yn raddol mae’n disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl (DLA). Mae’n bwysig gwybod sut i wneud cais amdano, sut effeithir arnoch os ydych eisoes yn cael DLA a faint gallech ei gael.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw Taliad Annibyniaeth Personol?
PIP yn helpu tuag at gostau ychwanegol cyflyrau iechyd neu anabledd hirdymor ar gyfer pobl 16 oed a throsodd.
Mae’n fudd-dal nad yw’n seiliedig ar brawf modd. Felly nid oes gwahaniaeth faint rydych yn ei ennill, neu os oes gennych gynilion neu gyfalaf.
Yn Yr Alban mae PIP wedi cael ei disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP). Os ydych eisoes yn hawlio PIP neu DLA yn Yr Alban, bydd Social Security Scotland yn cysylltu â chi am symud i ADP o haf 2022. Ni allwch hawlio ADP a PIP neu DLA ar yr un pryd. Gallwch wirio eich cymhwysedd am ADP ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Os oes angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Pwy all gael PIP neu ADP?
I gael PIP neu'r Taliad Anabledd Oedolion, mae rhaid:
- Bod angen help arnoch gyda thasgau bywyd bob dydd neu symud o gwmpas, neu’r ddau
- Eich bod wedi angen yr help hwn am o leiaf tri mis ac yn disgwyl y byddwch ei angen am o leiaf naw mis arall. Oni bai eich bod yn derfynol wael gyda llai na chwe mis i fyw. Gallwch ddechrau eich cais o fewn y tri mis cyntaf o fod angen cymorth ond ni fydd eich hawl i PIP yn dechrau nes bod y cyfnod o dri mis wedi dod i ben.
PIP ac ADP pan fyddwch wedi cyrraedd oed pensiwn
Ni fydd eich taliad yn cael ei adolygu mwyach pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Yn lle, cewch daliad parhaus ac adolygiad cyffyrddiad ysgafn ar ôl deng mlynedd.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni allwch wneud cais newydd am PIP ac ADP. Yn lle, bydd rhaid i chi wneud cais am Lwfans Gweini. Darganfyddwch fwy am Lwfans Gweini ar wefan Turn2us
Mae PIP a DLA yn cael eu disodli gan y Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn yr Alban
Bydd y Taliad Anabledd Oedolion (ADP) yn disodli PIP a Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion yn yr Alban mewn cyfnod cyflwyno sy’n dechrau ar 21 Mawrth 2022.
Bydd ADP yn cael ei dalu gan Nawdd Cymdeithasol yr Alban yn lle’r DWP, a gallech gael rhwng £24.45 a £156.90 yr wythnos yn dibynnu ar sut mae eich cyflwr iechyd yn effeithio arnoch.
Os ydych eisoes yn hawlio PIP neu DLA, bydd Nawdd Cymdeithasol yr Alban yn cysylltu â chi ynglŷn â symud i ADP o haf 2022.
Os bydd angen i chi wneud cais am PIP neu DLA ar ôl i’r cyflwyniad gyrraedd eich ardal, bydd yn rhaid i chi wneud cais newydd am ADP yn lle pan fydd y cyflwyniad yn cyrraedd eich ardal. Bwriedir dechrau yn Ninas Dundee, Perth a Kinross ac Ynysoedd y Gorllewin ar 21 Mawrth 2022 a chael ei gyflwyno i’r Alban gyfan erbyn 29 Awst 2022.
Plant o dan 16 oed
Yn yr Alban
O dan reolau newydd a gyflwynwyd gan lywodraeth yr Alban, bydd pobl ifanc yn parhau i hawlio Lwfans Byw i’r Anabl i blant hyd nes iddynt gyrraedd 18 oed cyhyd â'u bod yn gymwys.
Ni allwch wneud cais am ADP ar gyfer plant dan 16 oed.
Yn hytrach, gallwch barhau i hawlio Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer plentyn dan 16 oed sy’n cael anhawster cerdded neu sydd angen mwy o ofal na phlentyn o’r un oed nad yw’n anabl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
Darganfyddwch fwy am Lwfans Byw i'r Anabl i blant yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cyfraddau PIP ac ADP
Mae Taliad Annibyniaeth Personol a'r Taliad Anabledd Oedolion yn seiliedig ar lefel yr help sydd ei angen arnoch oherwydd sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi a’ch gallu i wneud rhai gweithgareddau penodol.
Mae'n cynnwys dwy elfen:
Efallai y bydd yr elfen Symudedd yn cael ei thalu os oes angen help arnoch i fynd o gwmpas. Mae hyn yn cynnwys symud o gwmpas yn gorfforol a gadael eich cartref. Cyfeirir ato hefyd fel y lwfans symudedd.
