Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Eich hawliau cyfreithiol wrth wynebu diswyddo

Os ydych yn wynebu diswyddo, mae rhaid i’ch cyflogwr eich trin yn deg ac ymddwyn yn unol â’ch contract a hawliau diswyddo cyfreithiol. Mae hynny’n cynnwys sicrhau ymgynghori â chi, dilyn y broses ddewis gywir, a rhoi cyfnod rhybudd priodol. Fel arall, gallech hawlio am ddiswyddo annheg, neu gallech hawlio iawndal am ddiffyg ymgynghori.

Eich hawl i broses deg

Mae'r math yma o ddiswyddo yn digwydd pan fydd eich swydd yn diflannu. Nid yw’r un peth â chael eich diswyddo o’ch swydd am resymau eraill

Mae rhaid i’ch cyflogwr ddefnyddio ffordd deg a gwrthrychol o ddewis swyddi i’w dileu, a rhoi gwybod ichi am y ffordd honno.

Os ydych yn credu y cawsoch eich dewis yn annheg – er enghraifft, ar sail oedran, hil neu ryw – neu fod eich cyflogwr wedi ymddwyn yn annheg mewn ffyrdd eraill, gallwch apelio fel arfer.

Os na fyddwch yn fodlon o hyd, gallwch ddwyn achos tribiwnlys yn erbyn eich cyflogwr.

Eich hawl i isafswm cyfnod o rybudd

Cyfnod rhybudd yw’r cyfnod o amser rhwng pan fydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i chi y byddwch yn cael eich diswyddo a’ch diwrnod gwaith olaf.

Yn ôl cyfraith diswyddo, mae gennych hawl i isafswm cyfnod o rybudd o:

  • 12 wythnos o rybudd os ydych wedi’ch cyflogi ers 12 mlynedd neu fwy
  • o leiaf wythnos o rybudd os ydych wedi’ch cyflogi rhwng mis a dwy flynedd
  • wythnos o rybudd am bob blwyddyn os ydych wedi’ch cyflogi rhwng dwy a 12 mlynedd.

Tâl yn lle rhybudd

Os nad yw’ch cyflogwr am ichi weithio eich cyfnod rhybudd, gall gynnig cyfandaliad ichi yn lle hwnnw – sef tâl yn lle rhybudd.

Caiff tâl yn lle rhybudd ei drethu yn yr un ffordd â’ch cyflog arferol.

Absenoldeb garddio (absenoldeb gardd)

Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi fod i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer eich rhybudd diswyddo.

Yr enw ar hyn yw ‘absenoldeb garddio’.  Er na fyddwch yn gweithio mewn gwirionedd, mae’n golygu eich bod wedi’ch cyflogi’n gyfreithiol o hyd ac y byddwch yn cael eich cyflog a’ch buddion arferol ond:

  • mae rhaid i chi gadw at reolau’ch contract
  • gallech gael eich galw’n ôl i’r gwaith os bydd eich angen
  • ni allwch ddechrau swydd gyda chyflogwr newydd.

Trefniadau cyfaddawd

Os nad yw’ch cyflogwr wedi dilyn gweithdrefn deg wrth eich dewis i’ch diswyddo, gall ofyn weithiau i chi lofnodi cytundeb sy’n datgan na fyddwch yn mynd i dribiwnlys cyflogaeth. Mae hynny’n aml yn gyfnewid am dâl ychwanegol. ‘Cytundeb cyfaddawd’ yw’r enw ar hwn.

Mae rhaid i’ch cyflogwr dalu i chi gael cyngor cyfreithiol annibynnol er mwyn i chi ddeall yn llwyr yr hawliau rydych yn eu hildio.

Eich hawl i ymgynghoriad

Mae rhaid i gyflogwyr ymgynghori bob amser â’u cyflogeion cyn eu diswyddo ar sail dileu swydd.

Yn fyr, mae rhaid i’ch cyflogwr ddweud wrthych beth sy’n digwydd a rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a chodi gwrthwynebiadau.

Yn rhan o’r broses ymgynghori, mae rhaid i gyflogwyr:

  • ystyried dewisiadau amgen yn lle diswyddo
  • ystyried ffyrdd o leihau nifer y swyddi sy’n cael eu dileu
  • ystyried y ffordd y gallant leihau’r caledi a ddaw o ganlyniad.

Bydd y broses y mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei dilyn yn dibynnu ar nifer y swyddi y bwriedir eu dileu.

Mathau o ymgynghoriadau sydd eu hangen a’r cyfnodau perthnasol

Nifer y cyflogeion i gael eu diswyddo Math o ymgynghoriad sydd ei angen Amseru’r ymgynghoriad

Llai nag 20 o gyflogeion

Mae angen i’ch cyflogwr ymgynghori â chi yn unigol yn unig

Ymhen amser rhesymol

20–99 o gyflogeion

Mae rhaid i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd. Mae hyn yn golygu ymgynghori â’ch cynrychiolydd undeb os oes un neu, os nad oes un, ymgynghori â’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr cyflogeion etholedig.

Mae’n arfer da iddynt ymgynghori â phob un ohonoch yn unigol hefyd.

Os bydd y cyflogeion yn penderfynu peidio ag ethol cynrychiolydd, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ag unigolion yn unig.

30 diwrnod cyn y diswyddiad cyntaf

100+ o gyflogeion

Mae rhaid i’ch cyflogwr gynnal ymgynghoriad ar y cyd. Mae hyn yn golygu ymgynghori â’ch cynrychiolydd undeb os oes un neu, os nad oes un, ymgynghori â’ch cynrychiolydd/cynrychiolwyr cyflogeion etholedig.

