Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Cadw trefn ar eich arian os yw’ch swydd mewn perygl

Boed eich swydd eisoes mewn perygl neu’ch bod yn poeni am doriadau posibl, un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud ar hyn o bryd yw pwyso a mesur eich sefyllfa ariannol. Bydd hyn o gymorth i chi reoli’r sefyllfa a byddwch yn medru ymdopi’n llawer gwell os collwch eich swydd.

Cam 1 – Pwyso a mesur eich sefyllfa ariannol

Os nad oes gennych gyllideb yn barod sy’n rhestru’ch holl incwm a gwariant – nawr yw’r amser i chi lunio un.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn amcangyfrif yn rhy isel faint maent yn ei wario bob mis, felly cewch eich synnu gan y canlyniadau efallai.

Cam 2 – Darganfod ffyrdd o dorri’n ôl

Unwaith y bydd gennych syniad clir o faint rydych yn ei wario, dechreuwch ystyried y ffordd y byddai colli’ch swydd yn effeithio ar eich cyllideb.

Gallwch weithio allan pa wariant y bydd angen i chi dorri’n ôl er mwyn i chi fedru ymdopi ag incwm is.

Drwy dorri’n ôl nawr, gallech gronni digon o gynilion wrth gefn i’ch helpu petaech yn colli’ch swydd.

Edrychwch yn ofalus ar eich gwario a’u rhannu i eitemau hanfodol a rhai nad ydynt yn hanfodol.

Cam 3 – Cael rheolaeth ar eich dyledion

Tra bydd gennych waith, bydd eich sgôr credyd yn well na phe byddech yn ddi-waith.

Felly nawr yw’r amser i edrych ar eich holl ddyledion. Newidiwch fenthycwyr i gael y cyfraddau gorau ac ystyriwch ad-dalu cymaint o’r ddyled ag y gallwch. Ond gwyliwch rhag taliadau ad-dalu cynnar.

Cam 4 – Ystyried unrhyw yswiriant

Gwiriwch i weld os eisoes gennych:

  • yswiriant diogelu taliadau (PPI)
  • yswiriant diogelu incwm tymor byr (STIP), neu
  • unrhyw yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI).

Os byddwch yn colli’ch swydd neu os byddwch yn rhy sâl i weithio, mae’n bosibl y gallwch wneud hawliad.

Os ydych eisoes yn ymwybodol eich bod o dan risg diswyddiad, mae’n debygol ei bod yn rhy hwyr i gymryd yswiriant diogelu taliadau.

Mae gan y rhan fwyaf o bolisïau cymal a fydd yn gwrthod talu allan os:

  • oeddech yn ymwybodol y byddwch yn cael eich diswyddo pan wnaethoch gais am yr yswiriant, neu
  • ydych yn colli’ch swydd o fewn y misoedd cyntaf ar ôl dechrau’r polisi.

Os oes gennych yswiriant ac mae eich cais yn cael ei wrthod, mae’n bosibl bod y polisi wedi’i gam-werthu i chi a gallech fod yn gymwys i hawlio iawndal. 

Cam 5 – Ceisio cynyddu’ch cynilion er mwyn i chi ymdopi yn ystod y cyfnod tlotach

Yn ddelfrydol, dylech anelu at fod wedi cynilo rhwng tri a chwe mis o’ch costau byw mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n cynnig llog uchel ac sy’n hawdd cael ato.

Bydd hyd yn oed swm llai’n ddefnyddiol. Mae bob amser yn dda cael arian yn y banc, ac mi fydd hwn yn eich helpu i ymdopi nes eich bod yn dod o hyd i swydd newydd. 

Cam 6 – Ystyried ffyrdd o wneud arian

Meddyliwch am ffynonellau incwm eraill sydd ar gael i chi.

Er enghraifft, a wyddech os oes gennych ystafell sbâr yn eich cartref, y gallech ei rhentu â thalu treth ar y £7,500 o incwm rhent bob blwyddyn?

Byddwch ymwybodol bydd angen caniatâd eich landlord arnoch i gael lletywr. A dylech roi gwybod i’ch cwmnïau yswiriant adeiladau a chynnwys.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.