Efallai y bydd yr elfen bywyd bob dydd yn cael ei thalu os oes angen help arnoch i wneud gweithgareddau bob dydd, fel:
- paratoi a choginio bwyd
- bwyta ac yfed
- rheoli eich triniaethau
- golchi ac ymolchi
- rheoli anghenion toiled neu anymataliaeth
- gwisgo a dadwisgo
- cyfathrebu â phobl eraill
- darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig
- cymysgu ag eraill
- gwneud penderfyniadau am arian
- cynllunio taith neu ddilyn llwybr.
Gellir talu pob elfen naill ai ar gyfradd safonol neu uwch.
Yn dibynnu ar sut mae'ch cyflwr yn effeithio arnoch chi, mae'n bosibl cael un elfen neu'r ddwy, a naill ai'r gyfradd safonol neu'r uwch.
Mae hyn yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio canlyniadau asesiad.
- | Cyfradd wythnosol safonol (2023/24) | Cyfradd wythnosol uwch (2023/24) |
---|---|---|
Yr elfen symudedd |
£26.90 |
£71.00 |
Yr elfen bywyd bob dydd |
£68.10 |
£101.75 |
Sut i wneud cais am PIP ac ADP
Gallwch wneud PIP cais dros y ffôn drwy ffonio’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar 0800 917 2222. Am ffyrdd eraill o wneud cais am PIP ewch i GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0800 012 1573 neu ewch i wefan nidirect i gael gwybod mwy a gwneud cais
Yna byddant yn gwirio eich bod yn gymwys i wneud cais. Os byddwch yn gymwys, bydd y DWP yn anfon ffurflen atoch sef ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
Mae’n bwysig iawn eich bod yn cwblhau’r ffurflen hon yn ofalus a rhoi cymaint o fanylion â phosibl am eich cyflwr.
I gael help i lenwi'ch ffurflen gais PIP, ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Pan fydd y DWP yn cael eich ffurflen byddant yn penderfynu a ydych angen asesiad meddygol. Neu gallent benderfynu gofyn i’ch gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn Yr Alban ac mae angen i chi wneud cais newydd am ADP, gallwch ddarganfod sut i wneud cais ar-lein neu dros y ffôn ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Asesiadau
Mae coronafeirws yn effeithio ar sut mae asesiadau’n cael eu cynnal. Mae ymgynghoriadau wyneb yn wyneb wedi cael eu stopio dros dro.
Yn hytrach, cynhelir eich asesiad dros y ffôn, ffôn testun neu bost. Os bydd angen rhagor o wybodaeth yna efallai y gellir cysylltu â’ch meddyg teulu.
Os ydych angen asesiad, mae hyn fel arfer wyneb yn wyneb gyda gweithiwr iechyd proffesiynol, annibynnol, hyfforddedig.
Cynllunir yr asesiad i ganfod beth yw’ch anghenion unigol.
Bydd yn canolbwyntio ar pa mor dda allwch wneud amrywiaeth o weithgareddau sy’n angenrheidiol i ymdopi gyda bywyd bob dydd.
Methiant i fynychu eich asesiad
Byddwch yn derbyn llythyr yn eich gwahodd i'ch asesiad sy'n ei gwneud yn glir os na fyddwch yn mynychu eich asesiad ffôn bydd eich cais PIP yn cael ei ‘wrthod’.
Os yw eich cais yn cael ei ‘wrthod’ bydd angen i chi naill ai ddilyn y broses apelio (gwelwch fwy ar hyn isod) neu gychwyn cais newydd. Ar ôl eich asesiad, cewch lythyr gyda phenderfyniad ynghylch a allwch gael PIP a faint fydd hynny.
Os ydych yn cael PIP, bydd eich dyfarniad yn cael ei ailasesu'n rheolaidd i weld a yw'ch cyflwr wedi newid.
I ddarganfod mwy am y meini prawf asesiad ar gyfer PIP ewch i GOV.UK
Os ydych eisoes yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl
Os ydych eisoes yn cael Lwfans Byw i'r Anabl (DLA), byddwch yn cael llythyr gan DWP yn eich gwahodd i wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd yr Asiantaeth Nawdd Cymdeithasol yn cysylltu â chi.
Bydd hyn yn digwydd hyd yn oed os oes gennych ddyfarniad DLA amhenodol neu gydol oes.
Yr unig eithriad yw os cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948. Yn yr achos hwn, byddwch yn parhau i gael DLA cyn belled â'ch bod yn gymwys ar ei gyfer.
Symud o DLA i PIP
Mae DWP yn disgwyl y bydd y mwyafrif o bobl sy’n cael DLA yn gymwys am PIP.
Fodd bynnag, mae gan y ddau fudd-daliad amodau cymhwyso gwahanol. Felly mae’n bosibl y byddai gennych hawl i gyfradd uwch neu is o daliad, neu na fyddai gennych hawl i unrhyw beth.
Darllenwch fwy yn ein canllaw Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu’n cael ei derfynu
Sut i herio penderfyniad PIP
Os ydych yn anfodlon ynghylch penderfyniad am eich hawliad PIP, gallwch ei herio – ond mae’n bwysig dilyn y drefn gywir.