Ni ddylai bod yn sâl neu’n anabl eich atal rhag cael morgais, hyd yn oed os ydych yn dibynnu ar fudd-daliadau am y cyfan neu ran o’ch incwm. Darganfyddwch beth mae angen i chi ei wneud wrth wneud cais.
Eich hawliau cyfreithiol
Os gallwch fforddio morgais, ni chaniateir i fanciau a benthycwyr eraill wrthod eich cais dimond oherwydd eich bod yn anabl.
Mae’n rhaid iddynt asesu'ch cais ar sail fforddiadwyedd a'ch sefyllfa ariannol, yn yr un modd ag y byddent gydag unrhyw gais arall.
Ni all benthycwyr fynnu eich bod yn talu blaendal mwy neu wneud ad-daliadau misol mwy na chwsmeriaid nad ydynt yn anabl.
Gallai rhai salwch arwain at geisiadau yn cymryd mwy o amser, cyfraddau uwch neu hyd yn oed yn cael eu gwrthod. Os yw hyn yn berthnasol i chi mae cael help gyda'r cais hyd yn oed yn bwysicach.
I bwy mae deddfwriaeth anabledd yn gymwys?
Efallai y bydd rheolau gwrth-wahaniaethu yn berthnasol i chi hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl amdanoch chi'ch hun fel person anabl.
O dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae anabledd yn gyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.
Felly mae hyn yn berthnasol os oes gennych gyflwr corfforol, fel canser, HIV neu MS, a/neu gyflwr iechyd meddwl fel iselder.
Darganfyddwch os yw eich salwch neu anabledd wedi'i gwmpasu gan y Ddeddf Cydraddoldeb ar wefan Cyngor ar Bopeth
Os nad yw eich salwch wedi’i gwmpasu gan y Ddeddf Cydraddoldeb
Os ydych am fynd ar yr ysgol eiddo ond yn poeni y gallai salwch tymor hir effeithio ar eich siawns, mae angen i chi gael cyngor arbenigol cyn gynted â phosibl.
Bydd ymgynghorydd morgais yn gallu asesu eich cyllid ac archwilio'r cynhyrchion ariannol a allai fod ar gael i chi. Os byddant yn dod o hyd i fenthyciad y gallech fod yn gymwys amdano, gallant eich helpu gyda'r cais.
Mewn rhai achosion, gall eich ymgynghorydd awgrymu ffyrdd y gallwch wella'ch sefyllfa ariannol er mwyn gwneud eich hun yn fwy apelgar i fenthycwyr.
Cael morgais os ydych chi ar fudd-daliadau salwch neu anabledd
Fel gydag unrhyw forgais, diddordeb pennaf benthycwyr yw eich gallu i ad-dalu. Bydd benthycwyr eisiau gweld prawf o'ch incwm a deall eich gwariant, ac os oes gennych unrhyw ddyledion. Bydd benthycwyr hefyd eisiau prawf y byddwch yn gallu cadw at ad-daliadau os bydd cyfraddau llog yn codi.
Ni ddylai cael incwm sydd naill ai'n rhannol neu'n bennaf yn cael ei wneud i fyny o fudd-daliadau eich atal rhag cael morgais, ond gall ei gwneud yn anoddach.
Mae rhai benthycwyr yn fwy tebygol nag eraill o dderbyn budd-daliadau fel incwm wrth wneud eu gwiriadau fforddiadwyedd. Mae hyn yn cynnwys taliadau sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Gall hefyd fod yn anodd os ydych ond yn cael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd yn y tymor byr - os ydych yn disgwyl gallu dychwelyd i'r gwaith ar ryw adeg yn y dyfodol.
Mae'n annhebygol y bydd benthycwyr yn cymeradwyo cais morgais yn seiliedig ar fudd-daliadau tymor byr, felly bydd eu ymagwedd yn dibynnu ar eich union sefyllfa a'u gofynion eu hunain.
Gall brocer morgeisi arbenigol eich helpu i ddod o hyd i fenthyciwr sy'n barod i roi benthyg i rywun yn eich sefyllfa chi. (Gweler ‘Mynnwch gyngor arbenigol’ isod.)
