Os ydych chi wedi bod yn yr un swydd am o leiaf dwy flynedd mae’n rhaid i’ch cyflogwr dalu arian diswyddo i chi. Gelwir y lleiafswm cyfreithiol yn ‘dâl diswyddo statudol’, ond edrychwch ar eich cytundeb – fe allech gael rhagor.
A oes gennych hawl i dâl diswyddo?
Os ydych wedi gweithio’n barhaol i’ch cyflogwr am ddwy flynedd neu ragor ac maent yn dileu eich swydd, mae gennych yr hawl i dâl diswyddo.
Tâl diswyddo statudol a thâl diswyddo cytundebol
Y lleiafswm cyfreithiol yw tâl diswyddo statudol.
Ni chaiff eich cyflogwr dalu llai na hyn i chi.
Ond efallai y bydd rhaid iddynt dalu rhagor i chi os yw cytundeb eich cyflogaeth yn dweud hynny. Gelwir hyn yn ‘dâl diswyddo cytundebol.
Gallai hyn olygu cyfandaliad mwy neu gael taliad hyd yn oed os ydych wedi gweithio yno am lai na dwy flynedd.
Os nad oes unrhyw sôn am dâl diswyddo yn eich cytundeb neu lyfryn staff, dylech gymryd yn ganiataol y byddwch yn cael y lleiafswm cyfreithiol.
Edrychwch ar eich contract cyflogaeth neu eich llawlyfr staff i gael gwybodaeth am eich tâl diswyddo cytundebol.
Faint o dâl diswyddo a gewch?
Mae faint o dâl diswyddo statudol a gewch yn dibynnu ar:
- pa mor hir rydych wedi bod yn y swydd
- yr oedran yr oeddech ym mhob blwyddyn y buoch yn gweithio yno, a
- eich cyflog presennol – hyd at fwyafswm o £643 yr wythnos yn 2023/24 (£669 yng Ngogledd Iwerddon)
Mae uchafswm cyffredinol o dâl diswyddo y gallwch ei gael. Mae hwn wedi’i gapio ar £19,290 yn 2023/24 (£20,070 yng Ngogledd Iwerddon) – hyd yn oed os ydy’ch enillion gwirioneddol yn uwch. Uchafswm hyd y gwasanaeth a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo taliad dileu swydd yw 20 mlynedd.
Dim ond blynyddoedd llawn o wasanaeth sy’n cyfrif, ac mae rhaid i wasanaeth fod yn barhaus.
Dyma beth y dylech ei gael:
Eich oedran | Tâl diswyddo |
---|---|
O dan 22 oed |
Hanner wythnos o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth |
22 i 40 oed |
Wythnos o dâl ambob blwyddyn o wasanaeth |
Dros 41 oed |
Wythnos a hanner o dâl am bob blwyddyn o wasanaeth |
Cyfrifo tâl diswyddo - enghraifft
Mae Sally (31 oed) wedi gweithio’n rhan-amser fel dynes trin gwallt i ‘Kurl Up and Dye’ am ddeng mlynedd a dau fis, gan ennill £200 yr wythnos.
Mae ei swydd hi newydd gael ei dileu.
Mae hi’n cael:
- Hanner wythnos o dâl am y flwyddyn yr oedd hi’n gweithio pan oedd hi dan 22 = £100
- Naw wythnos o dâl am y naw
mlynedd y bu’n gweithio rhwng 22 a 40 = £1,800
Felly y cyfanswm mae hi’n ei gael yw £1,900.
Tâl yn lle rhybudd a thâl gwyliau
Tâl yn lle rhybudd
Pan gollwch eich swydd mae rhaid i’ch cyflogwr roi
- leiaf un wythnos o rybudd i chi am hyd at 2 flynedd o wasanaeth, a
- wythnos o rybudd am bob blwyddyn gwnaethoch weithio iddynt (hyd at uchafswm o 12 wythnos o rybudd).
Ond gwiriwch yn eich cytundeb cyflogaeth oherwydd efallai bod cyfnod hirach o rybudd wedi ei gynnwys ynddo y gallwch ei hawlio.
Efallai bydd disgwyl i chi barhau i weithio yn ystod eich cyfnod o rybudd, ond efallai y caniateir i chi adael yn gynt ac weithiau yn syth. Os felly, fe gewch dâl yn lle rhybudd (PILON). Mewn gwirionedd dyma iawndal gan eich cyflogwr am ddod â‘ch cytundeb i ben yn gynnar.
Mae pob taliad PILON, yn gontractiol neu ddim, bellach yn destun didyniadau treth ac yswiriant gwladol.
Mae hyn yn golygu caiff unrhyw dâl sylfaenol yr ystyrir i chi ei gael ei drethu yn yr un modd, os gweithioch yn ystod eich cyfnod o rybudd neu beidio.
Byddai taliadau diswyddo uwchben yr hyn a ystyrir yn PILONs yn parhau i elwa o’r eithriad £30,000 o ran treth a chyfraniadau yswiriant gwladol.
Tâl gwyliau
Peidiwch ag anghofio tâl gwyliau! Os oes gennych wyliau’n ddyledus i chi mae rhaid i’ch cyflogwr eich talu amdano neu adael i chi ei gymryd cyn gadael.
Edrychwch a oes gennych wyliau’n ddyledus i chi.
£30,000 yn ddi-dreth
Pan fydd eich swydd yn cael ei dileu, byddwch yn debygol o gael cymysgedd o dâl diswyddo (sydd yn iawndal am golli eich swydd) a symiau eraill sy’n ddyledus i chi.
Mae’r £30,000 cyntaf o’ch tâl diswyddo yn ddi-dreth – pa un a ydych yn cael y lleiafswm cyfreithiol neu daliad mwy hael gan eich cyflogwr.
Ni fydd rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol arno ychwaith.
Ond mae tâl gwyliau, tâl yn lle rhybudd ac unrhyw symiau eraill sy’n dâl am eich gwaith yn hytrach na iawndal am golli eich swydd yn cael eu trethu fel tâl.
Darganfydwvh fwy yn ein canllaw Oes rhaid i chi dalu treth ar eich tâl diswyddo?
Beth os yw eich cyflogwr wedi mynd i'r wal?
Os bydd busnes eich cyflogwr yn mynd i’r wal, byddwch yn parhau i gael tâl diswyddo statudol ac unrhyw dâl gwyliau sy’n daladwy i chi. Ond bydd yn rhaid i chi wneud cais amdanynt o’r Gwasanaeth Ansolfedd yn hytrach na gan eich cyflogwr.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os oes gennych daliad diswyddo yn ddyledus i chi gan eich cyflogwr neu arian arall fel cyflog, tâl gwyliau, neu gomisiwn.
Mae rhaid bod eich cyflogwr yn methu eich talu chi, er enghraifft os yw’n ansolfent. Bydd y Rheolwyr Arbennig yn rhoi manylion i chi ar sut i ymgeisio a rhoi rhif cyfeirnod achos i chi (er enghraifft CN12345678).
Bydd angen hwn arnoch cyn gallwch ddechrau’ch cais. Yna gallwch wneud eich cais ar-lein ar wefan GOV.UK
I ddarganfod mwy, gan gynnwys manylion am sut i wneud cais, edrychwch ar ganllawiau diweddaraf y Gwasanaeth Ansolfedd GOV.UK neu ebostiwch [email protected]
Ni allwch wneud cais i’r Gwasanaeth Ansolfedd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon. Dysgwch am eich hawliau yng Ngogledd Iwerddon os yw’ch cyflogwr yn ansolfent ar wefan nidirect
Nid yw eich cyflogwr am dalu i chi – beth allwch ei wneud?
Os ydych chi’n meddwl bod eich cyflogwr yn talu’r swm tâl diswyddo anghywir i chi, neu os ydych chi’n anhapus ynglŷn â’r ffordd rydych chi’n cael eich trin - siaradwch â hwy amdano’n gyntaf.
Gallech hefyd siarad â’ch cynrychiolydd undeb llafur, os oes gennych chi un.
Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch wneud cwyn gan ddefnyddio trefn gwyno’ch cyflogwr.
Fel arall, mae Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi, a Chyflafareddu) a’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur yn cynnig cyngor diduedd a chyfrinachol rhad ac am ddim.
Os na ellir datrys y materion dylech ystyried gwneud cais i’r tribiwnlys cyflogaeth.
- Ewch i wefan ACAS (Cymru, Lloegr, a’r Alban) neu eu ffonio ar 0300 123 1100
- Ewch i wefan yr Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (Gogledd Iwerddon) neu eu ffonio ar 028 9032 1442