Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cyfrifon Cerdyn Gofalwr

Beth yw cyfrif Cerdyn Gofalwr?

Mae’n nodwedd arbennig ar gyfrif banc sy’n cael ei gynnig gan nifer o fanciau stryd fawr sy'n eich caniatáu i roi mynediad cyfyngedig i’r arian yn eich cyfrif banc i berson rydych yn ymddiried ynddo neu sy’n gofalu amdanoch chi.

Mae’r hyn y mae pob banc yn eu cynnig ychydig yn wahanol, ond fel arfer:

  • mae angen i chi a’r person rydych yn rhannu mynediad gyda dros y cyfrif fod yn 18 oed neu fwy ac yn breswylydd y DU
  • mae angen i chi gael cyfrif cyfredol personol gyda’r banc rydych chi’n ei ddewis ar gyfer eich Cerdyn Gofalwr
  • ni fydd gorddrafft ar gael, ac ni fydd llog yn cael ei dalu ar y balans
  • bydd y cyfrif yn eich enw chi yn unig, a chi yn unig fydd â mynediad llawn i’r cyfrif
  •  bydd y person rydych yn rhannu mynediad gydag yn derbyn cerdyn debyd eu hunain
  •  bydd y person rydych yn rhoi cerdyn iddo ond yn gallu gweld manylion cyfrif cyfyngedig
  • bydd y person rydych yn rhoi cerdyn iddo ond gyda mynediad cyfyngedig at arian a chi fydd yn rheoli faint
  • fel rheol, gall y cerdyn ond cael ei ddefnyddio ar gyfer tynnu allan arian cyfyngedig neu wario mewn siopau– nid ar-lein neu dros y ffôn.

Pam y buaswn eisiau defnyddio cyfrif Cerdyn Gofalwr?

Efallai yr hoffech chi ddefnyddio cerdyn Cyfrif Gofalwr os ydych yn ddibynnol ar eraill i dalu am bethau penodol ar eich rhan. Fel arall, os ydych yn darparu gofal neu help i rywun, boed yn anffurfiol neu am dâl, yna fe allech fod eisiau awgrymu cyfrif cerdyn gofalwr iddynt.

Os ydych yn derbyn gofal

Dyma sut all gyfrif Cerdyn Gofalwr fod yn ddefnyddiol i chi:

  • Os ydych yn dibynnu ar ofalwr i siopa, tynnu arian parod allan neu dalu biliau penodol a hoffech chi eu darparu’n ddiogel gyda’r gallu i dalu heb ddibynnu ar arian parod.
  • Os ydych yn dibynnu ar deulu neu ffrindiau yn yr un ffordd heb iddynt fod yn ofalwr ffurfiol.

Os ydych yn darparu gofal am rywun arall

Dyma sut y gallai gyfrif cerdyn gofal fod yn ddefnyddiol i chi a’r person rydych yn gofalu amdano:

  • Os ydych yn ofalwr neu’n deulu neu ffrind i berson sy’n methu gadael y tŷ ac eisiau gwybod a oes ffordd ddiogel i dalu am bethau ar eu rhan gyda’u harian.

Dim cyfrif banc?

Mae’n well cadw’ch arian mewn banc, ond os nad yw hyn yn opsiwn i chi, mae’n bwysig:

  • lleihau'r risg o gael arian parod gartref trwy ei gadw mewn gwahanol leoliadau
  • storio arian mewn blwch tân rhag ofn y bydd tân
  • cadwch gofnod o'r hyn sydd gennych, fel y gallwch gadw golwg arno
  • dywedwch wrth yr heddlu os sylwch ar arian yn cael ei ddwyn

Pwy sy'n cynnig cyfrifon cerdyn Gofalwr?