I gael awgrymiadau ar sut i baratoi ar gyfer eich cais a rhoi'r cyfle gorau posibl i'ch hun, darllenwch ein canllaw ar Sut i wneud cais am forgais
Help gyda thaliadau llog morgais
Os ydych chi wedi bod yn derbyn budd-dal cymwys - gan gynnwys Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Cynhwysol - am naw mis neu fwy efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am gymorth gyda'ch taliadau llog morgais.
Gelwir hyn yn Gymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI). Mae Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) yn fenthyciad y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu gyda llog pan fyddwch chi'n gwerthu neu'n trosglwyddo perchnogaeth o'ch cartref.
Darganfyddwch fwy am fenthyciadau Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI) ac opsiynau ad-dalu yn ein canllaw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)
Ystyriwch gynllun rhan-berchnogaeth
HOLD – Perchentyaeth ar gyfer pobl ag anabledd hirdymor
Mae HOLD yn gynllun rhan-berchnogaeth ar gyfer pobl ag anableddau hirdymor ac mae’n rhan o raglen tai fforddadwy’r llywodraeth
Rydych chi'n prynu cyfran o eiddo ar y farchnad agored, ac mae cymdeithas dai yn prynu'r gyfran sy'n weddill. Gyda'r cynllun hwn, gallwch brynu hyd at 25% o'ch cartref.
Mae’r gymdeithas dai’n negodi gyda gwerthwr yr eiddo a darparwr y morgais ar eich rhan.
Mae HOLD ar gael yn Lloegr yn unig.
Darganfyddwch fwy am HOLD ar wefan Own your own home y Llywodraeth.
MySafeHome
Gall y darparwr arbenigol, MySafeHome, eich helpu i brynu cartref os ydych yn anabl. Mae’n gweithio gyda benthycwyr penodol ar gynlluniau rhannu perchnogaeth.
Darganfyddwch fwy ar wefan MySafeHome
Cael cyngor arbenigol
Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â nifer o fenthycwyr a chynghorwyr morgeisi, gan y bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i’r morgais sy’n bodloni eich anghenion.
Cysylltwch â’ch Sefydliad Pobl Anabl lleol
Mae Sefydliadau Pobl Anabl (DPO) yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr. Gall DPOs gynnig gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, annibynnol am ddim, ac maent yn cael eu rhedeg gan bobl anabl ac ar eu cyfer.
I ddarganfod mwy:
yn Lloegr, cysylltwch â Scope
yn yr Alban, cysylltwch â Citizens Advice or Housing Options Scotland
yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Disability Action
yng Nghymru, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Cymru neu Anabledd Cymru
Siaradwch â chynghorydd morgais annibynnol
Mae cynghorwyr morgais annibynnol yn cynnig cyngor diduedd a gallant chwilio amdanoch chi hefyd.
Gall cyngor arbenigol fod yn arbennig o ddefnyddiol o ran anghenion penodol. Bydd cynghorydd morgais annibynnol arbenigol yn gallu cyrchu cynhyrchion o bob rhan o'r farchnad.
Mae hyn yn golygu eu bod yn deall pa fenthycwyr sydd fwyaf tebygol o allu eich helpu chi a'r hyn a beth y byddant yn chwilio amdano o ran pethau fel gwaith papur a meini prawf cymhwyso.
Mae rhai yn codi ffi am eu gwaith.
I ddarganfod mwy am gynghorwyr morgeisi annibynnol a'r gwasanaethau maent yn eu cynnig, darllenwch ein canllaw Cyngor morgeisi – A ddylech chi gael cynghorydd morgeisi?
Siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu
Cysylltwch â’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu a gofyn am siarad â’u cynghorydd morgeisi.
Ond cofiwch y bydd banciau a chymdeithasau adeiladu yn rhoi gwybod i chi am eu cynnyrch morgeisi eu hunain yn unig.
Felly, ystyriwch yr wybodaeth y byddant yn ei rhoi i chi a’i chymharu â’r cynigion eraill cyn penderfynu.