Mae’n arfer da iddynt ymgynghori â phob un ohonoch yn unigol hefyd.

Os bydd y cyflogeion yn penderfynu peidio ag ethol cynrychiolydd, bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ag unigolion yn unig.

45 diwrnod cyn y diswyddiad cyntaf

Ymgynghoriad unigol

Dylai’ch cyflogwr drefnu cyfarfod â chi er mwyn egluro beth sy’n digwydd a pham.

  • Gallwch godi gwrthwynebiadau ac awgrymu dewisiadau yn lle diswyddo. Er enghraifft gwaith arall, gweithio amser byr neu derfynu cyflogaeth dros dro.
  • Bydd eich cyflogwr yn ystyried eich gwrthwynebiadau ac, os bydd yn penderfynu mynd ymlaen â diswyddiadau, rhaid iddo gadarnhau hyn i chi’n ysgrifenedig.
  • Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn rhoi hawl i chi apelio os nad ydych yn fodlon â’r penderfyniad. Ond os nad yw’ch cyflogwr yn cynnig gweithdrefn apeliadau fewnol gallwch ystyried mynd i dribiwnlys.
  • Os yw’ch diswyddiad yn annheg, neu’n ymddangos yn annheg, a’ch bod wedi penderfynu llofnodi ‘cytundeb cyfaddawd’ rydych yn gwneud hyn pan fydd y trafodaethau gyda’ch cyflogwr ar ben. 

Er nad oes gennych hawl gyfreithiol i gael rhuwun i fynd gyda chi i ymgynghoriadau diswyddo, mae'n arfer da i'ch cyflogwr ganiatáu i chi fynd â chydweithiwr (eich cynrychiolydd undeb neu staff fel arfer) gyda chi. Os na chynigir yr opsiwn hwn a'ch bod yn meddwl y bydd yn helpu, efallai y byddai'n werth gofyn a allwch chi fynd â chydweithiwr gyda chi.

Ymgynghoriad ar y cyd

Yn ôl cyfraith diswyddo, os oes swyddi 20 neu ragor o gyflogeion am gael eu dileu, mae’r broses ymgynghori’n fwy strwythuredig ac mae rhaid iddi gynnwys cynrychiolwyr cyflogeion neu undeb llafur.

Beth sy’n digwydd ar ôl yr ymgynghoriad?

  • Byddwch yn cael rhybudd o ddiswyddo.
  • Mae rhaid ichi gael y cyfnod rhybudd statudol o leiaf – sef 1-12 wythnos gan ddibynnu ers pryd rydych yn y swydd.
  • Fodd bynnag, os ydych yn cymryd 'absenoldeb garddio' byddwch fel arefr yn gadael y gwaith cyn gynted ag y cewch eich rhybudd o ddiswyddo.
  • Mae gennych hawl i amser i ffwrdd gyda thâl – dau ddiwrnod fel arfer – i chwilio am waith a hefyd cyfnod rhesymol o absenoldeb di-dâl i chwilio am waith a hyfforddiant.
  • Y swydd yn dod i ben.

Eich hawl i amser i ffwrdd i chwilio am waith

Os ydych wedi gweithio’n barhaus i’ch cyflogwr ers dwy flynedd o leiaf, mae rhaid iddo dalu hyd at 40% o gyflog wythnos i chi ar gyfer eich amser i ffwrdd.

Er enghraifft, os byddwch yn gweithio wythnos o bum diwrnod, gallwch gymryd dau ddiwrnod i ffwrdd i gyd er mwyn mynd i gyfweliadau a bydd rhaid i’ch cyflogwr eich talu am yr amser hwn.

Os byddwch yn cymryd mwy o amser i ffwrdd na hyn, nid oes rhaid i’ch cyflogwr eich talu amdano.

Mae rhai cyflogwyr yn fwy hael felly mae’n werth trafod y peth â hwy.

Gadael eich swydd yn gynnar

A ydych wedi cael cynnig swydd a bod eich cyflogwr newydd yn dymuno i chi ddechrau cyn diwedd eich rhybudd diswyddo? Siaradwch â’ch cyflogwr i weld a allwch adael yn gynnar heb golli’ch tâl diswydd0.

Cyflwynwch eich cais i adael yn gynnar yn ysgrifenedig i’ch cyflogwr gan ddweud pryd hoffech adael.

Os byddwch yn gadael yn gynnar heb ganiatâd eich cyflogwr, gallech golli ychydig neu’r cyfan o’ch tâl diswyddo.

Rhestr wirio diwrnod olaf

Ar eich diwrnod olaf yn y gwaith, dylech gael y pethau canlynol:

  • Manylion eich pensiwn
  • Tystlythyrau swydd gan eich cyflogwr
  • Llythyr sy’n nodi dyddiad diswyddo
  • Eich P45 (i’w rhoi i gyflogwr newydd er mwyn eich trethu’n gywir)
  • Unrhyw dâl diswyddo, cyflog, tâl gwyliau ac arian arall sy’n ddyledus i chi
  • Datganiad ysgrifenedig sy’n dangos y ffordd y mae’ch tâl diswyddo wedi’i gyfrifo.

Am ragor o gymorth

Mae Acas yn cynnig cyngor diduedd, cyfrinachol am ddim ar yr holl faterion hawliau cyflogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Ffoniwch Linell Gymorth Acas ar 0300 123 1100 neu ewch i wefan Acas

Mae’r Labour Relations Agency yn darparu gwasanaeth perthnasau cyflogaeth diduedd a chyfrinachol yng Ngogledd Iwerddon. Ffoniwch Linell Gymorth y Labour Relations Agency ar 028 9032 1442 neu ewch i wefan y Labour Relations Agency

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.