Os oeddech yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ac wedi cael eich ailasesu ar gyfer Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), gallai’ch incwm fod wedi newid. Darganfyddwch fwy am y ffyrdd y gallwch reoli’ch arian er mwyn ymdopi â’ch amgylchiadau newydd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Os yw eich dyfarniad PIP wedi ei leihau neu ei derfynu
- Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy na’r hyn oeddech chi’n ei dderbyn ar DLA
- Rhagor o fudd-daliadau a chymorth os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu
- Grantiau elusennol os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu
- Gweld os fedrwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor
Os yw eich dyfarniad PIP wedi ei leihau neu ei derfynu
Yn yr Alban
Os ydych dros 18 oed, yn cael Lwfans Byw i’r Anabl ac am wybod mwy am symud i’r Taliad Anabledd Oedolion newydd, darllenwch ganllaw mygov.scot DLA i Daliad Anabledd OedolionYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych bellach yn gorfod ymdopi ar lai o arian, darllenwch ein canllaw: Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu’n cael ei derfynu.
Yn Yr Alban mae PIP a DLA yn cael eu hamnewid gan Daliadau Anabledd Oedolion (ADP). Darganfyddwch fwy am ADP a phryd y bydd yn cyrraedd eich ardal ar mygov.scot Opens in a new window
Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy na’r hyn oeddech chi’n ei dderbyn ar DLA
Efallai bod eich anghenion iechyd neu anabledd wedi cynyddu ers eich asesiad diwethaf.
Os yw’ch dyfarniad PIP yn fwy nag yr oeddech yn ei gael gyda DLA, gallech fod yn gymwys yn awr am ragor o gymorth nad oedd ar gael yn flaenorol.
Rhagor o fudd-daliadau a chymorth os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu
Os ydych yn awr yn cael y gyfradd uwch o’r elfen symudedd o PIP – gelwir hefyd yn lwfans symudedd - gallech fod yn gymwys i gael cymorth gyda chostau trafnidiaeth. Bydd hyn drwy Motability neu gynllun parcio’r Bathodyn Glas.
Gallech fod yn gymwys hefyd am ostyngiadau ar drafnidiaeth gyhoeddus os ydych yn cael unrhyw gyfradd o PIP.
Darganfyddwch fwy am gael cymorth gyda chostau trafnidiaeth yn ein canllaw Motability, Y Cynllun Bathodyn Glas a theithio gostyngol
Premiymau anabledd
Os ydych yn awr yn cael yr elfen bywyd bob dydd o PIP, gallech fod yn gymwys am ragor o bremiymau anabledd. Mae hyn os ydych yn cael rhai budd-daliadau neilltuol, yn cynnwys:
- Budd-dal Tai
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm.
Nid pawb all hawlio premiymau anabledd. I ddarganfod a allech chi fod yn gymwys ewch i wefan Turn2Us
Gall eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol gynnal gwiriad budd-daliadau llawn i sicrhau eich bod yn cael popeth sy’n ddyledus i chi.
Darganfyddwch eich swyddfa agosaf ar Cyngor ar Bopeth
Grantiau elusennol os yw eich dyfarniad PIP wedi cynyddu
Gallech fod yn gymwys hefyd am gymorth elusennol a grantiau i’ch helpu gyda chost ychwanegol eich salwch neu anabledd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Gweld os fedrwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Cyngor
Gallwch gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor os ydych chi’n anabl, ac angen byw mewn cartref mwy nag y byddai ei angen arnoch chi fel arall. Os mai chi yw’r unig oedolyn yn eich cartref, neu os mai dim ond gofalwr sy’n byw gyda chi sy’n rhannu’r tŷ gyda chi, gallech gael 25% oddi ar eich bil Treth Gyngor.
Darganfyddwch fwy am y Cynllun Gostyngiad Band Anabl ar wefan GOV.UK
Ymunwch â’n grŵp Facebook
Ymunwch â’n grŵp preifat Facebook Budgeting and Saving am awgrymiadau ar gyfer arbed arian a chefnogaeth gan gymuned o gynilwyr.