Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Adeiladu eich cronfa bensiwn

      Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno

    • Esbonio pensiynau

      Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau

    • Problemau pensiwn

      Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol

    • Cymryd eich pensiwn

      Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise

    • Treth a phensiynau

      Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth

    • Pensiynau ac ymddeoliad

      Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Cymharu cyfrifon banc

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Adeiladu eich cronfa bensiwn Faint rydych ei angen, ffyrdd i adeiladu'ch cronfa, trosglwyddo ac uno
    • Esbonio pensiynau Dechrau pensiwn, mathau o bensiwn, deall pensiynau
    • Problemau pensiwn Cwynion, cymorth ariannol pan wedi ymddeol, newidiadau i gynlluniau
    • Pensiwn y Wladwriaeth Sut mae’n gweithio, beth allech chi ei gael, Yswiriant Gwladol
    • Cymryd eich pensiwn Ffyrdd o dynnu eich pensiwn, pryd allwch chi ymddeol, apwyntiadau Pension Wise
    • Treth a phensiynau Lwfansau treth, treth a delir ar bensiynau, rhyddhad treth
    • Pensiynau ac ymddeoliad Pob arweiniad, gan gynnwys sut i ddefnyddio'r gwasanaeth Pension Wise
    Teclynnau

    Apwyntiad

    Trefnwch apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Darganfyddwch ymgynghorydd ymddeoliad

    POB TECLYN

    Trefnwch eich apwyntiad Pension Wise am ddim

    Dros 50 oed? Cewch arweiniad diduedd, am ddim o’n gwasanaeth sydd wedi’i gefnogi gan y llywodraeth. Byddwn yn esbonio’r opsiynau i gymryd arian o’ch cron…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Budd-daliadau
  3. Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu'n ofalwr
Budd-daliadau Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu'n ofalwr

Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr

Os ydych yn ofalwr, mae cymorth ariannol ar gael i chi. Darganfyddwch beth sydd ar gael a sut i wneud cais am yr hyn mae gennych hawl iddo.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Lwfans Gofalwr
  • Credyd Gofalwr
  • Premiwm Gofalwr
  • Credyd Pensiwn
  • Cymorth lles lleol
  • Budd-daliadau eraill y gallech eu hawlio
  • Cynlluniau a hawliau eraill
  • Ble i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau

Lwfans Gofalwr

Yn 2025/26, £83.30 yr wythnos yw Lwfans Gofalwr.

Efallai y byddwch chi'n gallu ei hawlio os:

  • ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun

  • ydych yn 16 oed neu'n hŷn

  • nad ydych mewn addysg llawn amser neu'n astudio am 21 awr yr wythnos neu fwy

  • ydych yn ennill £196 (2025/26) yr wythnos neu lai ar ôl treth, Yswiriant Gwladol a threuliau (£10,192 y flwyddyn).

Mae'n rhaid i'r person rydych chi'n gofalu amdano hefyd fod yn cael budd-dal oherwydd ei salwch neu anabledd. Er enghraifft, mae'n rhaid iddynt fod yn cael:

  • Lwfans Gweini

  • Taliad Annibyniaeth Personol (y naill gyfradd neu'r llall o'r elfen bywyd bob dydd)

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.

Gweler GOV.UK am restr lawn o'r budd-daliadau y gallai'r person rydych chi'n gofalu amdano fod yn eu caelYn agor mewn ffenestr newydd

Mae Lwfans Gofalwr yn drethadwy. Byddwch ond yn gorfod talu treth os:

  • oes gennych ffynonellau eraill o incwm trethadwy, megis pensiynau galwedigaethol neu bersonol neu enillion rhan-amser, ac

  • os yw'r incwm cyfunol hwn yn mynd â chi dros y trothwy ar gyfer talu treth – £12,570 y flwyddyn yn 2025/26.

Mae Lwfans Gofalwr ar ei ben ei hun yn is na'r trothwy hwn ar hyn o bryd.

Sut mae Lwfans Gofalwr yn effeithio ar fudd-daliadau eraill?

Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar fudd-daliadau eraill y gallech fod yn eu cael eisoes – felly efallai y cewch eich talu llai mewn budd-dal arall.

Bydd yn cyfrif fel incwm os ydych chi'n cael Credyd Cynhwysol. Ond efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol ychwanegol oherwydd eich bod chi'n ofalwr.

