Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Newid gyrfa ar ôl diswyddo

Gall colli swydd gynnig cyfleoedd newydd, gan gynnwys y cyfle i ail-hyfforddi ar gyfer gyrfa newydd. Yn y canllaw hwn, cewch wybod ble i gael cymorth a chyngor ariannol yn ogystal â’ch dewisiadau pan ddaw’n amser i ail-hyfforddi. Efallai’n wir y gwelwch fod colli’ch swydd yn agor y drws i yrfa newydd sbon.

Cael cyngor ar yrfaoedd, ail-hyfforddi a chyllid

Mae ychwanegu at eich sgiliau presennol neu gael cymwysterau mewn maes newydd yn ffyrdd da o wella’ch gobeithion o gael swydd arall.

Gallent hefyd roi hwb i’ch hyder y mae mawr ei angen.

Gwelwch fod llawer o ddewisiadau ail-hyfforddi ar gael i chi pan fydd eich swydd wedi’i dileu, o brentisiaethau i interniaethau i gyrsiau astudio rhan-amser neu amser llawn neu gyrsiau astudio o bell yn y coleg neu’r brifysgol.

Mae llawer o gymorth ariannol ar gael hefyd.

Dolenni defnyddiol a manylion cyswllt

Sgiliau cyfrifiadurol ac ar-lein

Ewch i Rwydwaith Canolfannau Ar-lein y Deyrnas Unedig yn ukonlinecentres.org i ddarganfod eich canolfan hyfforddiant agosaf.

Mae Learn My Way yn cynnig cwrs am ddim ar ddefnyddio cyfrifiadur, pori’r we a chanfod gwaith ar-lein ar learnmyway.com

Cyllido’ch hyfforddiant, eich astudiaethau neu’ch prentisiaeth

Mae’n bosibl na chewch daliad terfynol enfawr pan gollwch eich swydd, ond nid yw hynny’n golygu na allwch fforddio ail-hyfforddi.

Mae gwahanol ffyrdd o gyllido newid gyrfa, gan ddibynnu ar y rhaglen hyfforddi neu’r cwrs astudio yr hoffech ei ddilyn - a chan ddibynnu hefyd ar unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.

Ystyriwch pa ddewis sy’n addas i chi - benthyciad (bydd rhaid i chi ei dalu’n ôl), grantiau neu fwrsariaethau (ni fydd rhaid i chi dalu’r rhain yn ôl) neu brentisiaethau (byddwch yn ennill arian wrth ddysgu).

Benthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa

Mae benthyciadau datblygiad proffesiynol a datblygu gyrfa wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith.

Sut maent yn gweithio:

  • Benthyca ar gyfraddau cymharol rad.
  • Benthyca unrhyw beth rhwng £300 a £10,000, waeth faint yw’ch cynilion neu’ch incwm
  • Ni fyddwch yn dechrau ei ad-dalu hyd nes i chi orffen eich cwrs.
  • Bydd banciau angen rhwng chwe wythnos a thri mis i brosesu’ch cytundeb, felly peidiwch â’i adael tan y funud olaf.

Benthyciadau myfyrwyr

Mae dros hanner y bobl sy’n astudio ar gyfer cyrsiau gradd yn y DU dros 21 - nid yw byth yn rhy hwyr i fynd i’r coleg neu’r brifysgol. Neu’n wir, i fynd yn ôl!

Grantiau a bwrsariaethau

Maent ar gael fel arfer gan y llywodraeth, elusennau, neu’r coleg neu’r brifysgol lle rydych yn bwriadu mynd, ond mae angen i chi chwilio amdanynt.

Prentisiaethau

Os ydych yn 16 oed neu’n hŷn, gall prentisiaeth fod yn ffordd dda o symud i yrfa newydd.

Byddwch yn ennill tra byddwch yn dysgu, a dylai fod gennych well gobaith o gael swydd.

Hawlio budd-daliadau tra byddwch yn ail-hyfforddi

Cyn gynted ag y byddwch wedi cael eich diswyddo, mae angen i chi wneud cais am yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

A phan fyddwch yn cofrestru ar gyfer prentisiaeth neu gwrs astudio, cofiwch wneud cais am unrhyw gymorth ychwanegol fel arian tuag at ofal plant.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.