Cyhoeddwyd ar:
14 Hydref 2021
Wedi'i ddiweddaru diwethaf:
20 Hydref 2023
Gyda biliau nwy a thrydan yn aros yn uchel y gaeaf hwn, mae’n werth darganfod a ydych yn gymwys i gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes lle gallwch arbed arian o’ch biliau ynni’r gaeaf.
Mae’n gynllun a gefnogir gan y llywodraeth i helpu i ostwng costau os ydych ar incwm isel, yn cael rhai budd-daliadau ac yn ei chael hi’n anodd i dalu’ch biliau trydan neu nwy.
Felly sut ydych yn gwybod os ydych yn gymwys, sut i wneud cais a sut i gael y gostyngiad hwn? Yma yn HelpwrArian, rydym wedi llunio’r atebion i rai o’r cwestiynau pwysig hynny.
Bydd y Gostyngiad Cartrefi Cynnes yn cymryd £150 oddi ar eich bil trydan am y biliau cyfnod y gaeaf rhwng mis Hydref 2023 a mis Mawrth 2024, os ydych yn gymwys. Nid yw’r gostyngiad ar gael yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych chi’n berchennog tŷ neu’n rhentu’n breifat yng Ngogledd Iwerddon ac mae gennych incwm cartref o lai na £23,000, darganfyddwch fwy am y cynllun affordable warmthYn agor mewn ffenestr newydd yng Ngogledd Iwerddon.
Nid yw'r arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i chi. Yn hytrach, cymhwysir gostyngiad i'ch bil trydan. Gallech hefyd gael arian oddi ar eich bil nwy os yw'ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan i chi (a elwir yn dariff tanwydd deuol).
Efallai y gallwch gael gostyngiad Cartrefi Cynnes os ydych yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau craidd hyn
I fod yn gymwys:
I fod yn gymwys:
Mae gwledydd yn y DU yn mesur tlodi tanwydd yn wahanol:
Newidiodd y rhestr o fudd-daliadau a fydd yn eich gwneud yn gymwys i gael y Gostyngiad Cartrefi Cynnes wedi newid yn 2022. Os nad ydych yn derbyn llythyr am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes erbyn canol mis Ionawr ond rydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys amdano, gallwch ffonio llinell gymorth y cynllun ar 0800 030 9322Yn agor mewn ffenestr newydd cyn 29 Chwefror 2024.
Bydd os ydych yn gymwys ar gyfer Gostyngiad Cartrefi Cynnes fel rhan o grŵp craidd 2 yn dibynnu ar eich incwm a’ch costau ynni, ond efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn cael un o’r budd-daliadau prawf modd canlynol:
Mae’n rhaid i Gredyd Cynhwysol hefyd gynnwys un o’r taliadau hyn:
Ar gyfer Yr Alban, mae gan bob cyflenwr ynni meini prawf ei hun ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y grŵp incwm isel ehangach.
Os nad ydych yn gymwys yn awtomatig ar gyfer Gostyngiad Cartrefi Cynnes, efallai mai’r rheswm am hyn yw nad oes gan y llywodraeth ddigon o wybodaeth amdanoch chi na’ch costau ynni. Gallwch ffonio’r llinell gymorth ar 0800 030 9322 cyn diwedd Chwefror 2024 i apelio yn erbyn eu penderfyniad.
Efallai y gofynnir i chi am ddogfennau i brofi eich cymhwysedd fel bil ynni gyda'ch enw arno neu dystiolaeth eich bod yn derbyn budd-daliadau.
Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi am Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) ar gyfer eich cartref. Gallwch edrych ar eich un chi am ddim ar Gofrestr EPCYn agor mewn ffenestr newydd neu Gofrestr EPC yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd Yn ôl MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd “Mae’r Llywodraeth wedi dweud y byddant yn derbyn Tystysgrifau Perfformiad Ynni sydd wedi dod i ben eleni.”
Os nad oes unrhyw wybodaeth ar gyfer eich cyfeiriad:
Chi sydd i benderfynu a yw’n werth y gost o gael Tystysgrif Perfformiad Ynni i hawlio’r Gostyngiad Cartref Cynnes o £150. Mae Tystysgrifau Perfformiad Ynni yn para 10 mlynedd, ond nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn gymwys yn y dyfodol.
Nid oes angen i grŵp craidd 1 a grŵp craidd 2 wneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes bellach yng Nghymru a Lloegr. Dylai eich darparwr wybod a ydych yn gymwys yn barod. Os ydych yn byw yn Yr Alban ac yn gymwys am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes oherwydd incwm isel, bydd angen cysylltu â’ch darparwr mor fuan â phosibl gan mai dim ond nifer cyfyngedig o ostyngiadau sydd ar gael.
Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o’r gostyngiad yn cael ei gymhwyso’n awtomatig bob blwyddyn. I ddarganfod mwy am os ydych yn gymwys gallwch ffonio llinell ffôn Gostyngiad Cartrefi Cynnes y llywodraeth ar 0800 107 8002 rhwng 14 Tachwedd 2022 a 31 Mawrth 2023.
Os ydych â chyflenwr ynni nad yw’n cynnig Gostyngiad Cartrefi Cynnes, ond rydych dal yn gymwys amdano, dylech newid i gwmni sy’n ei ddarparu.
Mae gan y mwyafrif o gwmnïoedd Gostyngiad Cartrefi Cynnes, gallwch ddod o hyd i restr o gyflenwyr ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae’r Gostyngiad Cartrefi Cynnes ar gael i chi os ydych yn byw mewn cartref parc, fodd bynnag bydd angen i chi wneud cais amdano. Mae mwy o fanylion am y gostyngiad ar gael ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych ar incwm isel a’n byw yn Yr Alban, gwiriwch wefan eich cyflenwr i weld pryd y gallwch wneud cais am Ostyngiad Cartrefi Cynnes. Fel arfer mae hyn yn yr hydref a dylech dderbyn eich taliad erbyn diwedd mis Mawrth.
Os nad ydych yn byw yn Yr Alban neu rydych yn byw yn Yr Alban ond yn cael elfen Gwarant Credyd o Gredyd Pensiwn, nid oes angen i chi wneud cais.
Mae nifer o gyflenwyr ynni yn cynnig y gostyngiad hwn. Fodd bynnag nid yw pob cyflenwr yn cymryd rhan yn y cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Os ydych yn gymwys i gael y gostyngiad ac nad yw eich cyflenwr presennol yn ei gynnig, efallai yr hoffech newid cyflenwr i un sydd yn ei gynnig.
Os ydych yn defnyddio mesurydd talu rhagdaledig neu dalu wrth ddefnyddio, gallwch barhau i fod yn gymwys am y gostyngiad. Sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’ch cyflenwr trydan ac ar yr amod eich bod yn gymwys, byddant yn cymhwyso’r gostyngiad yn awtomatig.
Na, nid yw talu Gostyngiad Cartref Cynnes yn effeithio ar eich hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf neu Daliad Tywydd Oer.