Gall hefyd effeithio ar fudd-daliadau’r person rydych chi'n gofalu amdano. Er enghraifft, os ydyn nhw'n cael Premiwm Anabledd Difrifol – gallai hyn stopio os ydych chi'n hawlio Lwfans Gofalwr.

Gwneud yn siwr bod eich enillion yn aros o dan y trothwy

Os yw eich tâl wythnosol ar gyfartaledd yn fwy na £196 (2025/26) ar ôl didyniadau, ni fydd gennych hawl i Lwfans Gofalwr mwyach.

Mae CThEF bellach yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am enillion i'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Os ydych chi'n ennill mwy na hyn mewn unrhyw wythnos benodol, mae'n bwysig dweud wrth y DWP. Os nad ydych chi'n gwneud hynny, gofynnir i chi dalu'r swm rydych chi'n cael eich gordalu.

Os yw'ch enillion yn amrywio o wythnos i wythnos, mae'n bwysig rhoi gwybod i'r DWP. Mae hyn fel y gallant ddarganfod cyfartaledd eich enillion er mwyn i chi aros o dan y terfyn.

Gallwch roi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio'r gwasanaeth lwfans gofalwr ar GOV.UK, neu gallwch gysylltu â'r Uned Lwfans Gofalwr ar GOV.UK, yn ogystal â darganfod mwy am lwfans gofalwr ar wefan Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel

Fel arfer, ni allwch gael Lwfans Gofalwr os ydych eisoes yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau penodol sy'n disodli incwm fel, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd.

Fodd bynnag, mae'n werth gwneud cais o hyd er na fyddwch yn cael Lwfans Gofalwr ei hun. Gallai bod yn gymwys roi hawl i chi gael incwm ychwanegol ar gyfer budd-daliadau eraill a gewch. Gelwir hyn yn cael 'hawl sylfaenol' i Lwfans Gofalwr.

Bydd eich Canolfan Byd Gwaith lleol – neu'r Jobs and Benefits Office yng Ngogledd Iwerddon – yn gallu dweud wrthych pa fudd-daliadau i wneud cais amdanynt. Neu gallwch gysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth lleol.

Dewch o hyd i'ch cangen Cyngor ar Bopeth agosafYn agor mewn ffenestr newydd ar advicelocal

Mae rhagor o wybodaeth am Lwfans Gofalwr ar y gwefannau hyn:

  • darganfyddwch fwy am Lwfans Gofalwr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • gwyliwch fideo a dewch o hyd i enghreifftiau o sut mae Lwfans Gofalwr yn gweithio ar Carers UKYn agor mewn ffenestr newydd
  • defnyddiwch ein Cyfrifiannell Budd-daliadau.

Gogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy ar indirect am Lwfans Gofalwr yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd

Yr Alban

Os ydych chi'n byw yn yr Alban, rhaid i chi wneud cais am daliad ‘Carer Support’ yn hytrach na Lwfans Gofalwr. Telir hyn ar gyfradd safonol o £83.30 (2025/26) yr wythnos.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am Daliad Carer Support  ar mygov.scot.

Mae gofalwyr yn yr Alban hefyd yn cael dau daliad atodol, fel arfer ym mis Mehefin a mis Rhagfyr. Yn 2025/26 bydd y taliadau hyn yn £293.50 yr un.

Ni fyddwch yn cael Atodiad Lwfans Gofalwr os oes gennych hawl sylfaenol i Lwfans Gofalwr. Ni fydd Atodiad Lwfans Gofalwr yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Darganfyddwch fwy ar mygov.scot am yr Atodiad Lwfans GofalwrYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Credyd Gofalwr

Mae Credyd Gofalwr yn gredyd Yswiriant Gwladol sy'n llenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae'n helpu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth tra nad ydych chi'n gwneud unrhyw gyfraniadau oherwydd eich rôl ofalu.

Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Gofalwr os:

  • ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn

  • nad ydych chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth eto

  • nad ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr

  • rydych chi'n treulio o leiaf 20 awr yr wythnos yn gofalu am rywun

  • Mae'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael budd-dal oherwydd ei salwch neu anabledd. Er enghraifft: 

    • Lwfans Byw i'r Anabl - cyfradd ganolig neu uchaf yr elfen gofal
    • Lwfans Gweini.
    • Lwfans Gweini Cyson
    • Taliad Annibyniaeth Personol, y rhan ar gyfer bywyd bob dydd
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Taliad Anabledd Plant (CDP) cyfradd ganol neu uchaf yr elfen gofal.

