Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cael benthyciad os ydych yn sâl neu’n anabl

Os ydych chi'n sâl neu'n anabl ac yn cael trafferthion ariannol, efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi fenthyg arian. Darganfyddwch sut i fynd ati i osgoi credyd drud a benthyciadau peryglus.

Eich hawliau cyfreithiol

Ni ddylai’r ffaith eich bod yn sâl neu’n anabl eich atal rhag cael benthyciad.

Mae’n rhaid i fanciau a darparwyr benthyciadau eraill eich trin yn yr un ffordd â chwsmeriaid - ni chaniateir iddynt wrthod eich cais am fenthyciad ar sail amodau corfforol neu feddyliol yn unig.

I bwy mae deddfwriaeth anabledd yn berthnasol?

Efallai y bydd rheolau gwrth-wahaniaethu yn berthnasol i chi hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl amdanoch chi'ch hun fel person anabl.

O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae anabledd yn gyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Felly mae hyn yn berthnasol os oes gennych gyflwr corfforol, fel canser, HIV neu MS, a / neu gyflwr iechyd meddwl fel iselder.

Rydych yn gweithio ac mae angen benthyciad arnoch

Os ydych yn gweithio, mae gennych incwm rheolaidd, ac mae’ch statws credyd yn dda, yna dylai fod nifer o opsiynau benthyca gyda chi.

Ond cyn ichi wneud cais am fenthyciadau neu fathau eraill o gredyd, dilynwch y tri cham hyn:

  1. Gwiriwch a fedrwch chi fforddio benthyciad A allwch chi fforddio benthyca arian?
  2. Cyfrifwch y ffordd orau a rhataf o fenthyg yr arian sydd ei angen arnoch chi. Penderfynu ar y math gorau o gredyd i chi.
  3. Cyfrifwch sut a phryd y byddwch yn talu’r arian yn ôl. Llunio cynllun ad-dalu ar gyfer yr arian rydych yn ei fenthyg.

Rydych ar incwm isel ac angen benthyg arian

Os ydych ar incwm isel ac yn hawlio budd-daliadau salwch neu anabledd, mae'n debyg na fyddwch yn gallu cael benthyciad gan fanc mawr. Mae hynny oherwydd eu bod yn debygol o ystyried bod risg uchel y byddwch yn cael trafferth ad-dalu'r benthyciad.

Ond er efallai y gallwch ddod o hyd i ‘fenthyciadau i bobl ar fudd-daliadau’ neu ‘fenthyciadau i bobl anabl’ ar y rhyngrwyd, mae’n well osgoi’r rhain.

Er y gallech fod yn disgwyl cyfradd llog dyweder 10% -20%, mae'r APR (Cyfradd Canran Flynyddol) ar fenthyciadau a gynigir gan y benthycwyr hyn yn fwy tebygol o fod yn unrhyw le rhwng 500% a 4,000%.

Yn ymarferol, diolch i rywbeth o’r enw’r ‘cap credyd cost uchel’ y mwyaf y byddech yn ei dalu am fenthyciad tymor byr fel hwn yw dwbl y swm yr ydych yn ei fenthyg. Felly os ydych chi'n benthyca £1,000, byddwch chi'n talu £2,000 yn ôl. Mae awgrymiadau ar gyfer beth i'w wneud mewn sefyllfaoedd cyffredin pan fydd angen i chi fenthyg arian o bosib.

Talu biliau hwyr heb gael benthyciad

Os ydych chi'n cael trafferth talu biliau cartref a hanfodion eraill, yn bendant nid cymryd benthyciad yw'r ateb.

Mae hyn yn arbennig o wir os yw rhai o'ch biliau eisoes mewn ôl-ddyledion neu os oes gennych ddyledion eraill.

Bydd benthyca arian na fyddwch yn gallu ei dalu'n ôl dim ond gwneud pethau'n waeth.

Yn lle, siaradwch â phawb y mae arnoch chi arian iddynt a gweld a allwch chi gytuno ar gynllun ad-dalu. Mae hyn yn berthnasol i filiau cartref, fel ynni a Threth Cyngor, yn ogystal ag unrhyw fenthyciadau eraill rydych chi wedi'u cymryd.

Benthyg gan fod eich taliad budd-dal yn hwyr

Os yw’ch taliad budd-dal yn hwyr, peidiwch â chael eich temtio i gymryd credyd drud fel benthyciadau diwrnod cyflog i’ch helpu dros dro - hyd yn oed os oes gennych filiau blaenoriaethol i’w talu neu dreuliau hanfodol eraill.

