Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Adeiladu eich cronfa bensiwn

      Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    • Esbonio pensiynau

      Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    • Problemau pensiwn

      Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    • Cymryd eich pensiwn

      Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    • Treth a phensiynau

      Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    • Pensiynau ac ymddeoliad

      Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    • Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    • Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    • Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    • Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    • Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    • Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Credyd Cynhwysol
Budd-daliadau Credyd Cynhwysol

Faint yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol misol, ynghyd ag arian ychwanegol ar gyfer costau tai, magu plant, gofalu a byw gyda salwch neu anabledd. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys ein cyfrifiannell budd-daliadau am ddim. 

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Gweler faint y gallech ei gael gyda’n cyfrifiannell budd-daliadau am ddim
  • Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo
  • Symiau lwfans safonol
  • Symiau elfen ychwanegol
  • Sut y gallai eich taliad Credyd Cynhwysol newid bob mis
  • Siaradwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim

Gweler faint y gallech ei gael gyda’n cyfrifiannell budd-daliadau am ddim

Bydd ein cyfrifiannell Budd-daliadau  yn dangos yn gyflym:

  • os gallech fod yn gymwys i gael budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol
  • faint o arian ychwanegol y gallech ei gael
  • so gallech gael taliadau a gostyngiadau eraill.

Os ydych chi eisiau darganfod sut mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo, rydym yn esbonio sut mae'r gwahanol rannau'n gweithio isod.

Nol i’r brig

Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys:

  • lwfans safonol, ac
  • Elfennau ychwanegol os ydych yn: 
    • gyfrifol am blant
    • ofalwr di-dâl
    • methu â gweithio oherwydd salwch neu anabledd, a/neu
    • rhentu eich cartref.

Mae'n cael ei gyfrifo fel taliad misol sengl, ond efallai y cewch eich talu ddwywaith y mis os ydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr Alban
  • Sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon
Nol i’r brig

Symiau lwfans safonol

Mae'r lwfans Credyd Cynhwysol safonol a gewch yn seiliedig ar eich oedran ac os ydych yn byw gyda'ch partner.

Eich sefyllfa Swm misol ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26

Sengl – dan 25 oed

£316.98

Sengl – 25 neu drosodd

£400.14

Mewn cwpl ac mae’r ddau ohonoch o dan 25 oed

£497.55 (Cyfanswm ar gyfer y ddau ohonoch)

Mewn cwpl ac mae un ohonoch yn 25 oed neu drosodd

£628.10 (Cyfanswm ar gyfer y ddau ohonoch)

Gallwch ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau i weld eich swm wythnosol.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn dod i ben pan fyddwch chi (neu'r ddau ohonoch, os ydych yn hawlio fel cwpl) yn cyrraedd oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd. Er mwyn parhau i gael cymorth, bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Pensiwn yn lle hynny.

Nol i’r brig

Symiau elfen ychwanegol

Ar ben eich lwfans safonol, efallai y byddwch yn gymwys i gael un neu fwy o daliadau ychwanegol yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Gelwir y rhain yn elfennau ychwanegol a gallant roi cefnogaeth i chi ar gyfer:

  • costau plant a gofal plant
  • costau tai
  • gofalu (elfen gofalwr)
  • salwch ac anabledd hirdymor (elfen gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith).

Bydd ein cyfrifiannell Budd-daliadau yn dangos i chi pa rai y gallech fod yn gymwys i'w cael.

 
Elfen ychwanegol Swm misol ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26

Plentyn – os ydych yn gofalu am blentyn o dan 16 oed neu berson ifanc cymwysYn agor mewn ffenestr newydd o dan 20 oedYn agor mewn ffenestr newydd

  • £339.00 ar gyfer plentyn cyntaf os ganwyd cyn 6 Ebrill 2017
  • £292.81 i blant eraill

 Fel arfer, byddwch ond yn cael swm ar gyfer eich dau blentyn cyntaf

Costau gofal plant – os ydych chi a'ch partner (os oes gennych un) yn gweithio ac yn talu am ofal plant 

Hawliwch 85% o'ch costau yn ôl, hyd at:

  • £1,031.88 ar gyfer un plentyn
  • £1,768.94 ar gyfer dau neu fwy o blant

Gallu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith – os ydych yn sâl neu os oes gennych anabledd ac nad ydych yn gallu gweithio