Gweler GOV.UK am restr lawn o'r budd-daliadau y gallai'r person rydych chi'n gofalu amdano fod yn eu caelYn agor mewn ffenestr newydd

Os nad yw'r person rydych chi'n gofalu amdano yn cael un o'r budd-daliadau hyn, efallai y byddwch chi'n gallu hawlio o hyd trwy gwblhau 'Tystysgrif Gofal'. 

Cymru, Lloegr, a’r Alban

Darganfyddwch fwy am Gredyd GofalwrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Gogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy am ofalu a’ch pensiwnYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Nol i’r brig

Premiwm Gofalwr

Efallai y bydd gennych hawl i Bremiwm Gofalwr ychwanegol o hyd at £46.40 (2025/26) yr wythnos os ydych eisoes yn cael:

  • Credyd Cynhwysol – ac yn cael yr 'elfen gofalwr'

  • Credyd Pensiwn – ac yn cael yr 'ychwanegiad gofalwr'.

Gofynnwch am y Premiwm Gofalwr yn eich Canolfan Byd Gwaith neu’r Jobs and Benefits Office lleol. Fodd bynnag, os ydych chi'n gymwys, bydd y taliad fel arfer yn cael ei ychwanegu'n awtomatig. 

Os oes gennych hawl i Bremiwm Gofalwr, efallai y byddwch hefyd yn gallu ei ddefnyddio i gefnogi cais am ostyngiad i'r Dreth Gyngor. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-daliadau i helpu gyda'ch anghenion anabledd neu ofal.

Nol i’r brig

Credyd Pensiwn

Mae hwn yn fudd-dal y gallwch ei gael os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae wedi'i gynllunio i ychwanegu at eich incwm wrth ymddeol.

Os ydych yn byw gyda phartner, byddwch ond yn gallu gwneud cais am Gredyd Pensiwn os yw’r ddau ohonoch wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys yn ein canllaw Cynyddwch eich incwm ymddeol gyda Chredyd Pensiwn
Nol i’r brig

Cymorth lles lleol

Os bydd gennych angen ariannol annisgwyl a brys ac rydych yn cael budd-daliadau penodol neu rydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael help lleol. Gelwir hyn yn gymorth lles lleol.

Lloegr

Cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddysgu rhagor am ba help y gallent ei ddarparu. 

Darganfyddwch eich cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Yr Alban

Darganfyddwch fwy am Gronfa Lles yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot

Cymru

Darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar llyw.cymru

Gogledd Iwerddon

Darganfyddwch fwy am y Gronfa GymdeithasolYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect
Nol i’r brig

Budd-daliadau eraill y gallech eu hawlio

Fel gofalwr, mae budd-daliadau a chefnogaeth eraill y gallech fod yn gymwys amdanynt.

Credyd Cynhwysol

Os oes gennych incwm isel – p'un ai ydych chi'n gweithio ai peidio – gall Credyd Cynhwysol roi arian ychwanegol i chi fyw arno.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol

Os ydych chi'n gofalu am berson ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer elfen gofalwr Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am yr elfen gofalwr a faint y gallech ei gael yn ein canllaw Faint yw Credyd Cynhwysol?

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio'n wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Darganfyddwch fwy ar nidirect.

Cymorth gyda chostau tai

Os ydych yn rhentu, gallech gael help gyda’ch costau tai trwy elfen Costau Tai Credyd Cynhwysol (neu Fudd-dal Tai os ydych dros Oedran Pensiwn y Wladwriaeth).

Os ydych yn berchennog cartref, gallwch gael help gyda’ch taliadau llog morgais trwy Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI). Mae hyn yn cael ei gynnig fel benthyciad i’w ad-dalu.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)

Help arall os ydych ar incwm isel

Gallai fod gennych hawl i gael help ariannol gyda’ch:

  • tanwydd
  • costau iechyd
  • Treth Cyngor
  • gwasanaethau trwsio cartrefi.
Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau
Nol i’r brig

Cynlluniau a hawliau eraill

Cynllun Motability

Os ydych yn gofalu am rywun sydd yn cael trafferth symud, gallent fod yn gymwys i gael cefnogaeth gan y cynllun Motability. Gall hyn helpu i ddarparu car, cadair olwyn, neu sgwter trydanol.