Yn hytrach, dylech siarad â’r bobl mae angen i chi dalu iddynt i egluro’r sefyllfa.

Yna ystyriwch ffyrdd eraill i gael deupen llinyn ynghyd fel:

  • taliad ymlaen llaw byrdymor gan y Ganolfan Gwaith
  • benthyciad Trefnu di-log gan y Gronfa Gymdeithasol
  • taliad Ymlaen Llaw Credyd Cynhwysol gwerth hyd at fis o daliad.

Efallai y bydd gennych fynediad hefyd at gynlluniau cymorth lles awdurdodau lleol a all helpu i dalu cost bwyd ac eitemau hanfodol eraill. Mae'r math o gymorth sydd ar gael yn Lloegr yn amrywio yn ôl awdurdod lleol.

Benthyg i dalu cost neu fil annisgwyl

Gwneud cais am Fenthyciad Trefnu di-log

Os ydych chi'n cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gymhorthdal Incwm, efallai y gallwch wneud cais am Fenthyciad Trefnu.

Mae'r rhain yn ddi-log ac rydych chi'n eu had-dalu o'ch taliadau budd-dal yn y dyfodol. Mae'r swm rydych chi'n ei ad-dalu yn seiliedig ar eich incwm - gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau rydych chi'n eu derbyn a'r hyn y gallwch chi ei fforddio.

Os ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol, bydd angen i chi wneud cais am daliad  Cyllidebu Ymlaen Llaw yn hytrach na Benthyciad Trefnu

Gwnewch gais i’ch undeb credyd lleol am fenthyciad

Os nad ydych yn gymwys i gael Benthyciad Trefnu, edrychwch a oes undeb credyd yn eich ardal a all gynnig benthyciad i chi.

Maent yn arbenigo mewn darparu benthyciadau ar gyfraddau isel, a helpu aelodau y mae angen cyngor a chymorth ariannol arnynt.

Mae’n debygol y bydd angen i chi gynilo swm bach gyda’r undeb credyd am ychydig o fisoedd er mwyn dod yn gymwys am fenthyciad bach, cost isel; ond nid bob tro.

Osgoi fenthycwyr diwrnod cyflog

Os ydych wedi’ch temtio i gymryd benthyciad diwrnod cyflog, stopiwch i ystyried eich opsiynau.

Er y gall ymddangos fel opsiwn hawdd, gall benthyciad diwrnod cyflog droi’n ddyled drafferthus yn gyflym.

Hefyd gall effeithio ar eich statws credyd yn y dyfodol - hyd yn oed os byddwch yn ei dalu’n brydlon.

Osgoi benthycwyr didrwydded

Mae benthycwyr didrwydded yn fenthycwyr anghyfreithlon sy'n aml yn targedu teuluoedd incwm isel.

Efallai na fydd benthyciwr didrwydded yn ddieithryn, gallent fod yn rhywun rydych chi'n ei adnabod neu hyd yn oed yn ‘ffrind’ neu'n aelod o'r teulu.

Benthyg er mwyn i chi allu addasu'ch cartref

Gwneud cais am Grant Cyfleusterau i'r Anabl

Os oes angen i chi wneud rhywfaint o waith ar eich cartref i'w wneud yn hygyrch, efallai y gallwch wneud cais i'ch awdurdod lleol am help.

Efallai y gallant ddyfarnu Grant Cyfleusterau i'r Anabl i chi.

Mae'r grantiau hyn yn destun prawf modd, oni bai eich bod yn gwneud cais dros blentyn anabl o dan 18 oed

Mae hyn yn golygu y bydd eich awdurdod lleol yn ystyried unrhyw incwm a chynilion sydd gennych chi a'ch partner. Ac nid oes angen i chi dalu'r arian yn ôl.

Gall awdurdodau lleol hefyd helpu gyda'r gost o wneud mân addasiadau i'ch cartref, megis gosod rheiliau llaw.

Cymorth gan y Llywodraeth gyda llog ar fenthyciadau ar gyfer addasiadau cartref

Os ydych yn berchennog cartref sy’n hawlio budd-dal cymwys -  Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n seiliedig ag incwm neu Gymhorthdal Incwm, efallai y byddwch yn medru cael help gyda thaliadau llog ar fenthyciadau y byddwch yn eu cymryd ar gyfer trwsiadau neu addasiadau i wneud eich cartref yn fwy addas ar gyfer eich anghenion.

Gelwir y cymorth hwn yn Gymorth ar gyfer Llog ar Forgais. Gallai hefyd helpu tuag at eich taliadau llog ar eich morgais.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.