£423.27

Gofalwr - os ydych yn ofalwr di-dâl i berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos

£201.68

Costau tai – os ydych yn rhentu a/neu'n talu taliadau gwasanaeth

Gellir dalu'r cyfan neu ran o'ch rhent, a rhai taliadau gwasanaeth. Gall y swm ddibynnu ar ble rydych chi'n byw, sut rydych chi'n rhentu a’r nifer o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch chi

Nol i’r brig

Sut y gallai eich taliad Credyd Cynhwysol newid bob mis

Mae’r cyfanswm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn seiliedig ar eich enillion a'ch incwm am y mis blaenorol – sef eich cyfnod asesu.

Er enghraifft, os gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol ar 5 Ionawr, byddai eich cyfnod asesu cyntaf yn para tan 4 Chwefror. Eich ail wedyn fyddai 5 Chwefror i 4 Mawrth ac ati.   

Mae hyn yn golygu y gallai eich taliad newid (neu ddod i ben) yn seiliedig ar:

  • faint oedd eich incwm arall, megis o:
    • gyflogau neu bensiynau
    • budd-daliadau eraill. 
  • os byddwch yn dechrau neu'n peidio â bod yn gymwys ar gyfer elfennau ychwanegol
  • y swm oedd gennych mewn cynilion a buddsoddiadau
  • Os ydych yn ad-dalu dyledion penodol o'ch taliad Credyd Cynhwysol.

Dyma sut y gallai eich taliad newid bob mis.

Os ydych yn ennill arian o waith cyflogedig

Fel arfer, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng 55c am bob £1 rydych yn ei ennill drwy weithio.

Mae unrhyw swm a enillwch fel arfer yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol, ond byddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith os ydych chi neu'ch partner yn:

  • yn gyfrifol am blentyn, neu
  • methu gweithio llawer o oriau oherwydd salwch neu anabledd.

Mae hyn yn golygu y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol ond yn lleihau 55c am bob £1 a enillwch dros eich lwfans.  
 
Dyma'r lwfansau gwaith misol ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26 (hyd at 5 Ebrill 2026):

  • £411 os yw eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys costau tai, neu
  • £684 os nad yw'n cynnwys costau tai.

Os ydych yn cael incwm o fudd-daliadau eraill neu bensiwn

Fel arfer, bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng £1 am bob £1 a gewch o bensiynau a budd-daliadau eraill.

Fodd bynnag, ni fydd rhai budd-daliadau yn lleihau eich taliad. Gweler entitledto am restr o'r incwm di-waithYn agor mewn ffenestr newydd a budd-daliadau eraillYn agor mewn ffenestr newydd a fydd yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol.

Os oes mwy nag un person yn gofalu am yr un person, bydd angen i chi benderfynu pwy fydd yn cael yr elfen gofalwr.

Os oes gennych gynilion neu fuddsoddiadau

Os oes gennych chi a'ch partner gynilion neu fuddsoddiadau sydd gyda gwerth o:

  • £6,000 neu lai, ni fydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn newid.
  • £6,001 i £16,000, bydd eich taliad yn mynd i lawr po fwyaf o gynilion sydd gennych
  • Dros £16,000, ni fyddwch yn gymwys i gael unrhyw beth.  

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sut mae cynilion a chyfandaliadau’n effeithio ar fudd-daliadau?

Os oes angen i chi ad-dalu dyledion o'ch taliad

Efallai y bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn gostwng hyd at 25% os ydych yn ad-dalu pethau fel:

  • taliadau caledi
  • taliadau neu fenthyciadau ymlaen llaw
  • 'ôl-ddyledion trydydd parti', megis:  
    • dyled gyda cyflenwyr trydan, nwy a dŵr
    • Treth Cyngor gorddyledus. 

Ydych chi wedi methu taliad?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Bydd eich datganiad ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd yn dangos a oes unrhyw ddidyniadau. 

Os ydych yn talu llawer o arian yn ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a'ch bod yn cael trafferth talu costau hanfodol eraill, fel rhent neu fwyd, gallwch gysylltu â chanolfan rheoli dyledion DWPYn agor mewn ffenestr newydd i weld a allwch chi gyfrifo cynllun ad-dalu mwy fforddiadwy. 

