Oes gennych chi bensiwn? Mae ein help yn ddiduedd ac am ddim i’w ddefnyddio. Cysylltwch â ni ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 756 1012

Credyd Treth Plant

Mae Credyd Treth Plant yn fudd-dal sy'n helpu gyda chostau magu plentyn os ydych ar incwm isel. Mae'n cael ei ddisodli gan Gredyd Cynhwysol, felly mae'n rhaid i'r rhan fwyaf o bobl sydd angen help gyda'r costau hyn wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ei le. 

Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant

Mae Credyd Treth Plant yn un o’r chwech o fudd-daliadau sy’n cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol.

Oni bai eich bod yn cael Credyd Treth Gwaith ar hyn o bryd, ni allwch wneud cais newydd am Gredyd Treth Plant mwyach a rhaid i chi wneud cais am elfen plant Credyd Cynhwysol yn lle.

Credyd Cynhwysol a chostau gofal plant

Os ydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol ac mae gennych gostau gofal plant, efallai y gallwch hawlio nôl hyd at 85% o gostau gofal plant cymwys. Yn 2022/23 mae hyn hyd at uchafswm o £646.35 am un plentyn, neu £1,108.04 am ddau neu fwy o blant. Disgwylir i’r cyfraddau hyn gynyddu i £951 ar gyfer un plentyn a £1,630 ar gyfer dau blentyn o 29 Mehefin 2023.

Mae hyn o'i gymharu â'r 70% y gallech ei hawlio am gostau gofal plant ar Gredyd Treth Plant.

I gael yr elfen costau gofal plant, rhaid eich bod:

  • mewn gwaith â thâl, neu
  • yn cael cynnig o waith â thâl sydd i fod i ddechrau cyn diwedd eich cyfnod asesu misol Credyd Cynhwysol nesaf.

Os ydych mewn cwpl, rhaid i'ch partner fod mewn gwaith â thâl hefyd. Mae hyn oni bai na allant ddarparu gofal plant oherwydd gallu cyfyngedig i weithio, neu eu bod yn gofalu am berson ag anabledd difrifol.

Gallwch hawlio elfen plant Credyd Cynhwysol am bob plentyn cymwys a anwyd cyn 6 Ebrill 2017.

Os cafodd eich plant eu geni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, dim ond am y ddau gyntaf y byddwch yn gallu hawlio. Mae hyn heblaw eich bod wedi cael genedigaeth luosog - neu os oes eithriadau cyfyngedig eraill.

Os ydych yn cael Credyd Treth Plant ac yn meddwl y byddwch yn well eich byd ar Gredyd Cynhwysol, gallwch ddewis newid. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud hyn gan na allwch fynd yn ôl i gredydau treth unwaith i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Dechreuwch drwy ddefnyddio ein Cyfrifiannell Budd-daliadau neu dewch o hyd i gynghorydd budd-daliadau arbenigol gan ddefnyddio AdvicelocalYn agor mewn ffenestr newydd

Symud i Gredyd Cynhwysol trwy ymfudo a reolir

O Ebrill 2023, os ydych yn cael credydau treth yn unig, sef Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant (neu’r ddau), bydd y DWP yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel rhan o gynllun ymfudo a reolir y DWP.

Bydd angen i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd yn oed os ydych wedi adnewyddu eich cais credydau treth yn ddiweddar.

I ddechrau, ni ddylech fod yn waeth eich byd ar Gredyd Cynhwysol nag oeddech ar eich hen fudd-daliadau. Os yw’r swm rydych yn gymwys amdano’n llai ar Gredyd Cynhwysol, caiff swm atodol ei ychwnegu at eich taliad o dan Warchodaeth Drosiannol.

Ni fyddwch yn cael eich symud i Gredyd Cynhwysol yn awtomatig, bydd angen i chi wneud cais. Pan fydd eich cais wedi’i gyflwyno, bydd eich credydau treth yn dod i derfyn ac ni fydd modd mynd yn ôlatynt, felly sicrhewch eich bod yn deall beth sy’n gysylltiedig â hyn cyn i chi wneud cais.

Sut fyddwch yn cael gwybod eich bod yn symud i Gredyd Cynhwysol

Byddwch yn derbyn llythyr Rhybudd Ymfudo gan y DWP yn gofyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol o fewn tri mis i’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr.

