Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn darparu cymorth ariannol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio neu sy’n cyfyngu ar faint gallwch weithio ac nid ydych yn gymwys am Dâl Salwch Statudol. 

Mathau o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Y prif fathau o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yw:

  • ESA Dull Newydd
  • ESA yn seiliedig ar incwm (sydd wedi ei disodli gan Gredyd Cynhwysol i’r rhan fwyaf o bobl)

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) Dull Newydd

Efallai gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd os na allwch weithio neu allwch ond weithio  oriau cyfyngedig oherwydd:

  • salwch neu anabledd
  • bod eich Tâl Salwch Statudol (SSP) wedi dod i ben, neu
  • eich bod yn hunangyflogedig ac nad ydych yn gymwys am SSP .

Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn gofalu am blentyn sy’n dod o dan y grwpiau hyn.

Cymhwyster

I fod yn gymwys, mae’n rhaid eich bod wedi bod yn talu neu wedi eich credydu â chyfraniadau Yswiriant Gwladol am y 2 i 3 blynedd diwethaf.

Mae hynny’n golygu ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24 roedd rhaid i chi fod wedi ennill o leiaf £123 yr wythnos, £533 y mis, neu £6,396 y flwyddyn am y ddwy flynedd treth llawn diwethaf.

Ni allwch wneud cais amdano os ydych yn cael Premiwm Anabledd Difrifol yn barod – ond efallai gallwch wneud cais am ESA yn seiliedig ar incwm.

Faint o ESA Dull Newydd a gewch?

Os ydych yn gymwys am ESA Dull Newydd fe’ch roddir i mewn i un o ddau grŵp ar ôl asesiad cychwynnol o’r enw Asesiad Gallu i Weithio:

  • Y ‘grŵp gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’ yw os ydych yn disgwyl dychwelyd i’r gwaith - yn yr achos hwn byddwch fel arfer yn derbyn £84.80 yr wythnos, neu £67.20 os ydych o dan 25 oed. Fe’i telir am hyd at flwyddyn.
  • Y ‘grŵp cymorth’ yw os yw eich salwch neu anabledd yn golygu na allwch ddychwelyd i’r gwaith - yn yr achos hwn fe gewch £129.50 yr wythnos. Nid oes terfyn amser.

Mae’r symiau uchod ar gyfer blwyddyn dreth 2023/24 ac maent yn drethadwy.

Sut mae ESA Dull Newydd yn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol

Os yw incwm eich cartref yn ddigon isel a bod angen cymorth ychwanegol arnoch gyda chostau tai neu fagu plant, efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ochr yn ochr ag ESA Dull Newydd.

Os ydych yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, bydd unrhyw swm o Gredyd Cynhwysol a gewch yn gostwng yr un faint .

Mantais gwneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd ochr yn ochr â Chredyd Cynhwysol os ydych yn gymwys am y ddau yw y byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 wrth dderbyn ESA Dull Newydd.

Mae hyn yn berthnasol p’un a ydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig. Bydd y credydau hyn yn cyfrif tuag at eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth yn y dyfodol – a’ch hawl i rai budd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar gyfraniadau, megis tâl diswyddo statudol, tâl mamolaeth neu dadolaeth.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn seiliedig ar incwm

Mae hwn yn fudd-dal sy’n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol. Ni all y rhan fwyaf o bobl wneud cais newydd amdano mwyach.

Os ydych eisoes yn cael Premiwm Anabledd Difrifol ac yn gwneud cais newydd am fudd-daliadau salwch ac anabledd â phrawf modd, bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol nawr. Bydd eich taliad Premiwm Anabledd Difrifol yn dod i ben a byddwch yn cael taliad atodol yn eich Credyd Cynhwysol yn lle.

Os ydych eisoes yn cael ESA yn seiliedig ar incwm

Os ydych eisoes yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, byddwch yn aros arno nes bydd rhywbeth yn digwydd yn eich bywyd (newid mewn amgylchiadau), sy'n golygu y bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Premiwm Anabledd Difrifol os ydych yn cael ESA

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.