Os ydych yn cael trafferth, siaradwch â chynghorydd dyled am ddim am help a ffyrdd fforddiadwy o fynd i’r afael â’ch dyled.

Os nad ydych yn bodloni amodau eich hawliad

I gael Credyd Cynhwysol, rhaid i chi fodloni'r amodau a nodir yn eich 'ymrwymiad hawlydd'. Er enghraifft, cytuno i wneud cais am nifer penodol o swyddi a mynychu sesiynau hyfforddi neu baratoi at waith.

Os na wnewch hynny, efallai y byddwch yn cael cosb a elwir yn sancsiwn. Mae hyn yn golygu y gall eich Credyd Cynhwysol leihau neu stopio am ychydig. 

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Sancsiynau budd-daliadau a beth i'w wneud amdanynt.

Os yw’ch taliad yn uwch na'r cap ar fudd-dal

Y cap ar fudd-dal yw'r uchafswm y gall eich cartref ei gael mewn budd-daliadau. 

Ond efallai na fydd yn berthnasol i chi, er enghraifft os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, os oes gennych anabledd neu os ydych yn ennill dros swm penodol. Gweler GOV.UK am restr o pan nad ydych yn cael eich effeithioYn agor mewn ffenestr newydd

Eich sefyllfa Cap ar fudd-daliadau misol ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26

Sengl

£1,229.42 (£1,413.92 yn Llundain)

Yn sengl ac yn byw gyda'ch plant,neu mewn cwpl ac yn byw gyda'ch partner

£1,835 (£2,110.25 yn Llundain)

Nol i’r brig

Siaradwch ag ymgynghorydd Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth i gael cyngor am ddim

Os oes angen mwy o help neu gefnogaeth arnoch ac eisiau siarad â rhywun yn gyfrinachol, gallwch siarad â ymgynghorydd ar-lein neu dros y ffôn.

Gallant eich helpu gyda:

  • sefydlu cyfrif:

    • cyfeiriad e-bost
    • cyfrif Credyd Cynhwysol
    • cyfrif banc.
  • gweithio drwy'r rhestr o bethau i'w gwneud ar gyfer gwneud cais llwyddiannus

  • esbonio'r dyddlyfr ar-lein a sut mae'n cael ei ddefnyddio

  • cael mynediad i wasanaeth ceisiadau ffôn Credyd Cynhwysol

  • cael cymorth ymweliadau cartref yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os ydych yn byw yn: Gallwch gysylltu â:

Lloegr

Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd

0800 144 8444Yn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Help i Hawlio Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd

0800 023 2581Yn agor mewn ffenestr newydd

Cymru

Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth yng NgymruYn agor mewn ffenestr newydd

0800 024 1220Yn agor mewn ffenestr newydd

Gogledd Iwerddon

Advice NIYn agor mewn ffenestr newydd

0800 915 4604 Yn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch hefyd:

  • Ffonio’r llinell gymorth Credyd CynhwysoYn agor mewn ffenestr newydd l am ddim yng Nghymru, Lloegr a'r Alban neu'r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd am help gyda'ch cais.
  • Dod o hyd i ymgynghorydd arbenigol yn eich ardal chi ar Advicelocal i gael help a chymorth am ddim gyda budd-daliadau, gan gynnwys cyngor cyfrinacholYn agor mewn ffenestr newydd ynghylch a ddylech chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.  
  • Defnyddio Gwasanaeth Video Relay Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i'ch helpu gyda chamau cynnar eich cais Credyd Cynhwysol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma:   

  • Cymru: ewch i Cyngor ar Bopeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd 
  • Lloegr: ewch i Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd 
  • Yr Alban: ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
  • Gogledd Iwerddon: ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Credyd Cynhwysol

Deall Credyd Cynhwysol

  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Deall Credyd Cynhwysol

  • Egluro Credyd Cynhwysol
  • Faint yw Credyd Cynhwysol?
  • Ceisiadau Credyd Cynhwysol ar y cyd ar gyfer cyplau
  • Beth yw'r dreth ystafell wely?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau