Os na allwch weithio oherwydd salwch neu anabledd, efallai y bydd rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae’n bwysig gwybod sut i wneud cais amdano, deall yr asesiad gallu i weithio a sut mae budd-daliadau salwch neu anabledd eraill yn cael eu heffeithio gan Gredyd Cynhwysol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- A allaf wneud cais am Gredyd Cynhwysol os wyf yn sâl neu’n anabl?
- Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn sâl neu’n anabl
- Asesiadau gallu i weithio
- Cael penderfyniad gan y DWP
- A allaf wneud cais am Gredyd Cynhwysol os wyf yn gweithio?
- Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio ar PIP a DLA?
- Symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i Gredyd Cynhwysol
- A fyddaf yn cael llai o arian os symudaf o ESA i Gredyd Cynhwysol?
- Credyd Cynhwysol os oes gennych blentyn sâl neu anabl
A allaf wneud cais am Gredyd Cynhwysol os wyf yn sâl neu’n anabl?
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Yn yr Alban, darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
Efallai y gallwch hefyd wneud cais am elfennau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol i helpu â chostau eraill, fel rhent, gofalu neu fagu plant.
Os ydych yn briod, mewn partneriaeth sifil neu’n byw gyda’ch partner, bydd rhaid i chi wneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol.
Bydd eich cais Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar incwm a chynilion eich cartref. Os oes gennych gynilion dros £16,000 ni fyddwch yn gymwys.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd i gyplau
Sut mae cynilion a thaliadau cyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau?
Faint yw Credyd Cynhwysol?
Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol pan fyddwch yn sâl neu’n anabl
Os ydych yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, defnyddiwch y cais ar-lein i egluro sut mae’ch cyflwr yn ei gwneud yn anodd i chi weithio neu ddod o hyd i waith.
Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, dywedwch wrth eich anogwr gwaith neu ychwanegwch ef i’ch dyddlyfr ar-lein.
Dylech gael nodyn ffitrwydd gan eich meddyg teulu a’i ychwanegu at eich cais/cyfrif ar-lein.
Darganfyddwch fwy am gael nodyn ffitrwydd ar gyfer eich cais Credyd Cynhwysol ar wefan Cyngor Ar Bopeth
Mewn rhai achosion, nid oes angen i chi brofi bod gennych allu cyfyngedig i weithio. Er enghraifft, os oes gennych:
- unrhyw salwch terfynol
- rhai cyflyrau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd
- rhai triniaethau canser, fel cemotherapi neu radiotherapi
Fel arall, bydd angen i chi lenwi ffurflen UC50.
Ffurflen UC50
Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth
Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, mae'r gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn gyfrinachol ac am ddim. Gallant eich helpu:
- gwirio a oes gennych hawl i Gredyd Cynhwysol
- dod â'ch gwaith papur a'ch dogfennau pwysig at ei gilydd i gyflymu'ch cais
- llenwi eich cais ar-lein.
Cymru a Lloegr
Am fwy o fanylion, ewch i wefan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Yr Alban
Ewch i Citizens Advice Scotland neu ffoniwch 0800 023 2581
Gogledd Iwerddon
Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio'n wahanol. Darganfyddwch fwy ar wefan nidirect
Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais newydd, neu ddweud wrth eich anogwr gwaith am eich cyflwr, anfonir ffurflen UC50w atoch i’w chwblhau.
Mae rhaid i chi ei lenwi a’i anfon at y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd cyn pen pedair wythnos.
Os ydych angen copi arall o’r ffurflen, gallwch ei lawrlwytho o wefan GOV.UK
Asesiadau gallu i weithio
Ar ôl i chi ddychwelyd eich ffurflen, efallai y gofynnir i chi fynd i asesiad gallu i weithio.
Bydd yr asesiad yn penderfynu ym mha un o’r categorïau canlynol yr ydych:
- rydych yn ffit i weithio
- mae gennych allu cyfyngedig i weithio - sy’n golygu er efallai na fyddwch yn gallu chwilio am waith nawr, efallai y bydd rhaid i chi wneud rhai tasgau rheolaidd i baratoi ar gyfer gwaith
- mae gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith - sy’n golygu na fydd gofyn i chi chwilio am waith na pharatoi ar gyfer gwaith.
Darganfyddwch fwy am yr asesiad ar wefan Cyngor Ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd
Cael penderfyniad gan y DWP
Arbedwch rif go iawn DWP yn eich ffôn
Arferai’r DWP alw o rif a ddaliwyd yn ôl, ond nawr bydd yn dangos ar eich galwadau sy’n dod i mewn fel 0800 023 2635. Mae’n werth arbed y rhif hwn yn llyfr cyfeiriadau eich ffôn er mwyn i chi gofio ateb yr alwad.
Ar ôl eich asesiad, bydd y DWP yn ysgrifennu atoch â’u penderfyniad. Ni chewch unrhyw arian ychwanegol tra’ch bod yn aros am y penderfyniad.
Yn y cyfamser, dylai eich anogwr gwaith ystyried eich cyflwr pan fyddant yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud i chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith.
Os ydych yn cael eich canfod i fod yn ffit i weithio
Os ydych yn cael eich canfod i fod yn ffit i weithio, bydd disgwyl i chi chwilio am waith neu gynyddu eich enillion. Ni chewch unrhyw arian ychwanegol â’ch cais.
Gallwch ofyn i’r DWP ailystyried eu penderfyniad os nad ydych yn cytuno.
Darganfyddwch beth i'w wneud os ydych yn credu bod eich penderfyniad budd-daliadau’n anghywir yn ein canllaw Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-daliadau
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio
Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i chi weithio. Ond efallai y bydd angen i chi wneud rhai gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, fel ysgrifennu CV neu fynd ar gyrsiau hyfforddi.
Ni chewch unrhyw arian ychwanegol â’ch cais (oni bai bod eich cais o cyn Ebrill 2017).
Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith
Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i chi weithio na gwneud unrhyw beth i baratoi ar gyfer gwaith.
Yn 2023/24 byddwch hefyd yn cael £390.06 ychwanegol y mis fel rhan o'ch taliad Credyd Cynhwysol.
A allaf wneud cais am Gredyd Cynhwysol os wyf yn gweithio?
Gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych yn gweithio.
Unwaith y byddwch wedi cael eich hasesu fel bod gennych allu cyfyngedig i weithio (eglurwyd uchod) byddwch yn gymwys i hyn a elwir yn ‘lwfans gwaith’.
Mae hyn yn golygu y gallwch ennill swm penodol cyn y caiff eich taliadau Credyd Cynhwysol eu heffeithio.
Mae lwfansau gwaith misol ar gyfer 2023/24 yn:
- £379 os yw’ch Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth tai
- £631 os nad ydych yn derbyn cymorth tai.
Os ydych yn ennill mwy na’r lwfans gwaith, bydd eich taliadau Credyd Cynhwysol yn lleihau’n raddol wrth i’ch cyflog gynyddu.
Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau 55c o am bob £1 y byddwch yn ei hennill uwchben eich lwfans gwaith.
Sut mae Credyd Cynhwysol yn effeithio ar PIP a DLA?
Os ydych yn cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), bydd yn parhau i gael ei dalu ynghyd â’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Mae PIP yn disodli'r Lwfans Byw i'r Anabl yn raddol.
Cewch y budd-daliadau hyn os yw’ch cyflwr yn ddigon difrifol i chi fod yn gymwys i’w cael. Ni fyddant yn effeithio ar y swm a gewch drwy Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy am wneud cais am PIP yn ein canllaw Taliad Annibyniaeth Personol – cyflwyniad
Symud o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth i Gredyd Cynhwysol
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm yw un o’r budd-daliadau sy’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ar incwm ar hyn o bryd, byddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn y pen draw.
Os yw’ch amgylchiadau yn aros yr un fath
Nid oes angen i chi wneud dim ar hyn o bryd.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi pan fydd yn amser i chi newid i Gredyd Cynhwysol.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid
Os bydd rhai newidiadau yn eich bywyd, efallai bydd angen i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Mae’r DWP yn galw rhain yn ‘newid mewn amgylchiadau’.
Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr holl fudd-daliadau rydych yn eu derbyn sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol yn stopio. Mae rhain yn cynnwys:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Budd Tai
- credydau treth.
Beth yw newid arwyddocaol mewn amgylchiadau?
Gallai newid arwyddocaol mewn amgylchiadau gynnwys:
- dechrau gwaith
- methu asesiad gallu i weithio
- rhentu eiddo newydd - yn enwedig os byddwch yn symud i awdurdod lleol newydd
A fyddaf yn cael llai o arian os symudaf o ESA i Gredyd Cynhwysol?
Os byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid mewn amgylchiadau, byddwch yn cael eich asesu dan reolau Credyd Cynhwysol.
Mae hyn yn golygu y gallai’ch taliad Credyd Cynhwysol fod yn fwy neu’n llai na’r swm rydych yn ei gael ar gyfer eich budd-daliadau cyfredol.
I ddarganfod os byddwch yn well neu’n waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol, defnyddiwch y Gyfrifiannell Budd-daliadau a Chyllidebu ar wefan Policy in Practice
Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd, lawrlwythwch daflen am Gredyd Cynhwysol o'r wefan GOV.UK
Os ydych yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol
Nid yw’r Premiwm Anabledd Difrifol ar gael â Chredyd Cynhwysol.
Os ydych yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol ac mae’ch amgylchiadau'n newid ac mae rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd eich Premiwm Anabledd Difrifol yn dod i ben.
Yn lle byddwch yn cael taliad trosiannol fel rhan o'ch taliad Credyd Cynhwysol.
Mae hyn rhwng £120 a £405 y mis ar hyn o bryd, gan ddibynnu a ydych yn sengl neu mewn cwpl a'ch gallu i weithio.
Os ydych eisoes wedi symud i Gredyd Cynhwysol a cholli’r Premiwm Anabledd Difrifol
A oeddech yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol (SDP), ond cawsoch eich symud i Gredyd Cynhwysol cyn 16 Ionawr 2019? Yna byddwch yn parhau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Byddwch yn cael taliad ychwanegol ar ben eich Credyd Cynhwysol fel iawndal am unrhyw arian a gollwyd ers stopio eich Premiwm Anabledd Difrifol.
Darganfyddwch fwy am y Premiwm Anabledd Difrifol a Chredyd Cynhwysol a sut mae’n effeithio arnoch ar wefan Turn2us
Credyd Cynhwysol os oes gennych blentyn sâl neu anabl
Os yw’ch plentyn yn anabl neu’n dioddef o gyflwr iechyd hirdymor, efallai gallwch hawlio’r elfen plentyn anabl fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol.
Bydd cyfradd yr elfen plentyn anabl a gewch yn dibynnu ar gyfradd y DLA neu PIP rydych yn ei gael ar eu cyfer.
Cewch y gyfradd uwch (£456.89 y mis yn 2023/24) os yw’ch plentyn:
- eisoes yn cael yr elfen ofal cyfradd uwch o DLA
- eisoes yn cael yr elfen bywyd bod dydd uwch o PIP, neu
- wedi’i gofrestru fel rhywun dall
Cewch y gyfradd is (£146.31 y mis yn 2023/24) os yw’ch plentyn yn cael yr holl gyfraddau eraill o DLA neu PIP.
Os ydych yn hawlio DLA neu PIP ar gyfer plentyn sâl neu anabl, gall y swm a gewch effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.