Darganfyddwch a ydych yn gymwys ar wefan Motability

Parcio bathodyn glas

Mae trwyddedau parcio bathodyn glas yn caniatáu i yrwyr sydd â theithwyr gyda phroblemau symudedd barcio mewn lleoedd mwy cyfleus, fel mannau parcio i’r anabl.

Gallwch barcio ar linellau sengl neu ddwbl am hyd at dair awr hefyd.

Darganfyddwch sut i wneud cais am fathodyn glasYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK

Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl

Mae’r Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl yn caniatáu i ddeilydd y cerdyn a’r gofalwr neu gydymaith gael traean oddi ar gost pris y rhan fwyaf o docynnau trên oedolion ar rwydwaith Network Rail.

Mae’n costio £20 y flwyddyn neu £54 am gerdyn tair blynedd. Gallwch brynu un ar-lein neu gael ffurflen cais post mewn unrhyw swyddfa docynnau gorsaf sydd â staff. 

Darganfyddwch fwy ar wefan Cerdyn Rheilffordd i’r Anabl

Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema

Mae’r cerdyn hwn yn rhoi caniatâd i chi gael un tocyn am ddim pan fyddwch yn mynd â’r person rydych yn gofalu amdanynt i’r sinema. Mae’r holl sinemâu cenedlaethol yn ei dderbyn. Gallwch wneud cais am y cerdyn ar-lein.

Darganfyddwch fwy ar wefan Cerdyn Cymdeithas Arddangoswyr Sinema

Gostyngiadau eraill

Mae nifer fawr o gynigion am ddim neu ostyngol ar gael i ofalwyr mewn amgueddfeydd, canolfannau hamdden a safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled y wlad.

Nid ydynt bob amser yn cael eu hysbysebu – felly gofynnwch pan fyddwch yn prynu tocynnau.

Mae nifer o awdurdodau lleol yn cynnig gostyngiadau siopa, hamdden ac eraill i ofalwyr. Holwch eich awdurdod lleol i weld pa gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael.

Nol i’r brig

Ble i gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau

Gall gwneud cais am fudd-daliadau gofalwr fod yn gymhleth. Felly gwnewch yn siwr eich bod yn cael yr hawliau cywir.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ble gallaf gael cymorth a chyngor am fudd-daliadau?
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu'n ofalwr

Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

  • Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
  • Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
  • Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
  • Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
  • Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr
  • Cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc
  • Taliad Annibyniaeth Personol - cyflwyniad
  • Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio
  • Symud o DLA i PIP ac ymdopi â newidiadau mewn incwm
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

  • Pa fudd-daliadau anabledd a salwch allaf i eu hawlio?
  • Credyd Cynhwysol i bobl sâl ac anabl
  • Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
  • Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Budd-daliadau a hawliau anabledd i blant
  • Budd-daliadau y gallwch eu hawlio fel gofalwr
  • Cefnogaeth ariannol i ofalwyr ifanc
  • Taliad Annibyniaeth Personol - cyflwyniad
  • Symud o DLA i PIP – beth i’w wneud os bydd eich dyfarniad yn cael ei leihau neu stopio
  • Symud o DLA i PIP ac ymdopi â newidiadau mewn incwm
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Logo Llywodraeth EF
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Bedford Borough Hall, 138 Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am...
Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn
I gael yr ateb cyflymaf, defnyddiwch ein llinell gymorth neu we-sgwrs. Rydym ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio’r ffôn
  • O dramor: +44 20 7932 5780
  • I’r hunangyflogedig: 0345 602 7021
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am i 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
  • English: 0800 138 7777
  • Typetalk: 18001 0800 915 4622
  • O dramor: +44 20 3553 2279
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am i 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Os oes gennych gyflwr meddygol neu anabledd difrifol ac mae angen yswiriant teithio arnoch.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni am help i ddelio â dyled.
Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Ffoniwch ni os ydych chi'n poeni am dwyll neu sgamiau ac angen arweiniad arbenigol.
Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun–Gwener8am-6pm
  • Sadwrn8am - 3pm
  • Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun, Mercher, Gwener8.20am - 6.20pm
  • Tues, Thurs9am - 6.20pm
  • Sat, Sun and bank holidaysWedi cau
Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn, ond gall hyn gymryd dros bum niwrnod gwaith. I gael ateb cyflymach, defnyddiwch ein gwe-sgwrs rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Blaenorol Cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.

Blaenorol Cau