Dyma’r cyfrifon Cerdyn Gofalwr sy’n cael eu cynnig gan fanciau a darparwyr eraill. Nid yw’r rhain wedi eu rhestru mewn unrhyw drefn arbennig gan na allwn gymeradwyo unrhyw gyfrif unigol. Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr holl wybodaeth i ddewis y cyfrif fwyaf addas i’ch amgylchiadau.

Os nad ydych yn gweld banc, cymdeithas adeiladu neu undeb gredyd eich hun wedi ei restru, mae’n werth cysylltu â nhw i weld a ydynt yn cynnig rhywbeth tebyg.

Cyfrif Cerdyn Gofalwr am ddim

Lloyds, Halifax a Bank of Scotland – Fy Ngherdyn Person Dibynadwy

Mae hwn yn gerdyn debyd ychwanegol wedi ei gysylltu â’ch cyfrif cyfredol personol. Mae gan y cerdyn PIN a rhif cerdyn debyd ei hun. Ni fydd y person sy’n defnyddio’r cerdyn yn gallu prynu pethau ar-lein, dramor neu dros y ffôn, ac ni fyddant yn gallu gweld balans eich cyfrif, cod didoli neu rif cyfrif. Bydd y person rydych yn rhoi eich cerdyn person dibynadwy ond yn gallu gwneud pryniadau hyd at £100 yr wythnos a thynnu allan arian parod gwerth hyd at £100 yr wythnos. 

Gallwch ond wneud cais am y cerdyn hwn dros y ffôn neu drwy drefnu apwyntiad mewn cangen a rhaid eich bod yn gwsmer yn barod. Ffoniwch y llinell gais dros y ffôn am bob banc ar:

Starling Bank – Cerdyn Cyswllt

Mae hwn yn ofod ‘wedi ei glymu’ yn eich cyfrif cyfredol personol sydd yn dod â cherdyn debyd ei hun a allwch roi i unrhyw un rydych yn ymddiried ynddo. Gallwch roi hyd at £200 yn y ‘gofod’ yma a gall y person sydd â’r Cerdyn Cysylltiedig ei ddefnyddio ar gyfer gwario mewn siopau. Ni allant gael mynediad i weddill eich cyfrif, gweld balans eich cyfrif, cael mynediad i’ch ap, tynnu arian parod allan o’r peiriant ATM, siopa ar-lein neu brynu deunyddiau gamblo. 

Santander – Cerdyn Cyfrif Gofalwr

Mae hwn yn gyfrif hollol ar wahân yn hytrach na cherdyn debyd ychwanegol wedi ei gysylltu i gyfrif presennol. Fodd bynnag, rhaid i chi fod â chyfrif cyfredol neu gyfrif cynilion mynediad rhwydd Santander yn barod i fod yn gallu trosglwyddo arian i mewn iddo. Mae’r cyfrif yn eich caniatáu i roi cerdyn â PIN unigol i ddau ofalwr. Byddwch chi a’ch gofalwr(neu ofalwyr) yn gallu gweld datganiadau banc. Gall y cyfrif gael uchafswm balans o £1,500 ond nid oes unrhyw gyfyngiadau gwariant neu dynnu arian parod allan.

Pam rydych angen gwneud cais am gyfrif Cerdyn Gofalwr

Os ydych yn dewis cyfrif Cerdyn Gofalwr am ddim sy’n cael eu cynnig gan un o’r banciau wedi eu rhestru uchod, byddwch angen:

  • Cyfrif cyfredol (neu mewn rhai achosion cyfrif cynilion) gyda’r banc rydych yn ei ddewis. Os nad oes gennych gyfrif yn bresennol, byddwch angen agor un newydd.
  • ID a thystiolaeth o’ch cyfeiriad os ydych yn agor cyfrif newydd. Gwelwch ein harweiniad ar gyfer yr ID mae pob banc ei angen.
  •  ID ar gyfer y gofalwr (neu ofalwyr) rydych yn bwriadu rhannu mynediad â hwy.

Pa mor ddiogel yw fy arian mewn cyfrif Cerdyn Gofalwr am ddim?

