Os oes angen i chi wneud eich cartref yn fwy hygyrch, neu os ydych angen cyfarpar arbenigol i’ch helpu i ymdopi â thasgau rheolaidd yn fwy diogel a rhwydd, yna efallai fod gennych yr hawl i dderbyn cymorth ariannol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cael asesiad o anghenion gofal
- Addasiadau mawr neu fach
- Mân addasiadau a chyfarpar - pa help sydd ar gael?
- Ariannu addasiadau mawr – Grant Cyfleusterau i’r Anabl
- Help gan eich Asiantaeth Gwella Cartrefi leol
- Grantiau yng Ngogledd Iwerddon
- Cymorth gan elusennau
- Peidiwch ag anghofio hawlio rhyddhad TAW
- Gostyngiad Treth Cyngor
Cael asesiad o anghenion gofal
Mae gennych yr hawl i gael asesiad gan eich awdurdod lleol os ydych angen cymorth gyda bywyd dyddiol oherwydd eich bod yn
- hŷn
- anabl, neu
- mae gennych gyflwr iechyd hirdymor.
Os nad ydych wedi’i wneud eisoes, cysylltwch â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol i drefnu asesiad o’ch anghenion.
Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan GOV.UK
Yn yr Alban, darganfyddwch eich cyngor lleol ar wefan mygov.scot
Yng Ngogledd Iwerddon, cynhelir asesiadau gan eich ymddiriedolaeth leol. Gallwch ddod o hyd i’ch ymddiriedolaeth agosaf ar wefan nidirect
Addasiadau mawr neu fach
Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn dibynnu ar a yw’r addasiadau mae angen i chi eu gwneud i’ch cartref yn rhai mân neu fawr.
- Mae enghreifftiau o fân addasiadau yn cynnwys gosod tapiau lifer yn y gegin, neu reiliau llaw o gwmpas y cartref.
- Mae enghreifftiau o addasiadau mawr yn cynnwys, er enghraifft, gosod ystafell gawod ar y llawr gwaelod, lledu drysau, neu wneud arwynebau gwaith yn eich cegin yn is.
Mân addasiadau a chyfarpar - pa help sydd ar gael?
Os ydych yn byw yn Lloegr
Fel arfer bydd eich awdurdod lleol yn darparu cyfarpar a mân addasiadau sy’n costio’n llai na £1,000 i chi am ddim. Mae hyn cyhyd â’ch bod wedi’ch asesu fel rhywun sydd ei angen a’ch bod yn gymwys.
Os ydych yn byw yng Nghymru
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu tuag at gyfarpar a mân addasiadau. Ond mae’n rhaid i’r swm y gofynnir i chi ei dalu fod yn rhesymol ac yn seiliedig ar eich amgylchiadau ariannol.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Fel arfer bydd eich cyngor lleol yn darparu cyfarpar neu addasiadau angenrheidiol sy’n costio’n llai na £1,500 i chi am ddim.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd eich ymddiriedolaeth leol yn penderfynu a fyddant yn ariannu’r cyfarpar neu fân addasiad neu a fydd yn rhaid ichi dalu amdano’ch hunan.
Ariannu addasiadau mawr – Grant Cyfleusterau i’r Anabl
Ar gyfer addasiadau mwy i wneud eich cartref yn hygyrch, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl.
Telir y rhain gan eich awdurdod lleol - neu’r ‘Local Housing Executive’ os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.
Ydych chi’n gymwys i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl?
Gallwch wneud cais i gael Grant Cyfleusterau i’r Anabl os yw’ch awdurdod lleol yn fodlon bod angen y gwaith rydych yn trefnu ei wneud ac os yw’n briodol ar gyfer eich anghenion.
Fel arfer mae hyn yn golygu cael asesiad gan therapydd galwedigaethol.
Mae’r grantiau’n ddibynnol ar brawf modd - oni bai eich bod yn gwneud cais ar ran plentyn anabl dan 17 oed. Felly bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw incwm a chynilion sydd gennych chi a’ch partner.
Faint allwch chi ei gael?
Mae’r uchafswm y gallwch ei gael ar gyfer Grant Cyfleusterau i’r Anabl yn dibynnu ymhle yn y DU rydych yn byw.
Lloegr |
£30,000 |
Cymru |
£36,000 |
Yr Alban |
Nid yw’r grant yma ar gael. Darganfyddwch fwy ar Disability Rights UK |
Gogledd Iwerddon |
£25,000
|
Sut i wneud cais am Grant Cyfleusterau i’r Anabl
Darganfyddwch sut i wneud cais am Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar y wefan GOV.UK
Yng Ngogledd Iwerddon , darganfyddwch fwy Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl ar wefan nidirect
Help gan eich Asiantaeth Gwella Cartrefi leol
Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau o ran cael cyllid, cynllunio’r gwaith a chyflogi crefftwyr - gall Asiantaethau Gwella Cartrefi leddfu llawer o’r gofid.
Gallant helpu mewn llawer o ffyrdd gan gynnwys:
- cael dyfynbrisiau
- trefnu cynlluniau ar gyfer y gwaith
- ymweld â’ch cartref a darparu cyngor
- gwirio pa gymorth ariannol y gallech fod yn gymwys i’w gael.
Maent hefyd yn cyhoeddi rhestr o fasnachwyr dibynadwy ar eu gwefan.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys sut i ddod o hyd i’ch Asiantaeth Gwella Cartrefi leol, ewch i wefan Foundations
Grantiau yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, mae nifer o grantiau ar gael i wella neu addasu’ch cartref.
Am fanylion o’r cyllid sydd ar gael gweler gwefan yr Housing Executive
Cymorth gan elusennau
Os na allwch sicrhau cyllid yn rhywle arall, mae’n syndod faint o elusennau a all eich helpu.
Er enghraifft am gymorth gyda gwaith adeiladu a chyfarpar i bobl anabl, ewch i wefan Edward Gostling Foundation.
Gwiriwch wefan Turn2Us - gwasanaeth am ddim sy’n helpu pobl i gael mynediad i fudd-daliadau lles, grantiau a chymorth arall.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Grantiau elusennol ar gyfer pobl sâl neu anabl
Peidiwch ag anghofio hawlio rhyddhad TAW
Os ydych yn anabl, gallai unrhyw waith adeiladu a wnewch i addasu’ch cartref fod â chyfradd o ddim ar gyfer TAW.
Darganfyddwch fwy am eithriadau TAW ar waith adeiladu ar wefan GOV.UK
Gostyngiad Treth Cyngor
Os yw’r addasiadau rydych yn trefnu eu gwneud i’ch cartref yn gwthio’ch eiddo i fand Treth Cyngor uwch, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn gostyngiad ar eich Treth Gyngor.
Gelwir hyn yn ‘Cynllun Gostyngiad Band i’r Anabl’.