Bydd angen i chi wneud y cais ar-lein (ond mae llawer o gymorth ar gael os ydych yn cael trafferth i wneud hyn).

Gall ein canllaw printiedig Paratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol yng Nghymru a Lloegr y gellid ei lawrlwytho eich helpu i baratoi.

Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion

Mae’r swm y gallwch ei gael fel cynilion yn wahanol gydaChredyd Cynhwysol nag yw ar gyfercredydau treth. Fel arfer ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion neu gyfalaf.

Fodd bynnag, os ydych yn symud i Gredyd Cynhwysol o gredydau treth trwy ymfudo a reolir, ni fydd eich cynilion yn effeithio ar eich Credyd Cynhwysol am 12 cyfnod asesu (tua 12 mis).

Ar ôl hynny, os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion o hyd, ni fyddwch bellach yn gymwys am Gredyd Cynhwysol. Os oes gennych rhwng £16,000 a £6,000 o hyd ar ddiwedd y 12 cyfnod asesu, caiff eich taliadau Credyd Cynhwysol eu gostwng £4.35 am bob £250 o gynilion sydd gennych.

Sut i ddod o hyd i gymorth ychwanegol

Os  ydy DWP yn gofyn i symud i Gredyd Cynhwysol a bod gennych gwestiynau, ffoniwch y llinell gymorth sydd ar eich Rhybudd Ymfudo.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch hefyd gysylltu â Gwasanaeth Help i Hawlio Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd am gyngor di-enw, diduedd ac am ddim.

Ffyrdd y gallwch gysylltu â gwasanaeth cymorth Help i Hawlio Cyngor ar Bopeth:

Cymru a Lloegr

Mwy o fanylion ar Gyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

Neu, yn Lloegr, ffoniwch 0800 144 8444. Yng Nghymru, ffoniwch 0800 024 1220

Yr Alban

Ewch i Citizens Advice ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch 0800 023 2581

Gogledd Iwerddon

Mae Credyd Cynhwysol yn gweithio’n wahanol. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd

Symud i Gredyd Cynhwysol os oes gennych newid mewn amgylchiadau

Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM o fewn 30 diwrnod os oes gennych newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich Credyd Treth Plant. Er enghraifft:

  • colli neu gael swydd
  • cael babi
  • partner yn symud i mewn neu allan.

Gallai hyn olygu y bydd rhaid i chi wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Bydd CThEM yn dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud.

Os oes gennych £16,000 neu fwy o gynilion

Os yw eich amgylchiadau’n newid a bod hynny’n sbarduno cais am Gredyd Cynhwysol abod gennych £16,000 neu fwy o gynilion, mae’n bwysig cael cyngor budd-daliadau arbenigol cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol gan fod eich cynilion yn gallu effeithio ar eich cymhwysedd am Gredyd Cynhwysol.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900 i roi gwybod iddynt am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Cadw’ch credydau treth yn gyfredol

Mae angen i chi adnewyddu’ch cais am gredydau treth erbyn 31 Gorffennaf bob blwyddyn os ydych eisiau parhau i’w cael.

Bydd CThEM yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud i adnewyddu eich credydau treth. 

Dylech gael eich pecyn ym mis Mai neu Fehefin a’r dyddiad cau i ymateb fel arfer yw 31 Gorffennaf bob blwyddyn. 

Gallwch nawr reoli eich cais credyd treth gan ddefnyddio’r ap CThEF. Gallwch ei ddefnyddio i adnewyddu eich credydau treth, rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau a darganfod pryd a faint y byddwch yn cael eich talu. Mae’n golygu y gallwch osgoi’r llinellau ffôn sy’n gallu bod yn brysur iawn rhwng mis Mai ac Awst bob blwyddyn o gwmpas dyddiad cau adnewyddu credydau treth.

Os na dderbyniwch eich pecyn adnewyddu, bydd angen i chi ddefnyddio'r ap neu gysylltu â’r llinell Gymorth Credyd Treth ar 0345 300 3900. Gwnewch hyn cyn gynted â phosibl i sicrhau y gallwch fodloni’r dyddiad cau.

Os methwch y dyddiad cau

  • Anfonir ‘gyfriflen o’r cyfrif’ atoch, yn dweud wrthych y bydd eich credydau treth yn stopio. Bydd unrhyw daliadau dros dro a gewch yn cael eu cyfrif fel gordaliad a bydd angen eu talu’n ôl.
  • Dylech gysylltu â CThEM o fewn 30 diwrnod o ddyddiad cyfriflen eich cyfrif. Gellir prosesu adnewyddiad wedi hynny er mwyn adsefydlu’ch cais yn ôl i 6 Ebrill.
  • Os byddwch yn cysylltu â CThEM fwy na 30 diwrnod o ddyddiad cyfriflen eich cyfrif, byddwch ond yn medru cael credydau treth wedi’u hadsefydlu lle gallwch ddangos bod gennych ‘reswm da’ dros adnewyddu’n hwyr. Bydd angen i chi gysylltu â nhw erbyn 31 Ionawr. Yna caiff eich cais ei drin fel petai wedi ei wneud ar 6 Ebrill.
  • Os na chaiff eich cais ei adsefydlu, neu nad ydych yn cysylltu â CThEM ar ôl cael eich cyfriflen o gyfrif, bydd eich credydau treth yn stopio. Bydd angen i chi dalu unrhyw gredydau treth rydych wedi’u cael ers 6 Ebrill 2020 yn ôl.

Os yw CThEM yn stopio eich taliadau

Efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth (neu os yw'ch partner). Neu efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn yn lle hynny os ydych chi (a'ch partner) dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Adnewyddu eich cais am gredydau treth

Pan fyddwch yn adnewyddu eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio rhif ffôn, ap, gwefan a gohebiaeth swyddogol CThEM. Mae hyn oherwydd yn ystod y cyfnod hwn yn agos at y dyddiad cau ceir twf yn aml mewn gweithgarwch twyllodrus sy’n aml yn targedu’r rhai sy’n ailymgeisio.

Gallwch reoli ac adnewyddu eich credydau treth ar-lein ar yn GOV.UK (Opens in a new window)

Gallwch gysylltu â CThEF i adnewyddu eich cais neu roi gwybod am newid mewn amgylchiadau ar-lein, ar eu ap, neu drwy ffonio 0345 300 3900.

Mae yna hefyd dîm ymroddedig i gefnogi'r cwsmeriaid mwyaf agored i niwed na allant fynd ar-lein. Bydd y tîm cymorth yn cysylltu â’r bobl y mae CThEM yn gwybod bod angen y cymorth hwn arnynt.

Dylech roi gwybod i CThEM os bydd eich amgylchiadau’n newid ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Er enghraifft, os bydd eich incwm yn newid, eich plentyn yn gadael cartref neu os byddwch yn symud tŷ.

Mae hyn oherwydd efallai y bydd rhaid i chi nawr wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn ei le.

Credydau Treth a newidiadau incwm

Os yw’ch incwm yn cynyddu o £2,500 neu fwy a’ch bod yn oedi cyn rhoi gwybod i CThEM neu’n aros tan fod eich cais yn cael ei ailasesu, efallai y byddwch yn canfod eich bod wedi derbyn gordaliad o gredydau treth.

Gofynnir i chi dalu’r arian ychwanegol hwn yn ôl. Bydd hyn naill ai drwy leihau eich credydau treth yn y dyfodol neu trwy daliadau uniongyrchol os yw’ch credydau treth wedi stopio.

I osgoi’r bil hwn, mae’n bwysicach fyth dweud wrth y CThEM o fewn 30 diwrnod pan fyddwch yn cael yr arian ychwanegol.

Bydd yn haws addasu eich credydau treth, a lleihau’r posibilrwydd y bydd gofyn i chi dalu am y gordaliadau’n ddiweddarach.

Mae’n gweithio fel arall hefyd. Os yw’ch incwm yn gostwng o £2,500 neu fwy, efallai y bydd gennych hawl i fwy o gredydau treth.

Os gofynnir i chi ad-dalu credydau treth ac y byddwch yn cael anhawster talu, siaradwch â CThEM cyn gynted ag y gallwch.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn – Sul:Wedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

* Mae galwadau am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn:8.00am – 3.00pm
  • Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion, cwestiynau credyd neu ganllaw pensiynau. Am bopeth arall, cysylltwch â ni trwy Wesgwrs neu dros y Ffôn.