Fel gyda chyfrifon eraill sy’n cael eu cynnig gan fanciau, cymdeithasau adeiladau neu undebau credyd, os ydych yn dewis un o’r cyfrifau cerdyn gofalwr uchod, rydych â hawl i iawndal drwy’r Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol os yw eich darparwr yn mynd i’r wal.

Mae hyn yn golygu na wnewch golli unrhyw arian rydych yn rhoi yn y cyfrif hwn os nad ydych â thros £85,000 gyda’r un sefydliad ariannol.

Diogelu eich hun rhag twyll

Mae cyfyngiadau ar y cardiau uchod sy'n atal sgamwyr posib ac yn lleihau'ch siawns o ddod yn ddioddefwr sgam neu dwyll.

Er enghraifft, mae’r rhan fwyaf o’r cardiau â chyfyngiadau ar faint o arian a allai ei gyrchu gan eich gofalwr a gellir ond defnyddio y cardiau mewn siopau ac nid ar-lein.

Hyd yn oed gyda’r cyfyngiadau yma, mae’n bwysig fod y gofalwr rydych yn ei ddewis i gael mynediad i’ch Cerdyn Gofalwr yn rhywun rydych yn ymddiried ynddo yn gyfan gwbl.

Diogelu eich hun rhag cam-drin ariannol

Mae gan bawb yr hawl i annibyniaeth ariannol. Gall cam-drin ariannol gan aelod o’r teulu, ffrind, bartner neu ofalwr ddigwydd pan fod rhywun:

  • yn cymryd allan arian neu’n cael credyd yn eich enw heb yn wybod i chi a heb eich caniatàd
  • yn eich gorfodi i roi rheolaeth o’ch cyfrifon iddynt
  • yn tynnu allan eich pensiwn am arian parod neu sieciau eraill heb eich caniatâd
  • yn ychwanegu eu henw i’ch cyfrif
  •  yn gofyn i chi newid eich ewyllys
  • yn cynnig prynu siopa neu dalu biliau gyda’ch arian, ond nid ydych yn gweld hyn yn digwydd
  • yn eich atal rhag gweld teulu a ffrindiau eraill.

Mae cymryd y camau cyntaf i dorri’n rhydd o gam-drin ariannol yn hynod o ddewr. Fe allai edrych yn frawychus, ond nid oes rhaid i chi ei wneud ar eich pen eich hun. 

Mae yna ffyrdd y gall eich banc, cymdeithas adeiladu, benthycwr neu ddarparwr gwasanaeth ariannol eich helpu. Mae’n bwysig siarad â rhywun.

Eich hawliau defnyddiwr wrth ddefnyddio’r cerdyn

Bydd eich cerdyn gofalwr yn cael ei warchod o dan y Cynllun Chargeback.

Mae Chargeback yn gytundeb gwirfoddol ac mae Visa, Mastercard ac American Express wedi ei gytuno iddo.

Mae’r cynllun yn eich galluogi i hawlio ad-daliad drwy eich darparwr cerdyn os yw pryniant yn ddiffygiol (er ei fod o hyd yn well i geisio datrys problem gyda’r siop y gwnaethoch brynu wrtho’n gyntaf). 

Gan fod gwario ar ran fwyaf o gyfrifon cerdyn gofalwr wedi ei gyfyngu i siopau corfforol, mae’n annhebygol y byddwch angen gwneud hawliad chargeback oni bai fod y siop yn gwrthod rhoi ad-daliad i chi neu’ch gofalwr.

Cyfrifon Cerdyn Gofalwr taledig

Fel arfer mae’r rhain yn gardiau rhagdaledig, nid cyfrifon banc.

Mae hyn yn golygu nad yw’r arian rydych yn rhoi ar y cerdyn yn cael ei ddiogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS). Mae hyn yn golygu os yw’r cwmni yn mynd i’r wal rydych mewn perygl o golli’ch arian neu gymryd amser hir i’w gael yn ôl.

