Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

A allwch yswirio’ch hun rhag diswyddo?

A ydych erioed wedi ystyried sut byddech yn talu’ch morgais neu’ch ad-daliadau gerdyn credyd petaech yn colli’ch swydd? Tra nad oes y fath beth ag yswiriant diswyddo di-ffael, ond mae rhai polisïau ‘yswiriant diswyddo’ allai eich helpu. Ond, byddwch yn ofalus beth fyddwch yn ei brynu - efallai y byddant yn eich helpu trwy gyfnod anodd, ond efallai y byddwch yn prynu cynnyrch anaddas.

Pa bolisïau yswiriant sydd ar gael?

Mae tri math o yswiriant ar gael os byddwch yn colli’ch swydd:

  1. Yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI). Gallech fod wedi cymryd y math hwn o yswiriant â’ch morgais. Fel rheol, mae’n dechrau talu’ch ad-daliadau morgais dri mis ar ôl i’ch enillion ddod i ben ac mae’n parhau i’w talu am hyd at 12 mis.
  2. Yswiriant diogelu taliadau (PPI). Fe’i gelwir weithiau’n yswiriant Damweiniau, Salwch a Diweithdra (ASU). Gallech fod wedi cymryd yr yswiriant hwn â benthyciad personol neu gerdyn credyd. Mae’n eich helpu i barhau i ad-dalu’ch benthyciad drwy dalu allan swm penodol am hyd at 12 neu 24 mis. Fel rheol, mae’r taliadau’n dechrau dri mis ar ôl i’ch enillion ddod i ben.
  3. Yswiriant diogelu incwm tymor byr (STIP). Mae’r yswiriant hwn yn rhoi cyfran o’ch incwm i chi am gyfnod penodol (12 neu 24 mis fel arfer). Ni ddylid drysu rhwng hwn a pholisïau diogelu incwm eraill, na fyddant fel arfer yn talu os byddwch yn colli eich swydd.

Oherwydd y ffordd y byddai polisïau diogelu taliadau’n cael eu gwerthu yn y gorffennol, efallai na fyddwch wedi sylweddoli bod gennych yr yswiriant hwn eisoes.

Holwch eich benthyciwr a oes yswiriant yn diogelu’ch morgais, eich benthyciad neu’ch cerdyn credyd.

Ar gyfer beth fyddech wedi eich diogelu?

  • Yn gyffredinol, dim ond eich ad-daliadau benthyciad neu forgais, nid eich incwm, sy’n cael eu diogelu gan yswiriant diogelu taliadau (neu yswiriant diogelu taliadau morgais). Fodd bynna, mae rhai polisïau diogelu taliadau morgais yn talu swm ychwanegol i helpu â biliau eraill.
  • Mae yswiriant diogelu incwm tymor byr yn talu cyfran o’ch incwm (50% neu 60% fel arfer), yn hytrach na bod ynghlwm wrth ad-daliadau dyled.

Nid yw llawer o bolisïau’n talu allan ar unwaith – bron bob amser bydd bwlch o ryw dri mis cyn i’r taliadau ddechrau.

Fodd bynnag, dylech wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn colli’ch swydd.

Pryd i beidio prynu’r math hwn o yswiriant

Os yw diswyddo eisoes yn debygol

A yw eich cwmni eisoes wedi cyhoeddi diswyddiadau, neu oes son am golli swyddi? Yna nid yw’n werth cymryd polisi oherwydd ni fyddwch yn gallu hawlio.

Mae’r un peth yn wir os cymerwch ddiswyddiad gwirfoddol – fel arfer, ni fydd yr yswiriwr yn talu.

Darllenwch y telerau ac amodau’n ofalus i sicrhau y byddech yn gymwys am daliad cyn i chi brynu polisi.

Rydych yn gweithio’n rhan-amser, rydych yn hunangyflogedig neu rydych ar gontract dros dro

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gwiriwch yn ofalus oherwydd ni fydd llawer o bolisïau diogelu taliadau’n eich diogelu.

Pan ddylech ystyried prynu

  • Os ydych mewn swydd lle mae tebygolrwydd canolig i uchel o ddiswyddiadau ond bod hynny’n fwy na thri i chwe mis i ffwrdd
  • Os nad ydych yn credu y byddwch yn dod o hyd i swydd arall ymhen tri mis o ddiswyddiad
  • Os ydych yn gwybod bod y polisi’n mynd i ddiogelu’ch taliadau am 12 mis yn unig ar ôl cyfnod aros rhwng 1 a 3 mis a’ch bod yn fodlon ar hynny
  • Os ydych yn deall yr holl eithriadau
  • Os ydych yn fodlon chwilio am y fargen orau – peidiwch byth â’i brynu’n awtomatig gan ddarparwr eich morgais neu fenthyciad
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.