Fel arfer, rhaid i chi dalu tanysgrifiad o tua £8 y mis ac efallai bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol am bethau fel tynnu allan arian parod.

Felly mae’n debyg mai’r opsiwn rhataf yw defnyddio cyfrif Cerdyn Gofalwr gan un o’r banciau sydd wedi eu rhestru uchod. I gymharu, mae GuardianCard, Cerdyn Gofalwr rhagdaledig yn costio £7.95 y mis yn ogystal â thaliadau. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y telerau ac amodau o’r naill neu’r llall o’r cardiau hyn cyn eu tynnu allan.

Dewisiadau amgen i gyfrifon Cerdyn Gofalwr

Efallai nad cyfrif Cerdyn Gofalwr fyddai’r opsiwn iawn i chi.

Er enghraifft, efallai eich bod ond angen gofal am gyfnod byr o amser wrth wella yn dilyn llawdriniaeth yn yr ysbyty. 

Neu eich bod angen rhywun rydych yn ymddiried ynddo i gael mynediad ehangach at eich cyfrif banc, megis gallu trefnu eich biliau cartref ar eich cyfer.

Isod mae rhai dewisiadau amgen.

Cardiau rhodd archfarchnadoedd

Mae rhai archfarchnadoedd yn eich caniatáu i brynu cardiau rhodd fel bod gwirfoddolwr yn gallu gwneud eich siopa ar eich rhan. Gall y gwirfoddolwr ond gwario hyd at y swm o arian sydd ar y cerdyn rhodd a dim ond yn y siop a enwir ar y cerdyn. Mae’n bosib ni allant ei wario ar-lein.

Ar adegau fe allech gael y cerdyn rhodd wedi ei anfon yn uniongyrchol i gyfeiriad cartref y gwirfoddolwr (os ydych yn dewis cerdyn llaw) neu gyfeiriad ebost (os ydych yn dewis ‘cerdyn rhodd ddigidol’).

Mae hyn yn lleihau’r cyswllt wyneb yn wyneb rydych yn ei gael gyda’ch gwirfoddolwr sydd yn hynod o ddefnyddiol os ydych yn poeni am haint neu’r coronafeirws.

Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae rhai archfarchnadoedd hefyd yn cynnig ‘slotiau’ blaenoriaeth ar gyfer siopa ar-lein os ydych yn agored i niwed.

Byddwch yn ofalus wrth brynu cardiau rhodd oherwydd fe allwch golli eich arian os ydynt yn dod i ben, os ydych yn colli’r cerdyn neu os yw’r siop yn mynd i’r wal. Darganfyddwch fwy am eich hawliau a chardiau rhodd ar y wefan Which?

Danfon arian parod am ddim

Os ydych angen arian parod, ond methu gadael eich cartref, mae rhai banciau nawr yn cynnig gwasanaeth danfon arian parod i’r cartref am ddim.

Pa fanciau sydd yn cynnig danfon arian parod am ddim

Os ydych yn gwsmer ‘sy’n agored i niwed’ o Natwest, RBS neu Fanc Ulster gallwch gael arian parod wedi ei ddanfon heb ffi i’ch drws. Gallwch hefyd ofyn am god un-defnydd a fydd yn caniatáu i rywun rydych yn ymddiried ynddo i dynnu allan hyd at £100 o ATM ar eich rhan.

I ddarganfod mwy ffoniwch y llinell ffôn i gwsmeriaid sy’n agored i niwed am bob banc ar:

Cefnogaeth arall

Os ydych angen cymorth gyda gwaith papur neu dalu biliau, yna mae cymorth ar gael.

Os ydych yn meddwl eich bod angen rhywun i’ch helpu gyda’ch bancio neu wneud penderfyniadau ariannol ar eich rhan, yna efallai eich bod angen ystyried Pŵer Atwrnai.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.